Mae mesurydd dŵr yn golygu y byddwch yn talu am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio yn unig a gallwch arbed arian sylweddol.
Sut i newid i fesurydd dŵr
Yn gyffredinol, os oes llai o bobl yn byw yn eich cartref na sydd o ystafelloedd gwely - dylech arbed arian gyda mesurydd dŵr.
Ystyried a yw'n werth cael mesurydd dŵr
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn talu pris penodedig am eich dŵr.
Nid oes gwahaniaeth faint o ddŵr fyddwch yn ei ddefnyddio, fydd eich bil ddim yn newid. Yn hytrach, mae’r bil yn seiliedig ar “werth ardrethol” eich cartref.
Mae rhai pobl yn talu llai gyda mesurydd, eraill ddim – mae’r cyfan yn dibynnu ar eich sefyllfa eich hun.
Gwirio a allai mesurydd fod yn rhatach
Chwiliwch am eich bil, yna cysylltwch â’ch cyflenwr neu defnyddiwch y Gyfrifiannell Mesurydd Dŵr ar wefan Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Byddwch yn cael amcangyfrif o faint fyddai eich biliau pe byddech wedi gosod mesurydd.
Gosod mesurydd am ddim
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch gael gosod mesurydd am ddim.
Cysylltwch â’ch cwmni dŵr i weld os byddech yn arbed, ac yna llenwi ffurflen gais dros y ffôn, trwy’r post neu ar-lein.
Bydd y cwmni dŵr yn ymweld â'ch cartref i weld a yw’n bosibl i osod mesurydd.
Os ydyw, dylent ei osod o fewn tri mis. Er efallai bydd hyn yn hwy yn ystod cyfnodau clo coronafeirws.
Darganfyddwch pwy sy’n cyflenwi eich dŵr, a’u manylion cyswllt, ar wefan Ofwat
Yng Ngogledd Iwerddon, byddwch angen cysylltu â Northern Ireland Water
Yn yr Alban, os nad ydych ar fesurydd dŵr - mae eich biliau dŵr yn cael ei dalu i’ch cyngor lleol. Bydd hyn fel arfer ochr yn ochr â’ch Treth Gyngor.
Os penderfynwch newid i fesurydd dŵr, bydd rhaid i chi dalu’r gost o osod un eich hunain. Darganfyddwch fwy ar wefan Scottish Water
Pan gewch eich mesurydd
Nawr bod gennych eich mesurydd, gallwch ei ddefnyddio i weld a allwch leihau eich defnydd â rhai triciau syml.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau dŵr
Am ragor o awgrymiadau, ewch i wefan Ofwat
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gallwch newid eich meddwl
Os ydych wedi newid i fesurydd a chanfod fod eich biliau’n fwy - gallwch newid yn ôl i filio heb fesurydd.
Dim ond i chi ofyn i’ch cwmni o fewn y flwyddyn gyntaf. Ni chânt wared ar y mesurydd, ond byddant yn newid eich biliau yn ôl.
Beth os gwrthodir mesurydd i chi?
Os gwrthodir darparu mesurydd dŵr i chi gallwch ofyn am daliadau wedi eu hasesu. Gall mesurydd dŵr gael ei wrthod os yw’ch cwmni dŵr yn meddwl ei fod yn rhy anodd neu’n rhy ddrud.
Mae’r ffioedd hyn sydd wedi’u hasesu yn seiliedig ar gyfartaledd biliau a delir gan bobl gyda mesuryddion. Felly gwiriwch a fyddai’n rhatach.
Gall rhentwyr newid hefyd
Nid yw’r ffaith eich bod yn rhentu yn golygu na ddylech ofyn am gael newid, oherwydd os yw’ch enw ar y biliau dŵr, gallwch ofyn am fesurydd dŵr.
Yn swyddogol, nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd gan eich landlord os oes gennych gontract byr - ond mae’n debygol ei fod yn syniad da i ofyn beth bynnag.