Mae adeiladu sgôr credyd da yn bwysig oherwydd gall effeithio ar eich gallu i fenthyg arian neu gael mynediad at gynhyrchion fel cardiau credyd neu fenthyciadau. Gallwch wirio'ch sgôr am ddim ac os nad yw yn y siâp gorau, mae pethau y gallwch eu gwneud i'w wella.
Gwella eich sgôr credyd
Gwiriwch eichadroddiad credyd
Mae eich adroddiad credyd yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ffurfio’ch sgôr credyd. Gallwch wirio eich adroddiad credyd am ddim gan ddefnyddio:
- ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
- MSE CreditYn agor mewn ffenestr newydd
- Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’n werth gwirio pob un o’r rhain, gan fod y wybodaeth sydd ganddynt amdanoch yn wahanol gan eu bod yn seiliedig ar ddata o asiantaethau gwirio credyd gwahanol.
Bydd eich adroddiad credyd yn rhoi cyngor ar lefydd i wella.
Gwiriwch am gamgymeriadau
Pan rydych yn edrych ar eich adroddiad credyd, gwiriwch am wallau neu gamgymeriadau. Mae hyd yn oed rhywbeth fel typo yn eich cyfeiriad yn gallu effeithio ar eich sgôr credyd.
Dylech hefyd wirio manylion o unrhyw fenthyca yn eich enw a rhoi gwybod am unrhyw gamgymeriadau yn syth.
Sicrhewch bod eich cyfeiriad yn gyfoes
Mae cael eich cyfeiriad cyfredol ar eich adroddiad credyd yn bwysig iawn. Pan rydych yn symud cartref, sicrhewch eich bod yn cofrestru eich cyfeiriad newydd mor fuan â phosibl.
Mae cynghorau yn danfon data pleidleiswyr at asiantaethau gwirio credyd unwaith y mis, felly gall hwn wella eich sgôr o fewn 8 wythnos.
Talu biliau ar amser
Sicrhau bod eich biliau yn cael eu talu ar amser yw’r ffordd orau i ddangos i fenthycwyr bod y gallu gennych i reoli eich cyllid yn effeithiol.
Nid yw pob bil yn cyfri tua’ch sgôr credyd, felly mae’n werth gwirio pa rai sy’n gwneud gan edrych ar eich adroddiad credyd.
Os ydych wedi methu taliad neu yn poeni gallech fethu taliad, dylech gysylltu â’ch darparwr mor fuan â phosibl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Y ffyrdd gorau i dalu biliau
Dod â chysylltiadau ariannol ag eraill i ben
Os oes gennych gyfrif banc ar y cyd, neu fenthyca ar y cyd arall, gall statws credyd y person arall effeithio ar eich statws credyd chi.
Gall fod yn anodd dod â’r cysylltiadau ariannol gyda rhywun sydd â sgôr credyd gwael i ben ond gall hybu eich sgôr credyd chi o fewn mis.
Osgoi ceisiadau lluosog
Os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd, dylech osgoi gwneud cais pellach am gredyd neu fenthyg yn syth. Gall ceisiadau lluosog o fewn amser byr cael effaith negyddol ar eich sgôr credyd.
Dysgwch fwy drwy ein canllaw ar Credyd wedi’i wrthod neu fenthyciad wedi’i wrthod - beth gallwch ei wneud
Gwella’ch sgôr credyd â gwybodaeth ychwanegol
Taliadau rhent
Mae ychwanegu tystiolaeth o gadw i fyny â thaliadau rhent yn helpu pobl i adeiladu hanes credyd heb orfod ymrwymo i gytundebau credyd newydd i gyfoethogi eu gwybodaeth am gofnodion credyd.
Yn flaenorol, nid oedd landlordiaid yn darparu gwybodaeth talu rhent i gofnodion credyd. Fodd bynnag, gall darparwyr tai cymdeithasol, cwmnïau rheoli eiddo mwy a landlordiaid preifat ychwanegu gwybodaeth yn dangos eich bod yn cadw i fyny â gwybodaeth talu rhent i adroddiadau credyd Experian trwy gynllun Cyfnewid Rhent.
Darganfyddwch fwy am y gyfnewidfa rentu ar ExperianYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddiwch sefydliadau partner Experian:
Credit ladder - i roi gwybod am daliadau rhent a gwella eich sgôr credydYn agor mewn ffenestr newydd
Canopy - symleiddio'r broses rentu gydag offer digidol hawdd eu defnyddioYn agor mewn ffenestr newydd
Fodd bynnag, os byddwch yn colli taliadau, bydd hyn yn cael effaith negyddol ar eich cofnod credyd a'ch sgôr.
Bancio Agored
Mae rhaid i'r naw banc mwyaf a reoleiddir yn y DU ganiatáu i chi rannu gwybodaeth am eich trafodion cyfrif cyfredol, gan gynnwys eich holl dreuliau a'ch incwm, â sefydliadau eraill, gan gynnwys benthycwyr eraill. Gelwir y wybodaeth hon yn ddata bancio agored.
Yn aml, gall rhannu'r wybodaeth hon helpu benthycwyr i wneud penderfyniadau mwy cywir ynghylch yr hyn y gallwch fforddio ei fenthyg ac a ddylid rhoi benthyg arian i chi, a gallai hyn eich helpu i fenthyg arian am bris mwy fforddiadwy i chi. Mae asiantaethau cyfeirio credyd bellach yn cynnig cyfle i gwsmeriaid rannu'r wybodaeth hon trwy eu cofnodion credyd.
Gall eich banc rannu’r wybodaeth hon ddim ond â’ch caniatâd penodol.
Experian Boost
Mae adroddiadau credyd arbrofol yn defnyddio Bancio Agored i gynnwys gwybodaeth fel benthyciadau, cardiau credyd, morgeisi, contractau ffôn symudol, cyfrifon banc a hyd yn oed rhai biliau cartref rheolaidd fel ynni, dŵr a band eang – yn amodol ar eich caniatâd. Bydd yr ystod o wybodaeth y gallwch ei rhannu yn dibynnu ar ba rai o'ch credydwyr sy'n cymryd rhan yng nghynllun Experian Boost.
Mae menter Experian Boost hefyd yn caniatáu i chi ychwanegu eich cofnodion talu Treth Gyngor, taliadau tanysgrifiad ffrydio fideo / cerddoriaeth (fel Netflix, Spotify, ac Amazon Prime), a gwybodaeth arbedion i sgoriau credyd Experian.
Darganfyddwch fwy am Experian Boost ar ExperianYn agor mewn ffenestr newydd
Mae asiantaethau cyfeirio credyd eraill yn ymuno â'r farchnad, fel Credit Kudos, sydd hefyd yn ystyried Bancio Agored.
Ystyried cael cerdyn adeiladau credyd
Os oes gennych hanes credyd gwael, efallai yr hoffech feddwl am gael cerdyn credyd adeiladu credyd. Cardiau yw'r rhain sydd wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sydd naill ai wedi gwneud ychydig o ddefnydd blaenorol o gredyd neu sydd â hanes credyd gwael. Ond mae'r terfynau credyd ar y cardiau hyn yn aml yn isel ac mae'r cyfraddau llog yn uchel. Mae hyn yn adlewyrchu lefel y sicrwydd y mae eich gwybodaeth cofnod credyd yn ei ddarparu i fenthycwyr.
Trwy ddefnyddio'r cardiau hyn a thalu'r biliau bob mis, gallwch helpu i brofi eich bod yn deilwng o gredyd, cynyddu eich sgôr credyd, a gwneud cais am gardiau a benthyciadau eraill pan fydd eich statws credyd yn gwella.
Ond byddwch yn ymwybodol bod y cyfraddau llog a godir yn llawer uwch na chardiau credyd safonol. Yn nodweddiadol, byddwch yn talu dros 30% mewn llog y flwyddyn, sy'n rheswm arall i geisio ad-dalu unrhyw falans yn llawn bob mis. Fel arall, efallai y byddwch mewn dyled rydych yn ei chael yn anodd dod allan ohoni, a allai niweidio'ch statws credyd ymhellach fyth.
Osgoi cwmnïau atgyweirio credyd drud
Efallai y byddwch yn gweld hysbysebion gan gwmnïau sy'n honni eu bod yn atgyweirio eich statws credyd. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn syml yn eich cynghori ar sut i gael gafael ar eich cofnod gredyd a gwella'ch statws credyd – ond nid oes angen i chi dalu am hynny, gallwch ei wneud eich hun.
Efallai y bydd rhai yn honni y gallant wneud pethau na allant yn gyfreithiol, neu hyd yn oed eich annog i ddweud celwydd wrth yr asiantaethau cyfeirio credyd.
Mae'n bwysig peidio â hyd yn oed ystyried defnyddio'r cwmnïau hyn.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Sut i adrodd a thrwsio unrhyw wallau ar eich cofnod
Os byddwch yn gweld unrhyw gamgymeriadau, heriwch hwy trwy eu hadrodd i'r asiantaeth cyfeirio credyd.
Mae ganddynt 28 diwrnod i gael gwared ar y wybodaeth neu ddweud wrthych pam nad ydynt yn cytuno â chi.
Yn ystod yr amser hwnnw, bydd y ‘camgymeriad’ yn cael ei farcio fel ‘dadleuol’ ac ni chaniateir i fenthycwyr ddibynnu arno wrth asesu eich statws credyd.
Y peth gorau hefyd yw siarad yn uniongyrchol â'r darparwr credyd rydych yn credu sy'n gyfrifol am y cofnod anghywir.
Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn dibynnu ar wybodaeth a ddarperir gan fenthycwyr – ac yn aml mae'r benthyciwr yn y sefyllfa orau i ddatrys hyn.
Mae gwybodaeth negyddol yn eich enw fel arfer yn aros ar eich adroddiad credyd am chwe blynedd ac ni ellir ei symud yn gynt os yw'n gywir. Fodd bynnag, pe bai rhesymau da pam eich bod ar ei hôl â thaliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach, fel methu â gweithio yn ystod cyfnod o salwch, gallwch ychwanegu nodyn at eich adroddiad credyd i egluro hyn. Gelwir y nodyn hwn yn Rhybudd Cywiriad a gall fod hyd at 200 gair o hyd
Beth i'w wneud os ydych wedi dioddef twyll credyd
Os ydych wedi dioddef dynwared hunaniaeth neu dwyll credyd, efallai y byddai eich sgôr credyd wedi taro deuddeg. Mae gwella'ch sgôr credyd yn y sefyllfa hon yn golygu cymryd llawer o'r camau ar y dudalen hon.
Pan edrychwch ar eich ffeil gredyd, cadwch lygad am rybudd ‘Dioddefwr dynwarediad’. Darperir y marciwr hwn gan Cifas, gwasanaeth atal twyll dielw.
Mae marcwyr Cifas yn cael eu rhoi ar ffeiliau credyd gan fenthycwyr mewn achosion lle maent yn credu y bu ymgais i dwyll gan bobl sy'n camddefnyddio hunaniaeth ymgeisydd benthyciad. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fenthycwyr roi gwybod am bryderon o'r fath.
Mae cael marciwr Cifas ar eich ffeil yn rhybudd i fenthycwyr yn y dyfodol eich bod wedi dioddef, neu'n agored i ddod yn ddioddefwr, o dwyll.
Bydd y marciwr yn aros ar eich ffeil am 13 mis.
Y newyddion da yw nad yw cael marciwr Cifas yn effeithio ar eich sgôr credyd ac nad yw'n eich atal rhag cymryd credyd. Ond gallai greu problemau os ydych yn gwneud cais am gredyd sy'n cael ei brosesu'n awtomatig, fel cyllid siop. Mae hyn oherwydd y byddai rhaid i fenthyciwr gynnal ‘adolygiad â llaw’ o’ch ffeil (gan berson ac nid cyfrifiadur) i ddeall pam mae’r marciwr wedi’i ychwanegu.