Os yw eich banc neu gwmni cerdyn credyd wedi cysylltu â chi i ddweud eich bod mewn dyled barhaus, efallai y byddwch mewn penbleth gan efallai y teimlwch nad ydych mewn dyled. Beth mae hyn yn ei olygu yw bod mwy o log, ffioedd a thaliadau yn cael eu codi arnoch nag ydych wedi'i ad-dalu yn ystod y 18 mis diwethaf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw dyled barhaus?
- Rwy'n gwneud isafswm ad-daliadau, onid yw hynny'n ddigonol?
- Mae fy nghwmni cerdyn credyd wedi dweud wrthyf y byddant yn cynyddu fy ad-daliadau
- Beth gallaf ei wneud i atal fy nghwmni cerdyn credyd rhag cysylltu â mi?
- Ni allaf fforddio talu mwy tuag at fy ngherdyn credyd
- Mae gennyf daliadau eraill i’w gwneud
- Beth sy’n digwydd os penderfynaf wneud dim ar ôl iddynt gysylltu â mi?
- A fydd fy ngherdyn credyd yn cael ei atal?
Beth yw dyled barhaus?
Os ydych wedi talu mwy mewn llog, taliadau a ffioedd na rydych wedi'i ad-dalu ar falans eich cerdyn credyd dros gyfnod o 18 mis, byddwch yn cael eich dosbarthu fel bod mewn dyled barhaus.
Pan fydd hyn yn digwydd, mae rhaid i'ch darparwr cerdyn credyd gysylltu â chi i roi gwybod i chi a chynnig help i chi.
Mae rhaid i’r darparwr cerdyn credyd hefyd:
- ofyn i chi ystyried a allwch fforddio ad-dalu’n gynt
- sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r goblygiadau posib wrth barhau ag ad-daliadau isel, a all gynnwys y posibilrwydd y gallai’ch cerdyn gael ei wahardd, ac effeithiau hynny ar eich ffeil gredyd
- gadael i chi wybod, os na allwch fforddio ad-dalu’n gynt, y gallwch gysylltu â hwy i drafod eich amgylchiadau er mwyn iddynt allu eich helpu. Neu, os bydd angen, gallwch gael cyngor am ddim ar ddyledion.
Os ydych wedi derbyn llythyr ‘dyled barhaus’ gan ddarparwr eich cerdyn credyd ac nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, gall StepChange helpu. Maent yn cynnig arweiniad a gwasanaeth cyllidebu diduedd am ddim i'ch helpu i ddeall a rheoli eich sefyllfa ariannol.
Darganfyddwch fwy ar wefan StepChange
Rwy'n gwneud isafswm ad-daliadau, onid yw hynny'n ddigonol?
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gwmnïau cardiau credyd osod isafswm lefel ad-dalu y mae disgwyl i gwsmeriaid ei dalu. Dyma yw'r swm lleiaf y mae'r cwmni cardiau credyd yn hapus i adael i chi ei dalu'n ôl bob mis.
Gall talu dim ond yr ad-daliad lleiaf dros y tymor byr eich helpu i ledaenu cost eitemau drutach. Ond yn y tymor hwy, maent yn dod yn ffordd ddrud i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.
Enghraifft o isafswm ad-daliad
Os oedd gennych £5,000 yn ddyledus ar gerdyn credyd, â chyfradd llog o 19.9%, byddai eich isafswm ad-daliad yn £132.92.
Os na fyddwch yn gwario mwy ar y cerdyn, byddai eich isafswm ad-daliadau yn gostwng bob mis.
Fodd bynnag, ar ôl tair blynedd, eich balans sy'n weddill yn dal yn £1,895.51 a byddech wedi talu £1,936.66 mewn llog.
Ar y gyfradd hon, byddai'n cymryd 18 mlynedd a 10 mis i chi dalu cyfanswm y balans – a byddech wedi ad-dalu cyfanswm o £12,277.84.
Pe baech yn cynyddu eich ad-daliad i £200 bob mis yn lle hynny, byddai balans eich cerdyn credyd o £5,000 yn cael ei dalu mewn dim ond 2 flynedd a 9 mis. Byddech yn talu cyfanswm o £6,511.27 yn ôl, gan arbed £5,766.57 mewn llog i chi.
Yn y tabl isod, rydym yn cymharu'r hyn sy'n digwydd os ydych yn ad-dalu gwahanol symiau – £150, £175 a £200 – bob mis.
Mae'r enghreifftiau hyn yn tybio mai'r swm gwreiddiol oedd yn ddyledus oedd £5,000 ac nad ydych yn gwario mwy ar y cerdyn wrth i chi wneud ad-daliadau.
Amserlen ad-dalu | Cyfanswm llog a dalwyd | Cyfanswm a ad-dalwyd | Yr amser a gymerir i ad-dalu benthyciad o £5,000 |
---|---|---|---|
Isafswm taliad – Mis cyntaf £132.92, gan leihau bob mis ar ôl hynny |
£7,277.84 |
£12,277.84 |
18 mlynedd 10 mis |
£150 bob mis, yn sefydlog |
£2,338.96 |
£7,338.96 |
4 mlynedd 1 mis |
£175 bob mis, yn sefydlog |
£1,831.93 |
£6,831.93 |
3 mlynedd 4 mis |
£200 bob mis, yn sefydlog |
£1,511.27 |
£6,511.27 |
2 mlynedd 9 mis |
Os yw darparwr eich cerdyn credyd wedi cysylltu â chi ynghylch dyled barhaus, y ffordd hawsaf o ddelio â hyn yw cynyddu eich ad-daliadau i lefel fforddiadwy i chi. Gall gwneud newidiadau bach arbed cannoedd neu filoedd o bunnoedd i chi.
Mae cysylltu â chi am ddyled barhaus yn gyfle i chi edrych ar falans eich cerdyn credyd a gweld a yw'n costio mwy i chi na rydych ei eisiau.
Yn lle meddwl amdano fel galwad am arian, meddyliwch amdano fel ffordd o gymryd rheolaeth a lleihau cost gyffredinol eich benthyca
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Mae fy nghwmni cerdyn credyd wedi dweud wrthyf y byddant yn cynyddu fy ad-daliadau
Mae rhaid gosod isafswm ad-daliad ar gerdyn credyd ar swm sydd o leiaf yn ad-dalu'r llog, ffioedd a thaliadau a gymhwysir i'ch cyfrif, ynghyd ag 1% o'r balans sy'n ddyledus.
Nid yw'r rheolau newydd yn golygu bod rhaid i ddarparwyr cardiau credyd eich gorfodi i ad-dalu mwy trwy gynyddu eich ad-daliadau cardiau credyd misol yn awtomatig.
Fodd bynnag, mae rhai banciau neu cwmnïau cerdyn credyd wedi penderfynu newid eu telerau ac amodau i gynyddu'r isafswm ad-daliad sy'n ofynnol i gael cwsmeriaid allan o ddyled barhaus.
Os bydd hyn yn digwydd ac na allwch fforddio'r ad-daliad cynyddol, cysylltwch â'ch banc neu gwmni credyd. Os ydych yn teimlo nad ydych yn barod i wneud hyn, gallwch hefyd gysylltu â StepChange.
Mae StepChange yn cynnig gwasanaeth cyllidebu diduedd am ddim, i’ch helpu i ddeall eich sefyllfa ariannol.
Darganfyddwch fwy ar wefan StepChange
Beth gallaf ei wneud i atal fy nghwmni cerdyn credyd rhag cysylltu â mi?
Os ydych am i'ch darparwr cerdyn credyd stopio cysylltu â chi, y peth hawsaf i'w wneud yw cynyddu'r swm misol rydych yn ei dalu ar eich bil cerdyn credyd. Mae hyn yn dibynu y gallwch ei fforddio.
Dylai eich cwmni cardiau credyd eich helpu â hyn, i sicrhau bod eich ad-daliad misol yn ddigon uchel i ad-dalu balans eich cerdyn credyd sy'n ddyledus mewn cyfnod rhesymol o amser.
Os ydych yn ad-dalu mwy nawr, byddwch yn talu balans eich cerdyn credyd yn ôl yn gynt. Felly byddwch yn rhydd o'r hyn sy'n ddyledus gennych yn gyflymach, gan dalu llai mewn llog wrth i'ch balans cerdyn credyd sy'n weddill fynd yn llai.
Am syniadau am sut i godi arian ychwanegol i dalu mwy tuag at eich bil cerdyn credyd, gweler ein canllawiau:
Canllaw i ddechreuwyr i reoli eich arian
Sut i arbed arian ar filiau’r cartref
Gallech hefyd allu trosglwyddo balans eich cerdyn credyd i gerdyn sy’n codi cyfradd is o log neu un sy’n cynnig cyfradd llog gychwynnol o 0% os ydych yn gymwys. Gallai hynny olygu y byddwch yn talu llai o log ar eich dyled bresennol.
Fel arfer bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr cerdyn credyd yn codi ffi am drosglwyddo balansau felly mae’n bwysig cofio hynny, yn ogystal â hyd unrhyw gyfnod cychwynnol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ddylech drosglwyddo balans eich cerdyn credyd?
Ni allaf fforddio talu mwy tuag at fy ngherdyn credyd
Os nad ydych yn meddwl bod gennych ddigon o arian i allu cynyddu’ch ad-daliadau, dylech siarad â rhywun am eich sefyllfa ariannol.
Bydd siarad yn gynnar yn atal pethau rhag gwaethygu. Gallwch ffonio'ch banc neu gwmni cardiau credyd i ddarganfod pa help y gallant ei gynnig.
Os nad ydych yn teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hyn, gallwch gysylltu â StepChange. Maent yn cynnig gwasanaeth cyllidebu diduedd am ddim, i’ch helpu i ddeall eich sefyllfa ariannol.
Darganfyddwch fwy ar wefan StepChange
Mae’n bosibl hefyd bod angen ad-drefnu’ch materion ariannol yn llwyr er mwyn dod o hyd i’r swm ychwanegol o arian y mae eich cwmni cerdyn credyd yn gofyn amdano.
Mae cyfrifo cyllideb cartref yn ffordd wych o ddeall i ble mae'ch arian yn mynd a ble y gallwch dorri'n ôl.
Gallwch hefyd edrych ar rai ffyrdd i dorri'n ôl ar eich gwariant a chynyddu eich incwm i'r eithaf.
Mae gennyf daliadau eraill i’w gwneud
Os ydych yn cael trafferth talu am mwy o bethau na’ch bil eich cerdyn credyd yn unig, mae angen i chi geisio ychydig o gyngor am ddim ar ddyledion.
Os oes gennych broblemau ariannol mawr, efallai mai siarad â dieithryn am y rhain yw’r peth olaf y byddwch eisiau ei wneud.
Ond efallai mai hynny yw’r pethau gorau y gallwch ei wneud.
Mae pob cyngor yn gyfrinachol ac ni fydd neb yn beirniadu’ch sefyllfa. Nod unrhyw un sy’n rhoi cyngor i chi fydd eich helpu i gael y datrysiad gorau i’ch sefyllfa.
Gallwch gysylltu â chynghorydd ar ddyledion yn y ffordd sydd orau i chi – ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Beth sy’n digwydd os penderfynaf wneud dim ar ôl iddynt gysylltu â mi?
Os na fyddwch yn cynyddu eich ad-daliadau ar ôl i'ch darparwr cerdyn credyd gysylltu â chi, byddant yn cysylltu â chi tua naw mis yn ddiweddarach.
Unwaith eto, byddant yn argymell eich bod yn cynyddu eich ad-daliadau os gallwch fforddio gwneud hynny.
Os ydych yn dal i fod yn yr un sefyllfa naw mis yn ddiweddarach, bydd rhaid i'ch darparwr cerdyn credyd wneud un o ddau beth:
1. Cynnig ffyrdd i chi ad-dalu’n gyflymach dros gyfnod rhesymol, rhwng tair a phedair blynedd fel arfer. Er enghraifft, cynlluniau ad-dalu fel trosglwyddo’r balans ar gerdyn credyd i fenthyciad personol â llog is.
2. Os na allwch ad-dalu’n gyflymach, mae rhaid iddynt gynnig ffyrdd eraill o’ch helpu. Er enghraifft, drwy leihau, dileu, neu ganslo unrhyw log neu gostau. Os gwnant hynny, gallent hefyd wahardd eich cerdyn credyd oni bai y byddai gwneud hynny’n cael effaith niweidiol ar eich sefyllfa ariannol. Er enghraifft, oherwydd eich bod yn dibynnu ar eich cerdyn credyd i dalu am gostau byw hanfodol fel eich morgais, rhent, Treth Gyngor neu fwyd.
A fydd fy ngherdyn credyd yn cael ei atal?
Dim ond fel dewis olaf y dylai eich darparwr atal eich cerdyn credyd oherwydd dyled barhaus. Ond gallai ddigwydd os ydych yn parhau i anwybyddu'ch darparwr a pheidiwch â gwneud newidiadau i'r ffordd rydych yn ad-dalu'ch bil cerdyn credyd.