Os ydych eisoes yn cael rhai budd-daliadau penodol sy’n dibynnu ar brawf modd ac angen benthyciad, gwiriwch a allwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu, neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, yn ddi-log.
Gall hyn fod yn llawer rhatach na thalu taliadau llog uchel wrth fenthyca gan ddarparwyr benthyciadau diwrnod cyflog neu stepen drws. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut maent yn gweithio a sut i wneud cais amdanynt.
Beth yw Benthyciad Trefnu?
Mae Benthyciad Trefnu yn eich helpu i dalu am rywbeth hanfodol neu annisgwyl os ydych ar incwm isel. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o bethau, gan gynnwys:
- dodrefn neu offer tŷ
- dillad neu esgidiau
- rhent ymlaen llaw neu dreuliau symud ar gyfer cartref newydd
- treuliau teithio
- pethau i’ch helpu i chwilio am waith neu i ddechrau gweithio
- gwella, cynnal a chadw neu ddiogelu eich cartref
- costau mamolaeth neu gostau angladd.
Help arall â chostau mamolaeth
Os ydych yn disgwyl eich plentyn cyntaf neu’n disgwyl mwy nag un babi a bod gennych blant eisoes, efallai y gallwch hawlio grant mamolaeth £500 gan SureStart yn hytrach. Nid oes rhaid i chi dalu hwn yn ôl.
Darganfyddwch fwy am grantiau mamolaeth SureStart yn ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Help arall â chostau angladd
Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol a bod rhaid i chi dalu costau angladd perthynas neu ffrind agos, efallai y gallwch wneud cais am Daliad Angladd.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Angladd ac a ydych yn gymwys ar GOV.UK Yn agor mewn ffenestr newydd
A allaf gael Benthyciad Trefnu?
Gallwch wneud cais am Fenthyciadau Trefnu os ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn:
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm.
Mae rhaid eich bod wedi bod yn hawlio am o leiaf 26 wythnos, naill ai’n olynol neu â thoriad o ddim mwy na 28 diwrnod.
Yr isafswm y gallwch wneud cais amdano yw £100, ond mae uchafsymiau yn seiliedig ar amgylchiadau’ch cartref:
- £384 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os oes gennych blant.
Mae rhai pethau’n effeithio ar swm y benthyciad yr ymgeisiwch amdano, fel:
- benthyciadau presennol o’r Gronfa Gymdeithasol
- cynilion dros £1,000 (neu £2,000 os ydych yn 63 neu’n hŷn).
Sut i wneud cais am Fenthyciad Trefnu
Gallwch hawlio ar-lein ar wefan GOV.UK. Nid yw’r opsiwn hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Gallwch hefyd lawrlwytho, argraffu a chwblhau Ffurflen SF500 oddi ar GOV.UK
Neu gofynnwch am y ffurflen yn eich Canolfan Byd Gwaith leol (neu’ch Jobs and Benefits Office yng Ngogledd Iwerddon).
Dewch o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith leol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, dewch o hyd i’ch Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Jobs and Benefit Office leol ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Talu Benthyciad Trefnu yn ôl
Mae’r ad-daliadau ar y benthyciad yn ddi-log ac yn cael eu cyfrifo pan gytunir ar eich benthyciad.
Yn ddibynnol ar y swm a fenthycir gennych, fel arfer mae rhaid i chi ad-dalu’r swm cyn pen dwy flynedd.
Fel arfer, bydd ad-daliadau yn cael eu tynnu’n awtomatig o’ch budd-daliadau.
Os daw eich budd-daliadau i ben wrth i chi dalu’r benthyciad yn ôl, bydd angen i chi gytuno ar ffordd arall o dalu’r arian yn ôl.
Os oes gennych fenthyciad ond na allwch fforddio’r ad-daliadau a gytunwyd bellach, rhowch wybod i’r swyddfa a dalodd y benthyciad i chi er mwyn cyfrifo cynllun ad-dalu arall. Mae’n bwysig i chi beidio â mynd i ddyled wrth geisio clirio’r benthyciad.
Beth yw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw?
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol dylech gwneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn hytrach na Benthyciad Trefnu. Mae hyn yn cyfateb i Fenthyciad Trefnu ar gyfer pobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.
Er mwyn cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw mae rhaid:
- Eich bod wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol ers chwe mis o leiaf – oni bai bod angen yr arian arnoch i gael swydd neu gadw swydd bresennol.
- Eich bod wedi ennill llai na £2,600 os ydych yn sengl (£3,600 os ydych yn gwpl) yn y chwe mis diwethaf.
- I chi beidio â bod yn ad-dalu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw arall.
Fel arfer bydd rhaid i chi ddechrau talu’ch Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn ôl allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf a’i ad-dalu o fewn 12 mis.
Gofynnwch i’ch anogwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am sut i ymgeisio am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw.
Yr isafswm y gallwch wneud cais amdano yw £100, ond mae yna uchafsymiau yn seiliedig ar amgylchiadau’ch cartref:
- £384 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os oes gennych blant.
Cymorth arall sydd ar gael i chi
Gall y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, ac awdurdodau lleol yn Lloegr roi cymorth a chefnogaeth mewn argyfwng.
- Os ydych yn byw yng Nghymru, dysgwch am y Gronfa Gymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Os ydych yn byw yn yr Alban, dysgwch am y Gronfa Les AlbanaiddYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, dysgwch am Gefnogaeth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.
- Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i’ch cynllun cymorth lles lleol.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Taliad Budd-dal Tymor Byr Ymlaen Llaw
Efallai gallwch wneud cais am daliad budd-dal tymor byr ymlaen llaw os oes angen arian arnoch wrth i chi ddisgwyl am eich taliad cyntaf o’r budd-daliadau hyn:
- Lwfans Gofalwr
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Lwfans Ceisio Gwaith.
Gofynnwch i’ch Canolfan Byd Gwaith (neu Jobs and Benefits Offices yng Ngogledd Iwerddon) am daliad budd-dal tymor byr ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy am daliadau budd-dal tymor byr ymlaen llaw ar wefan Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol
Os ydych yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am Daliad Ymlaen Llaw Credyd Cynhwysol.