Cynllun gan y llywodraeth yw Cymorth i Brynu i helpu prynwyr tro cyntaf i gael eiddo gyda blaendal o 5% yn unig. Gallwch fenthyg 20% o’r pris prynu (40% yn Llundain), yn ddi-log am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i'r cynllun hyd at 31 Hydref 2022, a rhaid cwblhau pryniannau cartref erbyn 31 Mawrth 2023.
Sut mae Cymorth i Brynu yn gweithio?
Mae’r cynllun Cymorth i Brynu yn cynnig benthyciad ecwiti lle mae’r llywodraeth yn benthyca arian i brynwyr tro cyntaf yn Lloegr i brynu cartref sydd newydd ei adeiladu.
Rhaid defnyddio hwn i brynu’ch prif breswylfa ac ni ellir ei ddefnyddio i brynu ail gartref neu eiddo prynu-i-osod.
Mae angen blaendal o leiaf 5% o’r pris prynu arnoch.
Gallwch fenthyg 20% (40% yn Llundain) o’r pris prynu. Mae’r swm hwn yn ddi-log am bum mlynedd.
Mae uchafswm pris prynu eiddo Cymorth i Brynu yn dibynnu ym mha ranbarth o Loegr rydych yn byw ynddo.
Ni allwch ddefnyddio Cymorth i Brynu i brynu eiddo sy’n uwch na’r terfynau hyn.
Mae Cymorth i Brynu ar gael yn amodol ar gymhwysedd, telerau ac amodau. Darganfyddwch fwy ar Own Your HomeYn agor mewn ffenestr newydd
Rhanbarth | Cap ar bris Cymorth i Brynu |
---|---|
Gogledd Ddwyrain |
£186,100 |
Gogledd Orllewin |
£224,400 |
Swydd Efrog a The Humber |
£228,100 |
Dwyrain Canolbarth |
£261,900 |
Gorllwein Canolbarth |
£255,600 |
Dwyrain Lloegr |
£407,400 |
Llundain |
£600,000 |
De Orllewin |
£437,600 |
De Ddwyrain |
£349,000 |
Bydd ceisiadau ar gyfer y benthyciad Cymorth i Brynu Ecwiti yn rhedeg tan 31 Hydref 2022, ac mae'n rhaid cwblhau pryniannau cartref erbyn 31 Mawrth 2023.
Darganfyddwch fwy am Gymorth i Brynu, a sut i wneud cais ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gwahaniaethau cenedlaethol
Darganfydwch fwy am Gymorth i Brynnu:
- os ydych yn byw yn yr Alban, ar wefan mygov.scot
- os ydych yn byw yng Nghymru, ar wefan Llywodraeth Cymru
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan Housing Advice NI
Mae gan Ogledd Iwerddon gynllun rhannau ecwiti gwahanol o’r enw Co-Ownership. Darganfyddwch fwy ar wefan Co-ownership
Os nad ydych eto wedi cwblhau eich pryniant
Ydych chi wedi cael eich derbyn am y benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu, ond heb gwblhau eich pryniant eto? Yna mae'r dyddiad cau yn dibynnu ar pam mae'r pryniant wedi'i ohirio.
Bydd yn rhaid i’r mwyafrif o bobl gwblhau eu pryniant erbyn 31 Mawrth 2021. Rhaid i’r adeiladwr cartref fod wedi cwblhau’r gwaith adeiladu fel ei fod yn barod i symud i mewn erbyn 28 Chwefror 2021.
Os gwnaethoch drefniadau i gadw’ch cartref erbyn 30 Mehefin 2020 a bod coronafeirws wedi gohirio’ch pryniant, rhaid i chi gwblhau erbyn 31 Mai 2021. Rhaid bod y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau erbyn 30 Ebrill 2021.
Dylech wirio gyda’ch adeiladwr cartref a’ch cyfreithiwr i sicrhau eich bod yn gallu cwrdd â’r dyddiadau hyn.
Sut mae’r benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gweithio
- Mae angen arnoch o leiaf 5% o bris prynu eich fflat neu dŷ a adeiledir o’r newydd.
- Bydd y llywodraeth yn benthyg i chi hyd at 20%, neu 40% os ydych yn byw yn Llundain, o’r pris prynu hyd at derfynau rhanbarthol.
- Rydych yn benthyca’r gweddill (hyd at 75%, neu 55% os ydych yn byw yn Llundain) gan ddarparwr morgais, ar sail ad-dalu.
- Mae’r benthyciad ecwiti yn ddi-log am bum mlynedd.
- Ar ôl pum mlynedd, codir 1.75% arnoch. Ar ôl y chweched flwyddyn, bydd y llog ar y benthyciad ecwiti yn cynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ynghyd â 2% (1% os gwnaethoch gymryd y benthyciad ecwiti cyn mis Rhagfyr 2019).
- Rhaid ad-dalu’r benthyciad ecwiti ar ôl 25 mlynedd, neu’n gynharach os ydych yn gwerthu’ch cartref.
- Rhaid i chi ad-dalu’r un ganran o enillion y gwerthiant â’r benthyciad ecwiti cychwynnol. Felly os cawsoch fenthyciad ecwiti am 20% o bris prynu eich cartref, rhaid i chi ad-dalu 20% o enillion y gwerthiant yn y dyfodol.
Enghraifft o sut mae'r benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gweithio
Enw’r cost | Canran y cyfanswm | Gwerth £ |
---|---|---|
Eich blaendal |
5% |
£10,000 |
Benthyciad ecwiti |
20% |
£40,000 |
Morgais |
75% |
£150,000 |
CYFANSWM |
|
£200,000 |
Y gyfradd llog ar gyfer talu’n ôl eich benthyciad di-log
Unwaith y daw’r cyfnod di-log i ben bydd y cyfraddau llog a godir ar eich benthyciad yn codi bob blwyddyn ym mis Ebrill gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ynghyd â 2%.
Blynyddoedd 1-5: dim ffioedd
Blwyddyn 6: 1.75% o’r benthyciad
Blwyddyn 7 ynlaen: 1.75% + CPI + 2% (1% os ydych wedi cymryd y benthiciad ecwiti cyn Rhagfyr 2019).
Nid yw’r costau hyn yn mynd tuag at talu benthyciad y llywodraeth.
Enghraifft sy'n dangos codiadau cyfradd llog nodweddiadol ar eich benthyciad o’r llywodraeth
Blwyddyn | Cyfradd llog |
---|---|
1 |
Dim taliadau llog |
2 |
Dim taliadau llog |
3 |
Dim taliadau llog |
4 |
Dim taliadau llog |
5 |
Dim taliadau llog |
6 |
1.75% |
7 |
1.82% |
8 |
1.90% |
Mae'r ffigurau uchod yn tybio bod CPI yn gyson ar 2% a dim gostyngiad yn swm y benthyciad.
O’r tabl, bydd eich taliad llog cyntaf yn 1.75% o’r swm y gwnaethoch ei fenthyg.
Bydd eich llog yn cynyddu bob blwyddyn ym mis Ebrill gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ynghyd â 2%. Cyfrifir hyn trwy luosi swm y benthyciad (pris prynu x canran benthyciad ecwiti). Bydd canran y benthyciad ecwiti yn lleihau os bydd unrhyw ad-daliad rhannol yn cael ei wneud.
Mae’r gyfradd llog yn cynyddu bob blwyddyn trwy ychwanegu CPI ynghyd â 2%. Yna defnyddir y gyfradd llog o’r flwyddyn flaenorol i gyfrifo’r codiad cyfradd llog ar gyfer y flwyddyn ganlynol
Er enghraifft, mae’r canlynol yn dangos sut mae unrhyw gynnydd yn y gyfradd llog yn cael ei gyfrif gan dybio bod CPI yn aros yn gyson ar 2% ac na wneir unrhyw daliadau i ad-dalu benthyciad o’r llywodraeth:
1.75% (y gyfradd ym mlwyddyn 6) + 0.07% (1.75% x (0.02 CPI + 0.02) = 1.82%
1.83% (y gyfradd ym mlwyddyn 7) + 0.07% (1.83% x (0.02 CPI + 0.02) = 1.90%
Pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref
Pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref, neu pan fydd y morgais yn cael ei ad-dalu’n llwyr, mae’n rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad ecwiti ynghyd â chyfran o unrhyw gynnydd yn y gwerth.
Enghraifft o sut mae'n gweithio pan fyddwch yn gwerthu'ch cartref
Cynnydd mewn gwerth |
25% |
Ad-dalu benthyciad ecwiti |
£50,000 (£40,000 + 25% o elw) |
Morgais |
£150,000 (llai ad-daliadau cyfalaf) |
Eich cyfran |
o leiaf £50,000 |
Gall y £50,000 sy’n weddill (neu’n fwy) gael ei ddefnyddio fel blaendal ar eich cartref nesaf.
Mae’r union swm yn dibynnu ar faint rydych wedi’i dalu oddi ar eich morgais.
Gallwch hefyd dalu rhan neu’r cyfan o’ch benthyciad yn ôl ar unrhyw adeg.
Y canran isaf y gallwch ei dalu yn ôl yw 10% o werth y farchnad eich cartref.
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn ôl yn dibynnu ar werth y farchnad ar y pryd.
I gael mwy o wybodaeth am Gymorth i Brynu, gan gynnwys beth i'w wneud os ydych chi am ail-forgeisio ewch i gynlluniau Cymorth i Brynu (Cwestiynau cyffredin)
Sut ydw i’n dod o hyd i fenthyciad ecwiti?
Siaradwch â’r asiant Cymorth i Brynu yn eich ardal leol neu ddatblygwr lleol sydd wedi’i gofrestru gyda Chymorth i Brynu.