Gall fod llawer o bwysau i dalu’n ôl arian sy'n ddyledus i deulu a ffrindiau. I'r rhan fwyaf o bobl, mae yna elfen emosiynol iddo. Os yw coronafirws wedi effeithio ar eich incwm a'ch bod wedi cwympo ar ei hôl hi o ran biliau a dyledion, mae'n bwysig dechrau mynd i’r afael a’ch arian.
Cael eich arian yn ôl ar y trywydd iawn
Os ydych chi'n ôl yn y gwaith ac yn gallu dechrau ad-daliadau, gall y biliau rydych yn dewis mynd i'r afael â nhw'n gyntaf wneud gwahaniaeth mawr.
Yn gymaint ag y byddwch efallai am flaenoriaethu talu ffrindiau a theulu yn ôl yn gyntaf, mae biliau eraill - fel Treth Cyngor, trwydded deledu a nwy neu drydan - sydd â chanlyniadau mwy difrifol os na fyddwch yn talu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw siarad â'r person y mae arnoch arian iddynt, a pheidio ag anwybyddu'r broblem.
Hyd yn oed os ydych yn poeni na fydd eich incwm yn gwella'n llwyr am amser hir, mae'n well bod yn onest â nhw.
Mae'n syniad da llunio cyllideb. Bydd hyn yn dweud wrthych beth sy'n dod i mewn, yn mynd allan a pha filiau a dyledion eraill sydd gennych. Trwy hynny, gallwch ei ddefnyddio ac efallai hyd yn oed ei ddangos i'ch teulu neu ffrind fel y gallant weld eich sefyllfa ariannol.
Cymerwch olwg ar ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian.
Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol i chi ar sut y gallwch chi ddechrau sgwrs lletchwith am fod ag arian yn ddyledus i rywun, ac o bosib arbed y berthynas.
Am fwy o help a chyngor ar fod ag arian yn ddyledus i deulu a ffrindiau ewch i'r elusen dyledion StepChange
Pan mae talu aelod o’r teulu neu ffrind yn ôl yn anghywir
Os yw'ch ffrind neu aelod o'ch teulu yn eich bygwth, yn codi gormod o log ar eich benthyciad neu wedi cymryd rhywbeth fel eich pasbort neu gerdyn banc oddi wrthych, gallai'r ymddygiad hwn eu gwneud yn siarc benthyciadau.
Efallai ei bod yn ddryslyd cysylltu'r term siarc benthyciadau â rhywun rydych chi'n poeni amdanynt, ond mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cael cyngor. Ffoniwch Stop Loan Sharks ar 0300 555 2222 i wneud adroddiad yn ddiogel.
Byddant yn cysylltu â chi ar amser sy’n addas i chi a rhoi cyngor i chi ar gyfer delio â'r sefyllfa. Byddant hefyd yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf, ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol, tai neu ddyled y gallech fod ei angen.
Am fwy o wybodaeth am taliadau llog afresymol neu ymweliad ymddygiad bygythiol ewch i Stop Loan Sharks
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Help arall sydd ar gael
Os ydych yn cael trafferth gydag arian, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi hawl iddynt.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Os ydych yn poeni y gallai cael budd-daliadau waethygu'ch sefyllfa, neu os nad ydych yn hyderus i wneud cais, edrychwch ar y gwasanaeth Help i Hawlio gan Gyngor Ar Bopeth
Pryd i gael cyngor dyledion
Os ydych chi wedi methu mwy nag un taliad neu os ydych yn jyglo dyledion eraill, mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn iawn gan fod rhai yn fwy ar frys ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa rai i'w talu yn gyntaf, gweler ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Cefnogaeth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferthion ariannol a gyda’ch lles meddyliol
Gallai cael materion iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Dewch o hyd i awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi’n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol a chyda'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.
Edrychwch ar ein canllaw i gael awgrymiadau ymarferol ar Sut i gael sgwrs am arian
Mae'r rhan fwyaf o lefydd mae arnoch arian iddynt gyda pholisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych chi'n fregus. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink’s. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych chi'n poeni amdanynt, yn cael argyfwng iechyd meddwl.
Mae llyfryn i’w lawrlwytho am ddim ar arian a iechyd meddwl ar gael ar MoneySavingExpert
Mae'n cynnwys sut i drin dyledion pan fyddwch chi'n sâl, gweithio gyda banciau, cwnsela dyled am ddim, awgrymiadau ar gyfer anhwylder deubegwn a dioddefwyr iselder, p'un ai i ddatgan cyflwr, a mwy.