Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Delio gyda dyled
Problemau ariannol Delio gyda dyled

Opsiynau ar gyfer clirio’ch dyled – Gogledd Iwerddon

Os ydych yn cael anawsterau i dalu biliau bob dydd, neu i gadw fyny ag ad-daliadau benthyciadau ac ymrwymiadau ariannol eraill, mae nifer o opsiynau ar gael i chi i helpu i glirio’ch dyledion.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
  • Trosolwg o ddatrys dyledion
  • Cynllun Rheoli Dyled
  • Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)
  • Gorchymyn Gostwng Dyled
  • Methdalu
  • Gwneud cais i fod yn fethdalwr
  • Ar gyfer pwy mae methdalu’n addas?
  • Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol
  • Dileu taliadau
  • Mwy o help os ydych chi’n cael trafferthion

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim

Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.

Bydd ymgynghorydd dyled:

  • yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
  • byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.

Nol i’r brig

Trosolwg o ddatrys dyledion

Mae llawer o atebion ar gael i ddatrys eich dyledion – mae’r un fydd fwyaf addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Mae’r dudalen hon yn cynnig trosolwg o rai cynlluniau y gallech fod wedi clywed amdanynt, ond ni ddylech wneud eich penderfyniad tan y byddwch wedi siarad â gwasanaeth cyngor am ddim ar ddyledion.

Ar wahân i’r opsiynau isod, efallai y gallwch ddod i drefniant anffurfiol gyda’r bobl neu’r sefydliadau y mae arnoch arian iddynt (gelwir hefyd yn eich credydwyr) i wneud taliadau ar sail yr hyn allwch ei fforddio ar ôl treuliau hanfodol y cartref.

O dan y math hwn o drefniant, byddech yn gofyn iddynt rewi llog a chostau hefyd. Bydd elusen ddyledion yn gallu siarad trwy’r opsiwn hwn gyda chi.

Darganfyddwch fwy am yr opsiynau ad-dalu dyled sydd ar gael ar wefan NI DirectYn agor mewn ffenestr newydd

Effaith ar eich sgôr credyd

Siaradwch ag elusen sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion i ddeall mwy – gan cynnwys pa opsiwn sydd orau i chi.

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o’r opsiynau dyled isod yn effeithio ar eich sgôr credyd, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i chi agor cyfrif banc newydd, cael benthyciad neu brynu ar gredyd yn y dyfodol.

Ymunwch â’n grŵp Facebook

Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Debt Support Community i helpu i roi syniadau newydd i chi i fynd i’r afael ac i’ch cadw’n llawn cymhelliant

Nol i’r brig

Cynllun Rheoli Dyled

Mae hwn yn drefniant a sefydlir rhyngoch chi a’ch credydwyr lle rydych yn talu’n ôl yr hyn sy’n fforddiadwy gennych ar ddyledion nad ydynt o flaenoriaeth a heb eu sicrhau yn erbyn eich cartref, ar ôl cymryd biliau’ch cartref i ystyriaeth.

Mae’n nodi faint y byddwch yn ei ad-dalu ac yn cytuno ar amserlen ar gyfer ad-dalu.

Byddwch fel arfer yn gwneud un taliad misol i’ch sefydliad rheoli dyledion, sydd yn ei dro yn talu credydwyr ar eich rhan.

Fel arfer, caiff Cynlluniau Rheoli Dyled eu trefnu i chi gan drydydd parti, a gall llawer o elusennau a sefydliadau drefnu un am ddim.

Dewis darparwr cynllun rheoli dyledion

Cyn i chi benderfynu cymryd cynllun rheoli dyledion, mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor.

Mae yna elusennau cyngor ar ddyledion sy’n cynnig y gwasanaeth hwn am ddim. Gallant hefyd roi cyngor i chi ar opsiynau eraill i ddelio â’ch dyledion.

Nol i’r brig

Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)

Rhybudd!

Gall gostio miloedd o bunnoedd mewn ffioedd i sefydlu IVA – sy’n cynnwys cost gychwynnol a ffi reoli flynyddol.

Cytundeb sy’n gyfreithiol rwym yw Trefniant Gwirfoddol Unigol rhyngoch chi a’r bobl y mae arnoch arian iddynt.

Mae’n rhewi’ch dyledion ac yn caniatáu i chi eu talu’n ôl dros gyfnod penodol, sef pum mlynedd fel arfer. Yna, caiff unrhyw arian sy’n ddyledus o hyd ei ddileu.

Gallwch wneud cais am Drefniant Gwirfoddol Unigol os oes arnoch fwy nag oddeutu £15,000, ac fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu o leiaf 20c o bob punt sy’n ddyledus, gydag isafswm ad-daliad misol o oddeutu £200.

Mae’r IVA yn cael ei drefnu gan weithiwr proffesiynol cymwys a elwir yn Ymarferydd Ansolfedd, a fydd yn gweithio gyda chi i lunio cynnig addas i’w gynnig i’ch credydwyr iddynt ei gymeradwyo.

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio IVA

Gellir defnyddio IVA i helpu i dalu unrhyw ddyledion cyffredin, yn cynnwys:

  • gorddrafftiau
  • benthyciadau personol
  • diffygion morgais
  • ôl-ddyledion y Dreth Gyngor
  • cardiau credyd a chardiau siop
  • catalogau a hurbwrcasu
  • arian sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM.

Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio IVA i dalu, er enghraifft:

  • cynhaliaeth
  • ôl-daliadau rhent
  • ôl-daliadau cynhaliaeth plant
  • dirwyon llys ynadon
  • mathau penodol o gyllid car
  • a’ch morgais a dyledion eraill a ddiogelwyd yn erbyn eich cartref.

Gwiriwch gydag asiantaeth cyngor ar ddyledion beth arall a allai fod wedi’i eithrio neu’i gynnwys.

Sut i sefydlu IVA

Mae’n rhaid i chi sefydlu IVA trwy Ymarferydd Ansolfedd.

Mae yna ffioedd i’w talu i Ymarferydd Ansolfedd sydd fel arfer yn cael eu tynnu o’ch taliadau misol.

Ni ddylech orfod talu unrhyw daliadau ymlaen llaw cyn sefydlu’ch IVA.

Mae IVA yn gytundeb gyfreithiol rhwym felly bydd angen i chi sicrhau ei fod yn addas i chi.

Mae’n bwysig iawn cael cyngor am ddim ar ddyledion cyn i chi gymryd un i drafod a oes opsiynau eraill ar gael i’ch helpu i reoli’ch dyledion.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ble i fynd er mwyn cael cyngor am ddim ar ddyledion.

Nol i’r brig

Gorchymyn Gostwng Dyled

Gorchymyn swyddogol yw Gorchymyn Gostwng Dyled sy’n rhewi’ch dyledion am flwyddyn.

Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gellir ei roi, ac ar gyfer dyledion penodol.

Mae’n costio £90 i drefnu Gorchymyn Gostwng Dyled. Fodd bynnag, mae angen i chi fod wedi talu’r ffi yn llawn cyn i rywun edrych ar eich cais.

Pwy all wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?

Gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled os:

  • oes gennych ddyledion cymwys sy’n llai na £20,000 – gweler yr adran nesaf ar gyfer beth sy’n cyfrif fel dyledion cymwys
  • ydych ar incwm isel a bod gennych £50 neu lai dros ben bob mis ar ôl talu’ch biliau cartref
  • nad ydych yn berchen ar bethau o werth neu fod gennych lai na £300 mewn cynilion (sylwer bod gwerth yn parhau i gael ei gyfrif ar dŷ sydd ag ecwiti negyddol)
  • nad ydych yn berchen ar gerbyd sy’n werth mwy na £1,000
  • ydych wedi byw, wedi cael eiddo neu wedi bod yn berchen ar fusnes yn y tair blynedd diwethaf yng Nghymru, Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon.

Ni allwch wneud cais am un os:

  • yw eich credydwyr wedi gwneud cais i’ch gwneud yn fethdalwr ond nad yw’r gwrandawiad wedi cael ei gynnal eto (oni bai bod eich credydwyr yn cytuno y gallwch barhau i wneud cais)
  • ydych wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad
  • ydych wedi deisebu am fod yn fethdalwr ond nad yw’ch deiseb wedi cael ei thrafod eto – fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os ydych wedi deisebu am fod yn fethdalwr a bod y barnwr wedi’ch cyfeirio am orchymyn gostwng dyled yn lle
  • ydych yn fethdalwr ar hyn o bryd
  • oes gennych Drefniant Gwirfoddol Unigol neu’n gwneud cais am un
  • ydych wedi cael Gorchymyn Gostwng Dyled (gweler yr adran nesaf) yn y chwe blynedd diwethaf
  • ydych wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiad ar Ostwng Dyled.

Dyledion cymwys

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhent
  • benthyciadau
  • gorddrafftiau
  • cardiau credyd
  • gordaliadau budd-dal
  • biliau ffôn a chyfleustodau
  • cytundebau credyd mewn siop ac
  • arian sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM.

Nid ydynt yn cynnwys cynhaliaeth a chynnal plant, dirwyon llys a gorchmynion atafaelu na benthyciadau myfyrwyr.

I weld rhestr lawn o eithriadau, gwiriwch gydag elusen ddyledion.

Sut i wneud cais am orchymyn gostwng dyled

Dim ond trwy unigolyn cymeradwy a elwir yn gyfryngwr y gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion yn gyfryngwyr cymeradwy sy’n gallu’ch helpu chi.

Pan fyddwch wedi gwneud cais ac wedi talu’r ffi, ac os ydych yn gymwys, bydd Derbynnydd Swyddogol yn cymeradwyo’r Gorchymyn Gostwng Dyled.

Siaradwch â gwasanaeth sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion cyn penderfynu ai dyma’r opsiwn i chi.

Nol i’r brig

Methdalu

Mae methdalu yn ffordd o ddelio â dyledion na allwch eu talu.

Tra byddwch yn fethdalwr, gellir defnyddio unrhyw asedau sydd gennych i dalu’ch dyledion.

Ar ôl cyfnod o amser (blwyddyn fel arfer), mae’r rhan fwyaf o’ch dyledion yn cael eu dileu a gallwch gychwyn o’r cychwyn.

Darganfyddwch fwy am fethdalu yng Ngogledd Iwerddon ar wefan NI DirectYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Gwneud cais i fod yn fethdalwr

I wneud cais i fod yn fethdalwr yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gwblhau Deiseb.

Mae hyn yn golygu rhestru’r rhesymau pam eich bod yn gwneud cais i fod yn fethdalwr a Datganiad Ariannol lle rydych yn rhestru’ch holl asedau a dyledion.

Mynd i’r llys a’r ffioedd

Mae tair ffi y bydd yn rhaid i chi eu talu pan ewch i’r llys:

  • Ffi’r llys, sef £151. Dan rai amgylchiadau gall y llys ildio’r ffi hon; er enghraifft, os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol.
  • Blaendal o £525 tuag at gostau gweinyddu’ch methdaliad, a delir i’r Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi.
  • Y ffi sy’n daladwy i gyfreithiwr rydych yn tyngu llw o’i flaen, ar gynnwys eich datganiad materion ariannol. Dylech ddisgwyl talu tua £7 am y gwasanaeth hwn.

Yna, bydd y llys yn gwneud un o’r canlynol fel arfer:

  • Cyflwyno gorchymyn methdalu.
  • Gofyn am fwy o wybodaeth cyn dod i benderfyniad.
  • Gwrthod eich deiseb, ac o bosibl yn awgrymu dewis arall yn lle methdalu.

Pan fyddwch wedi cael eich datgan yn fethdalwr

Pan fyddwch wedi cael eich datgan yn fethdalwr, rhaid i chi drosglwyddo unrhyw asedau a’ch cyfran ariannol o’ch cartref i ymddiriedolwr penodedig.

Derbynnydd Swyddogol neu Ymarferwr Ansolfedd fydd yr unigolyn hwn fel arfer.

Bydd maint eich asedau yn pennu pwy fydd yn rheoli’ch dyled.

Rhaid i’ch credydwyr wneud cais ffurfiol i’r ymddiriedolwr am yr arian sy’n ddyledus iddynt.

Ni allwch wneud taliadau uniongyrchol iddynt, ac ni allant ofyn i chi am daliadau.

Nol i’r brig

Ar gyfer pwy mae methdalu’n addas?

Os nad oes gennych ffordd wirioneddol o dalu’ch dyledion, yna gallai methdalu fod yn opsiwn addas.

Fodd bynnag, peidiwch â gwneud y penderfyniad ar eich pen eich hun. Siaradwch ag asiantaeth sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion yn gyntaf.

Darllenwch ein canllaw ar Ble i gael cyngor am ddim ar ddyledion.

Nol i’r brig

Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol

Os oes gennych gyfandaliad a fyddai’n talu rhan o’ch dyledion, gallech ofyn i’ch credydwyr a fyddent yn derbyn rhandaliad ac yn gadael i chi ddileu’r gweddill.

Fel arall, gallent ganiatáu i chi wneud taliadau misol am gyfnod a gytunir ac yna bydd y balans yn cael ei ddileu.

Nol i’r brig

Dileu taliadau

Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad oes gennych unrhyw incwm, cynilion neu asedau ar gael – ac y gallwch ddangos i’ch credydwyr bod eich amgylchiadau’n annhebygol o wella yn y dyfodol (er enghraifft, os ydych yn ddifrifol wael) - efallai y bydd modd gofyn i’ch credydwyr ddileu eich dyledion.

Siaradwch ag elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion i weld a allai’r ateb hwn fod yn addas ar eich cyfer chi. 

Nol i’r brig

Mwy o help os ydych chi’n cael trafferthion

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, gallai cymorth arall fod wrth law i helpu â threuliau bob dydd neu wariant arall.

Mae llawer o fudd-daliadau ar gael i bobl ar incymau isel, ond mae’r system o fudd-daliadau’n newid felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gymwys i chi. 

Darllenwch ein canllaw Help gyda chostau byw. Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am eich hawliadau ar wefan Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Delio gyda dyled

Ffyrdd o dalu dyledion

  • Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr
  • Beth yw Cynllun Rheoli Dyled (DMP)?
  • Beth yw Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO)?
  • Beth yw Gorchymyn Gweinyddu?
  • Beth yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)?
  • Y ffyrdd gorau i dalu dyledion – Cymru a Lloegr
  • Y ffyrdd gorau o dalu o dalu eich dyledion – Yr Alban
  • Opsiynau ar gyfer clirio’ch dyled yng Ngogledd Iwerddon
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Ffyrdd o dalu dyledion

  • Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr
  • Beth yw Cynllun Rheoli Dyled (DMP)?
  • Beth yw Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO)?
  • Beth yw Gorchymyn Gweinyddu?
  • Beth yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)?
  • Y ffyrdd gorau i dalu dyledion – Cymru a Lloegr
  • Y ffyrdd gorau o dalu o dalu eich dyledion – Yr Alban
  • Opsiynau ar gyfer clirio’ch dyled yng Ngogledd Iwerddon
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau