I gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd biliau ynni cyfartalog yn cael eu capio ar £2,500 o 1 Hydref 2022.
Er bod prisiau ynni wedi’u capio ar £2,500 y flwyddyn am gartref gyda defnydd tebygol ar gyfradd amrywiol eu darparwr, efallai y byddwch yn talu mwy neu lai na hwn, yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam fod prisiau ynni’n codi?
- A ddylwn newid cyflenwr i gael bargen ratach?
- Pa help sydd ar gael ar gyfer biliau cynyddol?
- Os ydych chi'n defnyddio olew, nwy petrolewm hylifedig neu danwydd oddi ar y grid
- Sut allaf arbed arian ar fy miliau ynni?
- Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
- Cymorth arall
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni’n mynd i’r wal?
Pam fod prisiau ynni’n codi?
Achoswyd y codiad mewn prisiau gan gynnydd mewn prisiau nwy cyfanwerthol (y swm y mae cwmnïau ynni yn ei dalu), sydd wedi gweld cynnydd serth ers mis Hydref 2021. Mae prisiau nwy wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i'r byd ddod allan o gyfnod clo ar yr un pryd â ffactorau economaidd eraill sy'n cael effaith.
Mae hyn yn golygu bod newidiadau mewn prisiau cyfanwerthol yn cael eu trosglwyddo i gartrefi trwy filiau ynni cynyddol.
Mae’r Warant Pris Ynni yn cynnwys cwsmeriaid ynni domestig ar draws y DU. Os nad ydych yn elw ar y warant oherwydd eich bod yn defnyddio tanwydd sydd ddim ar y grid, yn rhan o rwydwaith gwres neu’n byw mewn cartref parc, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol.
A ddylwn newid cyflenwr i gael bargen ratach?
Os yw’ch bargen sefydlog wedi dod i ben neu os ydych wedi cael eich symud i gyflenwr newydd, mae’n demtasiwn chwilio am gwmni ynni newydd lle gallwch wneud arbedion. Yn anffodus, nid oes bargeinion sefydlog yn cael eu cynnig am lai na’r cap pris ynni ar hyn o bryd, felly ni fyddwch yn torri eich biliau drwy newid.
Bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei gadw ar £2,500 tan 31 Mawrth 2023. O fis Ebrill ymlaen bydd y Gwarant Pris Ynni yn codi i £3,000 y flwyddyn i gartrefi cyffredinol tan 31 Mawrth 2024.
Pa help sydd ar gael ar gyfer biliau cynyddol?
Mae rhai cynlluniau gan y llywodraeth y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer i helpu i leddfu effaith costau byw uwch.
Cynllun Cymorth Biliau Ynni
Bydd pob cwsmer ynni domestig yn cael £400 wedi'i dynnu o’u bil ynni o fis Hydref 2022.
Os ydych yn talu eich biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol neu gredyd, caiff yr arian ei gredydu i’ch cyfrif mewn chwe rhandaliad, unwaith y mis o fis Hydref 2022 i fis Mawrth 2023.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig deallus bydd £66 neu £67 o gredyd yn cael ei ychwanegu at eich mesurydd unwaith y mis am chwe mis o fis Hydref ymlaen.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig traddodiadol, byddwch yn cael un daleb neu Special Action Message (SAM) y mis am chwe mis i ddefnyddio tua thaliadau atodol. Caiff y talebau eu hanfon atoch yn wythnos gyntaf y mis drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd gan eich cwmni ynni. Sicrhewch fod eich e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad wedi’u diweddaru fel nad ydych yn colli allan. Ar ôl cael eich taleb, gallwch eu defnyddio lle rydych fel arfer yn gwneud taliadau atodol, fel yn y Swyddfa'r Post neu mewn siop gyda pheiriant PayPoint.
Nid oes angen i chi wneud cais am hyn, os nad oes gennych fesurydd rhagdaledig bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu at eich bil yn awtomatig a chaiff dalebau neu SAMs eu hanfon at gwsmeriaid rhagdaledig heb orfod gofyn amdanynt. Anwybyddwch unrhyw negeseuon testun, galwadau ffôn neu e-byst sgam sy’n dweud bod angen eich manylion banc am y gostyngiad.
Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau (19 Rhagfyr 2022) y bydd taliad o £600 yn cael ei wneud i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon ganol mis Ionawr fel rhan o'r Cynllun Cymorth Biliau Ynni Gogledd Iwerddon (EBSS NI). Bydd hyn yn cynnwys y taliad EBSS NI o £400 a £200 o gefnogaeth o dan y cynllun Alternative Fuel Payment (AFP) am ddefnyddio tanwydd oddi ar y grid fel nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu olew gwresogi. Bydd pob cartref yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn y taliad AFP, a fydd yn cael ei reoli gan gyflenwyr ynni. Os nad ydych wedi cael eich talu’r taliad £600 yn awtomatig gallwch wneud cais amdano ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd cwsmeriaid sy'n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael y £600 i'w cyfrif banc yn uniongyrchol. Bydd cwsmeriaid eraill yn cael taleb i ail-wneud y taliad o £600 y gallant ei chyfnewid mewn Swyddfa Bost naill ai fel arian parod (yn amodol ar y Swyddfa Bost sydd ag arian ar gael) neu drwy ei adneuo mewn banc neu undeb credyd.
Bydd angen i ddeiliaid talebau fynd â'r daleb, y llythyr gan eich cyflenwr a roddwyd gyda'ch taleb a phrawf o gyfeiriad i Swyddfa'r Post i'w chyfnewid.
Mae angen dyddio prawf o'r cyfeiriad cyn 2 Ionawr 2023 i fod yn ddilys.
Os yn adneuo i'ch cyfrif banc, bydd angen i chi fynd â'ch cerdyn banc neu wybodaeth cyfrif gyda chi i'r Swyddfa Bost. Os ydych yn ei chyfnewid am arian parod, bydd angen ID â llun.
Am ragor o help gyda chostau byw, mae gan wefan Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth awgrymiadau i arbed ynni, a gwybodaeth am y daliadau a chymorth ychwanegol y gallwch fod yn gymwys iddo.
Os ydych chi'n defnyddio olew, nwy petrolewm hylifedig neu danwydd oddi ar y grid
Bydd cartrefi nad ydynt ar y grid nwy ac yn defnyddio tanwyddau eraill fel nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu olew gwresogi yn cael taliad ychwanegol o £200, i wneud yn iawn am gost gynyddol tanwydd, drwy Ddebyd Uniongyrchol, credyd neu os, mae gennych fesurydd rhagdaledig clyfar, bydd y taliad o £200 yn cael ei gredydu i'ch cyfrif ynni yn awtomatig.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig traddodiadol, dylai eich cwmni ynni anfon Special Action Message (SAM) neu daleb atoch.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cynnig gwerth £400 o gymorth i gartrefi na allant gael mynediad i’r taliad Cynllun Cymorth Biliau Ynni o gyflenwr ynni domestig. Dylech fod yn gymwys am y cymorth yma os nad ydych yn talu eich cwmni ynni’n uniongyrchol, er enghraifft os ydych yn byw yng nghartref parc, yn defnyddio ynni oddi ar y grid neu gyda gwres cymunedol.
Mae’r porth GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd yn nawr ar agor i gartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i wneud cais am y taliad £400, ac mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys ar y wefan. Os ydych yng Ngogledd Iwerddon a heb gael unrhyw daliadau gan nad ydych yn talu bil ynni domestig, gallwch nawr wneud cais am eich taliad £600 ar GOV.UK.Yn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych eisoes wedi bod yn cael y taliadau £66 neu £67 misol tuag at eich biliau ynni ni fydd hawl gennych wneud cais.
Gwarant Pris Ynni wedi’i esbonio
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau
Mae’r gostyngiad yn awtomatig. Os cewch neges sy’n dweud bod angen i chi wneud cais amdano, neu’n gofyn am eich manylion banc neu gerdyn credyd, gall gwn fod yn sgam. Gallwch roi gwybod am negeseuon amheus i ActionFraudYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd y Gwarant Pris Ynni yn cyfyngu cost uned o ynni a nwy fel bydd cartref gyda defnydd cyffredinol yn talu tua £2,500 y flwyddyn ar eu bil ynni, tan fis Ebrill 2023. O Ebrill tan 31 Mawrth 2024, bydd y Gwarant Pris Ynni yn £3,000 y flwyddyn.
Bydd eich bil terfynol yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio; mae’r cap ond yn berthnasol i gost yr uned. Mae hwn yn meddwl gallwch dalu mwy na £2,500 os ydych yn defnyddio mwy o ynni neu bil is os ydych yn defnyddio llai.
Mesuryddion Rhagdaledig
Os ydych ar fesurydd rhagdaledig caiff y Warant Pris Ynni ei gymhwyso’n awtomatig gan eich cyflenwr. Nid oes angen gwneud cais a ni fydd angen unrhyw dalebau.
Os ydych ar dariff cyfradd sefydlog caiff y gostyngiad ei gymhwyso’n awtomatig gan eich cyflenwr. Gall gwsmeriaid sydd ar dariff cyfradd sefydlog sydd yn barod yn is na’r Warant Pris Ynni parhau i fwynhau’r cyfraddau isel hyn.
Rhentu gyda biliau wedi’u cynnwys
Os ydych yn talu am eich ynni fel rhan o’ch rhent dylai eich landlord pasio’r gostyngiad ymlaen i chi. Gallwch rannu dolen i daflen ffeithiau’r llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd gyda’ch landlord os nad ydych yn meddwl eu bod wedi pasio’r gostyngiad Gwarant Pris Ynni neu’r gostyngiad o £400 o’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS) ymlaen.
Taliadau Costau Byw 2023/24
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd tri Thaliad Costau Byw yn cael eu hanfon allan dros 2023/24 ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd, yn ogystal â thaliadau ychwanegol am bensiynwyr a phobl sydd ag anableddau. Fel y Taliadau Costau Byw blaenorol, bydd y rhain yn mynd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ac ni fydd angen gwneud cais amdanynt.
Rydych yn debygol o fod yn gymwys os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn.
Os nad ydych yn cael y budd-daliadau hyn ac yn byw ar incwm isel, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Nid yw’r dyddiadau penodol pan fydd pobl yn cael eu Taliadau Costau Byw wedi’i rhyddhau eto, ond mae’r llywodraeth wedi rhannu eu cynllun am bryd byddent yn gwneud y taliadau a faint y byddent:
- £301 - Taliad Costau Byw cyntaf - yn ystod Gwanwyn 2023
- £150 - Taliad Anabledd - yn ystof Haf 2023
- £300 - Ail Daliad Costau Byw - yn ystod Hydref 2023
- £300 - Taliad Pensiynwyr - yn ystod Gaeaf 2023/24
- £299 - Trydydd Taliad Costau Byw - yn ystod Gwanwyn 2024.
Sut allaf arbed arian ar fy miliau ynni?
Pethau syml fel sicrhau eich bod yn dadgysylltu plwg gwefrwyr ffôn, peidio â gadael pethau ar ‘standby’ a defnyddio bylbiau golau ynni effeithlon yw’r camau cyntaf. Cofiwch, os ydych yn defnyddio mwy, byddwch chi’n talu mwy.
Gallwch hefyd wella effeithlonrwydd ynni eich cartref gyda gwydro dwbl ac inswleiddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
Wrth i gostau ynni cynyddu, bydd eich taliadau misol yn cynyddu hefyd. Fodd bynnag, os ydych yn meddwl bod y taliadau y gofynnir i chi eu gwneud yn ormodol ac mae llawer o gredyd yn eich cyfrif yn barod, gallwch ofyn i’ch cyflenwyr ei newid. Mae côd Ofgem am gyflenwyr sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn nodi dylent osod Debyd Uniongyrchol teg a gallu esbonio i chi pam fod y swm yn rhesymol. Os na allant, gallwch ofyn i’ch cyflenwr ad-dalu rhai o’ch credyd.
Mae gan MoneySavingExpert cyfrifiannell i’ch helpu cyfrifo beth ddylai eich taliad misol fodYn agor mewn ffenestr newydd
Mae biliau ynni gaeaf fel arfer llawer yn uwch na rhai’r haf, felly yn lle codi tâl am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio pob mis bydd cyflenwyr yn aml yn cymryd eich defnydd blynyddol a’i rhannu i 12 rhan, fel bod y gost wedi lledaenu’n fwy gyfartal. Gall hyn esbonio pam ofynnir i chi dalu am fwy nag ydych yn ei ddefnyddio. Gallwch sicrhau bod eich biliau mor gywir â phosibl gan gymryd darlleniadau mesurydd yn rheolaidd, os oes gennych fesurydd deallus mae’r darlleniadau’n cael eu danfon yn awtomatig.
Cymorth arall
Gallwch ddod o hyd i gynlluniau, grantiau a budd-daliadau a fydd yn helpu gyda chost biliauYn agor mewn ffenestr newydd a gosod mesurau arbed ynni ar wefan Ofgem.
Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch pa gymorth ariannol ychwanegol y gallech ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd gan Home Energy Scotland.
Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch pa gymorth ariannol ychwanegol y gallech ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd gan y Gronfa Cymorth Dewisol. I gael awgrymiadau arbed ynni a grantiau gwella cartrefi ewch i nyth.llyw.cymru.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cewch ragor o wybodaeth am y cynllun taliadau tanwydd brysYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Byrson Charitable Group.
I gael awgrymiadau arbed ynniYn agor mewn ffenestr newydd ewch i wefan nidirect.
Defnyddiwch y rhestr wirio hon i gadw costau i lawr:
- cymharwch brisiau a pheidiwch â bod ofn bargeinio
- ystyriwch ymuno neu sefydlu clwb olew i gael gostyngiadau pellach
- gofynnwch am opsiynau talu hyblyg
- prynwch yn ystod y misoedd cynhesach
- cadwch eich tanc mewn cyflwr da
- gosodwch foeler effeithlon.
Hawliwch yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (yn enwedig Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol) oherwydd bydd y rhain yn rhoi pasbort i chi i fwy o help, gan gynnwys Gostyngiad Cartref Cynnes gwerth £150 y flwyddyn.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni’n mynd i’r wal?
Tra ei fod yn brin i gyflenwr ynni mawr mynd i’r wal, mae llawer o gwmnïoedd ynni bach wedi mynd i’r wal dros y flwyddyn ddiwethaf.
Os bydd hyn yn digwydd, mae ‘rhwyd ddiogelwch Ofgem’ yn sicrhau nad ydych yn cael eich gadael heb ynni. Mae'r rhwyd ddiogelwch yn eich symud yn awtomatig i gyflenwr ynni newydd, ymlaen i gytundeb newydd.
Os yw eich cyflenwr ynni wedi stopio masnachu, mae’n bwysig aros, peidiwch â newid ac aros nes bydd eich darparwr newydd yn cysylltu â chi. Ofgem fydd yn dewis eich cyflenwr newydd, a gall hynny gymryd sawl wythnos.
Os ydych eisoes yn y broses o newid, bydd eich newid yn dal i fynd drwodd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd darlleniad mesurydd fel eich bod yn barod ar gyfer pan fydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi.
Mae hefyd yn werth cadw hen filiau ynni ac aros nes bod eich cyflenwr newydd wedi’i benodi cyn canslo unrhyw Ddebyd Uniongyrchol.
Darganfyddwch fwy ar Gyngor ar Bopeth am yr hyn y gallwch ei wneud os yw eich cyfrif mewn dyled neu mewn credyd pan fydd eich cyflenwr yn mynd i’r walYn agor mewn ffenestr newydd
Beth os oes arnaf arian neu fy mod mewn credyd a bod fy nghyflenwr yn mynd i'r wal?
Bydd unrhyw gredyd ar eich cyfrif yn cael ei ddiogelu. Trosglwyddir y balans i’ch cyflenwr newydd, a fydd yn talu unrhyw gredyd sy’n weddill i chi – llai unrhyw ynni rydych wedi’i ddefnyddio ond heb gael bil amdano.
Mae’n bwysig nad ydych yn newid tariff neu gyflenwr nes bod eich cyfrif yn cael ei symud i’r cyflenwr newydd. Efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach cael unrhyw arian sy’n ddyledus i chi os byddwch yn newid cyn i hyn ddigwydd.
Os oes arnoch arian a bod eich cyflenwr yn mynd i’r wal, bydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo i’r darparwr newydd a bydd yn rhaid i chi dalu o hyd.