Os ydych yn prynu cartref yn yr Alban byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT) ar eiddo sy’n costio mwy na £145,000. Os ydych yn prynu eiddo ychwanegol, efallai y bydd angen i chi dalu 4% yn ychwanegol ar gyfanswm pris prynu’r eiddo, yn ogystal â’r cyfraddau safonnol o LBTT a allai fod yn gymwys.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
- Faint yw’r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau i brynwr tro cyntaf
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar ail gartrefi
- Pa bryd y mae angen i chi dalu am Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
- Sut i dalu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau
Beth yw Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Mae Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT) yn dreth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu os ydych yn prynu eiddo preswyl neu ddarn o dir yn yr Alban
Os ydych yn prynu eich prif eiddo, ni fyddwch yn talu LBTT ar eiddo sy’n costio hyd at £145,000. Bydd hyn yn berthnasol os ydych yn brynwr tro cyntaf ac os ydych wedi bod yn berchen ar eiddo o’r blaen. Bydd eiddo sy'n costio mwy na'r trothwy yn talu LBTT yn seiliedig ar werth yr eiddo.
Os ydych yn prynu ail gartref, efallai y bydd angen i chi dalu ychwanegiad annedd ychwanegol o 4% yn seiliedig ar gyfanswm pris prynu eiddo sy’n costio mwy na £40,000.
Mae’r dreth hon yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliad a lesddaliad – pa un a ydych yn prynu’n llwyr neu â morgais.
Os ydych yn prynu yng Nghymru, darganfyddwch fwy am Dreth Trafodiadau Tir
Os ydych yn prynu yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y Dreth Stamp
Faint yw’r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Mae sawl band cyfradd ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT).
Cyfrifir y dreth ar ran y pris prynu eiddo sy’n disgyn o fewn pob band.
Er enghraifft, os ydych chi’n prynu tŷ am £280,000, cyfrifir yr LBTT sy’n ddyledus fel a ganlyn:
0% ar y £145,000 cyntaf = £0
2% ar y £105,000 nesaf = £2,100
5% ar y £30,000 nesaf = £1,500
Cyfanswm LBTT = £3,600
£325,001
Isafswm pris prynu eiddo | Uchafswm pris prynu eiddo | Cyfradd Y Dreth Stamp (ond yn gymwys i ran o’r pris eiddo sy’n disgyn o fewn pob band) |
---|---|---|
£0 |
£145,000 |
0% |
£145,001 |
£250,000 |
2% |
£250,001 |
£325,000 |
5% |
£325,001 |
£750,000 |
10% |
Dros £750,000 |
12% |
Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau i brynwr tro cyntaf
Gallwch gael rhyddhad prynwyr tro cyntaf os ydych yn prynu eiddo yr ydych yn bwriadu byw ynddo fel eich prif neu unig breswylfa.
Gallwch wneud cais am y rhyddhad pan rydych yn cyflwyno’ch ffurflen LBTT.
Bydd rhaid i brynwr tro cyntaf cwrdd â meini prawf penodol er mwyn fod yn gymwys am y rhyddhad treth. Gallwch weld y meini prawf llawn ar wefan Cyllid yr Alban.
Os ydych yn gymwys am y rhyddhad, byddwch yn gymwys am LBTT sero am eiddo hyd at £175,000.
Os yw’ch pryniad tro cyntaf yn costio’n fwy na £175,000 byddwch yn talu treth ar y gyfran o’r pris sydd dros £175,000 yn unig. Nid oes terfyn uwch, felly beth bynnag yw pris eich eiddo, byddwch yn derbyn rhyddhad ar y £175,000 cyntaf o’r pris. Dyma dabl gyda rhai enghreifftiau:
Pris prynu | Treth dyledus – gyda rhyddhad | Treth dyledus – heb rhyddhad |
---|---|---|
£150,000 |
£0 |
£100 |
£175,000 |
£0 |
£600 |
£200,000 |
£500 |
£1,100 |
£250,000 |
£1,500 |
£2,100 |
Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar ail gartrefi
Bydd angen i brynwyr eiddo preswyl ychwanegol, fel ail gartrefi ac eiddo prynu i osod, dalu 4% ychwanegol ar ben pris prynu eiddo sy’n costio mwy na £40,000. Gelwir hyn yn Dâl Atodol Annedd Ychwanegol (ADS).
Darganfyddwch fwy am y Tâl Atodol Annedd Ychwanegol ar Revenue Scotland
Pa bryd y mae angen i chi dalu am Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau?
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT) a’i dychwelyd i Revenue Scotland.
Am ragor o wybodaeth am sut a pha bryd i dalu LBTT, ewch i Revenue Scotland
Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen LBTT fe allai Revenue Scotland godi cosbau a llog arnoch.
Darganfyddwch fwy am gosbau Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar Revenue Scotland
Sut i dalu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau
Fel arfer bydd eich cyfreithiwr yn delio â’r ffurflen Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT), er fe allwch ei wneud eich hun.
Y naill ffordd neu’r llall, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cofnod yn cael ei gyflwyno ar amser.
Os yw pris eich cartref newydd yn llai na £145,000, efallai bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen o hyd (oni bai ei fod wedi’i eithrio) er na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw LBTT.