Darganfyddwch fwy am sut mae Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) yn gweithio a pha ddyledion mae’n eu cwmpasu. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion.
Pa ddyledion allwch chi eu talu gydag IVA?
Gallwch ddefnyddio IVA i helpu talu unrhyw ddyledion cyffredin, yn cynnwys:
- gorddrafftiau
- benthyciadau personol
- dyledion catalog
- ôl-ddyledion Treth Cyngor
- dyledion hurbwrcasu
- diffygion morgais
- cardiau credyd a chardiau siop
- arian sy’n ddyledus gennych i Gyllid a Thollau EM, fel treth incwm neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Pa ddyledion na allwch chi eu talu gydag IVA?
Ni allwch ddefnyddio IVA i dalu:
- benthyciadau myfyrwyr
- dirwyon llys ynadon
- mathau penodol o gyllid car
- ôl-ddyledion cynhaliaeth plentyn neu Gynnal Plant
- benthyciadau Cronfa Gymdeithasol
- ôl-ddyledion Trwydded Teledu.
Ôl-ddyledion morgais a rhent
Os ydych yn cynnwys ôl-ddyledion morgais a rhent a benthyciadau eraill wedi eu diogelu yn erbyn eich eiddo mewn IVA, rhaid i’ch credydwyr gytuno i hyn. Yn aml ni fyddant yn cytuno i wneud hynny.
Gwiriwch gyda chynghorydd dyledion beth allwch ac na allwch ei gynnwys mewn IVA. Os oes gennych ôl-ddyledion morgais neu rent, edrychwch a oes atebion dyled eraill ar gael i chi ddelio â'r ad-daliadau hyn.
Sut mae IVA yn gweithio
Mae Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) yn rhewi’ch dyledion ac yn caniatáu i chi eu talu’n ôl dros gyfnod penodol.
Caiff unrhyw arian sy’n ddyledus gennych wedi’r cyfnod hwn ei ddileu.
Gallwch wneud cais am IVA os gallwch fforddio talu rhywbeth tuag at eich dyledion ond nid y swm llawn o reidrwydd y bydd eich credydwyr ei eisiau. Yn nodweddiadol, mae hyn oddeutu £70 y mis ar ôl i chi ofalu am gostau hanfodol. ond bydd yn amrywio rhwng darparwyr IVA
Bydd angen i chi ddangos bod gennych incwm rheolaidd tymor hir oherwydd bydd yr ad-daliadau’n para cyfnod dros 60 neu 72 o fisoedd (pump i chwe blynedd).
Os oes gennych gyfandaliad i’w dalu tuag at eich dyledion, efallai y byddwch yn gymwys i gael IVA hefyd.
Os ydych chi'n berchennog tŷ, yn ail cyn blwyddyn olaf yr IVA, efallai y gofynnir i chi ail-forgeisio'ch tŷ a defnyddio'r arian ychwanegol tuag at ad-daliad. Os gwnewch hyn, byddai'r cyfnod IVA wedyn yn gorffen flwyddyn yn gynnar neu ar ôl i chi ail-forgeisio
Mae’r IVA yn cael ei drefnu gan weithiwr proffesiynol cymwys a elwir yn Ymarferwr Methdaliad. Byddant yn gweithio gyda chi i lunio cynnig i’w gyflwyno i’ch credydwyr iddynt ei gymeradwyo.
Mae’n dibynnu cryn dipyn ar beth yw eich amgylchiadau o ran a fydd eich credydwyr yn cytuno i’r cynllun. Ond os yw o leiaf 75% o'ch credydwyr yn cytuno i'r cynnig, mae'n debygol y bydd IVA yn cael ei gymeradwyo - hyd yn oed os yw rhai credydwyr yn anghytuno
Mae IVA yn gytundeb sy’n gyfreithiol rwymol rhyngoch chi a’r bobl y mae arnoch arian iddynt. Mae hyn yn golygu unwaith y byddwch wedi ei lofnodi, ni fyddwch chi na’ch credydwyr yn gallu dod allan o’r cytundeb. Ac os ydych yn tynny allan, mae’n debygol y bydd cosbau sylweddol.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Sut i sefydlu IVA
Rhaid i chi sefydlu IVA trwy ymarferwr methdaliad.
Efallai y bydd taliadau ymlaen llaw i'w talu hefyd cyn i'ch IVA gael ei sefydlu. Gall y rhain fod yn wahanol iawn rhwng darparwyr IVA. Byddwch hefyd yn talu taliad misol i oruchwylio'r IVA.
Mae yna hefyd ffioedd i'w talu i'r ymarferydd ansolfedd, a gymerir fel arfer o'ch taliadau misol.
Mae hi bob amser yn well cael cyngor gan wasanaeth cynghori ar ddyledion am ddim. Dylent hefyd allu argymell darparwr IVA i chi a'ch helpu i ddeall y gwahanol ffioedd a thaliadau os ydych am ddewis un eich hun.
Beth os na allaf gadw i fyny gyda thaliadau i mewn i IVA?
Os na allwch gadw i fyny â thaliadau, gall yr ymarferydd ansolfedd ganslo eich IVA a gwneud cais i'ch gwneud yn fethdalwr. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw pob IVA sydd wedi'i ganslo yn arwain at fethdaliad - dim ond opsiwn y gall credydwyr unigol ei ystyried os yw'r IVA yn methu yw hwn.
Cael cyngor am ddim am sefydlu IVA
Mae bob amser yn well trafod pethau gyda chynghorydd dyledion profiadol cyn i chi benderfynu cymryd IVA.
Mae hyn oherwydd bod y datrysiad dyledion sydd orau i chi yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol ac efallai nad hwn fydd.
Gall cynghorwyr dyledion eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir fel y bydd y rhan fwyaf o’ch arian yn mynd ar dalu eich dyledion. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn rhydd o ddyledion yn gynt nag yr ystyrioch.
Bydd cynghorydd dyledion am ddim:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- byth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt efallai
- yn gwirio eich bod wedi gwbeud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i chi
- bob amser yn gwneud yn siwr eich bod yn gyffyrddus gyda’ch penderfyniad.
Mae tri chwarter y bobl sy'n cael cyngor ar ddyledion yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid wedi hynny.
Gallwch ddarganfod cyngor ar ddyledion o safon, am ddim, nawr trwy ddefnyddio eich teclyn lleoli cyngor ar ddyledion.