Mae credyd cartref yn derm arall am yr hyn a elwir gan rhai yn fenthyciad stepen drws. Fel mae’r enw yn awgrymu, mae hyn yn gynnwys rhywun dod at eich drws a chynnig benthyciad neu gredyd i chi. Mae'n well osgoi os oes gennych fynediad at fathau eraill o gredyd gan ei fod yn aml yn ddrud iawn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cost uchel benthyca ar stepen eich drws
- Gwnewch yn siŵr fod y darparwr wedi ei awdurdodi
- Rheolau ar gyfer darparwyr credyd cartref
- Pam mae credyd cartref yn gallu achosi problemau
- Opsiynau eraill heblaw credyd cartref
- Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned (CDFIs)
- Talu’ch benthyciad yn ôl
- Os byddwch yn penderfynu cymryd credyd cartref
- Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion neu filiau bob dydd
Cost uchel benthyca ar stepen eich drws
Mae benthyciadau stepen drws yn aml ar gyfer symiau bach rhwng £50 a £500, gyda’r ad-daliadau’n cael eu casglu’n wythnosol neu bob pythefnos yn eich cartref
Mae’r cyfraddau llog yn llawer uwch na benthyciad gan fanc neu gerdyn credyd.
Petaech yn cael benthyg £200 am flwyddyn gan ddarparwr stepen drws, byddech yn talu llawer mwy na petaech wedi cymryd benthyg ar gerdyn credyd sy’n codi cyfradd uwch na’r cyfartaledd o 38%.
Dull benthyca | Swm a fenthyciwyd | Taliad misol | Llog a godwyd | Cyfanswm a dalwyd yn ôl |
---|---|---|---|---|
Credyd cartref yn codi 299% APR |
£200 |
£53.54 |
£442.48 |
£642.48 |
Cerdyn credyd yn codi 38% APR |
£200 |
£20.29 |
£43.48 |
£243.48 |
Ar ben hyn, y gallwch orfod talu ffioedd gweinyddiaeth neu drefniad.
Gallwch gymharu fenthyciadau credyd cartref ar y wefan Lenders Compared
Gwnewch yn siŵr fod y darparwr wedi ei awdurdodi
Mae rhaid i bob darparwr benthyciadau credyd cartref gael ei drwyddedu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), fel arall maent yn gweithredu’n anghyfreithlon. Hefyd, mae nifer yn aelodau o’r Gymdeithas Credyd Defnyddwyr.
Os bydd rhywun yn cnocio ar eich drws ac yn cynnig benthyca arian i chi, dylech ofyn am gael gweld tystiolaeth eu bod wedi eu hawdurdodi gan yr FCA.
Os na allant ddarparu hyn, mae’n debygol eu bod yn ddarparwr benthyciadau didrwydded a dylech ddod â’r sgwrs i ben.
Gwiriwch os fydd darparwr benthyciad wedi ei drwyddedu ar y gwefannau canlynol:
FCA register
Consumer Credit Association
Rheolau ar gyfer darparwyr credyd cartref
Yn ôl y gyfraith, ni ddylai darparwyr alw arnoch heb wahoddiad i gynnig benthyciad.
Maent angen caniatâd ysgrifenedig i ymweld. Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes gennych fenthyciad yn barod, ac mae’r asiant yn cynnig benthyciad arall i chi wrth ymweld i gasglu ad-daliadau.
Mae angen trefnu ymweliad ar wahân i drafod y manylion ac i’ch cofrestru fel bod gennych amser i newid eich meddwl am yr ymweliad, heb deimlo dan bwysau.
Hefyd, os byddant yn ymweld ar achlysur arall, i gynnig benthyciad, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg a gofyn iddynt adael – chi sydd i benderfynu.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Pam mae credyd cartref yn gallu achosi problemau
Gall fod yn demtasiwn troi at ddarparwr stepen drws os oes gennych filiau nad ydych yn gallu’u talu. Ond gallai cymryd benthyg ar gyfradd llog mor uchel ychwanegu at eich problemau.
Opsiynau eraill heblaw credyd cartref
Os oes gwir angen arian arnoch yn syth a chithau’n gallu fforddio talu’r arian hwnnw’n ôl, efallai fod opsiynau rhatach ar gael.
Benthyca gan undeb credyd
Ystyriwch ddefnyddio undeb credyd.
Mae cap ar faint o log y gall undebau credyd ei godi ar eu benthyciadau, o 3% y mis (1% yng Ngogledd Iwerddon) neu 42.6% y flwyddyn APR (12.68% APR yng Ngogledd Iwerddon), ond bydd nifer yn codi llai na’r cap hyn. Efallai y byddwch angen cynilo am gyfnod cyn y gallwch fenthyca.
Darganfyddwch fwy am undebau credyd.
Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned (CDFIs)
Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned, sy’n hefyd yn galw eu hunan benthycwyr cyfrifol, yw sefydliadau annibynnol bach sy’n cynnig benthyciadau i bobl sy’n ei chael yn anodd cael mynediad at gredyd gan ddarparwyr y stryd fawr. Maent yn tueddu i gynnig gwasanaeth wedi’i phersonoli ac yn ail-fuddsoddi unrhyw elw a wneir yn ôl i’r gymuned. Serch hynny, mae Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned yn codi llog ar raddfa uwch fel arfer na’r Undebau Credyd.
Mae rhaid i Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned, Undebau Credyd a’r holl sefydliadau arall sy’n darparu credyd defnyddwyr cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a dilyn eu rheolau a’u safonau.
Gallwch ddarganfod manylion o’r Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned ar y wefan Finding Finance, a ddarparwyd gan Gyllid Cyfrifol, y corff aelodaeth Sefydliadau Ariannol Datblygiad Cymuned.
Darganfyddwch fenthycwyr arall ar Finding Finance
Egluro gorddrafftiau
Efallai y byddwch yn gallu cael gorddrafft awdurdodedig gan eich banc.
Os byddwch yn cadw o fewn y terfyn a pheidio ag achosi ffioedd diffyg, bydd hyn yn rhatach na benthyciad credyd cartref ond dal o gwmpas 40% APR felly dylech ymgeisio ad-dalu hyn cyn gynted ag y gallwch.
Cardiau credyd
Bydd cerdyn credyd yn rhatach na fenthyca stepen y drws hefyd, os ydych yn gwneud y taliadau misol isafswm ac nid ydych yn achosi ffioedd taliad hwyr neu fynd dros eich terfyn credyd.
Ymgeisiwch ad-dalu cymaint ag y gallwch bob mis er mwyn cadw trefn ar eich benthyciad.
Sicrhewch eich bod yn derbyn yr hawliau cywir
Os ydych yn brin o arian, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau sydd gennych hawl i’w cael.
Os ydych yn derbyn budd-daliadau yn barod, efallai y gallwch hawlio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Yn y dyfodol
Gallai fod yn ddefnyddiol defnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb isod i weld a allwch leihau eich gwariant er mwyn osgoi cymryd benthyciad drud.
Talu’ch benthyciad yn ôl
Mae’r arian rydych yn ei fenthyg dan fenthyciad credyd cartref yn cael ei dalu’n ôl bob wythnos (neu bythefnos) fel arfer, a hynny i asiant sy’n dod i’ch cartref.
Os bydd yn well gennych, efallai y byddwch yn gallu trefnu gwneud taliad o’ch cyfrif banc yn lle hyn.
Fel gydag unrhyw fath arall o fenthyca, mae’n bwysig i chi:
- treulio amser bob tro yn darllen a deall y contract – peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau neu gael barn rhywun arall
- fod yn glir ynghylch y swm rydych yn ei fenthyca, ac am ba hyd, a faint fydd rhaid i chi ad-dalu pob wythnos (neu gyfnod arall) ac i gyd
- sicrhau eich bod yn deall beth gallai ddigwydd os na allwch wneud yr ad-daliadau.
Fel gyda benthyciadau personol, mae’r taliadau llog yn cael eu cynnwys yn eich ad-daliadau. Felly rydych yn ad-dalu swm penodol bob wythnos.
Fel arfer, does dim cosbau i’w talu am fethu ad-daliad. Ond cofiwch ddweud cyn gynted â phosibl os ydych yn cael problemau gan y gallai’r darparwr gytuno ar drefniant ad-dalu newydd.
Os byddant yn cynnig benthyciad ychwanegiad i chi, neu i ymestyn cyfnod y benthyciad, meddyliwch yn ofalus a gofyn faint yn fwy fydd hyn yn ei gostio i chi. A allwch ei fforddio?
Os ydych eisiau talu’ch benthyciad yn ôl yn gynnar
Gallwch ad-dalu eich benthyciad yn gynnar, yn llawn neu’n rhannol, a bydd gennych hawl i ad-daliad o unrhyw daliadau llog yn y dyfodol. Ond efallai na fydd hyn yn ad-daliad llawn.
Efallai fydd eich benthycwyr parhau i godi llog arnoch am gyfnod penodol, yn dibynnu ar faint sydd ar ol ar eich cytundeb credyd. Mae’r swm y gellir ei godi arnoch wedi ei gapio dan y gyfraith. Dylai manylion eich hawl i ad-dalu’n gynnar, neu i dynnu allan o’r benthyciad (o fewn 14 niwrnod), fod yn eich cytundeb credyd. Darllenwch hwn yn ofalus cyn llofnodi.
Os byddwch yn penderfynu cymryd credyd cartref
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried nifer o opsiynau cyn llofnodi cytundeb.
Mae gwefan Lenders Compared yn wefan cymharu prisiau annibynnol i’ch helpu i gymharu costau benthyciadau credyd cartref.
Cymharwch fenthyciadau arian parod bach (credyd cartref a chredyd heblaw cartref) ar wefan LendersCompared
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion neu filiau bob dydd
Gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim a fydd yn eich helpu i gael trefn unwaith eto ar eich sefyllfa ariannol. Fel arfer mae hyn yn well na chael benthyg rhagor o arian.