Mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn fenthycwyr anghyfreithlon sy'n aml yn targedu pobl sydd angen arian ar frys ac na allant gael gafael arno o ffynonellau cyfreithiol. Gallent ymddangos yn gyfeillgar i ddechrau, ond nid yw hi fyth yn syniad da benthyca arian ganddynt – hyd yn oed os teimlwch nad oes gennych ddewis arall.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn ddrwg
Bydd darparwyr benthyciadau didrwydded yn gyfeillgar ar y cychwyn. Ac os byddwch yn parhau i wneud eich ad-daliadau, efallai byddant yn aros fel hynny.
Ond, mewn gwirionedd, hyd yn oed os gwnewch hynny, bydd pris uchel i’w dalu am unrhyw arian rydych yn benthyca ganddynt.
Mae llawer o beryglon sy’n gysylltiedig â benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded.
- byddwch yn talu llawer mwy o log nag y byddwch yn ei dalu drwy ddulliau benthyca cyfreithlon
- efallai y cewch eich aflonyddu neu eich bygwth os byddwch yn methu’ch ad-daliadau (cafwyd hanesion am bobl yn cael eu bygwth neu bobl yn ymosod arnynt)
- efallai y cewch eich rhoi dan bwysau i fenthyca un benthyciad ar ôl y llall, gan wynebu dyled ddiddiwedd na allwch fyth ei had-dalu.
Sut i adnabod ac osgoi darparwyr benthyciadau didrwydded
Cofiwch, os ydych yn ansicr, gwiriwch y benthyciwr!
Rhaid i unrhyw un sy'n benthyca arian gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Gallwch wirio i sicrhau bod benthyciwr wedi'i gofrestru ar FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych eisoes wedi benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded, y peth pwysig i'w gofio yw nad ydych wedi torri'r gyfraith ac mae help ar gael.
Dyma rai o'r arwyddion cyffredin i’w hedrych amdanynt sy'n dangos y gallech fod yn benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded:
- Dim gwaith papur - mae gwaith papur yn gwneud i rywbeth ymddangos yn fwy cyfreithlon, ac mae benthycwyr arian didrwydded yn ei osgoi ar bob cyfrif.
- Benthyciadau arian parod neu drosglwyddiadau banc - fel rheol mae'n well gan ddarparwyr benthyciadau didrwydded delio ag arian parod. Fodd bynnag, mae mwy bellach yn defnyddio trosglwyddiadau banc hefyd.
- Gwrthod rhoi gwybodaeth i chi am y benthyciad - bydd y mwyafrif o ddarparwyr benthyciadau didrwydded yn osgoi rhoi manylion clir i chi am eich benthyciad, fel y gyfradd llog, manylion ad-daliadau blaenorol a'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych.
- Cymryd eiddo ar gyfer sicrwydd - bydd rhai darparwyd benthyciadau didrwydded yn cymryd eiddo personol, fel pasbort neu gardiau banc, i weithredu fel sicrwydd a sicrhau eich bod yn gwneud ad-daliadau.
- Mae eich benthyciad yn dal i dyfu - gallai darparwyr benthyciadau didrwydded gynyddu'r ddyled neu ychwanegu taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd. Mae'n bwysig eich bod yn cael help oherwydd gall y ddyled droelli allan o reolaeth yn gyflym iawn. Darganfyddwch fwy ar Stop Loan Sharks
- Bygythiadau trais - mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn aml yn defnyddio brawychiad a bygythiadau i ddychryn pobl i dalu eu benthyciad yn ôl. Mae rhai hyd yn oed yn mynd yn dreisgar tuag at eu dioddefwyr os ydyn nhw'n methu â thalu.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Sut mae sicrhau bod darparwr benthyciadau yn un dilys
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn cadw manylion am yr holl ddarparwyr benthyciadau awdurdodedig.
Os nad yw darparwr wedi’i restru fel un sydd ag awdurdod cyfredol i fenthyca arian i rywun, peidiwch â benthyca ganddo a pheidiwch â gadael iddo ddod i mewn i’ch cartref.
I weld a yw benthyciwr wedi'i awdurdodi edrychwch ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Darparwyr benthyciadau didrwydded a’r gyfraith
Er bod rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn defnyddio bygythiadau a thrais hyd yn oed, nid ydynt y tu hwnt i’r gyfraith.
Mae unrhyw fenthyciwr – awdurdodedig neu ddidrwydded – sy’n eich aflonyddu yn torri’r gyfraith.
Bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn eich bygwth drwy ddweud y byddwch yn cael eich erlyn, a chael eich anfon i’r carchar hyd yn oed, os na fyddwch yn talu.
Ni all hyn ddigwydd – does dim hawl cyfreithiol gan ddarparwr benthyciadau didrwydded i adennill y ddyled. Oherwydd mae’r benthyciad yn anghyfreithlon.
Adrodd ar ddarparwr benthyciadau didrwydded
Gallwch hefyd eu riportio i'r tîm Stop Loan Sharks trwy ffonio 0300 555 2222 neu ar Stop Loan Sharks
Yn yr Alban cysylltwch ag Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon yr Alban ar 0800 074 0878 neu ar lein drwy Safonau Masnach yr Alban
Yng Nghymru, cysylltwch ag Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon Cymru ar 0300 1234 3311
Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Linell Defnyddwyr Safonau Masnach ar 0300 123 6262 neu ar Stop Loan Sharks NI
Os oes rhywun wedi dod atoch chi, sydd, yn eich barn chi, yn ddarparwr benthyciadau didrwydded, mae angen i chi gysylltu â’r heddlu ar 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Ni fydd darpareyr benthyciadau didrwydded byth yn stopio mynd ar eich ôl am arian, felly mae'n bwysig eich bod yn gweithredu cyn gynted â phosibl.
Bydd unrhyw beth a ddywedwch wrthynt yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol a gallwch aros yn anhysbys. Nid yw'r siarc benthyciad yn gwybod eu bod yn destun ymchwiliad.
Darganfyddwch sut i roi gwybod am ddarparwr benthyciadau didrwydded ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd wirio a ydyn nhw'n fenthyciwr cyfreithiol ar Loan SmartYn agor mewn ffenestr newydd
Opsiynau eraill heblaw darparwr benthyciadau didrwydded
Os yw’ch incwm yn isel, a’ch statws credyd yn wael, neu os mai dim ond swm bach sydd ei angen arnoch am gyfnod byr, mae darparwyr dibynadwy ar gael ar eich cyfer yn hytrach na darparwyr benthyciadau didrwydded.
Gwiriwch eu bod wedi’u hawdurdodi gan yr FCA, a chwiliwch am y fargen orau.
Gallwch wirio i sicrhau bod benthyciwr wedi'i gofrestru ar FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Undebau Credyd
Mae undebau credyd yn ddarparwyr benthyciadau ac yn sefydliad dielw, dan berchnogaeth aelodau a chynilion cymunedol. Maent yn gweithredu gyda thri phrif nod:
- darparu benthyciadau ar gyfraddau isel
- annog pob aelod i gynilo'n rheolaidd
- helpu aelodau sydd angen cyngor a chymorth ariannol.
Bydd yn rhaid i chi ddod yn aelod o'r undeb credyd ac efallai y byddant yn gofyn i chi cynilo swm cyn y gallwch fenthyca.
Chwiliwch a dewch o hyd i’ch undeb credyd agosafYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am Benthyca gan undeb credyd
Help gan y llywodraeth
Os ydych chi’n brin o arian, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau mae gennych hawl i’w cael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliadau cywir
Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau, efallai y bydd gennych hawl i Flaendal Cyllidebu neu Fenthyciad Cyllidebu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Ymdrin â dyledion
Os ydych chi’n ystyried defnyddio darparwr benthyciadau didrwydded gan nad ydych chi’n gallu cael benthyciad gan neb arall, mae nifer o sefydliadau ar gael sy’n cynnig cyngor am ddim ar ddyledion.