Os ydych yn cael trafferth â dyledion, efallai y gallwch gael cefnogaeth trwy'r cynllun seibiant dyled, a elwir hefyd yn Lle i Anadlu. Gallai hyn roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb effeithiol a hirdymor i ddelio â'ch dyledion a'ch helpu i symud ymlaen.
Beth yw Lle i Anadlu?
Mae Lle i Anadlu yn opsiwn dyled newydd sy'n rhoi amddiffyniad dros dro i chi rhag y credydwyr y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth â dyledion. Mae hyn yn cynnwys:
- rhewi'r llog, ffioedd a thaliadau ar ddyledion ac
- oedi pob cam gorfodi a chontract gan gredydwyr.
Mae'n opsiwn byrdymor, i roi amser a lle i chi ymgysylltu â chyngor ar ddyledion a dod o hyd i ateb hirdymor.
Mae dau fath o Le i Anadlu:
- Lle i Anadlu Safonol - yr ydych yn gwneud cais amdano trwy gyngor dyled, ac sy'n para am hyd at 60 diwrnod, ag adolygiad rhwng diwrnodau 25 a 35.
- Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl - sydd yn benodol i bobl sy’n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl a dim ond Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) sy'n gallu gwneud cais amdano. Mae'n para trwy gydol eich triniaeth, ynghyd â 30 diwrnod.
A wyf yn gymwys am ‘Lle i Anadlu’?
Lle i Anadlu Safonol
Efallai y byddwch yn gymwys am Le i Anadlu os ydych:
- yn byw yng Nghymru neu Loegr
- â dyled gymwys
- heb orchymyn rhyddhad dyled (DRO), trefniant gwirfoddol unigol (IVA), gorchymyn dros dro, neu ddim yn fethdalwr heb ei ryddhau ar yr adeg y gwnewch gais
- ddim eisoes wedi cymryd Lle i Anadlu Safonol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae cynllun tebyg o'r enw ‘Statutory Moratorium’.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, nid oes cynllun cyfatebol.
Darganfyddwch fwy am 'the Statutory Moratorium scheme' yn Advice Scotland
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
I fod yn gymwys i gael Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl mae rhaid eich bod yn cael triniaeth benodol.
Rydych yn gymwys dim ond os ydych ydych:
- yn cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (a elwir hefyd yn adran)
- wedi eich symud i le diogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- yn cael gofal mewn ysbyty neu'r gymuned gan dîm iechyd meddwl arbenigol fel y tîm argyfwng neu'r tîm triniaeth gartref.
Beth yw dyledion cymwys?
Bydd y rhan fwyaf o ddyledion personol yn gymwys am Le i Anadlu gan gynnwys:
- cardiau credyd a storfa
- benthyciadau personol
- benthyciadau diwrnod cyflog
- gorddrafftiau
- ôl-ddyledion ar forgeisiau, biliau cyfleustodau, cytundebau hurbwrcasu a dyledion gwarantedig eraill
- y rhan fwyaf o ddyledion y llywodraeth, gan gynnwys dyledion treth a budd-daliadau
- Ôl-ddyledion Treth Gyngor.
Mae dyledion ar y cyd, fel morgais ar y cyd, yn gymwys, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sydd eisiau Lle i Anadlu. Fodd bynnag, lle bo hynny'n bosibl, dylech siarad â'r unigolyn y mae gennych ddyled ar y cyd â hwy i'w gwneud yn ymwybodol eich bod yn gwneud cais am Le i Anadlu.
Mae benthyciadau gwarantwr yn gymwys, ond nid yw'r Lle i Anadlu yn cwmpasu'r person sy'n gwarantu'r benthyciad.
Pa ddyledion nad ydynt yn gymwys?
Ni fydd rhai dyledion yn gymwys am Le i Anadlu, gan gynnwys:
- dyledion a gronnwyd oherwydd twyll
- dirwyon llys
- taliadau cynhaliaeth plant
- benthyciadau argyfwng neu gyllidebu o'r gronfa gymdeithasol
- Taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol
- benthyciadau myfyrwyr
- iawndal am farwolaeth neu anafiadau personol a achoswyd i rywun arall
- rhwymedigaethau o orchymyn atafaelu.
Sut i wneud cais am ‘Lle i Anadlu’
Lle i Anadlu Safonol
Gallwch wneud cais am Le i Anadlu dim ond trwy gynghorydd dyled.
Os bydd rhywun yn mynd atoch yn uniongyrchol ynglŷn â Lle i Anadlu neu'n cynnig ei drefnu ar eich cyfer am ffi, mae'n debygol o fod yn sgâm.
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
Ni allwch wneud cais am Le i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl ar eich pen eich hun. Gallwch wneud cais dim ond â chefnogaeth Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).
Ystyr AMHP yw rhywun a gymeradwywyd o dan adran 114 (1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yn Lloegr, neu a gymeradwywyd o dan yr is-adran honno gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Os ydych am ddod o hyd i AMHP, dylech siarad â:
- y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud fwyaf â'ch gofal
- tîm AMHP yn eich adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion leol
- eich tîm iechyd meddwl cymunedol lleol.
Bydd angen i'r AMHP lenwi ffurflen dystiolaeth swyddogol i ddangos eich bod yn cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl. Yna bydd hwn yn cael ei gyflwyno i gynghorydd dyled gan yr AMHP, gennych chi eich hun, neu gan berson arall, fel gofalwr, gweithiwr cymdeithasol neu gynrychiolydd enwebedig.
Dylid cyflwyno ffurflenni tystiolaeth trwy'r pwynt mynediad sengl a ddarperir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Beth sydd angen i mi ei wneud yn ystod Lle i Anadlu?
Lle i Anadlu Safonol
Dyluniwyd Lle i Anadlu i roi amser i chi gael cyngor ar ddyledion ac edrych ar unrhyw atebion dyled posibl.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi barhau i siarad â chynghorydd dyled trwy gydol Lle i Anadlu i barhau i gael ei amddiffyniadau.
Mae rhaid i'r cynghorydd gynnal adolygiad hanner ffordd â chi rhwng diwrnodau 25 a 35 i gadarnhau eich bod yn ymgysylltu â chyngor ac yn cwrdd ag amodau Lle i Anadlu, sef:
- hysbysu'ch cynghorydd dyledion os bu unrhyw newid yn eich amgylchiadau
- peidio â chymryd unrhyw fenthyca unigol neu ar y cyd mwy na £500, gan gynnwys gorddrafftiau
- parhau i dalu'ch biliau hanfodol ac unrhyw ddyledion nad ydynt wedi eu cynnwys yn Lle i Anadlu.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn sydd angen i chi ei wneud yn ystod Lle i Anadlu, dylech siarad â'ch cynghorydd dyled.
Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl
Dyluniwyd Lle i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl i roi amser i chi gael triniaeth heb fynd ar drywydd eich dyledion.
Nid oes angen i chi fodloni'r un amodau â Lle i Anadlu Safonol, ond bydd angen i Bwynt Cyswllt Enwebedig (i'w gynnwys yn y ffurflen dystiolaeth) gadarnhau eich bod yn dal i gael triniaeth iechyd meddwl bob 30 diwrnod.
Dylech hefyd barhau i dalu biliau a gwneud eich ad-daliadau dyled yn rheolaidd os gallwch, gan nad yw Lle i Anadlu yn wyliau talu, ac efallai y cysylltir â chi o hyd am y rhain.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r Lle i Anadlu dod i ben?
Ar ddiwedd Lle i Anadlu, bydd yr amddiffyniadau'n dod i ben a gall y credydwyr y mae arnoch arian iddynt:
- ddechrau ychwanegu llog, ffioedd a chosbau at eich dyledion
- gweithredu i orfodi'r ddyled
- ailddechrau neu ddechrau achos cyfreithiol.
Dyma pam ei bod yn bwysig iawn eich bod o fewn y Lle i Anadlu yn mynd ati i ymgysylltu â chynghorydd dyled i ddod o hyd i ateb dyled hirdymor sy'n gweithio i chi a allai osgoi i'r pethau hyn ddigwydd.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Pa opsiynau eraill sydd ar gael?
Os ydych yn chwilio am Le i Anadlu Safonol, bydd y cynghorydd dyledion sy'n delio â'ch cais yn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i chi a gallai argymell rhywbeth heblaw am Lle i Anadlu. Byddant yn trafod manteision ac anfanteision opsiynau eraill sydd ar gael i chi.