Mae angen i'r mwyafrif ohonom fenthyg arian ar ryw adeg yn ein bywydau, ac nid yw o reidrwydd yn beth drwg. Gall defnyddio’r math cywir o gredyd yn y ffordd orau helpu i ddelio â gwariant annisgwyl, fel a oes angen prynu oergell neu beiriant golchi newydd. Ond mae yna bethau y mae'n rhaid i chi feddwl amdanynt i sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir .
Beth sydd yn y canllaw hwn
Penderfynu a ddylech chi fod yn benthyca arian
Mae angen i chi ystyried rhai cwestiynau pwysig iawn cyn cael benthyg arian.
Dylech ofyn i chi’ch hun:
- Oes angen i mi wario’r arian?
- Oes unrhyw ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r arian sydd ei angen arnaf?
- Allaf fforddio ad-dalu'r arian rwy'n bwriadu ei fenthyg?
Oes wir angen i chi wario’r arian o gwbl?
Cyn i chi fenthyg arian, gwnewch yn siŵr bob amser bod angen i chi ei fenthyg. Ydych chi'n cael trafferthion ariannol? Yna mae'n bwysig sicrhau yn gyntaf eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau lles y mae gennych hawl iddynt a chanfod a allech wneud cais am gymorth fel grantiau neu ad-daliadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliau cywir
Hefyd edrychwch i weld a oes ffyrdd eraill o dorri'n ôl ar eich costau - er enghraifft, trwy newid darparwr ynni, ffôn neu'r rhyngrwyd.
Darganfyddwch fwy am sut i dorri'n ôl ar eich gwariant o ddydd i ddydd yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Os ydych yn tueddu prynu pethau’n fyrbwyll, ceisiwch roi cyfnod ailfeddwl o ddau ddiwrnod o leiaf i’ch hun. Pan fyddwch wedi cael cyfle i feddwl, efallai y byddwch yn gweld nad ydych mor awyddus i’w brynu’r eitem yr oeddech ei eisiau.
Ceisiwch ofyn i chi’ch hun:
- Allwn aros nes y gallaf fforddio prynu'r eitem heb fenthyca?
- Oes ffordd arall o'i gael - er enghraifft, newid i eitem ratach, ei brynu'n ail-law neu ei gael am ddim o wefan ailgylchu?
Allwch chi gynilo neu ddefnyddio rhywfaint o gynilion yn hytrach na chael benthyg arian?
Os nad oes wir angen yr eitem arnoch heddiw, dylech ystyried a allwch arbed rhywfaint o arian bob mis yn hytrach na threfnu benthyciad.
Cynilo cyn i chi wario
Os gallwch aros a chynilo cyn prynu yn lle defnyddio credyd, bydd yn costio llawer llai i chi gan na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw log.
Er enghraifft, os oeddech am brynu rhywbeth sy’n costio £600:
Os nad oes gennych unrhyw gynilion, ond y gallwch gynilo, er enghraifft, £50 y mis, byddai'n cymryd blwyddyn i chi cynilo'r £600 a byddech wedi ennill llog ar ben hyn.
Defnyddio’ch cynilion
Wrth gwrs, byddwch chi'n colli llog posib yn y dyfodol ar eich cynilion os byddwch yn eu defnyddio'n gyfan gwbl ar gyfer eich pryniant.
Ond bydd hyn yn dal i fod llawer llai na'r llog y bydd yn rhaid i chi ei dalu os byddwch yn benthyg yr arian ar gyfer y pryniant, e.e. ar gerdyn credyd.
Os penderfynwch eich bod am fenthyg arian
Os ydych yn bendant am fenthyg arian a'ch bod yn siŵr y gallwch ei ad-dalu, mae yna rai ffactorau pwysig i'w hystyried.
Faint allwch chi fforddio ei ad-dalu?
Mae'n bwysig cyfrifo faint y gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis, gan y bydd hyn yn effeithio ar ba opsiwn benthyca sydd orau i chi.
Sicrhewch eich bod yn realistig ynglŷn â faint y gallech ei dalu pe bai'ch morgais neu'ch rhent yn codi, er enghraifft, pe bai'n rhaid i chi wario mwy ar bethau fel biliau ynni, neu os ydych yn cael toriad yn eich cyflog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Llunio cynllun ad-dalu ar gyfer eich benthyca
Dewis y math cywir o gredyd
Hefyd gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y math cywir o gredyd neu fenthyciad ar gyfer eich sefyllfa.
Fel arall, fe allech gael eich hun yn talu mwy nag sydd angen.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r math o gredyd sy'n gweddu i'ch sefyllfa, edrychwch o gwmpas a chymharwch fargeinion. Mae'n bwysig edrych ar:
- y gyfradd llog a'r gyfradd ganrannol flynyddol (APR)
- faint y byddwch chi'n ei ad-dalu i gyd (yn achos benthyciadau)
- unrhyw gosbau am fethu taliadau neu daliadau hwyr
- y gost yr wythnos neu'r mis, ac a allai hyn amrywio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro cyfraddau llog
Os oes gennych statws credyd gwael, efallai y cewch eich temtio i ddefnyddio credyd cartref neu gwmni benthyciad diwrnod cyflog, yn enwedig os nad oes gennych lawer o opsiynau credyd.
Cyn cofrestru ar gyfer benthyciad diwrnod cyflog neu unrhyw fath arall o fenthyca cost uchel, gwnewch yn siŵr eich bod wedi archwilio'r holl ddewisiadau eraill sydd ar gael.