Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae banc neu ddarparwr arall yn penderfynu a yw’n mynd i roi credyd i chi ai peidio? Un o’r adnoddau y maent yn ei ddefnyddio yw eich adroddiad credyd. Mae hwn yn rhoi eich hanes credyd iddynt, ac yn eu helpu i asesu faint o risg fyddai benthyca arian i chi, yn ddibynnol ar ansawdd eich sgôr credyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pwy sy’n llunio adroddiadau credyd?
- Beth sydd yn eich adroddiad credyd?
- Pwy sy’n edrych ar eich adroddiad credyd?
- Sut i wirio'ch adroddiad credyd
- Pryd ddylech chi edrych ar eich adroddiad credyd?
- Beth mae nodyn Cifas ar fy adroddiad credyd yn ei olygu?
- Gwella eich statws credyd a chywiro eich adroddiad credyd
Pwy sy’n llunio adroddiadau credyd?
Yn y Deyrnas Unedig, mae cwmnïau a elwir yn ‘Asiantaethau Gwirio Credyd’ (CRAs) yn casglu gwybodaeth am ba mor dda rydych chi’n rheoli credyd ac yn gwneud eich taliadau.
Mae pob un ohonynt yn cadw ffeil amdanoch, (a elwir yn adroddiad credyd neu ffeil credyd), er y gall yr wybodaeth amrywio rhwng gwahanol CRAs.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth sydd yn eich adroddiad credyd?
Fel arfer, mae’ch adroddiad credyd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Rhestr o’ch holl gyfrifon credyd. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifon banc a chardiau credyd yn ogystal â threfniadau credyd eraill fel cytundebau benthyciad sy’n weddill neu’r rhai hynny gyda’ch cwmni cyfleustod. Byddant yn dangos a ydych wedi gwneud ad-daliadau yn brydlon ac yn llawn. Bydd eitemau fel taliadau a fethwyd neu a oedd yn hwyr yn aros ar eich adroddiad credyd am o leiaf chwe mlynedd.
- Manylion unrhyw bobl sydd â chysylltiad ariannol â chi –er enghraifft oherwydd eich bod wedi cymryd credyd ar y cyd.
- Gwybodaeth o gofnodion cyhoeddus fel Dyfarniadau Llys Sirol (a elwir yn ‘Decrees’ yn yr Alban), adfeddiannau cartref, methdaliadau, Gorchmynion Rhyddhad Dyled a threfniadau gwirfoddol unigol. Mae'r rhain yn aros ar eich adroddiad am o leiaf chwe blynedd.
- Darparwr eich cyfrif cyfredol, ond dim ond manylion gorddrafftiau.
- A ydych ar y gofrestr etholwyr.
- Eich enw a’ch dyddiad geni.
- Eich cyfeiriad presennol a chyfeiriadau blaenorol.
- Os ydych wedi cyflawni twyll, neu mae rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth a chyflawni twyll, cedwir hyn ar eich ffeil dan yr adran CIFAS.
Nid yw’ch adroddiad credyd yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol arall fel eich cyflog, crefydd nac unrhyw gofnod troseddol.
Pwy sy’n edrych ar eich adroddiad credyd?
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am gredyd, fel arfer mae’r broses yn gofyn i chi roi caniatâd i’r darparwr credyd edrych ar eich adroddiad credyd.
Nid yw’r term ‘darparwr credyd’ yn cynnwys banciau a chwmnïau cardiau credyd yn unig. Mae hefyd yn cynnwys cwmnïau archebu trwy'r post ac, er enghraifft, darparwyr gwasanaethau ffôn symudol os oes gennych gontract ffôn (ond nid os ydych chi ar fargen talu wrth fynd).
Mae cyflogwyr a landlordiaid hefyd yn gallu gwirio’ich adroddiad credyd. Er dim ond gwybodaeth o gofnodion cyhoeddus a welant fel arfer, fel:
- os ydych chi ar y gofrestr etholwyr
- cofnodion ansolfedd
- Dyfarniadau Llys Sirol (a elwir yn ‘Decrees’ yn yr Alban).
Sut mae benthycwyr yn defnyddio adroddiadau credyd
Byddwch yn ymwybodol bod gwahanol fenthycwyr yn edrych am wahanol bethau wrth edrych ar eich adroddiad credyd a phenderfynu a ddylent roi benthyciad i chi. Gallant hefyd ystyried ffactorau eraill.
Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich rhoi ar ffyrlo ac wedi cymryd gwyliau talu yn ystod y pandemig coronafeirws. Er na fydd hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar eich sgôr credyd, gallai effeithio ar eich gallu i fenthyca yn y dyfodol.
Sut i wirio'ch adroddiad credyd
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob CRA ddarparu copi o'ch adroddiad credyd i chi am ddim.
- Gwiriwch eich adroddiad credyd Experian trwy eu gwefan bartner, Money Saving Expert’s Credit Club
- Gwiriwch eich adroddiad credyd Equifax trwy eu gwefan bartner, ClearScore
- Gwiriwch eich adroddiad credyd TransUnion trwy eu gwefan bartner, Credit Karma
Os nad ydych wedi gwneud cais am gael gweld eich adroddiad credyd o’r blaen neu os nad ydych wedi’i weld ers tro, yn aml mae’n werth cael copi gan y tri phrif CRAs.
Y rheswm am hynny yw oherwydd ei bod yn bosibl bod ganddynt wybodaeth gredyd wahanol gan wahanol ddarparwyr credyd, ond rhyngddynt bydd ganddynt lawer o’r un wybodaeth.
Os yw'n well gennych gopi papur o'ch adroddiad credyd, gallwch gysylltu â'r asiantaethau sgorio credyd yn uniongyrchol:
Darganfyddwch fwy am sut i gael copi ysgrifenedig o'ch adroddiad credyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Gwasanaethau adroddiad credyd llawn
Cofiwch
Gallwch ymgeisio am eich cofnod credyd mor aml ag y dymunwch heb niweidio'ch siawns o gael credyd.
Gallwch gael cyfnod prawf o 30 diwrnod yn ddi-dâl am wasanaethau gwirio credyd yn fwy cynhwysfawr gan Experian ac Equifax, sy’n cynnwys eich adroddiad credyd llawn.
Ond bydd rhaid ichi roi manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd fel arfer pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cyfnod prawf di-dâl, a bydd arian yn cael ei dynnu o’ch cyfrif os na fyddwch chi’n canslo mewn da bryd.
Beth yw sgôr credyd?
Sgôr credyd yw'r sgôr y bydd benthyciwr neu ddarparwr credyd yn ei ddefnyddio i'w helpu i benderfynu pa gwsmeriaid i roi benthyg iddynt. Mae wedi'i seilio'n fras ar dair set o wybodaeth:
- eich ffurflen gais
- eich adroddiad credyd
- unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi eisoes.
Yn aml, bydd darparwyr credyd yn defnyddio proses awtomataidd - a elwir yn sgorio credyd - i asesu'r wybodaeth hon yn wrthrychol. Mae'r cyfraddau y maent yn eu defnyddio yn wahanol i'r sgôr credyd y bydd asiantaeth cyfeirio credyd yn ei ddarparu.
Mae sgoriau credyd awgrymedig yn cael eu creu gan asiantaethau cyfeirio credyd. Maent yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich cofnod credyd, ac maent ar gael i chi yn unig. Maent wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i ddeall sut y gallai cwmnïau ddefnyddio'ch gwybodaeth gredyd i benderfynu a ddylent gynnig credyd i chi.
Mae sgoriau awgrymedig yn cynnig arwydd cyffredinol yn unig o ba mor debygol y gallai cwmnïau fod i gynnig credyd i chi. Nid yw cael sgôr uchel yn gwarantu y bydd unrhyw fenthyciwr penodol yn cynnig credyd i chi mewn gwirionedd. Mae hyn oherwydd bod pob cwmni'n defnyddio ei feini prawf ei hun, a allai amrywio yn dibynnu ar ba gynnyrch credyd rydych chi'n gwneud cais amdano.
Gellir defnyddio'r wybodaeth a gedwir ar eich adroddiad credyd a'ch ffurflen gais am gredyd i benderfynu:
- a ddylid cynnig credyd i chi
- faint o gredyd a gynigir i chi
- faint o log y byddai'n cael ei godi gennych.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar eich adroddiad fydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae hyn oherwydd y bydd gan fenthycwyr ddiddordeb mwyaf yn eich sefyllfa ariannol gyfredol.
Fodd bynnag, bydd gwybodaeth am eich trafodion ariannol dros y chwe blynedd diwethaf - da neu ddrwg - yn dal i gael ei chofnodi.
Os yw'ch adroddiad credyd yn dangos ychydig o daliadau a gollwyd, efallai y codir llog uwch arnoch neu efallai na fyddwch yn gymwys i gael rhai cynhyrchion. Mae hyn oherwydd bod cwmnïau'n credu y byddent yn cymryd risg uwch wrth gynnig credyd i chi.
Yn ogystal ag effeithio o bosibl ar eich mynediad at gynhyrchion ariannol, gall hanes credyd gwael iawn hefyd effeithio ar eich gallu i gael pethau fel yswiriant neu gael gafael ar gontractau ffôn symudol.
Mae eich sgôr credyd yn asesiad gan fenthyciwr penodol o faint o risg credyd ydych chi. Mae hyn yn seiliedig ar eu meini prawf eu hunain ac fel arfer mae'n cynnwys gwybodaeth gan asiantaeth cyfeirio credyd.
Efallai y bydd asiantaeth cyfeirio credyd hefyd yn darparu eich ‘sgôr credyd’ am ffi. Ond dim ond arwydd yw hwn yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddyn nhw. Nid yw yr un peth â sgôr y benthyciwr unigol. (Mae eich sgôr credyd yn wahanol i'ch adroddiad credyd, y gallwch ei gael am ddim.)
Pryd ddylech chi edrych ar eich adroddiad credyd?
Oeddech chi’n gwybod?
Gallai nifer o gwmnïau’n dewis peidio â benthyca arian i chi os nad ydych bob amser wedi rheoli eich credyd yn dda ac os nad oes gennych statws credyd da, tra bydd cwmnïau eraill yn codi cyfradd llog uwch arnoch neu’n cynnig llai o gredyd i chi.
Ydych chi’n gwneud cais am fenthyciad, morgais, cerdyn credyd neu fenthyciad arall? Yna gall fod yn syniad da gwirio eich adroddiad credyd yn gyntaf, os nad ydych chi wedi edrych arno ers peth amser.
Beth bynnag, mae’n gwneud synnwyr edrych arno o dro i dro er mwyn gwneud yn siŵr nad oes camgymeriadau ac nad ydych wedi methu unrhyw daliadau heb sylweddol.
Gallwch edrych ar eich adroddiad credyd mor aml ag ydych chi’n dymuno, ac ni fydd yn effeithio ar eich statws credyd na’ch sgôr credyd.
Ydych chi’n chwilio am fenthyciad neu gredyd, ac nad ydych yn barod i ymgeisio eto? Yna, esboniwch hynny’n glir a gofyn am ddyfynbris, ‘chwiliad dyfynbris’ neu (‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn’) neu 'gwiriwr hawl'.
Dyma ble bydd benthyciwr yn chwilio eich cofnod credyd - i benderfynu a ydych yn gymwys neu i ddarparu dyfynbris - ond heb effeithio ar eich adroddiad credyd.
Nid yw pob benthyciwr yn cynnig chwiliad ysgafn ar eich cymhwysedd cyn eich cais.
Ar ôl i chi wneud cais ffurfiol am gredyd, gwneir golwg fanylach ar eich adroddiad credyd (a elwir hefyd yn chwiliad caled), a fydd yn gadael marc ar eich adroddiad credyd.
Beth mae nodyn Cifas ar fy adroddiad credyd yn ei olygu?
Gwasanaeth cenedlaethol i atal twyll yw Cifas. Gall osod rhybuddion o ‘Gofrestriad diogel’ a ‘Dioddefwr efelychiad’ ar eich ffeil gredyd.
Cofrestriad Diogel
Mae hwn yn wasanaeth taledig i bobl sydd wedi dioddef twyll ariannol yn ddiweddar. Mae'n nodi i unrhyw fenthyciwr eich bod o bosibl yn agored i dwyll fel y byddant yn gwneud gwiriadau ychwanegol bob tro y byddwch yn gwneud cais am gynnyrch ariannol. Er y gall hyn eich amddiffyn, gall gynyddu faint o amser y gall cymeradwyo ceisiadau credyd ei gymryd. Bydd yn aros ar eich adroddiad credyd am ddwy flynedd.
Darganfyddwch fwy, a gwnewch gais, ar wefan Cifas
Dioddefwr efelychiad
Caiff hwn ei gyflwyno gan eich darparwr benthyciad er eich diogelwch chi os buoch yn ddioddefwr twyll hunaniaeth. Bydd yn aros ar eich adroddiad am 13 mis.
Os bydd un o’r rhain ar eich adroddiad credyd, bydd yn rhoi rhybudd twyll i ddarparwyr benthyciadau posib. Mae'n dweud wrthynt y buoch yn ddioddefwr twyll yn y gorffennol, neu y gallech fod yn neilltuol o fregus o ran cael eich twyllo yn y dyfodol.
Beth mae hyn yn ei olygu pan ymgeisiaf am gredyd?
Gall unrhyw gais am gredyd fod yn destun gwiriadau pellach er mwyn profi’ch hunaniaeth. Gan mai gwiriad a llaw yw hwn fel arfer, os ydych yn ymgeisio am gredyd gallai’ch cais gael ei oedi.
Ni fydd cael nodyn dan yr adran hon yn golygu y caiff eich cais ei wrthod fel mater o drefn. Mae yno i’ch gwarchod rhag bod yn ddioddefwr twyll.
Beth os yw’r nodyn Cifas yno mewn camgymeriad?
Os ydych o’r farn bod rhybudd Cifas ar eich ffeil credyd mewn camgymeriad, gallwch gysylltu â’r darparwr benthyciadau i weld a ydynt yn fodlon ei dynnu oddi yno.
Cofiwch y bydd asiantaethau gwirio credyd yn anhebygol o dynnu unrhyw wybodaeth sydd ar eich adroddiad os ydynt o’r farn bod cyfiawnhad dros roi’r nodyn ar eich ffeil gredyd. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ddarparwyr benthyciadau adrodd unrhyw ymgais dwyllodrus a wnaed ar eich cyfrif, i’r asiantaethau cyfeirio credyd.
Darganfyddwch fwy am noday Cifas ar wefan Cifas
Gwella eich statws credyd a chywiro eich adroddiad credyd
Os ydych chi am wella'ch statws credyd, neu drwsio unrhyw wallau ar eich ffeil gredyd, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud.