Ystyr benthyciad wedi’i warantu yw arian rydych yn cael ei fenthyg ac sy’n cael ei warantu yn erbyn ased rydych chi’n berchen arno, fel arfer eich cartref. Mae’r cyfraddau llog yn dueddol o fod yn rhatach na benthyciadau heb eu gwarantu, ond fe all fod yn opsiwn llawer yn fwy peryglus. Os ydych yn mynd ar ei hôl gyda thaliadau, efallai y bydd eich ased yn cael ei adfeddiannu, felly mae’n bwysig deall sut y mae benthyciadau wedi’u gwarantu yn gweithio a beth allai ddigwydd os na allwch chi dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Egluro benthyciadau wedi’u gwarantu
- Manteision ac anfanteision benthyciadau wedi’u gwarantu
- Mathau o fenthyciadau wedi’u gwarantu
- Sut mae cael y cynnig gorau
- Benthyciadau wedi’u gwarantu yn erbyn eich car neu asedau eraill
- Egluro benthyciadau heb eu gwarantu
- Sut i gwyno os bydd pethau’n mynd o chwith
Egluro benthyciadau wedi’u gwarantu
Defnyddir benthyciadau wedi’u gwarantu yn aml i fenthyca symiau mawr o arian, fel arfer mwy na £10,000.
Mae’r term ‘wedi’u gwarantu’ yn cyfeirio at y ffaith y bydd darparwr benthyciadau angen rhywbeth fel gwarant rhag ofn na fyddwch chi’n gallu talu’r benthyciad yn ôl. Eich cartref fydd y warant fel arfer.
Efallai y bydd rhai benthyciadau yn cael eu gwarantu ar rywbeth heblaw eich cartref - er enghraifft, efallai y byddant yn cael eu gwarantu yn erbyn eich car, gemwaith neu asedau eraill.
Mae benthyciadau wedi’u gwarantu yn llai o risg i fenthycwyr oherwydd gallant adennill yr ased os byddwch yn methu, a dyna pam mae cyfraddau llog yn tueddu i fod yn is na'r rhai a godir am fenthyciadau heb eu gwarantu.
Ond maen nhw’n llawer yn fwy peryglus i chi oherwydd fe all y benthycwr adfeddiannu'r ased wedi'i warantu - er enghraifft, eich cartref - os nad ydych yn cadw i fyny gyda'r ad-daliadau.
Manteision ac anfanteision benthyciadau wedi’u gwarantu
Manteision
-
Fel rheol gallwch fenthyca swm mwy o arian nag y byddech chi'n gallu ei wneud gyda benthyciad heb ei warantu.
-
Fel rheol, byddwch chi'n talu cyfradd llog is na gyda benthyciad heb ei warantu.
-
Efallai y byddai'n haws cael eich derbyn am fenthyciad wedi'i warantu na benthyciad heb ei warantu, er enghraifft, os nad oes gennych hanes credyd da neu os ydych chi'n hunangyflogedig
Anfanteision
-
Mae’r benthyciad yn cael ei warantu ar eich cartref neu ased arall, y gallech golli os na allwch chi dalu’ch ad-daliadau.
-
Mae benthyciadau wedi’u gwarantu yn aml yn cael eu had-dalu dros gyfnodau llawer hirach na benthyciadau heb eu gwarantu. Felly, er y gallai eich ad-daliadau misol fod yn is, efallai y byddwch yn ei ad-dalu am hyd at 25 mlynedd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu mwy mewn llog.
-
Mae gan rai benthyciadau gyfraddau llog amrywiol, sy’n golygu y gallai eich ad-daliadau godi. Sicrhewch eich bod yn gwybod a yw’r gyfradd yn un benodol neu’n amrywiol.
-
Mae rhai benthyciadau wedi’u gwarantu yn cynnwys ffioedd trefnu drud a thaliadau eraill. Cofiwch ystyried hyn wrth gyfrifo faint y mae’r benthyciad yn mynd i’w gostio ichi. Dylai ffioedd trefnu a chostau sefydlu eraill gael eu cynnwys yn y Gyfradd Cost Canran Blynyddol (neu APRC - mae hyn yn debyg i’r APR ar gyfer benthyciadau heb eu gwarantu). Defnyddiwch yr APRC i gymharu cynnyrch.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Mathau o fenthyciadau wedi’u gwarantu
Mae yna sawl enw ar gyfer benthyciadau wedi’u gwarantu, gan gynnwys:
- benthyciadau ecwiti cartref neu berchennog tŷ
- ail forgeisi neu ail forgeisiau arwystl
- morgeisi arwystl cyntaf (os nad oes morgais yn bodoli)
- benthyciadau cyfuno dyled (er nad yw'r holl fenthyciadau hyn wedi'u sicrhau).
Benthyciadau ecwiti cartref neu berchennog tŷ - benthyca mwy gan eich benthyciwr morgais
Gallwch gael blaenswm pellach ar eich morgais - byddwch yn benthyca arian ychwanegol yn erbyn eich cartref gan eich benthyciwr morgais cyfredol.
Gallai hyn fod yn opsiwn defnyddiol os ydych chi'n edrych i dalu am rai gwelliannau mawr i'r cartref neu i godi blaendal i brynu ail gartref.
Darllenwch ein canllaw Cynyddu'ch morgais – cael benthyciad ychwanegol ar y morgais
Morgeisi arwystl cyntaf ac ail arwystl
Mae benthyciad morgais arwystl cyntaf yn golygu cymryd benthyciad pan nad oes gennych forgais presennol.
Mae morgais ail arwystl yn cynnwys sefydlu cytundeb ar wahân i'ch morgais presennol, naill ai gyda'ch benthyciwr morgais presennol neu drwy fynd â'r benthyciad gyda benthyciwr gwahanol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ail forgeisi neu forgeisi ail arwystl
Benthyciadau cyfuno dyledion
Os oes arnoch lawer ar nifer o wahanol gynhyrchion, gallwch eu huno gyda'i gilydd yn un benthyciad cyfuno dyled. Gallai hyn fod yn ddiogel neu'n anniogel.
Gallai benthyciadau cyfuno dyled a sicrheir ar eich cartref fod naill ai'n forgeisiau tâl cyntaf neu ail.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau cyfuno dyledion
Sut mae cael y cynnig gorau
Os ydych wedi penderfynu mai benthyciad wedi’i warantu yw’r dewis gorau i chi, y cam cyntaf ddylech ei gymryd yw cysylltu â’ch darparwr morgais i weld beth y gall ei gynnig. Bydd rhai’n darparu cynigion arbennig ar gyfer y bobl hynny sydd â hanes da o ad-dalu eu morgais.
Nesaf, edrychwch ar wefannau cymharu i weld a allwch gael cynnig gwell gan ddarparwr benthyciadau arall. Serch hynny, cofiwch nad yw gwefannau cymharu bob amser yn cynnig detholiad cynhwysfawr o ddeliau. Ynghyd ag ymchwilio i gost benthyca, cofiwch gymharu telerau ac amodau pob benthyciad a beth allai ddigwydd os nad allwch chi ad-dalu.
Os ydych chi’n cymharu llawer o ddeliau, er enghraifft ar safle cymharu, gwiriwch a fydd hyn yn dangos ar eich ffeil credyd. Bydd rhai darparwyr benthyciadau yn cynnal gwiriad credyd llawn arnoch chi cyn cynnig dyfynbris, felly fe allai ymddangos eich bod chi wedi gwneud cais am y benthyciad mewn gwirionedd.
Os bydd hyn yn digwydd nifer o weithiau, gallai wneud niwed i’ch statws credyd. Gofynnwch a ydynt yn cynnig ‘chwiliad dyfynbris’ neu ‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn’ yn lle hynny, nad yw’n ymddangos ar eich ffeil statws credyd - gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth i chi edrych o gwmpas ac nad ydych chi’n barod hyd yma i wneud cais.
Benthyciadau wedi’u gwarantu yn erbyn eich car neu asedau eraill
Gelwir benthyciadau a sicrheir yn erbyn eich car yn fenthyciadau llyfr cofrestru. Yn gyffredinol, maen nhw'n ddrud, yn fentrus, ac mae'n well eu hosgoi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau llyfr cofrestru
Mae gwystlwyr yn cynnig benthyciadau wedi'u gwarantu yn erbyn gemwaith, hen bethau neu asedau eraill. Gallant fenthyca arian yn gyflym, ond mae eu cyfraddau llog fel arfer yn uwch na banciau'r stryd fawr (ond yn is na benthycwyr diwrnod cyflog).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwystlwyr – sut maen nhw’n gweithio
Egluro benthyciadau heb eu gwarantu
Mae benthyciadau heb eu gwarantu – a elwir hefyd yn fenthyciad personol - yn symlach. Rydych chi’n cael benthyg arian gan fanc neu ddarparwr benthyciadau arall ac yn cytuno i wneud taliadau rheolaidd hyd nes y bydd yn cael ei dalu’n llawn.
Gan nad yw’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich cartref, mae’r cyfraddau llog yn tueddu i fod yn uwch.
Os ydych yn hwyr wrth wneud y taliad neu fethu un yn gyfan gwbl, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau atodol. Gallai hyn niweidio eich statws credyd.
Hefyd, gallai’r darparwr benthyciadau fynd i’r llys i geisio cael ei arian yn ôl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau personol
Sut i gwyno os bydd pethau’n mynd o chwith
Os ydych yn anfodlon, eich cam cyntaf ddylai fod i gwyno wrth y cwmni benthyciadau.
Os na chewch ymateb boddhaol o fewn wyth wythnos gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.