Os ydych chi eisiau bod yn gymwys am y benthyciad a chyfraddau cerdyn credyd mwyaf cystadleuol yna rydych chi angen sgôr credyd da. Ac mae ei angen arnoch chi i aros felly. Darganfyddwch sut mae'n gweithio.
Sut mae benthycwyr yn penderfynu a ydynt am roi benthyg arian i chi ai peidio
Mae banciau a chwmnïau cerdyn credyd yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth i roi sgôr credyd i chi, sy’n pennu a fyddant yn rhoi benthyciad i chi ac ar ba delerau.
Gall rhoi sgôr credyd fod yn seiliedig ar wybodaeth fel:
- y wybodaeth a rowch ar eich ffurflen gais
- pa wybodaeth sydd gan y darparwr benthyciadau amdanoch chi yn barod, ar sail cyfrifon blaenorol sydd gennych gyda hwy neu geisiadau blaenorol, ac
- eich adroddiad credyd gydag un neu’n fwy o asiantaethau cyfeirio credyd - y prif rai yw Experian, Equifax a TransUnion.
Mae benthycwyr yn aml yn defnyddio proses awtomataidd i asesu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, bydd pob benthyciwr yn gwerthuso ac yn asesu'r wybodaeth hon yn wahanol.
Mae'r rhain yn wahanol i'r statws credyd y bydd asiantaeth cyfeirio credyd yn ei ddarparu, sydd ar gael i chi yn unig ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich adroddiad credyd.
Mae'r asesiadau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i ddeall sut y gallai cwmnïau ddefnyddio'ch gwybodaeth gredyd i benderfynu a ddylent gynnig credyd i chi.
Nid yw asesiadau asiantaethau cyfeirio credyd ond yn cynnig arwydd cyffredinol o ba mor debygol y gallai cwmnïau gynnig credyd i chi. Nid yw cael sgôr uchel yn gwarantu y bydd unrhyw fusnes penodol yn cynnig credyd i chi mewn gwirionedd. Mae hyn oherwydd bod pob cwmni'n defnyddio ei feini prawf ei hun, a allai amrywio yn dibynnu ar ba gynnyrch credyd rydych chi'n gwneud cais amdano.
Fel arfer cewch sgôr credyd gwell:
- os ydych chi ar y gofrestr etholwyr
- os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun a/neu wedi byw yn yr un cyfeiriad am flwyddyn o leiaf
- os nad oes cysylltiad ariannol, drwy eich morgais neu fenthyciad neu gyfrif banc ar y cyd, â phobl a chanddynt sgôr credyd gwael
- os oes gennych hanes credyd da trwy ad-dalu cytundebau credyd ar amser, a hefyd biliau eraill (megis nwy a thrydan neu gytundebau ffôn symudol)
- os oes gennych chi dystiolaeth o sefydlogrwydd – er enghraifft, os ydych chi’n gyflogedig yn hytrach na hunangyflogedig neu os ydych chi wedi byw yn yr un cyfeiriad, wedi gweithio i’r un cyflogwr neu wedi cael yr un cyfrif banc am gyfnod hir.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Sut y gall sgôr credyd gwael effeithio arnoch chi
Gall sgôr credyd gwael olygu eich bod chi’n :
- gorfod talu cyfraddau llog uwch
- yn cael terfyn credyd llai
- cael eich gwrthod am gredyd.
Does dim rhaid i fenthycwyr roi i chi’r gyfradd llog sy’n cael ei hysbysebu ganddo neu’r un a welir yn y tablau bargen orau ar wefannau cymharu.
Mae rhai benthycwyr yn gweithredu ar sail yr hyn a elwir yn bris ‘cyfradd am risg’, ble mae’r gyfradd yr ydych chi’n ei derbyn yn dibynnu ar y risg y maen nhw’n credu yr ydych chi’n ei chynrychioli o beidio â thalu credyd ar amser.
Byddwch chi’n aml yn gweld ‘APR cynrychioladol’ mewn hysbysebion. Bydd o leiaf 51% (ychydig dros hanner) y bobl sy’n derbyn y cynnyrch yn talu’r APR hwn neu’n well.
Os yw’r benthycwyr yn defnyddio prisiad ‘cyfradd am risg’ gallai hyd at 49% orfod talu cyfradd uwch.
Gallai hyn fod oherwydd bod ganddynt hanes credyd gwael, neu eu bod yn newydd i gredyd.
Cyn i chi ymgeisio am gredyd, gofynnwch i’r benthyciwr pa APR a chyfradd llog y bydd angen i chi eu talu. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai benthycwyr bob amser yn gallu dweud hyn wrthych cyn i gais ffurfiol gael ei dderbyn.
Os oes angen iddynt wneud gwiriad credyd cyn rhoi dyfynbris i chi, gofynnwch a allant ddefnyddio ‘chwiliad dyfynbris’ neu ‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn’ (nad yw’n gadael marc ar eich ffeil credyd). Gelwir hyn hefyd yn ‘wiriad credyd chwiliad meddal’ neu’n ‘wiriad cymhwysedd’.
Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi’n edrych o gwmpas ac nad ydych chi yn barod i wneud cais hyd yma, neu pan ydych chi’n gwirio eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.
Gwiriwch ein awgrymiadau da yn ein canllaw Sut i wella eich statws credyd
Eich hawliau os codir eich cyfradd llog
Os bydd eich benthyciwr yn cynyddu eich cyfradd llog, bydd hyn yn berthnasol i'ch balans cyfan (ac eithrio unrhyw beth sy'n dal i gael ei gwmpasu gan gyfraddau hyrwyddo arbennig), nid gwariant newydd yn unig. Gallai hyn olygu eich bod yn ei chael yn anoddach cadw i fyny â'ch ad-daliadau.
Os yw cynnydd yn y gyfradd llog a godir arnoch oherwydd risg yna os gofynnir amdani, rhaid i'ch benthyciwr roi rheswm dilys i chi. Fodd bynnag, dim ond esboniad generig sydd ei angen arnynt.
Bydd eich benthyciwr yn ystyried nifer o ffactorau wrth wneud unrhyw benderfyniad ar newidiadau yn y gyfradd llog. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am eich adroddiad credyd neu sut rydych chi'n rheoli'ch cyfrif.
Beth sy'n rhaid i ddarparwyr cardiau credyd ei wneud
Os yw darparwr eich cerdyn credyd eisiau cynyddu eich cyfradd llog rhaid iddynt:
- darparu cyfnod o 60 diwrnod o leiaf, o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu gyntaf o'r cynnydd arfaethedig (yn ystod yr amser hwn efallai y byddwch yn rhoi rhybudd i'ch darparwr cerdyn credyd gau eich cyfrif)
- caniatáu ichi ad-dalu'r balans sy'n ddyledus a thros gyfnod rhesymol o amser ar yr hen gyfradd llog (cyn i chi gael gwybod am y cynnydd arfaethedig yn y gyfradd llog).
Os byddwch chi’n dewis cau’r cyfrif, gallech chi ystyried newid i gerdyn credyd gwahanol - er enghraifft, un sy’n cynnig cyfnod di-log ar drosglwyddiadau balans. Serch hynny, os oes gennych sgôr credyd gwael, efallai na fyddwch chi’n gymwys am y deliau hyn.
Mae'n bwysig gwirio hefyd am unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â throsglwyddo balans.
Os ydych chi ar ddêl 0%, ac yn anghofio gwneud taliad ar amser, gallai’r cwmni cerdyn dynnu’r cynnig yn ôl a chynyddu’ch cyfradd i’r gyfradd arferol. Os digwydd hyn, gallai fod yn syniad da cysylltu â nhw ac esbonio’r rheswm y methoch chi’r taliad. Os oes gennych hanes o reoli’ch cyfrif yn dda, gallai’r cwmni ildio.
Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn ffordd dda o sicrhau na fyddwch byth yn colli taliad eto. Ond, os yw'ch incwm yn amrywio a'ch bod yn poeni na fydd digon o arian i dalu'r Debyd Uniongyrchol, efallai mai gwneud taliadau â llaw fyddai'r opsiwn gorau.
Darganfyddwch fwy am drosglwyddo balans cerdyn credyd yn ein canllaw A ddylech chi drosglwyddo balans eich cerdyn credyd?
Sut i wneud cwyn
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg, dylech gyflwyno cwyn i’r benthyciwr yn gyntaf.
Os na fyddwch yn fodlon ar ei ymateb, gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.