Gallai ad-dalu'ch dyled cerdyn credyd a cherdyn siop yn ôl yn gyflymach arbed llawer o arian i chi. Fodd bynnag, mae angen i chi edrych ar eich sefyllfa ariannol gyfan cyn i chi benderfynu ar y dull gorau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Os ydych wedi gorwario ond ni ydych mewn dyled
- Talu mwy na’r isafswm taliad
- Talwch y cerdyn drutaf yn gyntaf
- Ad-dalu eich cardiau gyda chynilion
- Cael cerdyn trosglwyddo balans
- Byddwch yn ofalus sut rydych yn defnyddio’ch cardiau
- Os ydych am leihau benthyca ar eich cardiau credyd neu siop ac yn poeni am ddyledion
Os ydych wedi gorwario ond ni ydych mewn dyled
Oeddech chi’n gwybod?
Pe baech ond yn talu'r isafswm taliad ar falans sy'n weddill o £2,000 gydag APR o 18%, byddai'n cymryd 34 mlynedd i chi ei dalu'n ôl. Byddech chi'n talu £3,983 mewn llog.
Os ydych wedi bod yn gwario mwy nag y dylech chi ac yn jyglo dau fath neu fwy o fenthyca fel, cardiau credyd, cardiau siop, benthyciadau personol neu orddrafftiau, mae'n syniad da cael pethau yn ôl dan reolaeth cyn i chi fynd i ddyled. Mae angen i chi adolygu sut rydych yn defnyddio'ch cardiau a chanolbwyntio ar ffyrdd o gael y balansau i lawr.
Mae cardiau credyd yn gofyn i chi dalu isafswm bob mis. Gall hyn fod mor isel â 2% o’r balans sy’n weddill, ond gellir ei fynegi hefyd fel ffigwr ‘£’.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Talu mwy na’r isafswm taliad
Gall talu'r isafswm bob mis wneud iddo deimlo bod yr hyn sy'n ddyledus gennych ar eich cerdyn yn fforddiadwy.
Ond fe all hyn fod yn syniad gwael iawn. Os na fyddwch yn talu'ch balans i ffwrdd ar ddiwedd y mis, ac nad ydych mewn cyfnod cyflwyno 0%, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich balans sy'n weddill. Gall y gyfradd llog ar gardiau credyd a chardiau siop fod yn llawer uwch nag ar gyfer benthyciad personol.
Hyd yn oed os ydych chi ar gyfradd 0% am gyfnod cyflwyno, dim ond effaith fach ar eich dyled y bydd talu'r isafswm bob mis yn unig. A gallai gymryd amser hir, a chostio llawer, i ad-dalu'r balans hyd yn oed os nad ydych chi'n parhau i wario.
Hefyd, os mai ond isafswm yr ad-daliadau y byddwch yn eu gwneud, bydd hyn yn dangos ar eich ffeil credyd, ac fe allai cwmnïau eraill gymryd yn ganiataol eich bod chi mewn trafferth a byddant yn gyndyn o roi benthyg arian i chi.
Fe allai hyn hyd yn oed effeithio ar eich cyfle i gael morgais yn y dyfodol.
Ceisiwch bob ad-dalu cymaint ag y gallwch chi. Hyd yn oed os ydych chi ond yn ei gynyddu gan swm bychan bob mis, fe all wneud gwahaniaeth anferth.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr cardiau credyd gysylltu ac annog pobl sydd wedi gwneud taliadau isel iawn neu isafswm ar eu cardiau credyd am y 18 mis diwethaf. Dyma lle rydych wedi talu mwy mewn llog, ffioedd a thaliadau na'r hyn rydych wedi'i dalu'n ôl i gael y balans i lawr ar eich cerdyn credyd.
Mae'n ofynnol i fenthycwyr awgrymu ad-daliadau fforddiadwy uwch. Os na fyddwch yn ymateb, neu'n anwybyddu'r mater, a bod y sefyllfa'n parhau am fwy na 36 mis, gallai hyn arwain at atal eich cyfrif. Gallai eich credydwr hefyd gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Os byddwch chi'n dechrau methu unrhyw daliadau ar gardiau credyd neu gardiau siop, mae'n bryd meddwl am gael cyngor ar ddyledion.
Darganfyddwch fwy am yr help os oes rhywun wedi cysylltu â chi am eich cerdyn credyd a'ch dyled barhaus
Talwch y cerdyn drutaf yn gyntaf
Os oes gennych gardiau siop, fe fyddant yn ôl pob tebyg yn ddrutach na dyledion cerdyn credyd. Felly mae’n bwysig eich bod yn talu’r cardiau siop yn gyntaf.
Mae cardiau credyd hefyd yn codi cyfraddau llog gwahanol. Gallwch ddarganfod y gyfradd ar ddatganiad eich cerdyn credyd.
O’r holl gardiau sydd gennych chi, talwch y swm mwyaf ar yr un â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf. Mae hyn yn ddibynnu ar ba fath o falans sydd gennych chi ar y cerdyn - pryniannau, trosglwyddiadau balans neu’n codi arian parod.
Gwnewch yn siwr eich bod yn talu o leiaf yr isafswm taliad ar eich holl gardiau, fel arall bydd yn rhaid i chi dalu costau ac amharu ar eich statws credyd.
Ad-dalu eich cardiau gyda chynilion
Defnyddiwch eich cynilon i ad-dalu dyledion cardiau drud oni bai bod gennych ddyledion â blaenoriaeth fwy brys.
Efallai y byddwch chi’n colli llog ar eich cynilon, ond bydd hyn yn llai na beth rydych yn debygol o’i dalu ar beth rydych yn ei fenthyg.
Cael cerdyn trosglwyddo balans
Os oes gennych statws credyd da, efallai y gallwch symud y balans ar eich cerdyn credyd i gerdyn credyd arall sy’n cynnig dêl isel neu 0%.
Fel arfer mae ffi i’w thalu am hyn o rhwng 2% a 4% o’r balans a drosglwyddir. Ond fe allai fod gwerth gwneud hynny fel y dengys yr enghraifft a ganlyn:
Swm yn ddyledus | £5,000 |
---|---|
Ad-daliad misol |
£300 |
Cyfradd llog cerdyn credyd presennol |
19% |
Cyfnod i dalu’r ddyled gan ddefnyddio’r cerdyn credyd presennol |
Blwyddyn, wyth mis |
Cost y llog dros y cyfnod hwnnw |
£772 |
Cyfradd llog y cerdyn credyd newydd |
0% (am 18 mis) |
Ffi trosglwyddo balans ar y cerdyn credyd newydd (3% o’r swm sy’n ddyledus) |
£150 |
Cyfnod i dalu’r ddyled gan ddefnyddio’r cerdyn credyd newydd |
Blwyddyn, pum mis |
Cyfanswm y llog sy’n cael ei arbed trwy ddefnyddio cerdyn credyd 0% (llog ar gerdyn 19% heb y ffi trosglwyddo balans) |
£622 |
Mae aros gyda’r ddêl bresennol yn golygu y byddech chi’n talu £622 yn ychwanegol mewn llog.
Cofiwch fod angen statws credyd da arnoch i fod yn gymwys ar gyfer y deliau trosglwyddo balans gorau.
Os oes gennych sgôr credyd gwael edrychwch i ddarganfod sut i'w wella, yn ein canllaw Sut i wella’ch sgôr credyd
Cyfrifwch faint y gallech chi ei arbed bob mis trwy newid gan ddefnyddio’r gyfrifiannell trosglwyddo balans Which?
Amcangyfrifwch pa gerdyn fydd y rhataf gan ddefnyddio (nid yw rhai cardiau yn codi ffi trosglwyddo balans) cyfrifiannell cymharu cardiau MoneySavingExpert
Cyn i chi gael cerdyn trosglwyddo balans
Top tip
Os byddwch chi’n newid i ddêl 0%, cofiwch ei ad-dalu’n llwyr - neu dalu cymaint ag y gallwch chi - cyn i’r ddêl ddod i ben.
- Chwiliwch am y fargen orau drwy edrych ar wefannau neu ffonio gwahanol gyhoeddwyr cardiau.
- Gofynnwch i’r benthyciwr am ddyfynbris cyn ymgeisio. Os oes angen iddynt gynnal gwiriad credyd cyn dyfynu eich APR, gofynnwch iddynt gynnal ‘chwiliad dyfynbris’ neu ‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn. Nid yw hyn yn gadael ôl ar eich ffeil credyd, yn wahanol i unrhyw ‘chwiliad cais’. Gallai gormod o geisiadau o fewn cyfnod byr awgrymu eich bod chi’n daer am gredyd.
- Peidiwch ag ymgeisio am gerdyn cyn i chi wybod mai hwnnw yw’r un addas ar eich cyfer. Darllenwch yr holl wybodaeth yn ofalus, a chymharwch gyfraddau llog a chostau.
- Caewch hen gyfrifon cardiau a thorrwch gardiau yn ddarnau er mwyn osgoi’r demtasiwn i barhau i wario arnynt ac felly cronni mwy o ddyledion.
- Wrth fynd am ddêl o 0% cofiwch nodi pa bryd y mae dêl y cynnig rhagarweiniol yn dod i ben. Anelwch at ei ad-dalu cyn hynny os allwch chi.
Byddwch yn ofalus sut rydych yn defnyddio’ch cardiau
Mae’r wybodaeth isod yn berthnasol i bob un o’ch cardiau credyd:
- Gwnewch yn siwr eich bod yn talu’rr isafswm o leiaf bob mis, hyd yn oed os oes gennych ddêl 0%. Fel arall byddwch chi’n talu cosbau ac fe allech chi golli’ch dêl 0%. Ond talwch cymaint ag y gallwch chi er mwyn atal y dyledion rhag cronni.
- Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol i sicrhau nad ydych chi byth yn colli taliad. Gallwch ei drefnu ar gyfer unrhyw swm o’ch dewis, ond ceisiwch sicrhau ei fod am fwy na isafswm yr ad-daliad.
- Gwiriwch am unrhyw newidiadau pwysig ym mhob datganiad a llythyr mae eich benthyciwr yn ei anfon i chi, fel cynnydd yn eich cyfradd llog. Gwiriwch eich datganiadau hefyd i sicrhau bod yr holl wariant yn bendant yn eiddo i chi.
- Peidiwch â defnyddio'ch cerdyn ar gyfer tynnu arian yn ôl neu wiriadau cardiau credyd. Codir ffioedd a llog uwch arnoch am y cyfnod cyfan nes i chi ei ad-dalu.
- Os oes gennych chi gerdyn credyd sy’n codi 0% am drosglwyddo balans, peidiwch â gwario arno. Fel arfer ni fydd unrhyw beth a brynwch gyda’r cerdyn yn gynwysedig yn y fargen 0%. Felly byddwch chi’n talu llog ar y pryniannau hynny os na fyddwch chi’n eu had-dalu’n llawn erbyn diwedd y mis.
Os ydych am leihau benthyca ar eich cardiau credyd neu siop ac yn poeni am ddyledion
Os oes gennych ddyledion eraill neu eisiau lleihau balansau eich cerdyn credyd ac yn poeni y gallech fethu ad-daliadau a syrthio i ddyled, mae'n well siarad â chynghorydd dyled cyn i chi roi cynnig ar unrhyw un o'r ffyrdd rydym wedi'u hawgrymu yma.
Trin credydwyr yn deg
Os ydych wedi methu taliadau ar fwy nag un math o fenthyca a bod gennych arian sbâr i ddechrau eu talu. Efallai y byddai'n well rhannu unrhyw beth y gallwch chi fforddio ei dalu tuag at eich dyledion yn deg rhwng eich credydwr.
Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn oherwydd os nad ydych yn llwyddo i gadw i fyny ag ad-daliadau ac angen dod o hyd i ateb dyled ffurfiol, efallai na fyddwch yn gallu ymrwymo i rai trefniadau (fel methdaliad neu orchymyn rhyddhad dyled) os ydych wedi blaenoriaethu rhai credydwyr dros eraill.
Mae'n syniad da siarad â chynghorydd dyled yn gyntaf cyn i chi gytuno i wneud taliadau i bobl y mae arnoch arian iddynt.
Cael cyngor rhad ac am ddim ar ddelio â dyledion
Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth neu os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, ni ydych ar eich pen eich hun.
Mae bron i hanner y bobl mewn dyled wedi dweud wrthym nad ydynt yn siŵr am y ffordd orau i dalu eu dyledion, a dyna ble gall cynghorydd dyledion wir eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir fel bydd y rhan fwyaf o'ch arian yn mynd i ad-dalu'ch dyledion.
Sy'n golygu y gallech chi fod yn rhydd o ddyled yn gynt nag yr oeddech chi'n meddwl.
Bydd cynghorydd dyled yn:
- trin popeth rydych yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion na fyddech efallai yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i chi
- gwneud yn siŵr eich bod chi'n gyffyrddus â'ch penderfyniad bob amser.
Mae tri chwarter y bobl sy'n cael cyngor ar ddyledion yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid wedi hynny.