Gall fod yn demtasiwn gofyn i ffrindiau neu berthnasau roi benthyg arian i chi. Ond mae angen i chi feddwl yn ofalus a allwch fforddio talu’r arian yn ôl, ac a allwch ymdopi â’r hyn allai ddigwydd os ân allwch.
Beth i’w ystyried cyn benthyg gan deulu a ffrindiau
Gall cael benthyg gan aelod o’r teulu ddarparu arian i chi mewn argyfwng a’ch helpu i osgoi ffyrdd o gael benthyg arian sydd â chyfraddau llog uchel iawn, fel benthyciadau diwrnod cyflog neu fenthyciad stepen drws (a elwir hefyd yn gredyd cartref).
A ydych chi, a'r unigolyn rydych un ystyried benthyca ganddynt, yn sicr na fyddai'n niweidio'ch perthynas os na fyddwch yn ad-dalu neu'n cymryd mwy o amser i ad-dalu'r swm cyfan a fenthycwyd? Yna gallai hyn fod yn opsiwn da (yn enwedig os na chodir llog arnoch am y benthyciad).
Fodd bynnag, gallai fod risg y gallai hyn niweidio neu ddod â'r berthynas i ben hyd yn oed os na fyddwch yn ad-dalu neu'n cymryd mwy o amser i ad-dalu'r hyn rydych yn ei fenthyg.
Os mai chi yw’r benthyciwr
Gwnewch gyllideb
Os byddwch yn trefnu benthyca o’ch partner, aelod o’ch teulu neu ffrind, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cyllideb cyn dechrau. Bydd hyn yn helpu i chi weld faint o arian sy’n weddill ar ôl ichi dalu’r costau byw sydd gennych ar hyn o bryd.
Mae’n syniad da i chi edrych ar gyfriflenni banc eich cyfrif cyfredol a’ch cardiau credyd y tri mis diwethaf (neu fwy er mwyn cynnwys costau un tro) cyn i chi wneud eich cyllideb.
Ystyriwch y risg
Beth os na allwch fforddio ad-dalu’r benthyciad?
Os na allwch chi fforddio’r ad-daliadau mae hynny bob amser yn achosi straen. Ond gall fod hyd yn oed yn waeth os yw’n golygu y bydd rhywun sy’n agos atoch ar ei golled, a gallai niweidio’r berthynas.
Dyna pam y mae’n bwysig cyfrifo’ch cyllideb, a gwneud cynllun ad-dalu newydd cyn gynted ag y byddwch yn gweld eich bod yn mynd i drafferthion.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r person gwnaethoch fenthyg ganddynt beth sy’n digwydd cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion, mae help ar gael.
Ysgrifennwch gytundeb
Mae'n syniad da cael rhywbeth yn ysgrifenedig, gan nodi'n glir faint fydd yn cael ei ad-dalu a phryd.
Mae hefyd yn bwysig cadw cofnodion o bryd y gwneir yr ad-daliadau, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod yn union faint sy'n dal i fod heb ei dalu.
Gall cael cytundeb ffurfiol ar waith eich diogelu. Mae'n anodd meddwl amdano, ond os bu farw'r benthyciwr gyda'r ddyled heb ei thalu - bydd angen prawf arnoch i hawlio o'i ystâd.
Os oes swm mawr o arian yn gysylltiedig, mae'n bwysig i gael cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd i wneud y trefniant yn fwy ffurfiol.
Ffyrdd eraill o gael benthyg arian
Os nad ydych yn siŵr a ddylech gael benthyg arian gan ffrind neu aelod o’r teulu, mae opsiynau credyd eraill ar gael – hyd yn oed os oes gennych statws credyd gwael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gwyliwch rhag ffrindiau ffug
Byddwch yn wyliadwrus iawn os ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan rywun rydych chi'n ei adnabod yn achlysurol - er enghraifft, o fod wedi gweld o gwmpas yn lleol neu sy'n ffrind i ffrind - gallen nhw fod yn ddarparwr benthyciadau didrwydded a gallai'r benthyciad gostio llawer mwy i chi nag yr ydych yn ei feddwl.
Darganfyddwch fwy am Ddarparwyr benthyciadau didrwydded a sut i'w hadnabod
Os mai chi yw'r benthyciwr
Cyn i chi roi benthyg arian
Os bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn gofyn i chi am help ariannol, gall fod yn anodd iawn gwrthod.
Ond does dim pwrpas mynd i anawsterau eich hun oherwydd bod arnoch eisiau helpu, nac oherwydd eich bod yn teimlo’n ddrwg am ddweud na. Mae hyn yn arbennig o wir os nad ydych yn siŵr a allwch naill ai fforddio rhoi benthyg iddynt neu a allech ymdopi a’r effaith o beidio a chael y benthyciad yn ôl.
Hefyd, nid ydych eisiau colli ffrind da, torri i fyny gyda phartner neu cwympo allan gydag aelod o'r teulu oherwydd arian.
Cymerwch yr amser i weithio allan eich cyllideb eich hun cyn benthyca i unrhyw un.
Peidiwch â bod â chywilydd i annog y sawl sy'n benthyca i weithio allan eu cyllideb hefyd.
Bydd yn llai lletchwith gwneud hyn cyn benthyca'r arian iddynt yn hytrach na chael nhw i wneud hyn os ydynt yn cael trafferthion eich ad-dalu ar ôl benthyg yr arian.
Beth fyddwch yn ei wneud os na all y benthyciwr dalu?
Efallai eich bod yn hyderus y bydd y person rydych wedi rhoi benthyg arian iddynt yn gallu ei dalu'n ôl yn llawn. Ond mae angen i chi ystyried beth fyddech yn ei wneud os na allant wneud hynny.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad am, ac yn cytuno ar beth fyddai'n digwydd pe bai'r benthyciwr yn colli ei swydd ac na allai dalu'r arian yn ôl, neu pe bai angen yr arian yn ôl arnoch ar frys.
Mae sut y gallech ddelio â'r math hwn o sefyllfa yn benderfyniad cwbl bersonol. Ond mae'n un y mae'n rhaid i chi feddwl amdano cyn benthyca arian i rywun rydych chi'n ei adnabod, waeth pa mor siŵr y byddech y byddant yn eich ad-dalu.