Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Ffioedd a chostau morgais wrth brynu neu werthu cartref

P'un a ydych yn prynu cartref, yn gwerthu, neu'n gwneud y ddau ar yr un pryd, nid yw'r broses yn rhad. O flaendal morgais hyd at gostau cynnal a chadw, byddwn yn egluro popeth y gallech fod angen ei dalu

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Faint ydych ei angen i brynu neu werthu eiddo?
  • Blaendal
  • Ffi asiant tai
  • Ffioedd morgais
  • Ffi syrfëwr
  • Yswiriant cartref
  • Ffioedd cyfreithiol a thrawsgludo
  • Costau symud cartref
  • Treth wrth brynu neu werthu eich cartref
  • Costau parhaus ar ôl prynu eich cartref
  • Taliadau prydleswr a rhydd-ddaliwr

Faint ydych ei angen i brynu neu werthu eiddo?

Wrth brynu neu werthu cartref, gallech wario dros £5,000 ar ffioedd. Nid yw hyn yn cynnwys eich blaendal a'ch Treth Stamp neu Dreth Tir.

Os ydych yn gwerthu'ch cartref presennol ac yn prynu un newydd, gallech wario dwbl y swm hwn.

Mae'r hyn rydych yn ei dalu yn y pen draw yn dibynnu ar ba wasanaethau sydd eu hangen fel rhan o'ch symud, ble rydych yn byw, gwerth yr eiddo a'r dewisiadau rydych yn eu gwneud ar hyd y ffordd.

Nol i’r brig

Blaendal

Y blaendal yw'r swm o arian rydych yn ei dalu ymlaen llaw wrth brynu cartref.

Fel arfer, mae angen i hyn fod o leiaf 5% i 20% o bris prynu’r eiddo.

Er enghraifft, gallai blaendal ar gyfer cartref gwerth £300,000 fod:

  • £15,000 (5%)
  • £30,000 (10%)
  • £45,000 (15%)
  • £60,000 (20%) neu fwy.

Rydych yn fwy tebygol o gael cynnig cyfradd llog morgais is os oes gennych flaendal mwy. Fel rheol gyffredinol, dylai blaendal sydd yn o leiaf 40% o bris yr eiddo sicrhau'r fargen morgais fwyaf cystadleuol i chi.

Mae Mynegai Prisiau Tai y DUYn agor mewn ffenestr newydd yn nodi mai pris cyfartalog tai yn y DU yw £281,000 (Mai 2024).  

Nol i’r brig

Ffi asiant tai

Mae gwerthwyr fel arfer yn talu rhwng 1% a 3% o'r pris gwerthu terfynol ynghyd â 20% TAW wrth ddefnyddio asiant tai. Gallwch drafod y pris pan fydd yr asiant yn rhoi eich eiddo ar y farchnad.

Mae gwerthwyr tai ar-lein yn aml yn codi ffi unffurf am eu gwasanaeth.

Mae'n werth cymharu prisiau ar gyfer gwerthwyr tai ar-lein a'r stryd fawr. Yna gallwch weld pa un sy’n rhoi’r gwerth gorau i chi a'ch pris gwerthu delfrydol.

Fel arfer, ni fydd prynwyr yn talu ffioedd asiant tai, ond mae rhai asiantaethau tai ar-lein yn codi 'ffi prynwr'. Gwiriwch cyn i chi wneud cynnig i osgoi cost annisgwyl.

Nol i’r brig

Ffioedd morgais

Ffioedd wrth gymryd morgais newydd

Fel prynwr, efallai y bydd angen i chi dalu'r ffioedd hyn wrth gael morgais:

  • ffi archebu (£100-£200)
  • ffi trefniant neu gynnyrch (£1,000-£2,000+), a
  • ffi cyfrif morgais (£100-£300).

Mae'n well talu'r ffioedd hyn ymlaen llaw. Os byddwch yn eu hychwanegu at eich morgais, byddwch yn talu llog arnynt am oes y benthyciad.

Gwiriwch a oes modd cael ad-daliad o ffioedd archebu a threfnu os nad yw'r morgais yn mynd yn ei flaen.

Ffioedd ailforgais

Efallai y bydd angen i chi dalu £1000 neu fwy am gost newid eich morgais.

Efallai y bydd arnoch ffi gadael morgais neu dâl ad-dalu cynnar (ERC) i'ch hen ddarparwr benthyciadau os byddwch yn newid morgais cyn diwedd tymor y fargen / cynhyrch.

Siaradwch â'ch benthyciwr am y costau hyn.

'Pontio' eich morgais

Os ydych yn symud tŷ, efallai y byddwch yn gallu cadw'ch morgais presennol (gelwir hyn yn 'pontio').

Darllenwch fwy am bontio yn ein canllaw gwerthu.

Arolwg prisiad morgais

Ar ôl i’ch cynnig gael ei dderbyn, bydd eich darparwr morgais yn gofyn am brisiad morgais. Mae'r arolwg hwn yn gwirio a yw'r eiddo yn werth y pris rydych yn ei dalu - neu o leiaf y swm rydych yn ei fenthyg - cyn iddynt gymeradwyo eich morgais.

Nid yw'n arolwg strwythurol llawn, felly ni fydd yn nodi atgyweiriadau neu waith cynnal a chadw y gallai fod eu hangen.

Gofynnwch i'ch benthyciwr pwy sy'n talu'r gost hon. Fel arfer, mae benthycwyr yn talu, ond efallai y bydd angen i chi gyllidebu rhwng £150-£800 yn seiliedig ar werth yr eiddo.

Nol i’r brig

Ffi syrfëwr

Gall arolygon prynwyr cartref fod yn gost ymlaen llaw sylweddol, yn amrywio rhwng £400 a £1,500.  Ond gall arbed arian i chi ar atgyweiriadau yn y tymor hir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio syrfëwr sy'n aelod o gorff llywodraethu cydnabyddedig, fel:

  • Cymdeithas Syrfewyr Eiddo Preswyl (RPSA)Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)Yn agor mewn ffenestr newydd

Mathau o arolwg

Dewiswch eich arolwg bob amser yn seiliedig ar oedran a chyflwr yr eiddo, nid y gost.

Arolwg Cartref Lefel 1 (neu Arolwg Cyflwr)

  • Arolwg mwyaf sylfaenol.
  • Gorau ar gyfer cartrefi newydd a rheolaidd mewn cyflwr da.
  • Adrodd ar gyflwr eiddo ac yn dod o hyd i unrhyw broblemau.
  • Nid yw'n rhoi cyngor ar atgyweiriadau.
  • Mae'n costio tua £380 (ac yn mynd i fyny gyda gwerth yr eiddo).

Arolwg Cartref Lefel 2 (neu Arolwg Prynwyr Cartref)

  • Gorau ar gyfer cartrefi rheolaidd mewn cyflwr teg.
  • Mae'n dod o hyd i broblemau strwythurol fel ymsuddiant neu damprwydd, ond nid yw'n edrych o dan fyrddau llawr na y tu ôl i waliau.
  • Mae rhai adroddiadau'n cynnwys prisiad eiddo, a allai eich helpu i newid eich cynnig.
  • Mae'n costio tua £400 (ac yn mynd i fyny gyda gwerth yr eiddo).

Arolwg Cartref Lefel 3 (neu Arolwg Adeiladu neu Strwythurol Llawn)

  • Arolwg mwyaf trylwyr.
  • Yn dda i bob cartref, yn enwedig rhai hŷn y gallai fod angen atgyweiriadau.
  • Rhoi cyngor manwl ar atgyweirio; Gall syrfëwr roi barn ar ddiffygion cudd ac opsiynau atgyweirio.
  • Mae'n costio £600+ (ac yn mynd i fyny gyda gwerth yr eiddo).

Arolwg Mân Broblemau Adeilad Newydd

  • Archwiliad annibynnol sy'n dod o hyd i unrhyw faterion adeiladu.
  • Dylai datblygwyr ddatrys unrhyw broblemau cyn i chi symud i mewn a dylent drwsio unrhyw 'broblemau' hyd at ddwy flynedd ar ôl hynny.
  • Mae'n costio tua £300 (ac yn mynd i fyny gyda maint yr eiddo).

Am help i ddod o hyd i syrfëwr, ewch i ble i ddod o hyd i gyngor prynu cartref..

Nol i’r brig

Yswiriant cartref

Bydd angen i'ch benthyciwr gael yswiriant adeiladau i ddiogelu eich cartref rhag tân, llifogydd a difrod arall. Mae hefyd yn ddoeth cael yswiriant cynnwys ar gyfer eich pethau.

Cost gyfartalog y polisi yw:

  • £298 y flwyddyn ar gyfer yswiriant adeiladau
  • £132 y flwyddyn ar gyfer yswiriant cynnwys
  • £375 y flwyddyn ar gyfer yswiriant adeiladau a chynnwys

Mae rhai benthycwyr yn awgrymu eich bod yn cael yswiriant bywyd i ad-dalu'ch morgais os byddwch yn marw cyn iddo gael ei dalu i ffwrdd. Gall y polisïau hyn gostio llai na £10 y mis.

Darganfyddwch fwy yn Diogelu eich hun a’ch cartref: chwilio am yswiriant.

Nol i’r brig

Ffioedd cyfreithiol a thrawsgludo

Fel arfer byddwch angen cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig i wneud yr holl waith cyfreithiol wrth brynu a gwerthu eich cartref.

Fel arfer mae ffioedd cyfreithiol tua £2,000, gan gynnwys TAW ar 20%.

Bydd cyfreithwyr prynwyr hefyd yn gwneud chwiliadau lleol. Mae hyn yn costio £250-£300 ac maent yn gwirio ar gyfer unrhyw gynlluniau neu broblemau lleol.

Defnyddiwch ein canllaw i ddod o hyd i’r cyfreithiwr neu drawsgludwr iawn.

Ffioedd trosglwyddo electronig

Fel prynwr, efallai y bydd eich benthyciwr yn gwneud cais am dâl i symud y cronfeydd morgais i’ch cyfreithiwr. Mae hyn yn costio rhwng £25 a £50.

Efallai y bydd eich cyfreithiwr hefyd yn codi tâl arnoch am drosglwyddo'r arian o'ch cyfrif morgais i'r gwerthwr am ffi debyg.

Gellir cynnwys y costau hyn yn eu ffioedd cyfreithiol cyffredinol, felly mae'n werth gwirio eto os ydych yn talu.

Nol i’r brig

Costau symud cartref

P'un a ydych yn brynwr tro cyntaf neu'n symudwr cartref profiadol, mae'n bwysig gwybod a pharatoi ar gyfer y gost o symud, a all fod yn syndod o uchel.

Ffioedd symud cartref

Gall costau symud cyfartalog ddechrau o £400 i dros £1,000, er y gallech rentu fan a'i wneud eich hun.

Cofiwch chwilio am ddyfynbrisiau (a geirda) i ddod o hyd i gwmni dibynadwy ac yswiriedig.

I gael tawelwch meddwl ychwanegol, dewiswch gwmnïau a gymeradwywyd gan y British Association of Removers (BAR)Yn agor mewn ffenestr newydd

Costau storio

Os nad ydych yn symud i'ch cartref newydd ar unwaith, efallai y byddwch angen rhywle i gadw'ch eiddo'n ddiogel.

Fel pris canllaw, mae unedau hunan-storio yn codi tua £22 i logi uned storio o 50 troedfedd sgwâr am wythnos.

Mae'r costau'n amrywio yn dibynnu ar faint, lleoliad a hyd yr amser rydych angen llogi'r uned.

Edrychwch o gwmpas i gymharu prisiau a diogelwch - efallai na fydd gan opsiynau rhatach nodweddion diogelwch fel mynediad 24 awr neu fonitro teledu cylch cyfyng. 

Costau glanhau

Os ydych yn symud o rentu, mae angen i chi adael yr eiddo yn lân neu efallai y bydd eich landlord yn codi tâl arnoch am dorri telerau eich prydles. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhestr wirio symud tŷ ar gyfer rhentwyr preifat.

Ailgyfeirio post

Gallwch ailgyfeirio eich post i unrhyw le yn y DU neu dramor am hyd at 12 mis ar ôl i chi symud. Mae hyn yn helpu i osgoi colli unrhyw beth pwysig tra'ch bod yn rhoi gwybod i bobl a chwmnïau beth yw eich cyfeiriad newydd.

Prisiau'n dechrau o £36:

  • Post Office mail redirectionOpens in a new window

  • Royal Mail redirection serviceOpens in a new window  

Costau ychwanegol diwrnod symud

Meddyliwch am gostau diwrnod symud annisgwyl – ydych chi angen gofal plant ychwanegol neu le ar gyfer eich anifail anwes, neu a fydd gennych amser i goginio felly a ddylech gynllunio ar gyfer siopau tecawê am ddiwrnod neu ddau?

Gall y costau bach hyn ychwanegu i fyny, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cynnwys yn eich cyllideb. 

Nol i’r brig

Treth wrth brynu neu werthu eich cartref

Treth Stamp a Threth Tir

Yn dibynnu a ydych yn brynwr tro cyntaf, gwerth eich cartref newydd, a ble mae wedi'i leoli, efallai y bydd angen i chi dalu treth ar yr eiddo.

Mae hyn yn berthnasol i gartrefi rhydd-ddaliadol a lesddaliad, p'un a ydych yn prynu'n llwyr neu gyda morgais, felly edrychwch ar ein canllawiau i weld a ydych yn gymwys.

  • Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, byddwch yn talu Treth Stamp 
  • Yng Nghymru, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir 
  • Yn yr Alban, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau

Gall hyn fod hyd at 12% o werth eich cartref newydd. Defnyddiwch ein cyfrifianellau i weld faint y gallech ei dalu:

  • Cyfrifiannell Treth Stamp
  • Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir
  • Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau

Treth Enillion Cyfalaf

Os ydych yn gwerthu ail gartref yn y DU, gan gynnwys eiddo a etifeddwyd, efallai y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) ar unrhyw elw a wnewch.

Fel arfer, ni fyddwch yn talu CGT os ydych yn gwerthu'ch prif gartref, neu os oedd perthynas ddibynnol (fel rhiant oedrannus) yn byw yn yr eiddo.

Gwiriwch pa Dreth Enillion Cyfalaf sy'n ddyledus ar eich eiddo ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd  

Nol i’r brig

Costau parhaus ar ôl prynu eich cartref

Unwaith y byddwch yn prynu eich cartref eich hun, chi sy'n gyfrifol am ofalu amdano, felly dyma rai costau i edrych allan amdanynt.

Cynnal a chadw ac atgyweirio

Nid yw cael bil atgyweirio drud cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn yn ddelfrydol. Dylai'r arolwg cywir dynnu sylw at unrhyw broblem y mae angen ei datrys ar unwaith.  

I helpu i baratoi ar gyfer biliau annisgwyl, darllenwch ein canllaw ar Sut i ddechrau cynilo.

Treth Gyngor

Mae'r swm rydych yn ei dalu yn seiliedig ar ble mae'r eiddo a'r band prisio y mae'r eiddo ynddo (ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon lle mae'r cyfraddau'n cael eu gosod yn unigol).

Darganfyddwch fwy yn Treth Gyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian.

Costau cynnal a chadw

Gofynnwch i'r gwerthwr faint maent yn ei wario ar gyfleustodau - nwy, trydan a dŵr – bob blwyddyn.

Peidiwch ag anghofio meddwl am gostau ar gyfer eich ffôn, tanysgrifiadau teledu a band eang.

Am awgrymiadau defnyddiol, darllenwch ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref.

Nol i’r brig

Taliadau prydleswr a rhydd-ddaliwr

Mae yna wahanol ffyrdd o fod yn berchen ar eiddo - rhydd-ddaliad neu brydles.

 Os ydych yn prynu eiddo prydlesol, efallai y byddwch yn talu rhent tir a thaliadau gwasanaeth. 

Mae rhent tir yn ffi flynyddol am y tir y mae eich cartref arno. Gall fod mor isel â £10 y flwyddyn neu dros £500 ar gyfer fflatiau newydd eu hadeiladu. Ers mis Mehefin 2022, nid oes rhaid i chi dalu rhent tir ar gyfer prydlesi newydd yng Nghymru a Lloegr. Ond mae'n dal i fod yn berthnasol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Mae taliadau gwasanaeth yn ffioedd misol i gadw'r adeilad mewn cyflwr da. Gall y costau amrywio'n fawr, felly gofynnwch amdanynt bob amser cyn i chi brynu.

Gallai eich prydles hefyd gynnwys cymal yn dweud y gall y rhydd-ddeiliad ofyn i chi dalu cyfran o'r gost am unrhyw waith 'mawr' ar gyfer mannau cymunedol, felly gwiriwch y print bach bob amser.

Os ydych yn prynu cartref newydd ei adeiladu, gofynnwch am ffioedd rheoli ystadau. Taliadau misol yw'r rhain am gynnal ardaloedd cyffredin ystad ac fel arfer maent ar gyfer rhydd-ddeiliaid (er y gall rhai lesddeiliaid eu talu yn ychwanegol at rent tir a thaliadau gwasanaeth).

Adeiladwch gronfa gynilo ar gyfer costau annisgwyl gyda'n awgrymiadau ar gynilion ar gyfer argyfwng. 

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau