Mae benthyciadau llyfr cofrestru yn fenthyciadau a warentir ar eich cerbyd, felly y sawl sydd wedi benthyca’r arian i chi sy’n berchen ar eich cerbyd nes i chi dalu’r benthyciad yn ôl. Cewch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd cyn belled â’ch bod yn ad-dalu’r benthyciad. Fodd bynnag mae benthyciadau llyfr cofrestru’n ddrud, yn beryglus a dylech eu hosgoi os gallwch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae benthyciadau llyfr cofrestru yn gweithio?
- Cael eich benthyciad
- Talu’r benthyciad yn ôl
- Beth yw cost benthyciad llyfr cofrestru?
- Beth i’w ystyried cyn cymryd benthyciad llyfr cofrestru
- Os na allwch dalu eich benthyciad llyfr cofrestru’n ôl
- Opsiynau eraill heblaw benthyciadau llyfr cofrestru
- Cael help gyda dyled
Sut mae benthyciadau llyfr cofrestru yn gweithio?
Mae benthyciadau llyfr cofrestru i’w cael ar y stryd fawr ac ar y rhyngrwyd.
Fel arfer gallwch fenthyca rhwng £500 a £50,000, yn ddibynnol ar werth eich car. Er bydd rhai cwmnïau ond yn cynnig benthyciad hyd at hanner gwerth eich car.
Pan fyddwch yn cymryd benthyciad llyfr cofrestru, byddwch yn gorfod cyflwyno llyfr cofrestru eich cerbyd neu ddogfen gofrestru’r cerbyd.
Dyma’r dogfennau sy’n profi mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd.
Ond hyd yn oed os na wnewch chi hynny, rydych yn dal i drosglwyddo perchnogaeth y car hyd nes yr ad-delir y benthyciad.
Cymryd benthyciad llyfr cofrestru yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
Defnyddir benthyciadau llyfr cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig.
Gyda benthyciad llyfr cofrestru, yn ogystal ag arwyddo cytundeb credyd, ceir ffurflen arall ar wahân a elwir yn ‘fil gwerthiant’.
Mae hyn yn golygu mai’r darparwr benthyciadau yw perchennog eich cerbyd dros dro, ond rydych chi’n dal i gael ei ddefnyddio cyn belled â’ch bod yn talu’r holl ad-daliadau ar y benthyciad.
Dim ond os yw’r darparwr benthyciadau’n cofrestru’r bil gwerthiant gyda’r Uchel Lys y mae’r gyfraith yn ei gydnabod.
Os na fydd wedi’i gofrestru, rhaid i’r darparwr gael cymeradwyaeth gan lys i adfeddiannu’ch cerbyd.
Gallech wirio a yw bil gwerthiant wedi’i gofrestru trwy gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol i wirio a yw bil gwerthiant wedi’i roi ar y gofrestr. Rhaid talu ffi fel arfer.
Darganfyddwch sut i weld os yw eich bil gwerthiant wedi’i gorfestru ar wefan National Debtline
Yn yr Alban, nid oes benthyciadau llyfr cofrestru ar gael, oherwydd nid yw bil gwerthiant yn gyfreithiol rwymol. Ond efallai y cynigir yr hyn a elwir yn fenthyciad llyfr cifrestru, sef cytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol. Gan fod y rhain yn gynhyrchion ariannol rheoledig mae gennych ddiogelwch o dan y Ddeddf Credyd Defnyddiwr.
Fel gydag unrhyw gytundeb cyllid, mae'n bwysig gwirio unrhyw ddogfennaeth yn ofalus fel eich bod yn gwbl ymwybodol o'r hyn sydd dan sylw.
Cael eich benthyciad
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau bellach yn defnyddio taliadau electronig i drosglwyddo'r arian i'ch cyfrif.
Mae rhai cwmnïau benthyciadau llyfr cofrestru yn cynnig gwasanaeth arian cyflym, ond efallai y byddant yn codi ffioedd o hyd at 4% o’r benthyciad ar gyfer hyn.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth sy'n esbonio'r ffeithiau allweddol am y cytundeb, fel hyd y tymor a faint yw'ch ad-daliadau, ynghyd â manylion am sut y bydd y benthyciwr yn ymddwyn a'ch cyfrifoldebau.
Talu’r benthyciad yn ôl
Mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau llyfr cofrestru yn para am hyd at 78 wythnos, er y gallwch, yn ôl y gyfraith, eu talu’n ôl yn gynt os dymunwch wneud hynny (ac yn gallu fforddio hynny).
Gyda rhai cytundebau, efallai mai dim ond ad-dalu’r taliadau llog y byddwch chi tan fis olaf eich cytundeb.
Yn y mis olaf, bydd disgwyl i chi ad-dalu’r swm o arian a fenthycioch yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu y bydd angen cynllun arnoch ar gyfer sut y byddwch chi'n ad-dalu'r cyfandaliad hwn ar ddiwedd y cytundeb.
Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn deall sut mae’r cytundeb yn gweithio ac y gallwch fforddio’r ad-daliadau.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth yw cost benthyciad llyfr cofrestru?
Mae cyfraddau canrannol blynyddol nodweddiadol (APRau) yn 400% neu uwch, felly mae hwn yn fath drud o gredyd.
Er enghraifft, os cawsoch £1,500 o fenthyciad a thalu £55 yr wythnos am 78 wythnos, byddech yn ad-dalu cyfanswm o £4,250.
Golyga hynny, byddech wedi talu dros £2,750 mewn llog er mwyn cael benthyca £1,500.
Anfanteision benthyciadau llyfr cofrestru
- Gallech chi golli’ch cerbyd os na fyddwch yn gallu gwneud yr ad-daliadau i’r cwmni benthyciadau.
- Nid oes gennych yr un sicrwydd a gyda chytundeb hurbwrcas
- Rhaid mai chi yw perchennog cyfreithlon y cerbyd, rhaid i’w werth fel arfer fod dros £500 a dim cyllid i’w talu ar y car.
- Mae’r llog yn llawer drutach na benthyciadau heb eu gwarantu confensiynol gan fenthycwyr prif ffrwd, felly gallai fod yn dalcen caled ceisio ad-dalu’r hyn sydd arnoch.
Beth i’w ystyried cyn cymryd benthyciad llyfr cofrestru
- Gall yr APR fod yn uchel iawn, felly fe’ch cynghorir i’w dalu’n ôl cyn gynted â phosibl.
- Efallai y bydd ffioedd ad-dalu’n gynnar i’w talu os byddwch chi’n ad-dalu mwy na £8,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
- Gall rhai benthycwyr benthyciadau llyfr cofrestru ofyn am daliadau wythnosol.
- Nid yw pob un yn derbyn Debyd Uniongyrchol, felly gall fod yn anodd cadw trefn ar faint sydd arnoch.
- Os nad ydych yn siŵr faint rydych wedi’i ad-dalu, gofynnwch am ddatganiad yn dweud faint sydd arnoch (a elwir yn ‘setliad cyfrif’) ac mae’n rhaid i’r darparwr benthyciadau roi un ichi.
- Mae faint o fenthyciad a gewch yn dibynnu ar werth eich cerbyd. Bydd darparwr ag enw da yn gofyn i chi fynd ag ef i gael ei brisio’n annibynnol.
- Hyd yn oed os oes gennych chi gyllid eisoes ar y cerbyd, efallai y byddwch yn dal yn gallu cael benthyciad llyfr cofrestru ond, fel arfer, dim ond os yw’ch cytundeb benthyciad presennol ar fin dod i ben a’r swm dyledus yn isel (a bydd angen ichi gael caniatâd gan eich darparwr presennol yn gyntaf).
Os na allwch dalu eich benthyciad llyfr cofrestru’n ôl
Mae gan fenthycwyr benthyciadau llyfr cofrestru yr hawl i ddefnyddio beilïaid i adfeddiannu'ch cerbyd os nad ydych yn cwrdd ag ad-daliadau.
Ond nid yw’r mwyafrif o fenthycwyr yn gwneud hynny ac ni fyddant yn gwerthu’r cerbyd nes eich bod ar ei hôl hi gyda sawl ad-daliad.
Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt anfon rhybudd diofyn atoch yn gyntaf, gan roi 14 diwrnod i chi wneud yn iawn am unrhyw daliadau a gollwyd.
Mae'n syniad da cael cyngor ar ddyledion am ddim ar y pwynt hwn, i weld beth yw eich opsiynau. Peidiwch ag anwybyddu'r broblem.
Os yw'r bil gwerthiant wedi'i gofrestru, nid oes angen i fenthyciwr benthyciad llyfr cofrestru fynd i'r llys i adfeddiannu'ch cerbyd.
Os bydd eich cerbyd yn cael ei werthu
Os bydd y swm a geir wrth ei werthu’n llai na’r swm sy’n ddyledus gennych, chi fydd yn gyfrifol o hyd am dalu’r diffyg.
Gall cwmni benthyciadau llyfr cofrestru fynd â chi i’r llys i gael ei arian yn ôl.
Opsiynau eraill heblaw benthyciadau llyfr cofrestru
Gall benthyciadau llyfr cofrestru fod yn demtasiwn os ydych angen arian yn sydyn a chithau â statws credyd gwael, ond mae opsiynau eraill ar gael bob amser.
Mae’n well osgoi benthyciadau llyfr cofrestru.
Os byddwch yn cymryd un, gwiriwch fod y darparwr benthyciadau yn aelod o gorff masnach ac yn cydymffurfio â’r cod ymarfer, yn benodol ar fenthyciadau llyfr cofrestru.
Undebau credyd
Os ydych chi ar incwm isel a’ch bod angen benthyca swm bychan am gyfnod byr, dylech chi ystyried cysylltu ag undeb credyd.
Darllenwch ein canllaw Benthyca gan undeb credyd
Help gan y llywodraeth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau mae gennych hawl i’w cael.
Os ydych chi’n dcael budd-daliadau penodol, mae’n bosibl y gallech wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu di-log oddi wrth y Gronfa Gymdeithasol.
Fel arall, gallai help arall fod ar gael gan eich awdurdod lleol yn Lloegr, neu lywodraethau Cymru a’r Alban.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliau cywir
Cael help gyda dyled
Efallai eich bod chi'n meddwl am fenthyciad llyfr log neu eisoes yn ei ddefnyddio oherwydd bod gennych chi broblemau dyled. Os felly, siaradwch â chynghorydd dyled am ddim, a allai eich helpu.