Efallai bod gennych ddyledion gyda’ch cyn bartner, neu efallai bod gennych ddyledion yn eich enw eich hun. Mae’n bosibl y bydd arian yn brin tra byddwch yn cael trefn ar eich arian ar ôl gwahanu, ond peidiwch ag anwybyddu problemau dyled. Cyntaf yn y byd y byddwch yn ymdrin â nhw, hawsaf yn y byd fydd hi.
Penderfynu pa ddyledion i’w talu gyntaf
Os nad oes gennych ddigon o arian i dalu’r taliadau ar eich benthyciadau, cardiau credyd, biliau neu gostau tai (er enghraifft morgais neu rent), mae’n bwysig eu blaenoriaethu.
Mae’r dyledion sydd angen i chi eu talu yn gyntaf yn cynnwys eich:
- rhent neu forgais
- Trethi neu Dreth Cyngor
- biliau nwy a thrydan
- Cynhaliaeth plant
- dirwyon llys
- cyllid car (os oes gennych un)
- benthyciadau diogel
- cyllid ar gyfer eitemau hanfodol
- Trwydded Teledu.
Mae hyn oherwydd bod y rhain yn ddyledion ‘blaenoriaeth’ - sy'n golygu os na fyddwch yn eu talu gyntaf, gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol. Gallwch gael eich dwyn ger bron y llys neu golli eich cartref.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu eich dyledion
Cael trefn ar fenthyciadau a dyledion cardiau credyd
Ar ôl i chi drefnu i dalu eich dyledion â blaenoriaeth, dylech gyfrifo faint allwch ei dalu tuag at ddyledion eraill. Gallai’r rhain gynnwys arian sy’n ddyledus ar eich:
- cardiau credyd neu siop
- benthyciadau banc
- dyled hurbwrcas a chatalog.
- gorddrafft
- benthyciad personol
- bil dŵr
- taliadau siop neu gatalog
- benthyciadau gan ffrindiau a theulu.
I’ch helpu i gyfrifo faint allwch chi ffoddio ei dalu, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr CyllidebYn agor mewn ffenestr newydd hawdd i’w ddefnyddio ac sydd am ddim.
Cysylltwch â’r darparwr benthyciadau a dweud wrthynt faint y gallwch ei dalu. Os yw’n well gennych, gallwch gael cyngor am ddim gan elusen cyngor ar ddyledion. Efallai y byddant yn gallu gofyn i’r cwmnïau rewi’r llog tra byddwch yn penderfynu ar gynllun ad-dalu, ond nid oes unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn digwydd.
Dyledion ar y cyd – beth ddylech ei wneud?
Wrth ystyried unrhyw ddyledion ar y cyd sydd gennych – er enghraifft benthyciad banc, gorddrafft neu forgais ar y cyd, rydych eich dau fel arfer yn atebol am ad-dalu’r swm cyfan.
Mae hynny’n golygu, os nad yw eich cyn bartner yn talu eu rhan, y gallai’r banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i chi wneud y taliadau i gyd. Cysylltwch â nhw i ddweud eich bod wedi gwahanu a gweld os gallwch chi:
- osod rhai cyfyngiadau ar y cyfrif fel na all eich cynbartner fynd i fwy o ddyled, neu
- ddod i gytundeb fel eu bod yn derbyn taliadau is os na allwch ad-dalu yn llawn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Amddiffyn eich hun rhag cam-drin ariannol
Gwneud trefniant gyda’ch cyn bartner
Os oes gennych fenthyciad neu forgais ar y cyd gyda’ch cyn bartner ac na fydd y banc yn gadael i chi wahanu’r benthyciad, dylech geisio cytuno gyda’ch cyn bartner sut y byddwch yn ei ad-dalu.
Mae’r ddau ohonoch yn atebol am dalu unrhyw fenthyciadau ar y cyd. Os na fydd un neu'r ddau ohonoch yn cadw'r taliadau i fyny, gallai effeithio ar eich statws credyd a'ch gallu i fenthyca yn y dyfodol. Efallai yr hoffech chi:
- Gytuno gyda’ch cyn bartner y byddwch yn parhau i dalu o gyfrif ar y cyd.
- Sefydlu trefniant fel bod un ohonoch yn cytuno i dalu’r banc neu gwmni benthyciadau ond yn derbyn cyfraniad gan y llall. Os byddwch yn mynd am y dewis hwn, ceisiwch gytuno i sefydlu archeb sefydlog ar gyfer y taliadau i’ch cyn bartner neu gan eich cyn bartner. Fe fyddwch yn gwybod wedyn y byddant yn cael eu talu yn gyson.
- Talu i ffwrdd eich benthyciad ar y cyd a chymryd un newydd yn enw un ohonoch. Dim ond os bydd gan y partner sy’n cymryd y benthyciad sgôr credyd da y bydd hyn yn debygol o weithio a’i fod ef/ei bod hi yn gallu fforddio talu.
Darganfyddwch am sgor credyd yn ein canllaw Sut mae eich statws credyd yn effeithio ar gost cael benthyg arian
Beth i’w wneud os na fydd eich cyn bartner yn cydweithredu
Weithiau, mae cyplau sy’n gwahanu yn gwneud trefniadau ar gyfer eu materion ariannol gyda’r bwriadau gorau, ond fyddan nhw ddim yn para.
Gallai hyn fod oherwydd bod gan un ohonoch newid mewn amgylchiadau ariannol, neu os yw cyfathrebu'n chwalu.
Os yw hynny’n wir, ceisiwch roi digon o wybodaeth i’r banc neu’r darparwr benthyciadau. Os nad ydych yn meddwl bod y banc neu ddarparwr benthyciad yn ymdrin yn deg â chi, gallwch anfon cwyn.