Mae llawer ohonom yn dibynnu ar wasanaethau ar-lein a symudol. Maent yn ein cadw mewn cysylltiad a gallant ein helpu i gael cytundebau gwell, arbed arian i ni a’n helpu i dalu ein taliadau ar amser. Darganfyddwch sut i gadw mewn cysylltiad os ydych yn cael trafferth talu unrhyw un o'r biliau hyn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu’ch bil ffôn symudol
- Tariffau cymdeithasol ffonau symudol a band eang
- Beth i'w wneud os ydych chi'n cael trafferth talu gwasanaethau tanysgrifio eraill
- Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
- Pryd i gael cyngor ar ddyledion
- Cymorth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferthionariannol a thrafferthion gyda’ch lles meddyliol
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu’ch bil ffôn symudol
Os nad oes gennych linell dir neu fand eang, mae eich ffôn symudol yn gyswllt hanfodol at wasanaethau eraill, felly mae'n bwysig ei gadw os gallwch.
Efallai mai dyma'ch profiad cyntaf o gael trafferth talu bil. Cofiwch ei bod yn bwysig cadw at dalu eich taliadau. Mae hyn nid yn unig fel nad ydych chi'n colli'ch cysylltiad, ond hefyd oherwydd y gallai effeithio ar eich sgôr credyd os nad ydych yn ei wneud.
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr cyn gynted â phosibl i egluro'r sefyllfa.
Mae gan lawer o ddarparwyr gymorth ar waith i'ch helpu, gan gynnwys:
- newid dyddiad eich bil
- sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
- symud i dariff gwahanol
- gostwng eich cap ar wariant.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu prynu pecynnau sy'n cynnwys hwb data am brisiau isel, neu alwadau ffôn llinell dir am ddim. Am fwy o awgrymiadau arbed arian, gweler ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn cartref a’ch bil rhyngrwyd
Tariffau cymdeithasol ffonau symudol a band eang
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i'ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael rhai budd-daliadau, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae gan Ofcom restr o ddarparwyr sy'n cynnig y 'tariffau cymdeithasol' hyn. Yn agor mewn ffenestr newydd
Band eang am ddim os ydych chi'n geisiwr gwaith
Os ydych chi'n chwilio am waith, gallwch wneud cais drwy'ch anogwr gwaith am daleb ar gyfer band eang am ddim gan TalkTalkYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'r daleb yn rhoi chwe mis o wasanaeth band eang ffibr 35 i chi heb fod angen cytundeb na gwiriad credyd. Ac nid oes cap ar y defnydd o ddata (ar yr amod ei fod o fewn terfynau defnyddio data teg TalkTalk).
Ar ôl chwe mis, gallwch ddewis cofrestru ar gontract gyda TalkTalk neu ganslo'r gwasanaeth. Beth bynnag rydych chi'n dewis ei wneud, ni fydd unrhyw gostau canslo na ffioedd cofrestru.
Help gyda biliau rhyngrwyd
Mae tua wyth miliwn o aelwydydd yn y DU yn cael trafferth fforddio eu biliau ffôn, band eang a theleduYn agor mewn ffenestr newydd
Os na allwch fforddio cysylltiad rhyngrwyd i ddiwallu anghenion hanfodol, efallai eich bod yn profi tlodi data. Mae tlodi data yn golygu na allwch wneud pethau fel gwneud cais am swydd ar-lein, bancio ar-lein neu gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Mae Banc Data Cenedlaethol y DU trwy Good Things Foundation yn darparu data rhyngrwyd symudol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd, am hyd at 12 mis, i bobl na allant ei fforddio. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i chi fod:
- o leiaf 18 mlwydd oed
- o aelwyd incwm isel
- yn gymwys mewn o leiaf un o'r datganiadau canlynol:
- heb fynediad neu fynediad digonol i'r rhyngrwyd gartref
- heb fynediad i'r rhyngrwyd neu ddim digon pan fyddwch i ffwrdd o'r cartref
- methu fforddio eich contract misol presennol na'ch atodiad.
Beth i'w wneud os ydych chi'n cael trafferth talu gwasanaethau tanysgrifio eraill
Os na allwch fforddio gwasanaethau fel Netflix neu Spotify, efallai y gallwch eu canslo heb orfod talu cosb. Gwiriwch delerau eich cytundeb. Mae gan Gyngor ar Bopeth ganllawiau ar ganslo cytundebau ffôn, teledu, rhyngrwyd a ffôn symudol Yn agor mewn ffenestr newydd
Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych wedi methu taliad ar eich tanysgrifiad band eang, ffôn neu deledu, cysylltwch â'ch darparwr i egluro'ch sefyllfa.
Mae gan StepChange fwy o wybodaeth os ydych chi'n cael trafferth talu'ch bil ffôn symudolYn agor mewn ffenestr newydd neu os ydych chi wedi methu taliadau ar filiauYn agor mewn ffenestr newydd fel teledu a ffôn symudol.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych chi'n poeni y gallech fethu taliad, darganfyddwch fwy am flaenoriaethu eich dyledion.
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ac nad ydych yn gallu dod i gytundeb gyda'ch darparwr, mae'n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch.
Cymorth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferthionariannol a thrafferthion gyda’ch lles meddyliol
Gall cael trafferthion iechyd meddwl ei gwneud hi'n anodd i chi reoli’ch arian.
Os ydych yn cael trafferthion ariannol a thrafferthion gyda'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu i bwy bynnag y mae arnoch arian, i drafod eich opsiynau.
Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau y mae arnoch arian iddynt bolisïau i'ch cefnogi os ydych yn agored i niwed.
Mae gan MoneySavingExpert lyfryn PDF y gellir ei lawrlwytho am ddim ar arian ac iechyd meddwlYn agor mewn ffenestr newydd Mae'n cynnwys sut i ddelio â dyledion pan fyddwch yn sâl, gweithio gyda banciau, cwnsela dyled am ddim, ac a ddylid datgan cyflwr meddygol.