Os ydych angen benthyca arian ac rydych yn ystyried cymryd benthyciad diwrnod cyflog, stopiwch i ystyried eich opsiynau. Er ei fod yn hawdd ei sefydlu, gall benthyciad diwrnod cyflog droi’n ddyled drafferthus yn gyflym i lawer o bobl. Gall hefyd effeithio ar eich statws credyd os na fyddwch yn ei dalu yn ôl yn brydlon.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Benthyca i dalu am hanfodion
- Benthyca ar gyfer gwariant nad yw’n hanfodol
- Benthyciadau personol
- Prynu nawr talu wedyn
- Cynlluniau cyflog ymlaen llaw cyflogwyr (ESASs)
- Benthyca gan deulu a ffrindiau
- Defnyddio cerdyn credyd
- Defnyddio gorddrafft awdurdodedig
- Benthyca gan undeb credyd
- Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI)
- Benthyciad di-log rydych yn ei ad-dalu o’ch budd-daliadau
- Help gan eich cynllun cymorth lles lleol
Benthyca i dalu am hanfodion
Efallai eich bod yn ystyried cymryd benthyciad diwrnod cyflog i dalu am gost hanfodol annisgwyl, fel atgyweirio eich car neu newid peiriant golchi.
Dim ond ar gyfer blaenswm cyn diwrnod cyflog y mae benthyciadau diwrnod cyflog yn addas mewn gwirionedd. Os bydd rhaid i chi gymryd peth amser i ad-dalu'r benthyciad, mae'n bwysig archwilio mathau eraill o gredyd.
Mae bron yn sicr nad benthyciad diwrnod cyflog fydd yr ateb os bydd arnoch angen yr arian i:
- talu biliau’r cartref yn rheolaidd
- talu rhent neu forgais
- ad-dalu’r bobl y mae arnoch arian iddynt.
Os ydych yn ei chael yn anodd talu am yr hanfodion, ond nid ydych yn methu taliadau eto, efallai bod ffyrdd o dalu’r costau hyn.
I ddarganfod sut i wneud i’ch arian fynd ymhellach, gweler ein canllawiau ar Rheoli arian yn dda yn ein hadran Cyllidebu
Os ydych eisoes wedi methu taliadau ar filiau cartref hanfodol, mae'n bwysig eich bod yn siarad ag ymgynghorydd dyled cyn gynted ag y gallwch. Gallant eich helpu i weithio allan cyllideb, blaenoriaethu'ch dyledion, siarad â phawb y mae arnoch arian iddynt a helpu i sefydlu cynllun ad-dalu.
Mae llawer o sefydliadau a all helpu â chyngor dyled cyfrinachol am ddim.
Benthyca ar gyfer gwariant nad yw’n hanfodol
Gall cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog hysbysebu defnyddio benthyciadau diwrnod cyflog ar gyfer pethau fel nosweithiau allan, dillad newydd neu bethau eraill moethus.
Ond os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn talu llawer mwy yn y pen draw na phe byddech yn aros a chynilo’r arian i dalu amdanynt.
Ac os na allwch aros, fel arfer mae ffyrdd llawer rhatach o fenthyca. Dyma ychydig o syniadau i feddwl amdanynt yn gyntaf.
Benthyciadau personol
Gall benthyciadau personol godi cyfraddau llog rhesymol, yn dibynnu ar eich sgôr credyd a ffactorau eraill.
Fodd bynnag, efallai y byddwch yn benthyca mwy nag sydd ei angen arnoch. Mae hyn oherwydd nad yw'r mwyafrif o fenthycwyr yn cynnig benthyciadau o lai na £1,000, a allai fod yn fwy na'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer pryniant cartref.
Bydd hefyd telerau isafswm ad-dalu, na fydd yn addas o bosib os mai dim ond am gyfnod byr rydych am fenthyg arian.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Fenthyciadau personol
Prynu nawr talu wedyn
Mae'r mwyafrif o wasanaethau Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) yn caniatáu i chi brynu pethau heb dalu amdanynt ymlaen llaw neu yn ystod cyfnod hyrwyddo, yn aml hyd at 12 mis.
Defnyddiwyd cynhyrchion BNPL i ledaenu taliadau ar gredyd catalog, cardiau siopau a chyllid yn y man gwerthu.
Mae llawer o ddarparwyr BNPL ar-lein bellach yn cynnig gwasanaeth i ledaenu cost siopa ar-lein, naill ai drwy:
- talu'r swm llawn ar ôl cyfnod cychwynnol, neu
- rhannu'r swm sy'n ddyledus yn daliadau di-log llai sy'n ad-daladwy dros sawl mis.
Dyna pam ei bod yn bwysig iawn cadw golwg ar:
- faint rydych wedi'i dalu
- faint sy'n ddyledus gennych o hyd
- dyddiadau ad-dalu.
Cynlluniau cyflog ymlaen llaw cyflogwyr (ESASs)
Mae rhai sefydliadau yn cynnig cyfle i'w gweithwyr gael gafael ar rywfaint o'u cyflog cyn diwrnod cyflog. Fel rheol, darperir y cynlluniau hyn i'r cyflogwr gan gwmnïau allanol.
Os yw'ch cyflogwr yn perthyn i gynllun ESAS, gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o dalu am gostau annisgwyl a delio â diffygion arian parod tymor byr sy'n codi rhwng diwrnodau cyflog.
Os ydych am ddefnyddio cynllun blaenswm cyflog, byddwch yn ymwybodol:
- bydd y rhan fwyaf o gynlluniau yn codi ffi arnoch – gall y rhain gronni os cymerwch daliadau yn y modd hwn yn rheolaidd
- gall cymryd taliadau rheolaidd eich gwneud yn ddibynnol ar y cynllun
- bydd gennych gyflog is i fyw arno yn ystod y mis ar ôl i chi dalu blaenswm yn ôl – ceisiwch osgoi ‘rholio drosodd’ o fis i fis
- mae'n anodd cymharu cost ffioedd â chyfraddau llog benthyciad a'r agosaf at ddiwrnod cyflog rydych yn tynnu arian i lawr, yr uchaf yw'r gost gymharol
- nid yw'r cynlluniau hyn yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) felly mae gennych lai o amddiffyniadau statudol os bydd pethau’n mynd pethau o chwith.
Mae rhai sefydliadau hefyd yn cynnig benthyciadau ar sail cyflog neu ‘ychwanegiadau credyd’. Mae'r rhain yn gynhyrchion credyd safonol rydych yn eu had-dalu trwy ddidyniadau o'ch cyflog. Maent yn gynhyrchion ar wahân i ESASs.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Benthyca gan deulu a ffrindiau
Gall benthyca arian argyfwng gan aelod o’ch teulu neu ffrind eich helpu i osgoi’r risgiau sy’n dod â benthyciadau diwrnod cyflog.
Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi a’r unigolyn rydych yn benthyca ganddo’n cymryd yr amser:
- i gofnodi eich cytundeb yn ysgrifenedig
- i gyfrifo cyllideb a chynllun ad-dalu
- i drafod beth fydd yn digwydd os ydych yn hwyr yn talu’r arian yn ôl neu os nad ydych yn ei ad-dalu o gwbl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ddylech gael benthyg arian gan deulu neu ffrindiau
Ceisiwch osgoi benthyca gan bobl nad ydych yn eu hadnabod yn dda, fel cydnabyddwyr achlysurol, ffrind i ffrind, neu bobl rydych yn eu hadnabod yn eich cymuned leol.
Os yw rhywun nad ydych yn ei adnabod yn ddigon da i fod yn hyderus am gynigion ymddiriedus i roi benthyg arian i chi, cadwch yn glir – gallent fod yn siarc benthyca.
Defnyddio cerdyn credyd
Os oes gennych gerdyn credyd, ystyriwch ei ddefnyddio ar gyfer pryniannau. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ad-dalu cymaint ag y gallwch bob mis, i gadw’r costau i lawr, a pheidiwch â chael eich temtio i wario mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu’n gyfforddus.
Nid yw'n syniad da defnyddio cerdyn credyd i dynnu arian parod yn ôl oherwydd byddwch yn talu llog o’r diwrnod cyntaf, hyd yn oed os ydych yn talu'r bil yn llawn. Efallai y codir cyfradd llog uwch arnoch hefyd nag ar bryniannau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gardiau credyd
Os yw’ch cais am gerdyn credyd wedi’i wrthod
Mae cardiau credyd yn arbennig i bobl sydd â sgôr credyd isel – er enghraifft oherwydd problemau blaenorol neu Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJs). Fel arfer, gelwir y rhain yn gardiau adeiladu credyd.
Maent yn codi cyfradd llawer uwch o log na chardiau eraill ond cyn belled â’ch bod yn ad-dalu’r cyfan o’r balans neu ran ohono bob mis, byddant yn dal i fod yn rhatach na benthyciad diwrnod cyflog.
Darganfyddwch fwy am gardiau credyd ar gyfer pobl sydd â hanes credyd gwael ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Ddim yn siŵr a allwch dalu’r balans bob mis?
Os nad ydych yn gallu ad-dalu’r balans ar eich cerdyn bob mis, mae’n debygol y bydd hyn yn llawer rhatach o hyd na benthyciad diwrnod cyflog – ond ceisiwch ad-dalu cymaint ag y gallwch.
Defnyddio gorddrafft awdurdodedig
Os oes gennych gyfrif cyfredol efallai y byddwch yn gallu cael gorddrafft awdurdodedig gan eich banc.
Gall y rhain fod braidd yn ddrud (er, mae rhai gorddrafftiau heb log ar gael) – bydd fel arfer yn rhatach na defnyddio benthyciad diwrnod cyflog.
Os ewch i orddrafft heb ganiatâd eich banc, gallant ddewis gwrthod eich taliadau a gallai hyn effeithio ar eich statws credyd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Benthyca gan undeb credyd
Opsiwn llawer mwy fforddiadwy na benthyciad diwrnod cyflog yw benthyciad gan undeb credyd. Mae undebau credyd yn sefydliadau cymunedol sy'n cael ei rhedeg gan eu haelodau er budd eu haelodau.
Maent yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Mae tri phrif nod gan undebau credyd:
- darparu benthyciadau ar gyfradd isel o log
- annog eu holl aelodau i gynilo'n rheolaidd
- helpu aelodau sydd angen cyngor a chymorth ariannol.
Mae undebau credyd yn gweithio er budd eu holl aelodau ac felly maent yn ceisio sicrhau nad ydynt yn caniatáu i'w haelodau gymryd benthyciadau na allant eu had-dalu trwy asesu eu hincwm, ac mewn rhai achosion, faint maent wedi gallu ei gynilo.
Mae cap ar faint o log y gallant ei godi – 3% y mis neu 42.6% y flwyddyn APR yn Lloegr, yr Alban a Chymru, 1% y mis neu 26.8% APR yng Ngogledd Iwerddon.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyca gan undeb credyd
Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI)
Mae Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFI) yn sefydliadau annibynnol bach sy'n cynnig benthyciadau i bobl sy'n ei chael yn anodd cael gafael ar gredyd gan ddarparwyr y stryd fawr.
Maent yn tueddu i gynnig gwasanaeth wedi'i bersonoli ac yn ail-fuddsoddi unrhyw elw a wnânt yn ôl i'r gymuned. Fodd bynnag, mae CDFI fel arfer yn codi cyfraddau llog uwch nag undebau credyd.
Mae rhaid i Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol, undebau credyd a phob sefydliad arall sy'n cynnig credyd defnyddwyr gofrestru â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), a chadw at eu rheolau a'u safonau.
Gallwch ddod o hyd i fanylion CDFI ar wefan Finding Finance sy'n cael ei redeg gan Responsible Finance (y corff aelodaeth ar gyfer CDFI).
Darganfyddwch fenthyciwyr amgen ar wefan Finding Finance
Benthyciad di-log rydych yn ei ad-dalu o’ch budd-daliadau
A ydych wir angen benthyca arian ac rydych wedi hawlio budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis? Yna, mae’n bosibl y gallech wneud cais am di-log Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw
Help gan eich cynllun cymorth lles lleol
A oes angen help arnoch â biliau gwresogi, tanwydd neu fwyd, neu a oes gennych gost frys? Yna gallwch weld a oes gan eich awdurdod lleol gynllun lles lleol a all helpu.
Asesir ceisiadau fesul achos ac mae'n rhaid i chi fod ar incwm isel iawn neu'n hawlio rhai budd-daliadau i fod yn gymwys:
- Os ydych yn byw yng Nghymru, dysgwch fwy am y Gronfa Gymorth Ddewisol i Gymru ar llyw.cymruYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yn Lloegr, mae’r cynllun yn cael ei redeg gan eich cyngor lleol ond nid yw bob cyngor yn darparu un. Darganfyddwch eich cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yn yr Alban, dysgwch fwy am y Scottish Welfare Fund ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ychwanegol ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd