Os ydych chi’n dymuno cael benthyg arian, a thalu swm penodol yn ôl bob mis, mae benthyciad personol yn un opsiwn
Beth yw benthyciad personol?
Mae benthyciadau personol ar gael gan fanc a ddarparwr arall ac nad ydynt wedi cael eu gwarantu yn erbyn unrhyw ased, megis eich cartref.
Maent hefyd yn cael eu galw’n fenthyciadau heb eu gwarantu..
Benthyciadau personol – y manteision
-
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael benthyg mwy o arian nag y byddech chi’n cael ei fenthyg gyda cherdyn credyd.
-
Ar falansau mwy, maent fel arfer yn codi cyfradd is o log o’i gymharu â cherdyn credyd neu ddulliau eraill o credyd.
-
Bydd eich trefniadau ad-dalu hefyd fel arfer yn swm sefydlog pob mis, sy’n gallu ei gwneud yn haws i gyllidebu.
-
Bydd y gyfradd llog y byddwch chi’n ei thalu ar fenthyciad personol hefyd yn sefydlog (ond ddim bob amser – gwiriwch ei bod yn sefydlog ac nid yn amrywiol).
-
Gallwch ddewis dros faint o amser yr hoffech chi ad-dalu’r benthyciad. Cofiwch y bydd hyd benthyciad yn effeithio ar y llog a godir arnoch chi.
-
Gallwch gyfuno sawl dyled i greu un benthyciad personol, gan leihau eich costau ad-dalu misol o bosibl. Ond byddwch yn ofalus, oherwydd gallai hyn olygu ymestyn hyd y benthyciad, a thalu mwy at ei gilydd yn sgil hynny.
Mae rhai benthycwyr yn hysbysebu na fyddwch yn talu tâl ad-daliad cynnar (ERC) neu ffi os byddwch yn talu'ch benthyciad yn gynt na'r hyn y cytunwyd arno. Ond mae'n debygol y codir hyd at ddau fis o log arnoch o hyd ar ba bynnag symiau a ad-dalwyd gennych yn gynnar.
O dan y Gyfarwyddeb Credyd Defnyddiwr, gall bron pawb a gymerodd fenthyciadau o fis Chwefror 2011 ymlaen wneud setliadau cynnar rhannol neu lawn o hyd at £8,000 y flwyddyn cyn cael eu taro â ffioedd cosb.
Os oes mwy na blwyddyn ar y cytundeb benthyciad i fynd, pan fydd mwy na £8,000 wedi'i dalu, yr uchafswm tâl cosb y gellir ei godi yw 1% o'r swm sy'n cael ei ad-dalu'n gynnar.
Os gwneir y math hwnnw o ordaliad ym mlwyddyn olaf y cytundeb credyd, ni all y gosb fod yn fwy na 0.5%.
Gofynnwch i’ch benthyciwr am ‘ddatganiad setliad’ yn dangos faint y byddwch yn ei arbed trwy ad-dalu’n gynnar.
Darganfyddwch Sut i leihau cost eich benthyciadau personol
Benthyciadau personol – yr anfanteision
-
Gan y gallai'r gyfradd llog ostwng po fwyaf y byddwch chi'n ei fenthyg, efallai y cewch eich temtio i gael benthyciad mwy na'r hyn rydych ei angen.
-
Nid yw'r mwyafrif o fanciau yn benthyca llai na £1,000 neu am gyfnod byrrach na 12 mis. Felly efallai y byddwch chi'n benthyca mwy nag sydd ei angen arnoch chi, neu'n gallu ei fforddio.
Beth yw cyfnod ailystyried benthyciad personol?
Byddwch yn cael cyfnod ailystyried 14 diwrnod naill ai o ddyddiad llofnodi cytundeb y benthyciad neu o’r dyddiad y cawsoch gopi o’r cytundeb, pa un bynnag yw’r diweddaraf. Mae hyn yn berthnasol i bob cytundeb credyd a wneir yn bersonol, ar-lein neu dros y ffôn.
Os byddwch chi’n canslo, bydd gennych chi hyd at 30 diwrnod i ad-dalu’r arian.
Dim ond ar gyfer y cyfnod pan oedd gennych chi’r credyd y gellir codi llog arnoch – bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw ffioedd atodol.
Beth i gadw llygad amdano gyda benthyciad personol
Efallai na fyddwch yn cael y gyfradd llog a hysbysebwyd.
Yn aml fe welwch APR cynrychiadol (neu gyfradd ganrannol flynyddol).Ychydig dros hanner y bobl sy’n ymgeisio ar gyfer ac yn derbyn y benthyciad gael y gyfradd yma neu well. Ond gallai hynny olygu bod hyd at hanner yn talu mwy.
Os nad yw’ch statws credyd yn berffaith, efallai y cewch eich derbyn ar gyfer benthyciad ond y codir llog arnoch ar gyfradd uwch o lawer.
Gofynnwch i’r darparwr am ddyfynbris cyn i chi ymgeisio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd
Mae gan rai benthyciadau personol gyfraddau llog amrywiol, sy’n golygu y gallant fynd i fyny neu i lawr
Os mai dim ond prin allu fforddio’r taliadau cychwynnol ydych chi, dylech osgoi’r math hwn o fenthyciad rhag ofn iddyn nhw godi
Cadwch lygad ar agor am unrhyw ffioedd trefnu, a fydd yn gwneud benthyciad yn ddrytach.e.
Cofiwch eu cynnwys wrth gyfrifo faint y mae’r benthyciad yn mynd i’w gostio ichi.
Bydd ffioedd trefnu wedi’u cynnwys yn yr APR – dyma pam y dylech chi gymharu APR yn hytrach na chyfradd llog yn unig.
Os ydych chi eisoes yn ei chael yn anodd talu eich biliau ac ad-dalu dyledion eraill, ddylech chi ddim ysgwyddo dyledion ychwanegol (fel benthyciad personol).
Sut mae cael y cynnig gorau ar gyfer benthyciad personol
- Peidiwch â bodloni ar y gyfradd gyntaf a gynigir ichi gan eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Chwiliwch o gwmpas i weld pa ddarparwyr sy’n cynnig yr APR rhataf.
- Cymharwch yr APR (ond cofiwch y bydd yn rhaid ichi dalu rhagor o bosibl os oes gennych chi hanes credyd gwael). Gall gwefan gymharu eich helpu i wneud hyn.
- Gofynnwch i’r darparwr am ddyfynbris cyn i chi ymgeisio. Os oes rhaid iddynt wneud gwiriad credyd, holwch a allant gyflawni ‘chwiliad dyfyniad’ (neu ‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn’) - nad yw’n gadael marc ar eich cofnod credyd yn hytrach na chwiliad cais (sydd yn).
- Ystyriwch fenthyciadau cyfoed i gyfoed, yn arbennig os oes gennych chi statws credyd da. Efallai y bydd y benthyciadau hyn yn cynnig cyfraddau llog is ac ar gael am symiau llai. Maent i’w gweld yn y rhan fwyaf o dablau cymharu.
Darganfyddwch fwy am Benthyca drwy lwyfan cyfoed i gyfoed
Gwiriwch y cyfraddau benthyciad personol gorau Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Benthyciadau personol wedi’u gwarantu
Os ydych chi’n berchen ar eich tŷ eich hun, efallai y byddwch yn cael eich temtio i ystyried benthyciad wedi’i warantu.
Fodd bynnag, mae hwn yn ddewis llawer mwy peryglus - gan fod yr arian wedi ei warantu yn erbyn eich cartref.
Mae hyn yn golygu, os nad ydych chi’n gallu ad-dalu’r benthyciad, gallai’r darparwr eich gorfodi i werthu eich cartref i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych chi.