Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Gwerthu tŷ neu fflat yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

P'un a ydych chi'n werthwr tro cyntaf sydd angen help llaw neu eisiau gloywi’r broses o werthu, mae ein canllaw cam wrth gam yn eich helpu i lywio’r ffordd drwyddo.


Penderfynwch a yw gwerthu yn iawn i chi

Paratoi eich hun a'ch eiddo

Dewiswch ffordd i werthu'ch cartref

Trefnu cyfreithiwr neu drawsgludwr

Derbyn cynnig

Cwblhau'r gwerthiant (diwrnod cwblhau)

Cyfnewid contractau

Penderfynwch a yw gwerthu yn iawn i chi

Mae gwerthu'ch cartref yn benderfyniad mawr ac mae'n bwysig bod yn barod ar gyfer y broses. Gwnewch eich ymchwil cyn rhoi eich eiddo ar y farchnad.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Ystyriwch y gost o werthu

Gall gwerthu eich cartref fod yn ddrud, felly edrychwch ar eich cyllid i weld a yw'n iawn i chi.

Gallai'r costau gynnwys:

  • ffioedd asiant tai (1% - 3% o'r pris gwerthu)
  • ffioedd cyfreithiol (£800 - £1,800)
  • ffioedd ailforgeisio (£1,000+ os yn berthnasol)
  • tystysgrif perfformiad ynni (EPC) (£60 - £120)
  • costau symud (£400 - £1,000+).

Efallai y byddwch hefyd yn talu:

  • ffioedd gadael morgais neu daliadau ad-dalu cynnar (ERC)
  • Treth Enillion Cyfalaf (os nad ydych yn gwerthu eich prif gartref).

Os ydych yn prynu eiddo ar yr un pryd â gwerthu, dylech gyllidebu ar gyfer costau prynu eraill hefyd, gan gynnwys unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich cartref newydd.

  • Cyfrifo Treth Stamp (Lloegr a Gogledd Iwerddon)
  • Cyfrifo Treth Trafodiadau Tir (Cymru)
Dechreuwch arni gyda'n Cynllunydd cyllideb am ddim ac hawdd ei ddefnyddio
Gwiriwch fargeinion morgais cyfredol

Gall cyfraddau llog morgeisi fod yn gyfnewidiol, felly efallai na fydd y cytundebau sydd ar gael mor gystadleuol â phan wnaethoch gais am forgais ddiwethaf.

Mae'n werth defnyddio safleoedd cymharu i weld cyfraddau morgais cyfredol a gwirio sut maent yn cymharu â'ch cytundeb presennol.

Mae safleoedd poblogaidd yn cynnwys:

  • MoneyfactsOpens in a new window

  • MoneySavingExpertOpens in a new window

  • MoneySuperMarketOpens in a new window

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i weld eich ad-daliadau misol gyda chyfradd llog uwch (neu is).

Cyn penderfynu, gofynnwch:

  • Ai dyma'r amser i werthu?
  • A allaf fforddio'r ad-daliad misol newydd?
  • Sut fyddwn i'n ymdopi pe bai cyfraddau llog yn codi?
Edrychwch ar eich opsiynau, darganfyddwch ymgynghorydd neu frocer morgais annibynnol
Cynlluniwch eich cam nesaf

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gwerthu? Fel arfer, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwerthu ac yn prynu eiddo newydd ar yr un pryd. Mae hyn yn ffurfio 'cadwyn' tai.

Darganfyddwch am y broses brynu gyda'n canllawiau:

  • Prynu tŷ neu fflat yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 
  • Prynu eiddo yn yr Alban

Os yw'ch cartref yn fwy nag ydych ei angen, edrychwch ar ein canllaw ar leihau maint.

Mae rhentu hefyd yn opsiwn ar ôl gwerthu'ch cartref.

Mae gan hyn y fantais o osgoi cadwyn dai a'r pwysau i werthu'n gyflym, ond bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer rhent a chostau eraill, fel ffioedd storio.

Os penderfynwch rentu, cofiwch y gallai prisiau tai gynyddu erbyn yr amser rydych yn barod i brynu. Ac efallai y byddwch yn rhedeg allan o amser i 'bontio' eich morgais os oeddech yn bwriadu gwneud hyn (ei drosglwyddo o un eiddo i'r llall). Mae'n rhaid i chi drosglwyddo'ch morgais o fewn amserlen benodol, fel arfer tua 6 mis.

Paratowch gyda chanllaw Cyngor ar Bopeth hwn i broblemau cyffredin wrth werthuYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch sut i paratoi eich hun a'ch eiddo

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Paratoi eich hun a'ch eiddo

Mae paratoi yn allweddol wrth werthu'ch cartref. Rhowch y dechrau gorau posibl i chi'ch hun trwy ddod o hyd i'r gwaith papur hanfodol ar gyfer eich cartref y byddwch ei angen yn nes ymlaen.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwirio eich morgais ar gyfer ffioedd ymadael

Os ydych yn gwerthu'ch cartref a bod gennych forgais, mae'n bryd dod o hyd i’r gwaith papur.

Efallai y bydd angen i chi dalu i gau eich morgais cyn diwedd ei dymor.

Gwiriwch a yw eich cytundeb yn cynnwys y canlynol:

  • ffioedd ad-dalu cynnar (ERC)
  • ffioedd ymadael.

Os na allwch ddod o hyd i'r manylion, siaradwch â'ch benthyciwr. Gallant egluro pa ffioedd sy'n berthnasol os byddwch yn dod â'ch morgais i ben neu'n newid eich morgais i ddarparwr arall.

Gofynnwch iddynt am 'bo', proses sy'n eich galluogi i drosglwyddo eich cytundeb morgais i'ch eiddo newydd. Fel arfer mae hyn yn digwydd ar yr un pryd er mwyn osgoi taliadau ad-dalu cynnar, felly siaradwch â'ch benthyciwr am opsiynau a allai fod yn addas i'ch symud.

Os yw eich morgais yn dod i ben, neu os ydych yn bwriadu symud i gartref drutach, efallai y byddwch am ailforgeisio i gael bargen well.

Archwiliwch y manteision yn ein canllaw ar ailforgeisio.

Cael prisiad eiddo

Mae prisiad yn helpu i roi pris gofyn i chi a syniad o unrhyw ecwiti yn eich cartref (yr arian sy'n weddill ar ôl ad-dalu'ch morgais).

Mae'r rhan fwyaf o asiantiaid tai yn cynnig prisiad proffesiynol am ddim. Dylech gael prisiad gan fwy nag un asiant oherwydd gall eu hamcangyfrifon amrywio.

Gallwch hefyd chwilio ar-lein i ddarganfod faint mae yw prisiau eiddo tebyg sy'n cael eu gwerthu yn eich ardal chi drwy ddefnyddio: 

  • Y Gofrestrfa TirYn agor mewn ffenestr newydd
  • asiantiaid tai (fel RightmoveYn agor mewn ffenestr newydd a ZooplaYn agor mewn ffenestr newydd)

Cael help i osod eich pris gofyn, darganfyddwch am offer prisio ar-lein am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Cael tystysgrif EPC

Mae tystysgrif perfformiad ynni (EPC) yn arolwg byr sy'n dweud wrth brynwyr pa mor ynni effeithlon yw eich eiddo.

Gall sgôr EPC gwael effeithio ar brisiad eich cartref.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gael tystysgrif ddilys neu o leiaf wedi gwneud cais am un cyn i'ch cartref fynd ar y farchnad - gwiriwch eich EPC yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd

Efallai na fyddwch angen un os yw'ch cartref yn adeilad rhestredig.

Fel arfer mae'n costio rhwng £60 a £120, ond mae'r prisiau'n amrywio, felly dylech bob amser edrych o gwmpas.

Gallwch gael EPC trwy'ch asiant tai, ac efallai y byddant hyd yn oed yn talu amdano os penderfynwch ddefnyddio eu gwasanaethau i werthu.

Neu gallwch ddod o hyd i aseswr ynni yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd

Datganfyddwch waith papur pwysig

Yn ogystal ag EPC, dylech gasglu'r gwaith papur angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'ch cartref at ei gilydd.

Mae angen rhai dogfennau ar gyfer darpar brynwyr, neu eich cyfreithiwr neu drawsgludwr.

Gan gynnwys:

  • prawf o hunaniaeth
  • gweithredoedd teitl eiddo
  • copi o'r les (ar gyfer eiddo lesddaliad)
  • cofnod o wwasanaeth boeler
  • caniatâd cynllunio (os yw'n berthnasol)
  • gwarantau ar gyfer offer newydd sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant
  • gwaith papur ar gyfer addasiadau adeilad neu eiddo.

Yn ddiweddarach yn y broses, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gwybodaeth Eiddo (TA 6) ar gyfer darpar brynwyr. Bydd cael y gwaith papur gyda'u gilydd yn eich helpu i lenwi'r ffurflen. Darganfyddwch fwy yn yr adran Trefnu cyfreithiwr neu drawsgludwr.

Darganfyddwch sut i ddewis ffordd i werthu'ch cartref

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Dewiswch ffordd i werthu'ch cartref

Mae llawer o ffyrdd gwahanol i werthu eich eiddo. Archwiliwch yr opsiynau sydd ar gael i chi, gan gynnwys y buddion, y costau, a gyda phwy i siarad os aiff rhywbeth o'i le.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Defnyddio asiant tai

Defnyddio asiant tai yw'r ffordd fwyaf cyffredin o werthu.

Maent yn helpu drwy farchnata eich eiddo (ar-lein a trwy ddulliau eraill), trefnu ymweliadau a siarad â darpar brynwyr.

Mae ffi o 0.75% i 3.5% o'r pris gwerthu fel arfer yn berthnasol, felly cymharwch gwpl o asiantau cyn penderfynu.

Gofynnwch iddynt am eu hanes gydag eiddo tebyg yn yr ardal.

Os aiff pethau o'i le gyda asiant tai, a'ch bod yn anhapus gyda'u hymateb, cysylltwch â'r ombwdsmon eiddo sy'n cwmpasu eich asiant:
  • The Property Ombudsman Service (TPOS)Opens in a new window
  • The Property Redress SchemeOpens in a new window
Arwerthiant o’ch eiddo

Mae arwerthiant eiddo yn ddelfrydol os oes angen i chi symud yn gyflym, neu os oes angen atgyweiriadau helaeth ar eich cartref a allai droi prynwyr i ffwrdd.

Mae manteision eraill yn cynnwys:

  • dim cadwyn
  • proses cyflym (cwblhau o fewn 60 diwrnod)
  • gwerthu cyfreithiol rhwymol ar dderbyn cynnig
  • osgoi newid cynnig (lle mae prynwyr yn lleihau eu cynnig yn agos at gyfnewid contract).

Gellir cynnal arwerthiannau yn bersonol neu ar-lein, a elwir weithiau'n 'ddull modern' neu 'arwerthiannau amodol'.

Er mwyn annog prynwyr, gallwch hysbysebu pris 'canllaw' sy'n is na gwerth y farchnad agored, ond cytunwch â'r arwerthwr beth yw’r isafswm cynnig y byddwch yn ei dderbyn.

Nid yw prynwyr yn cael gwybod y pris 'wrth gefn' hwn.

Mae'r costau'n amrywio, felly edrychwch o gwmpas. Dylech ddisgwyl ffioedd o tua 2.5% o'r pris gwerthu, ynghyd â ffioedd cyfreithiwr a ffioedd hysbysebu.

Darganfyddwch fwy am werthu mewn arwerthiantYn agor mewn ffenestr newydd
Gwerthu eich cartref yn breifat

Gallwch ymgymryd â rôl asiant tai eich hun, a allai arbed swm sylweddol mewn ffioedd i chi.

Mae gwerthu'n breifat yn broses ymarferol, ac mae'n dod gyda rhai risgiau.

Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am:

  • drefnu prisiadau
  • gosod y pris gofyn
  • trefnu’r gwaith papur (EPC)
  • tynnu lluniau o ansawdd
  • darparu mesuriadau ystafelloedd
  • trefnu a dangos eich cartref i brynwyr
  • trafod cynigion.

Mae angen i chi hysbysebu eich eiddo i ddarpar brynwyr. Gall hyn gynnwys prynu arwydd 'Ar Werth'.

Mae’r asiant tai ar-lein PurplebricksYn agor mewn ffenestr newydd yn gadael i chi greu rhestr eiddo a marchnata eich cartref i ystod eang o brynwyr am ddim.

Byddwch yn wyliadwrus o werthu gan ddefnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook Marketplace neu Gumtree, oherwydd gallech fod mewn perygl o gael eich twyllo.

Os oes gennych anghydfod gydag asiant tai ar-lein, gwiriwch a allwch gael help gan  The Property OmbudsmanYn agor mewn ffenestr newydd
Beth i'w wneud os ydych yn gwerthu cartref cydberchnogaeth

Mae rhai gwahaniaethau wrth werthu cartref cydberchnogaeth.

Bydd eich 'Dogfen Gwybodaeth Allweddol' yn manylu ar y camau ychwanegol hyn.

1) Cysylltwch â'ch darparwr tai

Os ydych yn berchen llai na 100% o'ch cartref, rhaid i chi ei gynnig i'ch darparwr tai i'w werthu yn gyntaf.

Os na cheir prynwr o fewn yr amser y cytunwyd arno, gallwch drefnu gwerthiant gydag asiant tai neu werthu'n breifat.

2) Cael prisiad

Bydd angen i chi dalu am arolwg eiddo RICS i gadarnhau'r pris gofyn.

3) Cwblhewch ffurflen wybodaeth Lesddaliad Gyflawn (TA 7)

Mae'r ffurflen hon yn rhoi gwybodaeth eiddo bwysig i brynwyr, gan gynnwys ffioedd rheoli, yswiriant, cynnal a chadw neu daliadau gwasanaeth.

4) Cyllidebwch ar gyfer costau eich darparwr tai

Gwiriwch os ydych yn talu ffi gwerthu i'r darparwr tai ac yn talu eu costau cyfreithiol.

Archwiliwch werthiannau cydberchnogaeth ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Edrychwch ar fentrau adeiladau newydd

Os ydych yn ystyried symud i adeilad newydd, mae'n werth edrych ar y cynlluniau sydd ar gael i'ch helpu i werthu eich cartref presennol. Mae rhai darparwyr newydd yn cynnig cymhellion i werthu'ch cartref drwyddynt.

Gwiriwch pa gynlluniau y mae eich datblygwr adeiladu newydd yn eu cynnig a chymharwch â'r cymhellion gan ddatblygwyr eraill

Cysylltwch â'ch darparwr adeilad newydd dewisol yn uniongyrchol i weld beth maent yn  ei gynnig - ac mae'n werth siopa o gwmpas hefyd.

Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r ffioedd a'r taliadau, a chofiwch fod prisiadau tai yn amrywio rhwng asiantau tai.

Darganfyddwch fwy, darllenwch ganllaw MoneySavingExpert ar brynu cartref newyddYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch sut i drefnu cyfreithiwr neu drawsgludwr

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Trefnu cyfreithiwr neu drawsgludwr

Mae gwerthu eich cartref yn broses gyfreithiol sy'n cynnwys contractau a gwaith papur cymhleth. Mae gweithiwr proffesiynol cyfreithiol yn eich tywys drwy'r gwaith trawsgludo a gall fod yn hanfodol i'r gwerthiant fynd yn esmwyth.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Siopa o gwmpas am y cwmni cywir

Ar ôl penderfynu pa ddull gwerthu i'w ddefnyddio, gallwch roi cyfarwyddyd i gyfreithiwr neu drawsgludwr i drin rhan gyfreithiol y broses.

Efallai y bydd eich asiant tai yn argymell defnyddio eu cyfreithiwr mewnol. Er y gall hyn fod yn gyfleus, peidiwch â theimlo pwysau i fynd gyda'u dewis.

Dylech siopa o gwmpas a chymharu dyfanbrisiau gan wahanol gwmnïau.

Rydym wedi llunio popeth rydych angen ei wybod yn ein canllaw, Dod o hyd i'r cyfreithiwr neu'r trawsgludwr cywir
Llenwi holiaduron eiddo

Mae eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn anfon ffurflenni atoch i'w llenwi am eich eiddo.

Byddwch yn onest wrth lenwi'r holiaduron hyn.

Gallai'r gwerthiant ddisgyn drwodd, neu efallai y bydd y prynwr yn hawlio iawndal os na fyddwch yn sôn am fater sy’n cael ei ddarganfod yn nes ymlaen, fel cwynion sŵn ffurfiol neu anghydfod gyda chymdogion.

Ffurflen gwybodaeth am eiddo (TA 6)

Dylech gynnwys manylion am ffiniau, anghydfodau neu gwynion, datblygiadau posibl (fel traffyrdd), Treth Gyngor, cyfleustodau a charthffosiaeth.

Ffurflen gosodiadau a chynnwys (TA 10)

Rhestrwch y gosodiadau a'r cynnwys sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthu. Er mwyn osgoi dryswch, nodwch unrhyw beth sy'n symud gyda chi.

Gallwch hefyd lenwi ffurflenni ychwanegol os nad ydych yn berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo:

  • Ffurflen gwybodaeth lesddaliad (TA 7)
  • Ffurflen wybodaeth Cyfundaliad (TA 9)

Darganfyddwch sut i dderbyn cynnig

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Derbyn cynnig

Gwneir cynigion i'ch asiant tai (os ydych yn defnyddio un) neu'n uniongyrchol i chi wrth werthu'n breifat. Nid yw derbyniad yn gyfreithiol rwymol, felly gall fod yn amser pryderus wrth i chi a'r prynwr drafod.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Dewiswch y cynnig gorau ar gyfer eich sefyllfa

Wrth i ddarpar brynwyr edrych ar eich cartref, mae'r gwerthwr tai yn trosglwyddo unrhyw gynigion.

Os ydych yn gwerthu'n breifat, bydd prynwyr yn siarad â chi'n uniongyrchol.

Ystyriwch unrhyw gynnig ynghyd â sefyllfa'r prynwr a derbyniwch yr hyn sy'n iawn ar gyfer eich amgylchiadau.

Er enghraifft, os ydych angen symud yn gyflym, gallai cynnig is gan brynwr tro cyntaf heb gadwyn brynu fod yn well na'r cynnig uchaf gyda chadwyn.

Pan fydd cynnig yn cael ei wneud, gallwch ddewis:

  • derbyn
  • trafod, neu
  • wrthod ac aros am gynnig gwell.

Nid yw derbyn y cynnig yn gyfreithiol rwymol nes i chi gyfnewid contractau.

Gallwch barhau i newid eich meddwl neu dderbyn pris uwch gan brynwr arall (‘gazumpio’). Ond byddwch yn ymwybodol, gall prynwyr hefyd ostwng eu cynnig cyn cyfnewid, hyd yn oed ar y funud olaf, a elwir yn ostwng cynnig..

Cytuno ar fanylion y contract

Ar ôl derbyn cynnig, mae eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn negodi ac yn ysgrifennu contract drafft rhyngoch chi a'r prynwr.

Mae hyn yn cynnwys:

  • yr amser rhwng cyfnewid a chwblhau, fel arfer rhwng 7 a 28 diwrnod.
  • gosodiadau a chynnwys sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant (ffurflen TA 10)
  • unrhyw ddodrefn ychwanegol rydych am eu gwerthu (a'r gost i'r prynwr).

Byddwch yn barod ar gyfer canlyniadau'r arolwg

Yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg y prynwr, gallai eu cyfreithiwr geisio aildrafod wrth ddrafftio'r contract.

Os oes angen atgyweiriadau drud, neu os yw'r arolwg prisio morgais yn dangos gwerth is na'r pris cynnig, gall y prynwr newid eu cynnig.

Gallwch benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig, rhoi disgownt neu roi eich cartref yn ôl ar y farchnad.

Darganfyddwch sut i gyfnewid contractau

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Cyfnewid contractau

Pan fydd contractau'n cael eu cyfnewid, rydych wedi ymrwymo'n gyfreithiol i werthu eich eiddo. Mae'n gyffrous bod mor agos at ddiwedd y broses hir hon, ond gall hefyd fod yn anodd. Dyma beth i'w ddisgwyl a beth i'w wylio.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cyfnewid contractau?

Mae’r cyfreithwyr neu drawsgludwyr yn darllen y contract dros y ffôn yn ystod y cyfnewid. Mae'r sgwrs hon yn cael ei recordio.

Ar ôl cadarnhau bod y dogfennau yr un fath, maent yn postio copïau wedi'u llofnodi i'w gilydd, sef y gyfnewid contract.

Gall aros am hyn fod yn straen, ond unwaith y bydd wedi'i gadarnhau, byddwch yn derbyn blaendal y prynwr yn eich cyfrif. Mae hyn fel arfer yn 10% o'r pris gwerthu.

Rydych wedi gwerthu eich tŷ yn gyfreithiol.

Cofiwch, os byddwch yn tynnu'n ôl ar ôl y pwynt hwn (heb reswm da) y gall y prynwr o bosibl erlyn i adennill eu costau a gollwyd.

Os ydych yn hapus, y cam nesaf yw cytuno ar ddyddiad cwblhau a symud.

Beth i'w wneud os yw'ch prynwr yn lleihau eu cynnig

Lleihau eu cynnig yw pan fydd prynwr yn gostwng eu cynnig ar y funud olaf, fel arfer ychydig cyn cyfnewid contractau.

Mae'n rhoi pwysau ar y gwerthwr i dderbyn cynnig is, neu fentro dechrau'r broses werthu unwaith eto pan fydd y gadwyn brynu yn torri a'r gwerthiant yn disgyn drwodd.

Mae'n annheg ond yn gyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Er mwyn osgoi gostwng cynnig:

  • dewiswch brynwr di-gadwyn
  • gosodwch dyddiad cyfnewid cyflym
  • dylech osgoi gor-brisio eich cartref
  • byddwch yn onest am faterion gyda'r eiddo neu'r ardal gyfagos.

Mae gweithio allan y cynnig isaf y gallwch ei dderbyn yn syniad da, yn enwedig os ydych mewn cadwyn ac angen symud.

Darllenwch fwy o awgrymiadau ar sut i osgoi gostwng cynnigYn agor mewn ffenestr newydd
Cytuno ar ddyddiad cwblhau

Mae'r diwrnod cwblhau fel arfer yn digwydd rhwng 7 a 28 diwrnod ar ôl cyfnewid contractau, ond mae cyfnewid a chwblhau ar yr un diwrnod yn bosibl.

Dewiswch ddiwrnod o'r wythnos i helpu i osgoi oedi gyda bancio ac fel bod eich cyfreithiwr ar gael os aiff unrhyw beth o'i le.

Pan fydd cadwyn brynu, rhaid cytuno ar y dyddiad rhyngoch chi, y prynwr, a holl aelodau eraill y gadwyn.

Wrth gytuno ar ddyddiad cwblhau:

  • gwirio argaeledd y gwasanaethau symud
  • cysylltwch â chwmnïau cyfleustodau a gweld a yw'n bosibl newid drosodd ar y diwrnod hwn.

Gallwch gynllunio eich symud unwaith y bydd eich dyddiad wedi'i bennu.

 

Trefnu eich symud

Gallwch symud allan unrhyw bryd - gallwch hyd yn oed gwblhau a symud allan ar yr un diwrnod.

Gallai llogi gwasanaethau symud proffesiynol helpu i leihau’r straen o symud.

Gall taliadau symud amrywio o £400 i dros £1,000.

Mae'r costau'n dibynnu ar:

  • ble rydych yn byw
  • maint yr eiddo
  • pellter y symud
  • yswiriant symud
  • faint mae'r cwmni symud yn ei symud, a
  • beth rydych yn bwriadu ei wneud eich hun.

Er enghraifft, gallai symud yn lleol gyda chriw dau berson gyda fan gostio £400-£500.

Gall eiddo mwy sydd angen timau mwy neu symud pellter hir gostio dros £1,000.

Dylech siopa o gwmpas a chael dyfynbrisiau ar gyfer yr union beth rydych ei angen. 

Dewiswch aelod o'r British Association of Removers (BAR)Opens in a new window ar gyfer tawelwch meddwl ychwanegol
Gwiriwch eich yswiriant cartref

Cost nodweddiadol: £120-£140

Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo a werthir nes i chi gwblhau'r gwerthiant, felly cadwch ef mewn cyflwr da.

Mae'n rhaid i chi drwsio unrhyw ddifrod annisgwyl yn ystod y cyfnod hwn, fel peipen yn gollwng neu ffenestr wedi torri.

Er mwyn amddiffyn eich hun rhag costau ychwanegol, gwnewch yn siŵr bod eich polisi yswiriant adeilad a chynnwys yn ddilys tan y diwrnod cwblhau.

Os bydd wedi dod i ben:

  • Siaradwch â'ch cwmni yswiriant am adnewyddu/ymestyn nes cwblhau (mae ffioedd gweinyddol yn berthnasol).
  • Cymerwch bolisi yswiriant arbenigol tymor byr (ond gall y rhain fod yn ddrud.)

Cymharwch y costau gan ddefnyddio safleoedd cymharu:

  • MoneySavingExpertOpens in a new window

  • MoneySuperMarketOpens in a new window

  • MoneyfactsOpens in a new window

Darllenwch ein canllaw ar sut i gael y fargen yswiriant cartref orau

Darganfyddwch fwy am sut i gwblhau'r gwerthiant

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig

Cwblhau'r gwerthiant (diwrnod cwblhau)

Y diwrnod cwblhau yw'r dyddiad y cytunwyd arno pan fyddwch yn derbyn taliadau a throsglwyddo perchnogaeth eiddo i'r prynwr. Gall fod yn broses gymhleth, yn enwedig os ydych mewn cadwyn brynu, felly paratowch am ddiwrnod hir ac oedi posibl.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Beth sy'n digwydd ar y diwrnod cwblhau?

Y diwrnod cwblhau yw'r cam olaf wrth werthu'ch cartref.

Gall deimlo fel gêm aros tra bod y tîm cyfreithiol ar y ddwy ochr yn trosglwyddo gwaith papur ac yn gwirio bod popeth mewn trefn.

Ar y diwrnod, mae eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn:

  • cadarnhau bod taliad wedi’i dderbyn
  • cofrestru trosglwyddo perchnogaeth gyda'r Gofrestrfa Tir
  • cadarnhau cwblhau
  • yn rhyddhau allweddi trwy'r gwerthwr tai (os ydych yn defnyddio un)
  • gofyn am Dystysgrif Adbrynu ar gyfer eich morgais
  • creu datganiad cwblhau o'r holl daliadau
  • talu anfonebau sy’n weddill.

Os ydych yn rhydd o gadwyn, bydd cwblhau'r gwaith fel arfer yn digwydd tua 11am, ar yr amod bod eich cyfreithiwr yn derbyn y taliad.

Fel arall, mae amser cwblhau yn dibynnu ar nifer y bobl yn y gadwyn a'ch sefyllfa. Fel arfer, mae'n rhwng 9am a 2pm.

I weld sut beth yw diwrnod cwblhau prynwr darllenwch ein canllaw prynu
Talu’r costau

Fel arfer, mae eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn talu'r rhan fwyaf o ffioedd i chi ar ddiwrnod cwblhau ar ôl iddynt dderbyn taliad y prynwr.

Gall hyn gynnwys:

  • talu morgais blaenorol (mae eich benthyciwr yn cyhoeddi Tystysgrif Adbrynu gyda'r swm terfynol wedi'i gyfrifo hyd y dyddiad hwnnw)
  • ffioedd prynu (gan gynnwys Treth Stamp)
  • ffioedd asiant tai
  • ffioedd trawsgludo'r cwmni.

Mae eich cyfreithiwr yn darparu 'cyfrif' sy'n manylu ar yr holl drafodion, gan gynnwys:

  • cyfanswm y pris gwerthu
  • taliadau a wneir gan gyfreithiwr/trawsgludwr
  • taliadau (taliadau a wneir gan drydydd partïon)
  • y gweddill neu ad-daliad sy'n ddyledus.

Gallwch drin y taliadau eich hun, ond mae'n bwysig y gellir cysylltu â chi yn ystod y diwrnod cwblhau i ddatrys yn gyflym unrhyw faterion a allai oedi pethau.

Cadarnhau eich cyfeiriad newydd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich cyfeiriad cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer dogfennau lle gallech gael dirwy fawr, fel trwydded yrru.

Cysylltwch â:

  • chwmnïau cyfleustodau, fel dŵr, nwy a thrydan (cofiwch gymryd darlleniadau mesurydd ar ddiwrnod cwblhau)
  • gwasanaethau contract, fel ffôn, teledu a band eang
  • trwydded deledu
  • banciau, cymdeithasau adeiladu, darparwyr pensiwn, ac unrhyw le y mae gennych fenthyciad neu gytundeb ariannol, fel y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
  • cardiau credyd a siop
  • CThEM (ar gyfer treth)
  • Cyllid a Thollau
  • DVLA (ar gyfer eich trwydded yrru)
  • Awdurdod lleol (ar gyfer cofrestru Treth Gyngor a phleidleisio)
  • cyflogwr
  • Meddyg teulu a deintydd
  • ffrindiau, teulu a chydweithwyr
  • ysgolion.

Gallwch hefyd drefnu i anfon eich post i unrhyw gyfeiriad yn y DU neu dramor am hyd at 12 mis. Cysylltwch â Swyddfa'r Post am ailgyfeirioYn agor mewn ffenestr newydd

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i'r brig
Thank you for your feedback.
We’re always trying to improve our website and services, and your feedback helps us understand how we’re doing.
Share this article
E-bost Facebook Twitter
Share this with
WhatsApp LinkedIn
Copy this link
Anfon e-bost
Copy this link
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau