A yw'ch darparwr rhyngrwyd wedi codi prisiau, gan roi gwasanaeth gwael i chi neu a ydych wedi gweld bargen well yn rhywle arall? Darganfyddwch sut i newid cwmnïau band eang i sicrhau eich bod yn cael y cysylltiad a'r cyflymderau gorau am eich arian.
Beth sydd yn y canllaw hyn
Sut i newid band eang
Gwiriwch eich costau presennol
Casglwch eich biliau a gwiriwch enw’ch pecyn, faint yr ydych yn ei dalu am fand eang, rhentu’r llinell ac unrhyw alwadau. Ewch yn ôl dros y misoedd diwethaf. A oes yna unrhyw beth sy’n ychwanegu’n sylweddol at y gost? A ydi’r fargen wedi rhedeg allan? Yn mynd dros drothwy’ch lwfans? A yw eich pecyn presennol yn bodloni’ch amgylchiadau?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn cartref a band eang
Deallwch eich lefel o ddefnydd
Cwtogwch eich costau band eang drwy baru’r hyn a dalwch amdano gyda’r hyn sydd ei angen arnoch. Meddyliwch am anghenion eich cartref. Sawl teclyn sy’n cystadlu am gysylltiad? Os oes consol gemau, nifer o ffonau deallus, gliniadur, tabled a theledu sy’n cynnig ail ddarlledu rhaglenni, oll yn rhedeg ar yr un pryd, byddwch angen pecyn sy’n medru ymdopi â hynny.
Does dim pwynt dewis band eang sy’n rhad os ydych yn wynebu costau ychwanegol drud bob tro yr ewch chi dros drothwy’ch trefniant defnydd. Y gair adnabyddus am hyn yw “diderfyn” neu “unlimited” yn Saesneg ac os ydych wir angen rhyngrwyd cyflym, efallai mai band enag 'fiber optic' fyddai'r dewis gorau i chi.
Ar y llaw arall, peidiwch â thalu mwy am ddefnydd diderfyn a chysylltiad cyflym os mai’r cwbl a wnewch yw cadw llygad ar eich negeseuon e-bost a mynd ar ambell i wefan.
Mynnwch fargen
Gall fod yn rhwystredig gweld y bargeinion gorau yn cael eu cynnig i gwsmeriaid newydd, tra eich bod chi wedi bod yn talu’r swm llawn ers blynyddoedd. Ond gall cwsmeriaid presennol ofyn am fargeinion gwell hefyd.
Paratowch, gan ddysgu yn union beth sy’n cael ei gynnig gan eraill a rhowch alwad i’ch darparwr. Dewiswch yr opsiynau “yn ystyried gadael”, a chael siarad â’r tîm cadw neu ddatgysylltu cwsmeriaid.
Dywedwch wrthynt eich bod yn ystyried newid er mwyn cael gwell bargen gyda darparwr arall. Disgwyliwch i weld a fyddant yn cynnig gwell bargen i chi – band eang am bris is, rhentu’r llinell am bris rhatach, cyflymderau cyflymach, lwfansau diderfyn, trefniadau i gael rhagor o alwadau yn eich pris a gwell llwybrydd. Mae pob pum punt y byddwch yn ei arbed bob mis yn rhoi £60 yn ôl yn eich poced ar ddiwedd bob blwyddyn.
Am fwy o awgrymiadau ar haglo, gweler gwefan Which?
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Cyn ac ar ôl i chi newid band eang
Byddwch yn wyliadwrus o gyflymder 'hyd at'
Mae darparwyr band eang yn hysbysebu cysylltiadau rhyfeddol o gyflym, ond byddwch yn wyliadwrus o’r term ‘hyd at’, oherwydd gallai olygu na chewch y cyflymderau uchaf sy’n cael eu hysbysebu.
Mae gan wefan Which? brawf cyflymder band eang am ddim i wirio pa mor gyflym yw'ch cysylltiad cyfredol.
Gwiriwch yr hyn rydych yn ei gael mewn gwirionedd o'i gymharu â'r hyn rydych yn talu amdano. Os oes gwahaniaeth mawr, mynnwch fargen am bris gwell gan eich darparwr presennol.
Os ydych yn ystyried newid, gofynnwch i'r darparwr newydd am amcangyfrif realistig o'r cyflymder y byddwch chi'n ei gael mewn gwirionedd.
Cael teclyn i wneud y gwaith caled i chi
Rhowch eich cod post i mewn i wefan gymharu i weld beth sydd ar gael.
Ar gyfer band eang, defnyddiwch wefan sydd wedi'i hachredu gan Ofcom
Ystyriwch yr hirdymor
Gall gwefannau cymharu gynnig llu o opsiynau dryslyd: cwmni, cyflymder, defnydd, math o fand eang, hyd contract, cynigion rhagarweiniol, rhoddion am ddim a hyd yn oed talebau siopa. Peidiwch â glynu wrth hen becyn sydd wedi'i or-brisio, pan fyddwch yn gallu arbed cannoedd o bunnoedd.
Canolbwyntiwch ar y cyflymder a'r defnydd rydych ei eisiau. Edrychwch y tu hwnt i gynigion byrdymor rhad iawn - cymharwch gost y flwyddyn gyntaf.
Gweld beth mae eich darparwr presennol yn ei gynnig i gwsmeriaid newydd, a beth allwch chi ei gael yn rhywle arall.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn bwysig
Nid oes gan ddarparwyr band eang yr enw da gorau am wasanaeth cwsmeriaid. Cadwch eich pwysedd gwaed i lawr - edrychwch ar adborth ar foddhad cwsmeriaid cyn newid i ddarparwr arall.
Os ydych wedi cael amser gwael gyda'ch cwmni presennol, pleidleisiwch â'ch traed a symud i ffwrdd.
Gweler y sgoriau gwasanaeth cwsmeriaid diweddaraf ar wefan Ofcom
Darganfyddwch a allwch adael am ddim
Peidiwch â newid i rywle arall heb wirio a fyddwch yn wynebu bil mawr. Gall contractau redeg am 12, 18 neu hyd yn oed 24 mis. Os byddwch yn newid cwmni yn gynharach, efallai y cewch eich effeithio gan ffioedd terfynu neu ganslo. Gallai ffioedd ymadael drud ddileu unrhyw arbediad o newid, felly efallai y byddai'n well aros nes bydd eich contract ar ben.
Yn nghnaol y contract? Mae'n dal yn werth ffonio'ch darparwr a gofyn a allech dorri costau gyda phecyn gwahanol.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch adael eich contract yn gynnar heb dalu ceiniog. Mae'r rhain yn cynnwys codiadau prisiau a gwasanaeth gwael (cyflymderau araf).