Mae llawer o gyplau yn cymryd dyled neu fenthyciad ar y cyd. Fel cwpl, efallai y gallwch fenthyg mwy o arian. Ond mae'n gam difrifol oherwydd gellir gofyn i’r un ohonoch ad-dalu'r ddyled lawn os nad yw'r person arall yn gallu.
Pa fathau o ddyledion y gellir eu cymryd ar y cyd?
Gellir cymryd nifer o fathau gwahanol o ddyledion ar y cyd, gan gynnwys:
- benthyciadau wedi’u gwarantu – fel morgais
- chyfrifon banc ar y cyd sydd â chyfleuster gorddrafft
- benthyciadau heb eu gwarantu – fel benthyciad personol gan fanc neu ddarparwr benthyciadau arall.
Pwy sy'n atebol am ddyled ar y cyd?
Awgrym da
Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc ar y cyd wedi’u sefydlu mewn modd sy’n caniatáu i un person wario arian heb ganiatâd y person arall. Ond gallwch gael cyfrif lle mae rhaid i bob un ohonoch gytuno cyn y gellir tynnu unrhyw arian o’r cyfrif.
Pan fyddwch yn cymryd dyled neu fenthyciad ar y cyd â rhywun arall efallai eich bod yn meddwl mai dim ond am eich ‘hanner’ neu’ch cyfran chi rydych yn gyfrifol, ond nid yw hynny’n wir.
Trwy lofnodi cytundeb credyd (contract) am fenthyciad neu orddrafft gyda rhywun arall, mae pob ochr yn cytuno i dalu’r ddyled gyfan yn ôl petai barti arall yn methu neu wrthod gwneud hynny. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pwy sydd wedi gwario’r arian na phwy sydd bellach yn berchen ar yr eitem neu’r eitemau rydych wedi’u prynu â’r benthyciad neu’r gorddrafft. Nid yw ychwaith yn gwneud gwahaniaeth a ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu os nad ydych mewn perthynas o gwbl hyd yn oed.
Mewn iaith gyfreithiol, gelwir hyn yn 'atebolrwydd cyd ac unigol'
Hynny yw, mae cael unrhyw gytundeb credyd ar y cyd yn golygu eich bod chi'ch dau yn gyfrifol ar y cyd am gydymffurfio ag ef a thalu'r hyn sy'n ddyledus arno.
Felly, os na fydd y person arall yn talu unrhyw beth tuag at y ddyled, gallech fod â dyled fawr ar eich dwylo.
Er enghraifft:
- os bydd farw eich gŵr, gwraig neu bartner, byddai angen i chi ad-dalu unrhyw forgais ar y cyd o hyd, ac
- os byddwch chi a’ch partner yn gwahanu, gall eich partner ychwanegu at ddyled ar gyfrif banc ar y cyd os oes cyfleuster gorddrafft a’ch gadael â’r bil cyfan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut i ymdrin â dyledion sy’n achosi problem ar ôl gwahanu
Llunio cynllun ad-dalu ar gyfer eich benthyca borrowing
Beth am gardiau credyd - a ellir eu tynnu allan ar y cyd?
Yn y Deyrnas Unedig, ni ellir cymryd cardiau credyd ar y cyd – hyd yn oed os oes gennych chi a’ch partner gerdyn yr un.
Dim ond un person sydd bob amser yn gyfrifol am unrhyw beth sydd wedi'i fenthyg ar y cerdyn. Dyma'r prif ddeiliad cerdyn – yr unigolyn sydd wedi llofnodi'r cytundeb credyd.
Ond efallai y bydd y prif ddeiliad cerdyn yn gadael i rywun arall gael cerdyn credyd ar yr un cyfrif.
Nid oes gan ddeiliad eilaidd y cerdyn gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud unrhyw daliadau i'r cwmni cardiau credyd.
A all cais ar y cyd wella’ch siawns o gael credyd?
Os gwnewch gais am fenthyciad â'ch gilydd, bydd y benthyciwr yn edrych ar eich dau gofnod credyd wrth asesu fforddiadwyedd. Mae hyn yn golygu y gallai fod gennych well siawns o gael eich derbyn.
Fodd bynnag, bydd y benthyciad hefyd yn ymddangos ar adroddiad credyd eich dau. Mae hyn yn golygu os bydd unrhyw broblemau ad-dalu, fel taliadau hwyr neu fethu taliad, bydd eich statws credyd yn cael ei effeithio.
Gallai hyn effeithio ar eich gallu i fenthyg arian yn y dyfodol.
Yn gweithredu fel gwarantwr
Os yw rhywun – rhiant fel arfer – yn barod i weithredu fel gwarantwr i chi, gall hyn eich helpu i gael benthyciad neu forgais.
Mae bod yn warantwr yn golygu mai chi sy'n gyfrifol am ad-dalu'r benthyciad, os nad yw'r person a gymerodd y benthyciad yn gallu talu neu’n gwrthod talu.
Nid yw'n rhywbeth y dylech ymrwymo iddo'n ysgafn gan fod risgiau ariannol difrifol i'r unigolyn sy'n gwarantu'r benthyciad.
Darganfyddwch fwy am fod yn warantwr ar wefan ExperianYn agor mewn ffenestr newydd
Dyled fel cam-drin ariannol
Os yw'ch partner yn trefnu dyledion yn eich enw chi, neu'n pwyso arnoch i gofrestru am gredyd, cam-drin ariannol yw hwn ac nid oes rhaid i chi ddioddef hynny. Mae help a chefnogaeth ar gael.