Mae dwy ffordd i ddefnyddio gwystlwr – gallwch naill ai gadael rhywbeth gwerthfawr fel gwarant ar gyfer cael benthyciad, er enghraifft gemwaith neu hen beth gwerthfawr, neu werthu’r eitem i’r gwystlwr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw gwystlwyr?
- Sut mae gwystlwyr yn gweithio? - Faint fyddwch yn ei dalu, a sut
- Beth y gallwch chi ei wystlo
- Beth i’w wneud os na allwch eu talu yn ôl
- Beth sy’n digwydd os byddwch yn colli’ch derbynneb?
- Beth sy’n digwydd os nad ydych yn ad-dalu’r ddyled
- Beth fydd yn digwydd os bydd eich gwystlwr lleol yn cau
- Opsiynau eraillheblaw gwystlwyr
Beth yw gwystlwyr?
- Rydych yn rhoi’r eitem (sef y gwystl) i’r gwystlwr a bydd yn ei brisio i chi.
- Dylai’r gwystlwr roi ‘Dogfen Wybodaeth cyn Llofnodi Contract’ ichi os ydych yn gwsmer newydd – os ydych wedi benthyca gan y cwmni yn ystod y 3 blynedd diwethaf, gallwch ofyn am hyn (ac mae'n well gwneud hynny bob amser).
- Byddwch yn cael cytundeb credyd i'w lofnodi – gwiriwch hwn yn ofalus a gofynnwch gwestiynau os nad ydych chi'n deall unrhyw beth.
- Bydd y cytundeb yn nodi pa mor hir y bydd y benthyciad yn para a faint y bydd yn ei gostio. Fel rheol bydd o leiaf chwe mis (ond gallwch chi gytuno ar gyfnod byrrach neu hirach).
- Oni bai ei fod yn rhan o'r cytundeb credyd, bydd y gwystlwr yn rhoi derbynneb ar wahan ichi am yr eitem y bydd yn rhaid ichi ei chadw i brofi mai chi biau’r eitem.
- Gallwch ad-brynu'r gwystl ar unrhyw adeg, trwy dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych a chael yr eitem yn ôl. Os na fyddwch yn ad-dalu'r benthyciad yn ystod y cyfnod adbrynu, gall y gwystlwr ei werthu i adennill yr arian parod.
- Ceir cyfnod o 14 diwrnod ar gyfer ailystyried a newid eich meddwl, ac o fewn y cyfnod hwn mae gennych hawl i dynnu’n ôl o’r cytundeb a dim ond talu llog am gyfnod y credyd.
Os ydych chi eisiau defnyddio gwystlwr, dewiswch un sy’n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Gwystlwyr, sydd â chod ymddygiad ar gyfer aelodau.
Sut mae gwystlwyr yn gweithio? - Faint fyddwch yn ei dalu, a sut
Gallwch ddisgwyl talu cyfradd llog uwch i wystlwr na’r cyfraddau a godir ar fenthyciadau’r stryd fawr, ond fel arfer bydd yn llawer llai na’r llog a godir gan ddarparwr diwrnod cyflog.
Efallai y dyfynnir cyfradd fisol neu ddyddiol i chi, er y bydd y gwystlwr hefyd yn gorfod dangos y gyfradd llog fisol a’r APR (cyfradd ganrannol flynyddol y tâl).
Chwiliwch am y cyfraddau mwyaf cystadleuol.
Fel arfer bydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad mewn un taliad, yn hytrach na rhandaliadau.
Os bydd angen mwy o amser arnoch chi i dalu’n ôl, gall y gwystlwr gytuno i ymestyn y cyfnod a llunio cytundeb credyd newydd, er y gall wrthod.
Fel arfer byddai’n disgwyl i chi dalu o leiaf y llog sy’n ddyledus gennych yn ôl.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth y gallwch chi ei wystlo
Gallwch wystlo unrhyw beth gwerthfawr y gellir ei ailwerthu. Gemwaith yw’r eitem fwyaf poblogaidd mae pobl yn dewis i wystlo
Manteision
-
Os nad oes gennych statws credyd da, gallai fod yn haws benthyg gan wystlwr na darparwr arall, ac efallai y bydd llai o wiriadau credyd.
-
Mae’n sydyn – fel arfer mi gewch eich arian ar yr un diwrnod.
-
Dylai gwystlwr adael ichi gael eich nwyddau’n ôl unrhyw bryd a dim ond codi llog am y cyfnod yr ydych wedi cael benthyg yr arian.
-
Os yw’r eitem yn cael ei gwerthu, a bod yna ddiffyg, fel arfer ni fydd y gwystlwr yn dod i ofyn i chi amdano (ond gwiriwch y bydd hynny’n wir).
Anfanteision
-
Gall defnyddio gwystlwr fod yn ffordd gymharol ddrud o fenthyca.
-
Fel arfer dim ond canran o werth yr eitem y byddwch yn cael ei benthyca. Felly, er enghraifft, os oes gennych chi rhywfain to emwaith sy’n werth £200, efallai mai dim ond benthyciad o £100 y byddwch yn ei gael.
Beth i’w wneud os na allwch eu talu yn ôl
Os na fyddwch yn gallu ad-dalu’r benthyciad erbyn y dyddiad a ddim am weld eich eitem yn cael ei gwerthu gallwch ofyn i’r gwystlwr a yw’n fodlon ymestyn y terfyn amser, ond does dim rhaid iddo gytuno.
Os byddwch wedi cael benthyg hyd at £75 a ddim yn gallu talu’r benthyciad yn ôl, bydd perchnogaeth o’r eitem yn cael ei basio’n awtomatig i’r gwystlwr.
Os byddwch wedi cael benthyg fwy na £75, gall y gwystlwr ei werthu a chadw’r elw – ond rhaid iddynt gael y gwerth gorau ar gyfer yr eitem, ac os oes unrhyw beth dros ben (wedi talu’r ddyled a didynnu’r costau megis costau arwerthiant), rhaid iddynt ddychwelyd hyn i chi.
Os yw’r benthyciad am dros £100, rhaid i’r gwystlwr ddweud wrthych chi ymlaen llaw ei fod am ei gwerthu.
Mae hyn yn rhoi cyfle ichi dalu a chael eich nwyddau’n ôl.
Beth sy’n digwydd os byddwch yn colli’ch derbynneb?
Os benthycoch chi hyd at £75 gallwch ofyn i’r gwystlwr am ‘ffurflen safonol’ y byddwch yn ei llofnodi i ddweud mai chi yw perchennog yr eiddo.
Os benthycoch chi dros £75 bydd angen i chi lofnodi datganiad statudol.
Gallai hyn olygu mynd at ynad neu Gomisiynydd Llwon, neu Ynad Heddwch os ydych chi’n byw yn yr Alban.
Cewch fynd at gyfreithiwr hefyd, ond mae’n debyg y bydd yn codi ffi am wneud hyn.
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn ad-dalu’r ddyled
Yn gyntaf cwynwch wrth y gwystlwr mewn llythyr.
Cewch ddefnyddio tystiolaeth megis erthyglau o bapur newydd neu ddyfynbrisiau ysgrifenedig i ategu’ch hawliad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod gwerth yr eitem cyn ei gwystlo, felly bydd gennych dystiolaeth os ydych yn teimlo bod y gwystlwr wedi’i gwerthu am lai na’i gwerth.
Os na fydd y gwystlwr yn ymateb i’ch cwyn neu os na lwyddwch i ddatrys y broblem cyn pen wyth wythnos, gallwch fynd â’ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Cewch fynd â gwystlwr i’r Llys Hawliadau Bach ond bydd ffioedd i’w talu ac mae perygl na fydd y setliad a gewch yn eich bodloni.
Beth fydd yn digwydd os bydd eich gwystlwr lleol yn cau
Weithiau bydd cadwyn o siopau gwystlwr yn cau rhai o’i siopao (neu yn cau’n gyfan gwbl). Dyma ychydig o wybodaeth ar beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd.
Fel arfer mae’r eitemau a adawoch fel sicrwydd ar gyfer benthyciad yn ddiogel a gallwch eu cael yn ôl o hyd
Mae Cymdeithas Genedlaethol y Gwystlwyr (NPA) wedi datgan, os bydd gwystlwr sy’n aelod o’r NPA yn cau, nid oes unrhyw reswm i bryderu y bydd perygl o golli’ch eitemau. Fel arfer caiff eitemau eu cadw mewn un lleoliad canolog.
Mae eich benthyciad yn parhau’n weithredol, felly parhewch i wneud eich taliadau arno
Dylech barhau i wneud y taliadau’n brydlon yn unol â thelerau’ch benthyciad. Wrth beidio â thalu, gallai hynny effeithio ar eich statws credyd a gallech ei chael hi’n anodd cael credyd yn y dyfodol.
Sut i gysylltu â’r cwmni a gaeodd i lawr
Gallwch roi cynnig ar ffonio’r rhifau ffôn presennol ar gyfer y gwystlwr a gaeodd i lawr. Neu, gallwch gysylltu â’r NPA ar 0172 785 8687 a allai roi cymorth i chi gysylltu â’r gwystlwr.
Os ydych yn anfodlon â’r ymateb a gawsoch gan y cwmni
Os ydych yn anfodlon â’r ymateb a gawsoch gan y cwmni, neu os na allwch gael gafael arnynt, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar 0800 023 4567 neu linell gyswllt cwsmeriaid yr FCA ar 0800 111 6768.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn
Opsiynau eraillheblaw gwystlwyr
Mae benthyca gan wystlwr yn ddrud a gall olygu colli eitem werthfawr yn ogystal â chostio arian ichi.