Os yw aelod o’r teulu neu rywun agos atoch wedi mynd ar goll, efallai byddwch eisiau neu angen rheoli eu materion ariannol ar eu rhan. Mae’r elusen annibynnol, Missing People, yn cynnig cyfarwyddyd ymarferol yn y maes hwn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cael help a chyngor gan Missing People
Gall yr elusen, Missing People, helpu os ydych yn:
- yn rhanu asesau â pherthynas goll
- yn ddibynnol arni yn ariannol, neu
- yn gofalu am ei harian hyd nes y byddo’n dychwelyd.
Mae Missing People yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ymarferol yn y meysydd canlynol:
- Yswiriant bywyd
- Morgeisi.
Maent hefyd yn egluro pryd a sut gallwch ddatrys materion ariannol perthynas goll a gweinyddu ei hystad pan fo amgylchiadau’n awgrymu ei bod yn debygol o fod wedi marw.
Darllenwch am reoli materion ariannol perthynas goll ar wefan Missing People