Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Prynu eiddo yn yr Alban - llinell amser arian

Meddwl am brynu tŷ neu fflat yn yr Alban? Bydd y canllaw hwn yn eich tywys trwy’r gwahanol gamau fydd angen i chi eu cymryd, yn cynnwys cael morgais, siarad gyda chyfreithiwr a chwblhau arolygon cartref, yr holl ffordd i gwblhau.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cam 1 – Cael morgais ‘mewn egwyddor’
  • Cam 2 – Canfod cyfreithiwr
  • Cam 3: Adroddiad Cartref ac arolwg
  • Cam 4: Gwneud cynnig
  • Cam 5: Cytuno ar y cytundeb
  • Cam 6: Cwblhau a chamau terfynol

Cam 1 – Cael morgais ‘mewn egwyddor’

Cyn i chi allu rhoi cynnig am eiddo, bydd angen i chi gael cadarnhad gan fenthyciwr morgais ei fod yn barod i fenthyca’r arian i chi. Gelwir hyn yn forgais ‘mewn egwyddor’. Heb hyn, ni fydd eich cynnig yn cael ei gymryd o ddifrif.

Gwiriwch y bydd eich morgais a’ch blaendal yn talu am werth yr eiddo yr hoffech ei brynu.

Unwaith y byddwch chi wedi cytuno ar forgais ‘mewn egwyddor’ efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi archebu neu ffi arall i’w gadw. Cost nodweddiadol: £99-£250.

Peidiwch â gorestyn eich hun

Cofiwch fod nifer o dreuliau eraill y bydd angen i chi eu talu, yn cynnwys ffioedd morgais, ffioedd cyfreithiol ac, ar eiddo sy’n costio mwy na £145,000, Treth Trafodion Tir ac Adeiladau.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Prynu cartref - pa forgais alla i ei fforddio?
Y gost o brynu tŷ a symud
Nol i’r brig

Cam 2 – Canfod cyfreithiwr

Byddwch angen cyfreithiwr cyn i chi allu rhoi cynnig ar eiddo.

Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r eiddo y dymunwch ei brynu, bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru ‘cofnod o ddiddordeb’ gydag asiant y gwerthwr.

Darganfyddwch gyfreithiwr neu drawsgludwr cymhwys ar wefan Cymdeithas Cyfreithwyr Yr Alban

‘Cofnod o ddiddordeb’

Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r eiddo y dymunwch ei brynu, bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru ‘cofnod o ddiddordeb’ gydag asiant y gwerthwr.

Dengys hyn bod gennych chi ddiddordeb yn yr eiddo ac yn dymuno cael eich hysbysu am ddatblygiadau fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion.

Beth mae cyfreithiwr yn ei wneud?

Bydd eich cyfreithiwr yn:

  •  cynnal chwiliadau ar yr eiddo a chofrestri personol i sicrhau nad oes unrhyw beth a allai atal y gwerthwr rhag gwerthu’r eiddo.
  •  gwirio gyda’r awdurdod lleol i weld a oes unrhyw faterion cynllunio a allai effeithio ar werth eich eiddo ac a yw’r ffyrdd nesaf at yr eiddo wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol.

Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn gofyn am dâl am eu gwaith ar ôl ei gwblhau, ond efallai y byddant yn gofyn i chi dalu blaendal neu dalu am chwiliadau ymlaen llaw.

Os na chwblheir y pryniant, ond bu i chi dalu am y chwiliad ymlaen llaw, yna byddwch wedi gwastraffu’ch arian, felly mae’n werth ystyried hyn yn ofalus cyn cychwyn.

Gallwch hefyd gyfarwyddo’ch cyfreithiwr i gynnal y chwiliad unwaith y derbynnir y cynnig ond bydd angen cytuno hyn â’r gwerthwr fel amod o’r pryniant yn cael ei gwblhau.

O ganlyniad efallai y bydd y gwerthwr yn gyndyn o gytuno i hyn oherwydd efallai bydd y canfyddiadau’n rheswm dros ofyn i’r gwerthwr ostwng ei bris, neu gerdded i ffwrdd o’r pryniant yn gyfan gwbl. Cost nodweddiadol: £250-£300.

 

Nol i’r brig

Cam 3: Adroddiad Cartref ac arolwg

Rhaid i werthwyr drefnu Adroddiad Cartref i’w ddangos i brynwyr cyn y gallant farchnata eu heiddo. 

Dylai Adroddiad Cartref gynnwys y tair dogfen a restrir isod:

  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) – mae hyn yn dangos pa mor effeithlon yw’r eiddo o ran ynni ac ymhle y gellir gwneud gwelliannau
  • Arolwg – asesiad gan syrfëwr cymwys o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn amlygu cyflwr yr eiddo, pa atgywiriadau sydd eu hangen a phrisio’r eiddo. Gellir cynnwys prisiad morgais hefyd. Mae’r dyfnder o wybodaeth a roddir yn yr arolwg yn cyfateb yn fras â’r hyn a geir yn yr adroddiad Prynwyr Cartref isod
  •  Holiadur Eiddo – mae’n ofynnol i werthwyr ddarparu disgrifiad cywir o’r eiddo yn cynnwys ei fand Treth Gyngor, unrhyw hysbysiadau Awdurdod Lleol a roddwyd arno, addasiadau a wnaed, parcio, unrhyw achosion o lifogydd yn ogystal ag ystyried unrhyw elfennau sydd angen eu hatgyweirio neu eu cynnal a’u cadw.

Pan gewch yr Adroddiad Cartref ar gyfer yr eiddo y dymunwch ei brynu, cofiwch ei ddarllen yn ofalus. 

Bydd yn rhoi syniad da i chi o gostau rhedeg eich cartref newydd. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i ofyn i’r gwerthwr am filiau cyfleustodau.

Adroddiad pris eich morgais

Unwaith y bydd gennych forgais mewn egwyddor, bydd eich benthyciwr yn trefnu prisiad morgais i sicrhau bod yr eiddo y dymunwch ei brynu’n werth y pris y byddwch yn ei dalu. 

Efallai y bydd eich benthyciwr morgais yn dibynnu ar y prisiad morgais sydd yn yr Adroddiad Cartref os oes un ynddo neu gall ofyn am un annibynnol. 

Cost nodweddiadol: £250-£1,500 yn ddibynnol ar werth yr eiddo. Mae rhai cynigion morgeisi’n cynnwys prisiadau am ddim.

Bydd angen i chi benderfynu hefyd a ydych chi am ddibynnu ar yr arolwg sydd yn yr Adroddiad Cartref neu geisio eich arolwg eich hun. 

Mae gan y syrfëwr a baratodd yr arolwg sydd yn yr Adroddiad Cartref ddyletswydd gofal statudol i’r gwerthwr a’i comisiynodd ac i chi fel y prynwr.

Arolygon

Os penderfynwch gael un eich hun, ceir tri math o arolwg:

  • Arolwg cyflwr y cartref – yw’r rhataf a’r mwyaf sylfaenol. Yn addas ar gyfer adeiladau newydd a chartrefi confensiynol, ond nid yw’n ddefnyddiol ar gyfer canfod unrhyw broblemau gyda’r eiddo. Cost nodweddiadol: £250.
  •  Adroddiad prynwr cartref – mae hwn yn arolwg manylach, gan edrych yn drylwyr ar y tu mewn i eiddo a’r tu allan iddo. Mae hefyd yn cynnwys prisiad. Gwiriwch a allwch chi gael y prisiad ac adroddiad y prynwr cartref wedi ei gwblhau ar yr un pryd er mwyn arbed costau. Cost nodweddiadol: £400+.
  •  Arolwg adeilad neu strwythurol – dyma’r math mwyaf cynhwysfawr o arolwg ac fe’i gwneir ar gyfer eiddo hŷn neu ansafonol (er enghraifft, os yw wedi’i wneud o bren neu bod ganddo do gwellt). Cost nodweddiadol: £600+.

Chwiliwch am syrfëwr lleol ar wefan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr SiartredigYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Cam 4: Gwneud cynnig

Unwaith y bydd canlyniadau’r arolwg gennych, a’ch bod yn fodlon â nhw, bydd angen i chi benderfynu faint rydych am ei gynnig. 

Bydd y swm a gynigiwch yn dibynnu ar:

  • prisiau eiddo yn yr ardal; 
  • faint allwch chi ei fforddio; 
  • unrhyw ddiddordeb sydd gan eraill yn yr eiddo; ac 
  • unrhyw beth arall y dymunwch iddynt gael eu cynnwys yn y cynnig fel gosodiadau a ffitiadau.

Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud hyn mewn llythyr ffurfiol. 

Os bydd nifer o gynigion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn eu hagor ar yr un pryd ar y dyddiad cau a ffonio’ch cyfreithiwr i ddweud a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus neu beidio.

Efallai y byddwch yn dymuno disgwyl hyd nes y derbynnir eich cynnig cyn trefnu eich arolwg eich hun, ac os felly bydd eich cynnig yn amodol ar yr arolwg.

Os caiff eich cynnig ei dderbyn

Os caiff eich cynnig ei dderbyn, bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn cyflwyno derbyniad amodol, sy’n golygu mai chi gaiff yr eiddo os llwyddir i gwblhau manylion y cytundeb. 

Bydd y cyfreithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth am yr eiddo hefyd megis gweithredoedd teitl a phapurau cynllunio.

Astudiwch bopeth a gewch gyda’ch cyfreithiwr oherwydd gallent godi cwestiynau am y gwaith papur. Nid ydych chi na’r gwerthwr wedi ymrwymo hyd yma.

Nol i’r brig

Cam 5: Cytuno ar y cytundeb

Unwaith y bydd holl fanylion y cytundeb wedi’u cytuno, bydd y ddau gyfreithiwr yn cyfnewid llythyrau. 

Gelwir y llythyrau hyn yn ‘gwblhad llythyrau’. Mae’r ddau barti yn awr wedi ymrwymo’n gyfreithiol i’r pryniant.

Ar ôl i’r llythyrau gael eu cwblhau, efallai y bydd rhaid i chi dalu blaendal cadw – fel arfer £500-£1,000 – er mwyn diogelu’r pryniant. 

Nid yw’n beth cyffredin iawn gorfod talu’r blaendal cadw hwn gan fod ffioedd cosb yn y cytundeb fel arfer i atal y ddau barti rhag tynnu’n ôl ar yr adeg hon. Unwaith y byddwch wedi cytuno ar y cytundeb, rhaid i chi chwilio am y fargen orau ar gyfer yswiriant adeiladau.

Ystyriwch ddiogelu’ch hun a’ch cartref newydd gydag yswiriant cynnwys a bywyd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth yw yswiriant adeiladau
Diogelu eich hun a’ch cartref: chwilio am yswiriant

Cyfrifoldebau teitl

Bydd eich cyfreithiwr yn gwirio’r gweithredoedd teitl ac yn trafod y ‘cyfrifoldebau teitl’ gyda chi – sef amodau ynghlwm â bod yn berchen ar yr eiddo yn amrywio o leoliad eich bin sbwriel i gyfyngiadau mwy difrifol ar sut y gellir defnyddio ac addasu’r adeilad.

Yna mae’r gwerthwr yn arwyddo trosgwlyddiad y gweithredoedd teitl, a elwir yn ‘derfyniad’.

Cysylltwch â’ch benthyciwr

Nesaf, dylech chi a’ch cyfreithiwr gysylltu â’ch benthyciwr morgais a gadel iddynt wybod bod y pryniant yn mynd yn ei flaen ynghyd â’r dyddiad cwblhau a gynigir. 

Bydd hyn yn galluogi’ch benthyciwr gyhoeddi ei gyfarwyddiadau benthyciadau a diogelwch i’w gyfreithiwr dynodedig. 

Yn ogystal, bydd hyn yn galluogi’r benthyciwr i baratoi rhyddhau’r arian a fenthycir er mwyn sicrhau bod y pryniant yn digwydd ar y diwrnod cwblhau.

Ffi trefnu

Yn aml ceir ffi i sefydlu’r morgais – ffi trefnu yw’r enw arni fel arfer. 

Mewn llawer o achosion gellir ei hychwanegu at eich morgais, ond os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn cofiwch y byddwch yn talu llog arno dros gyfnod y morgais.

O ganlyniad, byddwch yn talu mwy yn y pen draw na phetaech yn talu’r ffioedd i gyd ymlaen llaw.  

Gweler rhestr lawn o Ffioedd a chostau morgais wrth brynu neu werthu cartref
Nol i’r brig

Cam 6: Cwblhau a chamau terfynol

Wedi i’ch cynnig gael ei dderbyn cwblheir y pryniant ar y dyddiad cwblhau a gytunwyd gyda’r gwerthwr.

Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn gofyn i’ch benthyciwr am weddill yr arian sy’n ddyledus (90% fel arfer os bu’n rhaid i chi dalu blaendal cadw) er mwyn paratoi ar gyfer y dyddiad cwblhau. 

Os ydych yn brynwr ag arian parod bydd angen i chi dalu gweddill y pris prynu drwy eich cyfreithiwr.

Ffioedd eraill y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi eu talu nawr

Gall eich benthyciwr ofyn i chi am:

  • ffi ar gyfer trosglwyddo’r arian, £40-£50 fel arfer
  •  ffi o £100-300 am sefydlu, cynnal a chau eich cyfrif morgais.

Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn paratoi Ffurflen Trafodiad Tir i chi ei harwyddo hefyd.

Bydd angen i chi dalu eich bil cyfreithiwr ar y cam hwn, minws unrhyw flaendal rydych wedi’i dalu eisoes. Cost nodweddiadol: £400-£900 + 20% TAW.

Os nad ydych wedi talu am chwiliadau, bydd eu cost yn cael ei gynnwys yn y bil ynghyd â ffioedd eraill a dalwyd ar eich rhan. 

Bydd y cyfreithiwr yn trefnu hefyd i weithredoedd y teitl a arwyddwyd gael eu cofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir. 

Mae’r gost yn cychwyn ar £60 ac yn cynyddu, yn ddibynnol ar faint daloch chi am yr eiddo.

Gellir cyflwyno ffurflenni LBTT drwy ddefnyddio porth ar-lein Revenue ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r porth a thalu eich LBTT ar wefan Revenue Scotland

Os ydych chi eisiau cyflwyno ffurflen bapur, mae ffurflen LBTT bapur hefyd ar gael ynghyd â chanllaw ar gyfer ‘sut i gyflwyno ffurflen bapur’. Fodd bynnag, os dewiswch wneud hyn, fyddwch chi ddim ond yn gallu talu LBTT trwy siec.

Bydd y cyfraddau newydd yn daladwy yn unig ar y gyfran o’r pris llawn sy’n perthyn i’r band priodol. 

Yn yr Alban, bydd prynwyr yn talu

  • 2% am gartrefi sy’n costio rhwng £145,000 a £250,000
  • 5% ar gyfer cartrefi sy’n costio rhwng £250,001 a £325,000
  • 10% ar gyfer cartrefi sy’n costio £325,001 a £750,000
  • 12% ar gyfer cartrefi sy’n costio mwy na £750,000.

Bydd eiddo preswyl atodol yn yr Alban (fel eiddo prynu-i-osod ac ail gartrefi) gwerth £40,000 neu fwy yn denu 8% yn ychwanegol o’r ystyriaeth berthnasol ar bob band.

Gallai gostyngiadau treth i brynwr tro cyntaf sy’n caffael perchnogaeth o annedd, ar yr amod y bodlonir amodau penodol, hefyd fod ar gael.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau