Mae talu eich biliau yn brydlon yn sgil heriol ond hanfodol serch hynny i’w dysgu. Os na wnewch chi hynny, gallech wynebu ôl-ddyledion, gan effeithio ar eich statws credyd a hyd yn oed eich hatal rhag prynu cartref. Cymerwn olwg ar y ffyrdd gorau i dalu biliau a rhoi awgrymiadau ar beth i’w wneud os byddwch yn ei chael hi’n anodd i dalu’n brydlon.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut i dalu biliau yn brydlon
Awgrym Da
A ydych chi’n cael eich symud i Gredyd Cynhwysol? Darganfyddwch awgrymiadau yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol
Gall fod yn anodd rheoli biliau, yn enwedig os ydynt yn dechrau cynyddu mewn nifer.
Dyna pam rydym wedi casglu rhai awgrymiadau i roi cymorth i chi gadw rheolaeth ar eich arian.
Byddwch yn drefnus
Cadwch eich ffeiliau mewn ffolder bwrpasol. Os yw’ch biliau yn rhai digidol, rhowch nhw mewn ffeil ar eich cyfrifiadur. Cadwch lygad ar ba bryd y dylid eu talu.
Angen cymorth i reoli eich arian? Rhowch gynnig ar ein Cynllunydd Cyllideb hawdd ei ddefnyddio.
Dewiswch ddull talu sy'n addas i chi
Debyd uniongyrchol fel arfer yw'r ffordd rataf a hawsaf i dalu biliau, ond mae yna opsiynau eraill. Darganfyddwch fwy isod.
Gwiriwch eich biliau’n rheolaidd
Golyga hyn y byddwch yn sylwi ar unrhyw gamgymeriadau ac a fydd eich biliau yn cynyddu neu yn gostwng.
Dewiswch ddiwrnod bob mis a defnyddio calendr neu ap i sicrhau nad ydych chi'n anghofio.
Gallwch wirio taliadau ar eich cyfriflenni banc.
Peidiwch â gadael i filiau eich trechu
Os ydych yn cael anhawster i dalu’ch biliau, peidiwch ag anwybyddu’r broblem, oherwydd byddai hynny’n gwaethygu’r sefyllfa. Darllenwch ragor isod am sut i ddelio â’ch ôl-ddyledion
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n talu gormod.
I ddarganfod sut i dorri cannoedd o bunnoedd oddi ar eich biliau, darllenwch ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref.
Ffyrdd o dalu’ch biliau
Awgrym Da
Ceisiwch sefydlu cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich biliau a throsglwyddo’r swm angenrheidiol iddo unwaith y cewch eich talu.
Debyd Uniongyrchol
Wrth dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol telir eich biliau’n brydlon, i sicrhau eich bod yn osgoi costau talu’n hwyr
Mae rhai cwmniau yn cynnig gostyngiadau i gwsmeriaid sy’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Fodd bynnag, gall olygu eich bod yn colli rheolaeth ar y dyddiad y mae'r arian yn gadael eich cyfrif.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Talu ar-lein neu fancio dros y ffôn
Os ydych yn bancio ar-lein neu dros y ffôn, gallwch dalu'ch biliau'n uniongyrchol.
Mae'n gyflym ac yn hawdd ac mae gennych reolaeth ar yr union beth rydych yn ei dalu a phryd, ond mae'n rhaid i chi gofio talu'ch biliau mewn pryd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o’ch cyfrif banc
Dulliau talu eraill
Awgrym Da
Ydych chi'n rhannu cyfrifoldeb am filiau â'ch partner? Darllenwch fwy am reoli arian fel cwpl yn ein canllaw A ddylech chi reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
Trwy’r post
Gallwch yn aml anfon siec am gyfanswm y bil i’r cyfeiriad a roddir gan y busnes.
Cofiwch y gall gymryd hyd at bum diwrnod iddyn nhw brosesu’r siec a derbyn yr arian o’ch cyfrif.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Swyddfa’r Post
Yn aml gallwch dalu bil gydag arian parod neu gerdyn yn Swyddfa’r Post. Weithiau bydd ffi am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Mesurydd rhagdaledig
Gellir talu am nwy a thrydan ymlaen llaw drwy ychwanegu arian at allwedd neu gerdyn a roddir yn eich mesurydd nwy neu drydan. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf costus i dalu am ynni pan redwch allan o gredyd a phan fyddwch allan o gredyd byddwch allan o ynni.
Darganfyddwch fwy am fesuryddion rhagdaledig yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
A yw’ch biliau yn dechrau creu anawsterau i chi?
Os ydych yn cael anhawster talu eich biliau, siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt cyn gynted â phosibl.
Gallant gytuno i chi wneud taliadau llai hyd nes i’ch sefyllfa ariannol wella.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyled, mae yna hefyd lawer o sefydliadau cynghori ar ddyledion am ddim a all helpu.