Os ydych chi’n chwilio am fenthyciad diwrnod cyflog, gall defnyddio brocer credyd i ddod o hyd i un gostio arian i chi mewn ffioedd diangen.
Beth yw broceriaid credyd?
Mae broceriaid credyd yn gwmnïau sy’n gallu’ch helpu i ddod o hyd i fenthyciad, er enghraifft, oherwydd bod gennych chi hanes credyd gwael.
Mae rhai broceriaid credyd yn gweithredu ar-lein trwy wefannau ac yn arbenigo mewn benthyciadau diwrnod cyflog a chredyd tymor byr, cost uchel arall.
Mae rhai yn derbyn comisiwn gan ddarparwyr ond mae eraill yn codi ffi am eu gwasanaethau.
Pam y cafwyd problemau gyda rhai broceriaid credyd?
Nid yw rhai cwmnïau wedi egluro’n ddigon clir i gwsmeriaid mai brocer credyd ydynt – mae eu gwefannau wedi awgrymu eu bod yn ddarparwyr sy’n gallu cynnig benthyciad yn uniongyrchol.
Nid yw broceriaid credyd eraill yn egluro y byddant yn codi ffi am eu gwasanaethau, neu faint fydd hyn.
Ac fe gymerodd rhai daliadau o gyfrifon banc defnyddwyr, heb ganiatâd, a heb ddarparu’r gwasanaethau a addawyd.
Yn aml, nid oedd y bobl yn ymwybodol eu bod yn arwyddo am wasanaeth gan frocer credyd
Fe roddont eu manylion banc oherwydd y dywedwyd wrthynt i wneud hyn i gadarnhau eu hunaniaeth, neu i ganiatáu i’r benthyciwr i gyflawni gwiriad credyd.
Nid wnaethant sylweddoli y byddai arian yn cael ei gymryd o’u cyfrif.
Unwaith roedd rhywun wedi rhoi manylion personol, byddai rhai broceriaid credyd yn pasio’r rhain ymlaen i froceriaid credyd eraill, hefyd heb wybodaeth na chydsyniad y cwsmer.
Yna byddai pobl yn darganfod fod cwmnïau eraill hefyd wedi codi ffioedd.
Mewn sawl achos, roedd y nifer o ffioedd wedi eu tynnu o gyfrif y cwsmer, ond nid oedd wedi cael y benthyciad
Pan wnaethant gwyno, yn aml roeddynt yn ei chael yn anodd cysylltu â’r cwmni, neu’n cael esgusodion dros pam na ellid talu ad-daliad – er bod gan y cwsmer hawl i’w arian yn ôl dan y gyfraith yn aml.
Nid oedd rhai o’r broceriaid credyd hyn wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu roeddynt yn masnachu’n anghyfreithlon dan enw gwahanol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyciadau diwrnod cyflog – beth sydd angen i chi ei wybod
Darganfyddwch Lle i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Sut i stopio broceriaid credyd rhag cymryd taliadau heb awdurdod
Canslo’r gwasanaeth brocer credyd
Os ydych chi wedi cytuno i wasanaeth brocer credyd ar-lein, neu dros y ffôn, ac yn penderfynu nad ydych chi ei angen bellach, gallwch ganslo a gofyn am eich arian yn ôl.
Ond rhaid i chi ganslo o fewn 14 niwrnod.
Nid yw’n ofynnol i chi roi rheswm pam eich bod yn dymuno canslo a dylai’r brocer credyd ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd gennych cyn pen 30 diwrnod
Gall y brocer dim ond cadw rhan o'r ffi os ydyn nhw wedi eich darparu â gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyn i chi ganslo.
Os ydych chi’n cael trafferth cael ad-daliad, gallwch gwyno am y brocer credyd i wasanaeth defnyddwyr yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cysylltwch â’ch banc i stopio taliadau
Os ydych chi wedi rhoi manylion talu i'r brocer credyd, efallai eich bod chi wedi cytuno i Awdurdod Taliadau Parhaus (CPA) - hyd yn oed os nad oeddech chi'n sylweddoli hynny.
Mae CPA yn caniatáu i gwmni gymryd arian o'ch cyfrif banc.
Gallwch ganslo'r CPA trwy ddweud wrth y brocer credyd neu ofyn i'ch banc neu gymdeithas adeiladu roi'r gorau i daliadau pellach.
Dylai eich banc gydymffurfio â hyn - ond mae angen i chi weithredu'n gyflym, yn ddelfrydol cyn i'r arian ddod allan.
Os cymerwyd ffi eisoes heb eich caniatâd, gofynnwch i'r banc am ad-daliad.
Os bydd eich banc yn gwrthod, gallwch ddefnyddio eu gweithdrefn gwynion ffurfiol i gwyno.
Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn i'r banc, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ariannol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn
Sut i wirio a yw brocer credyd wedi’i awdurdodi
Cyn i chi ddefnyddio gwasanaeth broceriaeth credyd, mae'n bwysig gwirio bod y cwmni wedi'i awdurdodi gyda'r FCA.
Gallwch wneud hyn trwy wirio'r Cofrestr Gwasanaethau Ariannol
Os nad yw brocer credyd wedi ei awdurdodi gan yr FCA
Os nad yw’r brocer credyd wedi ei awdurdodi, gallwch hysbysu Safonau MasnachYn agor mewn ffenestr newydd neu hysbysu llinell gymorth defnyddwyr yr FCA.
Ei ni all y gwasanaethau hyn delio â chwynion unigol, neu gael iawndal i chi, gallant weithredu yn erbyn y brocer credyd os oes tystiolaeth o gamymddwyn.
Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o sgamiau posib. Er enghraifft, mae pobl wedi nodi y gofynnwyd iddynt dalu ffi rhwng £25 a £450 am fenthyciadau neu gredyd na chawsant erioed.
Darganfyddwch fwy am sut i wybod, osgoi a rhoi gwybod am sgamiau yn ein canllaw Canllaw dechreuwr i dwyll
Sut mae’r gyfraith yn eich diogelu rhag broceriaid credyd
Mae rheolau'r FCA yn ei gwneud yn ofynnol i bob brocer credyd ei gwneud yn glir pwy ydynt a pha wasanaeth maen nhw'n ei gynnig.
Yn ogystal, ni chaniateir i froceriaid credyd godi ffi arnoch na chymryd manylion talu oni bai eu bod wedi rhoi rhybudd gwybodaeth i chi yn gyntaf, yn ysgrifenedig (neu drwy e-bost) sy'n nodi'n glir:
- enw cyfreithiol y cwmni fel y mae'n ymddangos ar gofrestr yr FCA (nid dim ond eu henw masnachu)
- bod y cwmni yn (neu'n gweithredu fel) brocer credyd ac nid benthyciwr
- mae'r cwmni yn bwriadu codi ffi arnoch chi
- swm y ffi
- sut a phryd y codir y ffi.
Dim ond os ydych wedi cydnabod (yn ysgrifenedig neu e-bost) eich bod wedi derbyn yr hysbysiad hwn y gallant godi ffi arnoch neu basio manylion talu i berson arall.
Os penderfynwch fynd ymlaen, ac na fydd y brocer yn cael benthyciad i chi cyn pen chwe mis, rhaid iddo ad-dalu'r ffi a dalwyd gennych lai na £5.
Dylent ddweud wrthych am hyn pan fyddwch yn cofrestru.