Gall ymddangos y bydd cyfuno’ch holl ddyledion mewn un benthyciad yn gwneud eich bywyd yn haws, ond gall fod ffyrdd llawer gwell o ddelio â dyledion. Dysgwch sut mae cyfuno dyledion yn gweithio, yna cael cyngor am ddim ar ddyledion cyn gwneud penderfyniad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw benthyciad i gyfuno dyledion?
- Pryd ddylech chi ystyried benthyciad cyfuno dyledion?
- Pan nad yw benthyciad cyfuno dyledion yn gwneud synnwyr
- Benthyciadau cyfuno dyledion nad ydynt yn rhoi eich cartref dan fygythiad
- Ffioedd a thaliadau ar gyfer benthyciadau i gyfuno dyledion
- Os byddwch chi’n dewis benthyciad i gyfuno dyledion
Beth yw benthyciad i gyfuno dyledion?
Os oes gennych chi lawer o ymrwymiadau credyd gwahanol a’ch bod yn cael trafferthion i barhau â’r ad-daliadau, gallwch eu cyfuno mewn un benthyciad i ostwng eich taliadau misol.
Rydych yn benthyca digon o arian i dalu’ch holl ddyledion presennol gydag arian yn ddyledus i un darparwr yn unig.
Mae dau fath o fenthyciad cyfuno dyledion:
- Wedi’i warantu – ble mae’r swm rydych wedi ei fenthyg yn cael ei warantu yn erbyn ased rydych chi’n berchen arno, eich cartref fydd yr ased hwn fel arfer. Os ydych yn methu ad-daliadau, fe allech golli eich cartref
- Heb ei warantu – ble nad yw’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich cartref neu asedau eraill
Weithiau gelwir benthyciadau cyfuno dyledion a sicrheir yn erbyn eich cartref yn fenthyciadau perchnogion tai.
Efallai y cynigir benthyciad gwarantedig i chi os oes arnoch lawer o arian neu os oes gennych hanes credyd gwael.
Mae'n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn i chi ystyried cymryd benthyciad cyfuno dyledion wedi'i warantu. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn addas i bawb a gallech fod yn storio trafferth neu'n gohirio'r anochel.
Pryd ddylech chi ystyried benthyciad cyfuno dyledion?
Rhybudd
Meddyliwch bob amser am anfantais bosibl benthyciad wedi'i warantu. Efallai y bydd eich amgylchiadau'n newid a gallai eich cartref fod mewn perygl os na allwch gadw i fyny ag ad-daliadau.
Mae cyfuno dyledion ond yn gwneud synnwyr os:
- nid yw ffioedd a thaliadau yn dileu unrhyw gynilion
- gallwch fforddio cadw taliadau hyd nes y telir y benthyciad
- rydych chi'n ei ddefnyddio fel cyfle i dorri'ch gwariant a mynd yn ôl ar y trywydd iawn
- rydych yn gorffen i fyny yn talu llai o log nag oeddech yn ei dalu o'r blaen ac mae'r cyfanswm sy'n daladwy yn llai (gallai fod yn uwch os ydych yn ad-dalu dros gyfod hirach
Cyn i chi ddewis benthyciad cyfuno dyledion, meddyliwch am unrhyw beth a allai ddigwydd yn y dyfodol a allai eich atal rhag cadw i fyny ag ad-daliadau. Er enghraifft, beth os bydd cyfraddau llog yn codi, neu os byddwch yn mynd yn sâl neu'n colli'ch swydd?
Os ydych chi'n defnyddio credyd yn rheolaidd i dalu am filiau cartref sylfaenol, byddai hyn yn arwydd eich bod mewn trafferthion ariannol. Efallai na fydd benthyciad cyfuno yn datrys eich problemau.
Mae'n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn cymryd benthyciad cyfuno dyledion.
Pan nad yw benthyciad cyfuno dyledion yn gwneud synnwyr
Yn sicr nid yw benthyciad cyfuno dyledion yn gwneud synnwyr os:
- ni allwch fforddio’r ad-daliadau benthyciad newydd
- nid ydych yn clirio’ch holl ddyledion gyda’r benthyciad
- y byddwch yn talu mwy yn y pen draw (oherwydd bod yr ad-daliad misol yn uwch neu fod tymor y cytundeb yn hirach), neu
- rydych angen help i ddatrys eich dyledion yn hytrach na benthyciad newydd - efallai y bydd cynghorydd dyledion yn gallu trafod gyda'ch credydwyr a threfnu cynllun ad-dalu.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Benthyciadau cyfuno dyledion nad ydynt yn rhoi eich cartref dan fygythiad
Gall dewis gwell fod yn gerdyn credyd trosglwyddo balans 0% neu log isel. Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried a fydd ffi yn cael ei rhoi ar y balans a drosglwyddir.
Gall hwn fod y ffordd rataf os llwyddwch i ad-dalu o fewn y cyfnod di-log neu log isel.
Cadwch mewn cof eich bod yn debygol o fod angen statws credyd da i gael un o'r cardiau hyn ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi trosglwyddo balans.
Gallech gyfuno’ch dyledion mewn benthyciad personol heb ei ddiogelu hefyd., ond eto, byddwch angen sgôr credyd da i gael y fargen orau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
A ddylech chi drosglwyddo balans eich cerdyn credyd?
Sut mae eich statws credyd yn effeithio ar gost cael benthyg arian
Ffioedd a thaliadau ar gyfer benthyciadau i gyfuno dyledion
Byddwch yn ofalus o’r ffioedd uchel y mae rhai cwmnïau’n eu codi am drefnu’r benthyciad.
Mae'n bwysig:
- darllen y print mân yn ofalus ar gyfer unrhyw ffioedd neu daliadau ychwanegol cyn i chi lofnodi unrhyw beth
- gwirio a oes unrhyw ffioedd ar gyfer talu benthyciadau presennol yn gynnar gan y gallai hyn ganslo unrhyw arbedion
- osgoi talu ffi i gwmni drefnu’r benthyciad ar eich rhan oni bai eich bod yn cael cyngor (a’ch bod yn siŵr ei fod wrth y gost)
Os byddwch chi’n dewis benthyciad i gyfuno dyledion
Rhybudd
Mae rhai safleoedd cymharu yn ennill arian o restrau noddedig, lle mae cwmnïau'n talu i gael eu cynhyrchion yn ymddangos ar frig y canlyniadau chwilio.
- Chwiliwch o gwmpas gan ddefnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i'r fargen orau.
- Dylech gael cyngor cyn i chi wneud penderfyniad terfynol. Os ydych chi am fwrw ymlaen â benthyciad cyfuno, ystyriwch siarad ag ymgynghorydd ariannol annibynnol am ddim a allai ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf addas ar gyfer eich anghenion.
- Peidiwch ag edrych ar y brif gyfradd llog yn unig. Cymharwch y gyfradd ganrannol flynyddol (APR), neu'r gyfradd ganrannol flynyddol o dâl (APRC) ar gyfer benthyciadau gwarantedig. Yr APR yw'r llog a godir arnoch, a bydd yr APRC yn cynnwys y costau ychwanegol fel ffi trefniant.