Os ydych chi’n prynu eiddo yng Nghymru fe fyddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir (LTT) os yw’r eiddo yn costio mwy na £225,000 i fyny o’r trothwy blaenorol o £180,000. Os ydych chi’n prynu eiddo ychwanegol, bydd angen i chi dalu’r cyfraddau preswyl uwch ar gyfer pob band.
Beth yw Treth Trafodiadau Tir?
Mae Treth Trafodiadau Tir (LTT) yn dreth efallai bydd rhaid i chi ei thalu os prynwch eiddo preswyl neu ddarn o dir yng Nghymru.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu LTT ar eiddo sy'n costio hyd at £225,000.
Os ydych yn prynu ail gartref, byddwch yn talu cyfraddau preswyl uwch LTT ar eiddo sy’n costio mwy na £40,000.
Mae’r dreth hon yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliad a phrydles – boed a ydych yn prynu’n llwyr neu â morgais.
Os ydych yn prynu yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau
Os ydych yn prynu yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Dreth Stamp
Faint yw Treth Trafodiadau Tir?
Mae sawl band cyfraddau ar gyfer Treth Trafodiadau Tir (LTT).
Cyfrifir y dreth ar ran pris pryniant yr eiddo sydd o fewn pob band.
Er enghraifft, os ydych chi'n prynu tŷ am £410,000, cyfrifir yr LTT sy’n ddyledus gennych fel a ganlyn:
0% ar y £225,000 cyntaf = £0
6% ar y £175,000 nesaf = £10,500
7.5% ar y £10,000 nesaf = £750
Cyfanswm y LTT = £11,250
Cyfraddau Treth Trafodiadau Tir (LTT)
Isafswm pris pryniant yr eiddo | Uchafswm pris pryniant yr eiddo | Cyfradd Treth Trafodiadau Tir |
---|---|---|
£0 |
£225,000 |
0% |
£225,001 |
£400,000 |
6% |
£400,001 |
£750,000 |
7.5% |
£750,001 |
£1,500,000 |
10% |
Over £1,500,000 |
12% |
Treth Trafodiadau Tir ar ail gartrefi
Bydd rhaid i brynwyr eiddo preswyl ychwanegol, fel ail-gartrefi ac eiddo prynu-i-osod, dalu cyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir (LTT) ar eiddo sy’n costio mwy na £40,000.
Isafswm pris pryniant yr eiddo | Uchafswm pris pryniant yr eiddo | Cyfradd Treth Trafodiadau Tir (sydd dim ond yn berthnasol i’r rhan o’r eiddo sydd o fewn pob band) |
---|---|---|
£0 |
£180,000 |
4% |
£180,001 |
£250,000 |
7.5% |
£250,001 |
£400,000 |
9% |
£400,001 |
£750,000 |
11.5% |
£750,001 |
£1,500,000 |
14% |
Dros £1,500,000 |
16% |
Pryd bydd rhaid i chi dalu Treth Trafodiadau Tir?
Bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Treth (LTT) a thalu’r hyn sy’n ddyledus gennych i Awdurdod Cyllid Cymru o fewn 30 diwrnod o'r diwrnod ar ôl cwblhau (neu ddyddiad effeithiol y trafodiad).
Os na chyflwynwch ffurflen a thalu’r dreth, gallai Awdurdod Cyllid Cymru codi cosbau a llog arnoch.
Sut i dalu Treth Trafodiadau Tir
Fel arfer bydd eich cyfreithiwr yn delio â’r ffurflen Treth Trafodiadau Tir (LTT), er gallwch ei wneud eich hun.
Y naill ffordd neu’r llall, chi sy’n gyfrifol am sicrhau y caiff ei chyflwyno’n brydlon.
Os yw pris eich cartref newydd o dan £225,000, mae'n rhaid i chi barhau i gyflwyno ffurflen dreth (oni bai eich bod wedi'ch eithrio) er na fydd angen i chi dalu unrhyw LTT.