Darganfyddwch am y gwahanol ffyrdd i helpu i ddelio â’ch dyledion os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch biliau dydd i ddydd, benthyciadau ac ad-daliadau cerdyn credyd neu ymrwymiadau ariannol eraill (fel eich rhent neu’ch morgais). Mae’n bwysig cael cyngor am ddim ar ddyledion cyn i chi wneud penderfyniad.
Cynllun Rheoli Dyled (DMP)
- Mae’r rhain yn caniatau i chi dalu’ch dyledion yn ôl ar gyfradd y gallwch chi ei fforddio.
- Rydych yn gwneud un taliad misol i’ch darparwr DMP.
- Bydd eich darparwr DMP yn eich helpu i weithio allan taliad fforddiadwy a siarad â’ch credydwyr.
- Gallai fod yn bosib os oes gennych chi ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu gardiau siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cynllun Rheoli Dyled?
Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO)
- Mae’r rhain yn bosibl os ydych ar incwm isel gydag ychydig iawn o asedau.
- Maent yn rhewi dyledion am flwyddyn ac yna’n ei glirio’n gyfan gwbl os na fydd eich amgylchiadau wedi newid.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Gorchymyn Gostwng Dyled?
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)
- Mae’n gadael i chi dalu’n ôl beth allwch chi ei fforddio, ond byddwch angen o leiaf £70 y mis yn sbâr i dalu eich credydwyr.
- Mae’n para am gyfnod penodol (pum neu chwe mlynedd fel arfer).
- Bydd unrhyw beth nad ydych wedi ei dalu’n ôl erbyn diwedd y cyfnod yn cael ei glirio.
- Mae’n gytundeb cyfreithiol rhwym - golyga hyn, unwaith y byddwch wedi ei arwyddo, mae’n debygol y bydd cosbau llym am ei ganslo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)?
Methdalu
- Yn dileu pob dyled y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn methdaliad. Ni ellir cynnwys rhai dyledion, megis benthyciadau cronfa gymdeithasol, benthyciadau myfyrwyr, ôl-ddyledion cynhaliaeth plant neu ddyledion twyllodrus.
- Os oes gennych unrhyw asedau, fe'u hasesir i weld a ellir eu defnyddio i ad-dalu'ch dyledion. Fel arfer caniateir i chi gadw rhai asedau, fel offer rydych eu hangen i barhau i weithio. Gall cynghorydd dyledion egluro sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr
Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol
Os oes gennych gyfandaliad a fyddai’n talu rhan o’ch dyledion? Yna gallech ofyn i’ch credydwyr p’un a fyddent yn derbyn rhandaliad ac yn gadael i chi ddileu’r gweddill.
Neu efallai y byddant yn caniatáu i chi wneud taliadau misol am gyfnod a gytunir ac ar ôl hyn bydd y balans yn cael ei ddileu.
Clirio’ch dyledion
- Yn bosibl mewn sefyllfaoedd eithriadol os nad oes gennych chi incwm, cynilion nag asedau ar gael.
- Rhaid i chi allu dangos i’ch credydwyr bod eich amgylchiadau’n annhebygol o wella yn y dyfodol - er enghraifft, os ydych chi’n ddifrifol wael.
Siaradwch â chynghorwr dyledion yn rhad ac am ddim i weld a allai’r ateb hwn fod yn addas i chi.
Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
Y peth gorau i’w wneud bob tro yw trafod gyda chynghorydd ar ddyledion profiadol cyn i chi benderfynu sut y byddwch yn clirio’ch dyledion.
Mae hyn oherwydd bydd y datrysiad dyledion fwyaf addas ar eich cyfer chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gall cynghorydd dyledion roi cymorth i chi wneud y penderfyniadau cywir fel y bydd y rhan fwyaf o’ch arian yn cael ei ddefnyddio i glirio’ch dyledion, sy’n golygu y gallech fod yn rhydd o ddyledion yn gynt na’r disgwyl.
Bydd cynghorydd ar ddyledion:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- byth yn eich beirniadu nac yn gwneud i chi deimlo’n ddrwg am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am bob un o’r budd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi
- bob amser yn gwneud yn siwr eich bod yn gyffyrddus gyda’ch penderfyniad.
Mae tri chwarter y bobl sy'n cael cyngor ar ddyledion yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid wedi hynny.
Gallwch ddod o hyd i gyngor dyled o ansawdd uchel am ddim nawr gan ddefnyddio ein teclyn lleoli cyngor ar ddyledion.