Ydych chi'n poeni am eich biliau ynni'n codi? Darganfyddwch pa help sydd ar gael os ydych yn poeni am dalu biliau neu fethu taliad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
- Cynllun Cymorth Biliau Ynni
- Gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
- Grantiau effeithlonrwydd ynni
- Arbed arian os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
- Tariff ynni pris sefydlog vs tariff ynni cyfradd amrywiol
- Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
- Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
- Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
- Beth sy’n digwydd os wyf yn methu taliad ar fy mil nwy neu drydan?
- Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
Mae biliau ynni yn uchel iawn ar y foment, ond mae ambell beth y gallwch ei wneud i gadw’ch costau mor isel â phosibl.
Os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi, darganfyddwch fwy am y Warant Pris Ynni yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi
A ddylwn newid i fargen sefydlog?
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Fel arfer mae’n rhatach i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol ac ni fydd rhaid i chi boeni am fethu taliadau.
Os ydych yn ystyried stopio eich Debyd Uniongyrchol o ganlyniad i gostau ynni cynyddol darllenwch ein blog cyn i chi wneud unrhyw beth
Defnyddio llai
Mae’n swnio’n amlwg, ond po leiaf o ynni a ddefnyddiwch po rataf fydd eich biliau.
Mae yna ddigon o awgrymiadau a thriciau i dorri'ch defnydd. Rydym wedi rhestru rhai isod.
Dyma rai syniadau cyflym i'ch helpu i dorri'n ôl:
- Caewch eich llenni a defnyddiwch rimynnau drafft i atal gwres rhag dianc.
- Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant golchi llestri ar dymheredd is, neu rhowch nhw ar y gosodiad ‘eco’ – a pheidiwch â rhoi’r golch ymlaen pan nad oes gennych lwyth llawn.
- Dewch i'r arfer o ddiffodd goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell a diffodd eitemau trydanol yn hytrach na'u gadael yn y modd segur.
Dewch o hyd i ragor o awgrymiadau i ostwng eich biliau yn Energy Saving TrustYn agor mewn ffenestr newydd
Dewch o hyd i awgrymiadau i leihau eich defnydd ynni a gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni ar wefan Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth.
Gwneud eich cartref yn fwy eco-gyfeillgar
Gwell insiwleiddio, boeler newydd, paneli solar. Mae nifer o opsiynau a allai eich helpu i chi arbed hyd at £250 y flwyddyn. Efallai byddwch am edrych ar grantiau effeithiolrwydd ynni i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau i’r cartref
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cynllun Cymorth Biliau Ynni
Cynlluniau eraill y llywodraeth i'ch helpu yn 2022/23
Darganfyddwch fwy am gynlluniau'r llywodraeth a allai eich helpu, gan gynnwys y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, yn ein canllaw Beth i'w wneud am filiau ynni cynyddol
Bydd pob cwsmer ynni domestig yn cael £400 i ffwrdd o’u bil ynni o fis Hydref 2022.
Os ydych yn talu eich biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol neu gredyd, caiff yr arian ei gredydu i’ch cyfrif mewn chwe rhandaliad, unwaith y mis o fis Hydref 2022 i fis Mawrth 2023.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig clyfar bydd £66 neu £67 o gredyd yn cael ei ychwanegu at eich mesurydd unwaith y mis am chwe mis o fis Hydref ymlaen.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig traddodiadol, byddwch yn cael un daleb neu Special Action Message (SAM) y mis am chwe mis i'w ddefnyddio tuag at y top-ups. Bydd y talebau'n cael eu hanfon atoch yn wythnos gyntaf y mis gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd gan eich cwmni ynni ar ffeil. Gwnewch yn siŵr bod eich e-bost, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad wedi'u diweddaru fel nad ydych yn colli allan. Ar ôl i chi gael eich taleb, gallwch eu defnyddio lle byddech fel arfer yn mynd i ychwanegu ati, fel yn Swyddfa'r Post neu siop gyda pheiriant PayPoint.
Nid oes angen i chi wneud cais am hyn, os nad oes gennych fesurydd rhagdaledig bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu at eich bil yn awtomatig a bydd cwsmeriaid sy’n talu ymalen llaw yn cael eu talebau wedi’u hanfon atynt neu SAMs heb angen gofyn amdanynt. Anwybyddwch unrhyw negeseuon testun sgam, galwadau neu negeseuon e-bost sy'n dweud wrthych eu bod angen eich manylion banc ar gyfer y gostyngiad.
Yn ogystal â hynny, bydd pob cartref yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn taliad un tro o £600 i helpu gyda'u biliau ynni, gyda'r taliadau, yn dechrau ym mis Ionawr. Bydd y gefnogaeth yn cyfuno gwerth £400 o gefnogaeth gan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni Gogledd Iwerddon (EBSS NI) a £200 o dan y cynllun Taliad Tanwydd Amgen (AFP) ar gyfer defnyddio tanwydd oddi ar y grid fel LPG neu olew gwresogi.
Bydd y Taliad Tanwydd Amgen ar gael i bob cartref yng Ngogledd Iwerddon, nid dim ond y rhai sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid.
Bydd cwsmeriaid sy'n talu trwy gwmni Debyd Uniongyrchol yn cael y £600 i'w cyfrif banc yn uniongyrchol. Bydd cwsmeriaid eraill yn cael taleb i adbrynu'r taliad o £600.
Gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon
Awgrym da
Gwiriwch yr argymhellion ar Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich eiddo, os oes gennych chi un. Gallwch weld eich Tystysgrif ar y Gofrestr EPC
Mae gwario tipyn bach er mwyn arbed llawer iawn yn fuddsoddiad da – yn enwedig os cewch wario arian rhywun arall.
Mae llawer o grantiau ar gael i helpu gyda phethau fel:
- gwella eich insiwleiddiad
- uwchraddio eich boeler a’ch cyfarpar
- gosod paneli haul neu dechnolegau adnewyddadwy eraill
Hyd yn oed heb grant, bydd rhai o’r buddsoddiadau hyn yn ad-dalu beth rydych wedi’i wario’n eithaf cyflym. Yna byddant yn dechrau arbed arian i chi.
Grantiau effeithlonrwydd ynni
Gwiriwch pa grantiau arbed ynniYn agor mewn ffenestr newydd y gallech ei gael ar wefan Simple Energy Advice
Rhowch eich cod post i ddarganfod sut allwch wella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy ddefnyddio cyfrifiannell Simple Energy AdviceYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am y Grant Cartrefi Gwyrdd, a chynlluniau tebyg ar gael yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau cartref.
Arbed arian os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
Mae mesurydd rhagdaledig yn gweithio fel tariff ‘talu wrth fynd’ ar gyfer nwy neu drydan. Mae rhaid i chi dalu am yr ynni cyn y gallwch ei ddefnyddio.
Golyga hynny rhoi arian yn uniongyrchol i mewn i’ch mesurydd, yn defnyddio allwedd mesurydd trydan neu nwy, tocynnau neu, mewn rhai achosion talu ar-lein.
Prif fantais mesuryddion rhagdaledig yw na fyddwch yn gwario mwy nag sydd gennych. Ond hefyd, dyma un o’r ffyrdd mwyaf costus o brynu ynni.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gael y mwyaf o’ch mesurydd rhagdaledig yn MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
A gaf newid ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig, gallwch newid o hyd ond ar hyn o bryd i’r rhan fwyaf o bobl bydd yn well aros lle rydych gan fod prisiau wedi’u capio i ddim mwy na £2,500 y flwyddyn os ydych yn ddefnyddiwr cyffredin.
Os ydych eisiau, neu’n gorfod cadw at, fesurydd rhagdalu – gallwch wirio o hyd i weld a oes bargen ratach y gallwch newid iddi.
Os oes, ni fydd yr un o'r chwech mawr yn codi tâl i newid i fesurydd credyd a all fod yn rhatach.
Mae'n debyg y bydd rhaid i chi gael gwiriad credyd a bydd angen i'ch cyfrif ynni fod yn rhydd o ddyled.
A fydd mesurydd deallus yn fy helpu i arbed arian?
Gall mesurydd deallus eich helpu i olrhain eich defnydd o ynni fel y gallwch geisio lleihau faint rydych yn ei ddefnyddio a phryd.
Darganfyddwch fwy am fesuryddion deallus o’r rheoleiddwr ynni OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Tariff ynni pris sefydlog vs tariff ynni cyfradd amrywiol
Mae newid i fargeinion cyfradd ynni sefydlog yn edrych yn fwy drud o’i gymharu i aros gyda chyfradd safonol amrywiol eich cyflenwr, gan fod cyfraddau safonol amrywiol nawr yn cael eu diogelu gan y Warant Pris Ynni o £2,500 y flwyddyn am gartrefi gyda defnydd cyffredinol.
O Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024, bydd y Gwarant Pris Ynni yn £3,000 y flwyddyn.
Efallai byddwch hefyd yn ffeindio ni fydd cwmnïau ynni yn eich cymryd ymlaen fel cwsmer newydd.
Beth os yw fy margen sefydlog yn dod i ben ar ôl i’r cap pris gynyddu?
Pan ddaw eich cynllun sefydlog i ben, bydd eich cyflenwr yn eich rhoi ar eu tariff amrywiol safonol. Gyda’r prisiau ynni uchel yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, hwn fydd y Warant Pris Ynni. Bydd hyn yn cyfyngu ar y swm y byddwch yn ei dalu.
Os ydych yn agos at ddiwedd cynllun sefydlog, ni fydd rhaid i chi dalu ffi i'w adael a symud i dariff newydd – ar yr amod bod eich newid wedi'i gwblhau o fewn 49 diwrnod olaf eich cytundeb presennol.
Darganfyddwch fwy am y Warant Pris Ynni yn ein canllaw Beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod eich biliau ynni’n codi
Tariff ynni sefydlog
Taflen ffeithiau bil ynni
Gallwch rannu dudalen ffeithiau’r llywodraeth ar filiau ynniYn agor mewn ffenestr newydd gyda’ch landlord os nad ydych yn meddwl eu bod wedi pasio’r gostyngiad ymlaen o’r Warant Pris Ynni neu’r gostyngiad £400 o’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS).
Gyda thariff ynni pris sefydlog, ni fydd codiadau pris yn ystod y contract yn effeithio arnoch. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dariffau cyfradd sefydlog sy'n rhatach na'r gyfradd newidiol safonol gyda’r pris wedi'i gapio.
Os byddwch yn dewis tariff cyfradd sefydlog a bod prisiau ynni'n disgyn, byddwch yn dal i dalu'r hen gyfradd uwch tan ddiwedd y contract.
Os ydych am newid eto cyn iddo ddod i ben, mae gan rai tariffau sefydlog ffioedd gadael, y bydd angen i chi eu talu i adael.
Nid yw cael tariff sefydlog ychwaith yn golygu y byddwch yn talu’r un swm am bob bil. Y tariff sy’n aros yr un fath a bydd eich bil ynni yn codi ac yn gostwng gyda’ch defnydd.
Os gwnaethoch gofrestru am dariff sefydlog cyn y cyhoeddiad y bydd cap ar brisiau ym mis Hydref bellach wedi’i gyfyngu i £2,500 y flwyddyn yn lle £3,549, efallai y byddwch am aros ar y gyfradd amrywiol safonol yn awr. Gallwch ofyn i’ch darparwr ganslo’ch cytundeb a ni fydd ffioedd gadael os gwnaethoch gofrestru o fewn y 14 diwrnod diwethaf. Os gwnaethoch benderfynu sefydlu mwy na 14 diwrnod yn ôl, dylech ystyried a yw’r ffioedd gadael y mae eich darparwr yn eu codi yn werth eu talu.
I’r rhan fwyaf o bobl mae’n debyg mai tariff cyfradd amrywiol safonol yw’r dewis gorau. Mae eich biliau’n codi ac yn gostwng yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad ynni. Os bydd prisiau ynni yn gostwng, bydd eich bil yn gostwng. Os byddant yn codi, bydd angen i chi fod yn barod i dalu costau uwch, hyd at pris y cap.
Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
Weithiau gallech fod yn defnyddio mwy o ynni na’r hyn a dybir gan eich cyflenwr ynni.
Mae hyn yn fwy o broblem os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu os nad ydych yn anfon y manylion o’ch mesurydd i’ch cyflenwr yn rheolaidd.
Os ydych yn defnyddio mwy o ynni, gallai’ch cyflenwr anfon bil atoch am ragor a ddefnyddiwyd gennych yn flaenorol. Mae hwn yn fil am yr ynni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych dros yr hyn a dalwyd gennych.
Os ydych yn newid cyflenwr, gallwch gael bil i dalu am ddefnydd blaenorol. Bydd hyn yn ddibynnol ar ba mor fanwl gywir y codwyd biliau arnoch am eich defnydd o ynni.
Mae rheolau ynghlwm â bilio am ynni blaenorol fel hyn. Gallant fod am unrhyw swm ond ni chânt gynnwys defnydd o ynni fwy na 12 mis yn ôl.
Darganfyddwch fwy am filio am ynni blaenorol yn OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru’ch cartref beri pryder. Fodd bynnag, mae help ar gael os ydych yn cael trafferth.
Mae’n bwysig cysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am help cyn i chi fethu taliad.
Os ydych yn cael trafferth gydag arian neu’n ad-dalu dyled, gall yr opsiynau gynnwys:
- adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys dyled y gallech fod yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau
- seibiannau talu, neu ostyngiadau yn y swm rydych yn ei dalu
- cael mwy o amser i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych
- mynediad at gronfeydd caledi - mewn achosion eithriadol yn unig.
Darganfyddwch pwy yw’ch cyflenwr nwy neu drydan, a’u manylion cyswllt, ar fil ynni diweddar.
Os ydych dal yn ansicr, ewch i wefan Ofgem
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, ewch i wefan NI Electricity Networks
Efallai y bydd gan eich cyflenwr ynni llai o staff ar gael i’ch helpu ar hyn o bryd. Ceisiwch gysylltu â hwy ar-lein. Os na chewch ateb, mae’n werth ei ddilyn i fyny.
Os ydych yn cael budd-daliadau, efallai y gallech dalu arian yn ôl sy’n ddyledus i’ch cyflenwr ynni drwy’r cynllun Fuel Direct.
Mae hyn yn gweithio trwy dynnu swm penodol o arian o’ch budd-daliadau i dalu’ch dyledion, ynghyd â swm ychwanegol i dalu am eich defnydd o ynni, yn awtomatig.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch cyflenwr. Darganfyddwch fwy ar wefan Northern Ireland Electricity Networks
Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
Wrth i gostau ynni cynyddu, bydd eich taliadau misol yn cynyddu hefyd. Fodd bynnag, os ydych yn meddwl bod y taliadau y gofynnir i chi eu gwneud yn ormodol ac mae llawer o gredyd yn eich cyfrif yn barod, gallwch ofyn i’ch cyflenwyr ei newid. Mae côd Ofgem am gyflenwyr sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn nodi dylent osod Debyd Uniongyrchol teg a gallu esbonio i chi pam fod y swm yn rhesymol. Os na allant, gallwch ofyn i’ch cyflenwr ad-dalu rhai o’ch credyd.
Mae gan MoneySavingExpert cyfrifiannell i’ch helpu cyfrifo beth ddylai eich taliad misol fodYn agor mewn ffenestr newydd
Mae biliau ynni gaeaf fel arfer llawer yn uwch na rhai’r haf, felly yn lle codi tâl am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio pob mis bydd cyflenwyr yn aml yn cymryd eich defnydd blynyddol a’i rhannu i 12 rhan, fel bod y gost wedi lledaenu’n fwy gyfartal. Gall hyn esbonio pam ofynnir i chi dalu am fwy nag ydych yn ei ddefnyddio. Gallwch sicrhau bod eich biliau mor gywir â phosibl gan gymryd darlleniadau mesurydd yn rheolaidd, os oes gennych fesurydd deallus mae’r darlleniadau’n cael eu danfon yn awtomatig.
Os oeddech yn ystyried canslo’ch Debyd Uniongyrchol fel rhan o brotest, rydym wedi ysgrifennu’r blog hwn i helpu esbonio risgiau Don’t Pay UK – Meddwl am beidio â thalu’ch bil ynni? Darllenwch hwn yn gyntaf
Beth sy’n digwydd os wyf yn methu taliad ar fy mil nwy neu drydan?
A ydych wedi methu mwy nag un taliad ac nad ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch darparwr? Mae’n well i chi gael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Edrychwch ar ein canllaw Sut i flaenoriaethu eich dyledion i’ch helpu i ddatrys pa rai i’w talu gyntaf
A yw'n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractau trydan a nwy ar wahân?
Yn syml, mae tariff tanwydd deuol yn golygu eich bod yn cael eich nwy a'ch trydan gan yr un cyflenwr ynni.
Bydd llawer o dariffau sefydlog, ar-lein a safonol yn cynnig opsiwn tanwydd deuol.
Mae llawer o dariffau tanwydd deuol hefyd yn cynnig gostyngiad am gymryd nwy a thrydan gan yr un cwmni.
Gall fod yn fwy cyfleus delio ag un cyflenwr na mynd gyda dau gyflenwr ar wahân ar gyfer nwy a thrydan. Weithiau gall fod yn rhatach ond nid dyma'r opsiwn rhataf bob amser.
Darganfyddwch fwy am dariffau ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â’ch darparwr ynni yn gyntaf. Bydd rhif ffôn a gwefan eich cyflenwr ar eich bil ynni.
Eglurwch beth yw'r broblem a beth rydych am i'ch cyflenwr ei wneud yn ei gylch. Gallwch ddefnyddio templed llythyrau cwyn am ddimYn agor mewn ffenestr newydd o wefan Cyngor ar Bopeth.
Yna bydd gan gyflenwyr ynni hyd at wyth wythnos i ddweud wrthych am eu penderfyniad ar y cwyn.
Os na allwch ddod i gytundeb gyda’ch cyflenwr ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn am “llythyr terfyn amser”, sy’n eich galluogi i fynd â’ch achos yn rhad ac am ddim at yr Ombwdsmon Ynni.
Bydd yr Ombwdsmon Ynni wedyn yn penderfynu gyda pha barti y mae'n cytuno a sut i ddatrys y mater.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cwyn ar wefan OfgemYn agor mewn ffenestr newydd