Mae rheoli arian a chael dau ben llinyn ynghyd pan fyddwch ar incwm isel yn gofyn am waith trefnu gofalus. Rydym wedi casglu ynghyd rhai o’r ffyrdd gorau i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r holl driciau posibl i’ch helpu i gadw mewn rheolaeth pan fyddwch ar gyllideb dynn.
Cyfrifo eich cyllideb
Y cam cyntaf wrth gymryd rheolaeth o’ch arian yw cyfrifo eich costau byw, yn cynnwys gwybod beth sy’n dod i mewn, beth sy’n mynd allan a phryd.
Mae llunio cyllideb yn rhoi darlun clir i chi o ble mae eich arian yn mynd, ac yn dangos i chi ble gallai cyfle fodoli i chi arbed arian.
Bydd hefyd yn eich helpu i weld p’un ai ydych yn byw o fewn eich incwm ai peidio.
Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw i ddechreuwyr ar reoli eich arian
Edrych ar ffyrdd i gwtogi ar gostau
Gall fod yn anodd newid faint o arian sydd gennych yn dod i mewn, ond mae gennych fwy o reolaeth dros beth sy’n mynd allan.
Er y gallai fod yn bosibl torri costau, bydd rhai biliau'n aros yn gyson a dylid eu blaenoriaethu. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Treth Cyngor neu Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon
- Trwydded Teledu
- Cynhaliaeth plant
- biliau nwy a thrydan
- Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
- morgais, rhent ac unrhyw benthyciadau wedi eu gwarantu yn erbyn eich cartref
- cytundebau hurbwrcas, os yw'r hyn rydych yn prynu yn hanfodol.
Gallwch dorri cannoedd o bunnoedd oddi ar eich gwariant trwy newid darparwyr gwasanaethau a chwilio am gynnig gwell ar lawer o bethau, yn cynnwys eich siopa a gwyliau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau’r cartref
Gwneud cais am yr holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt
Mae’n haws nag y gallech feddwl i wirio eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt os ydych ar incwm isel.
Mae rhai budd-daliadau’n daliadau unwaith ac am byth i helpu gyda set benodol o amgylchiadau fel tywydd oer. Mae rhai eraill, fel Cymhorthdal Incwm, yn ychwanegu at eich incwm rheolaidd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Benthyciadau brys er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y gallwch gael benthyciad di-log gan y llywodraeth i’ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd ar adeg anodd.
Benthyciadau Trefnu
Os ydych ar incwm isel ac yn hawlio budd-daliadau mae’n bosibl y gallwch gael Benthyciad Trefnu di-log oddi wrth y Gronfa Gymdeithasol.
Gall hyn helpu gyda phethau fel:
- treuliau teithio
- dillad neu esgidiau
- dodrefn neu offer at y tŷ
- arian i’ch helpu i chwilio am neu ddechrau gwaith
- gwella, cynnal a chadw neu ddiogelu eich cartref
- rhent o flaen llaw neu dreuliau symud ar gyfer cartref newydd.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Cyllido yn ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Benthyciadau eraill
Byddwch yn ofalus dros ben gyda mathau eraill o fenthyciadau.
Gall pethau fel benthyciadau diwrnod cyflog, benthyciadau llyfr log a benthyca ar stepen drws ymddangos fel ateb parod, ond gallant waethygu sefyllfa sydd eisoes yn un anodd.
Yn aml, maent yn ddull drud iawn o fenthyca arian – felly ceisiwch bob amser i ganfod ffyrdd eraill o fenthyca.
Gofynnwch i’ch teulu a allant eich helpu, neu ystyriwch ymuno ag undeb credyd.
Mae Undebau Credyd wedi eu sefydlu er mwyn cynnig gwasanaethau bancio i bobl a fyddent, fel arall, yn ei chael yn anodd eu cyrchu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Gofalu am eich iechyd meddwl
Yn aml, mae cysylltiad rhwng cael trafferth gydag arian a lles meddyliol gwael.
Gall teimlo'n isel ei gwneud yn anodd rheoli arian. A gall poeni amdano wneud i chi deimlo'n waeth byth.