Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Prynu tŷ neu fflat yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

P'un a ydych chi'n prynu am y tro cyntaf neu'n symud i eiddo newydd, mae'r canllaw cam wrth gam hwn yn mynd â chi drwy'r broses o brynu cartref o gostau i gwblhau.

Os ydych yn yr Alban, darllenwch ein canllaw ar brynu eiddo yn eich gwlad. 


Cyn i chi ddechrau

Paratoi i brynu eiddo

Dod o hyd i eiddo a gwneud cynnig

Beth i'w wneud pan fydd eich cynnig yn cael ei dderbyn

Cwblhau eich cynnig a'ch morgais

Cwblhau'r pryniant (diwrnod cwblhau)

Cyn i chi ddechrau

Mae prynu eiddo yn cymryd amser, a gallai fod yn amser cyn i chi ddechrau chwilio. Gwnewch y mwyaf o'r cyfnod hwn; cynilwch, ymchwiliwch a pharatowch ar gyfer y cam cyffrous hwn.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cael eich blaendal ynghyd

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen blaendal morgais isafswm o 5% o werth yr eiddo rydych am ei brynu.

Ond cofiwch y gall opsiynau blaendal isel olygu y cynigir cyfradd llog morgais uwch i chi a byddwch yn ad-dalu mwy yn y tymor hir.

Fel arfer mae blaendal morgais yn cynnwys:

cynilion arian parod

ecwiti o'ch cartref presennol, neu

cymysgedd o'r ddau.

Os ydych chi'n gwerthu'ch cartref, mynnwch brisiad gan asiant eiddo (neu ddau). Bydd y gwerth cyfartalog yn dangos pa ecwiti posibl (arian parod) sydd gennych ar gyfer eich blaendal unwaith y bydd eich morgais yn cael ei ad-dalu.

Ceisiwch wneud y mwyaf o'ch blaendal. Gall hyd yn oed gwneud cynilion bach gronni dros amser.

Darganfyddwch sut i leihau eich biliau
Archwiliwch awgrymiadau ar sut i wneud y gorau o'ch arian a'ch cynilion
Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer cynlluniau prynu cartref

Mae yna lawer o gynlluniau prynu cartref ledled y DU.

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw a'ch amgylchiadau, gallech gael cymorth i brynu cartref newydd, er enghraifft, ar ffurf benthyciad ecwiti, gwarant morgais, neu ranberchenogaeth.

Nid oes angen i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa. Mae rhai cynlluniau ar agor i berchnogion tai presennol.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer cynlluniau sydd ar gael yn eich ardal:

  • Own your homeOpens in a new window (Lloegr)

  • GOV.WALESOpens in a new window (Cymru) 

  • NI DirectOpens in a new window (Gogledd Iwerddon)

Darllenwch fwy am gynlluniau'r llywodraeth ar gyfer prynwyr cartrefi

Darganfyddwch fwy am Baratoi i brynu eiddo

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Paratoi i brynu eiddo

Mae prynu tŷ neu fflat yn gyffrous, ond gall y broses ymddangos yn gymhleth. Cwblhewch y camau hyn cyn i chi ddechrau edrych ar eiddo i arbed amser a straen yn hwyrach ymlaen.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cyfrifwch beth allwch chi fforddio ei fenthyca

Mae llawer i'w ystyried wrth brynu, felly mae'n werth cael syniad o faint y gallai ei gostio i chi nawr, ac yn y dyfodol.

Edrychwch ar brisiau eiddo cyfredol yn yr ardal o'ch dewis i gyfrifo beth sydd ei angen arnoch ar gyfer morgais.

Defnyddiwch Gyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i weld faint y gallech ei fenthyg a'r ad-daliadau morgais misol tebygol.

Os na allwch fenthyg digon, edrychwch i weld a allwch wneud newidiadau i wella'ch cynnig morgais.

Crëwch gyllideb a byddwch yn realistig ynghylch faint rydych chi'n ei wario ar gostau byw hanfodol, ac ystyriwch bris cynnal a chadw eich cartref newydd.

  • Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb am ddim

Darganfyddwch pa gostau i'w cyllidebu ar eu cyfer os ydych hefyd yn gwerthu tŷ neu fflat.

Darganfyddwch gost arferol prynu cartref
Gwiriwch eich adroddiad credyd cyn mynd at fenthycwyr

Mae sgôr credyd da yn gwella'ch siawns o gael morgais.

Mae benthycwyr yn edrych ar eich adroddiad credyd wrth ystyried eich cais morgais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio cyn i chi wneud cais oherwydd os gwrthodir morgais i chi, bydd yn cymryd amser i adeiladu eich sgôr credyd.

Mae'n am ddim ac yn hawdd cyrchu'ch adroddiad credyd, cael syniad o'ch sgôr, a chywiro unrhyw wallau.

Os yw'ch sgôr yn edrych yn isel, bydd y rhan fwyaf o apiau sgorio credyd yn gwneud awgrymiadau, fel:

  • lleihau dyled
  • cofrestru i bleidleisio
  • dileu cysylltiadau ariannol (fel cyn-bartner).

Archwiliwch ffyrdd eraill o gynyddu eich sgôr credyd

Os oes gennych ôl-ddyledion neu daliadau a fethwyd

Gall dyledion problemus a thaliadau a fethwyd heb eu talu ostwng eich sgôr credyd. Mae'n annhebygol y cewch gynnig morgais felly mae'n well datrys hyn cyn gwneud cais.

 

I'ch helpu chi i fynd yn ôl ar y trywydd iawn:
 
Dewch o hyd i gynghorydd dyledion diduedd ac am ddim
Darganfyddwch beth i'w wneud pan wrthodir credyd i chi
Gwiriwch a ydych yn talu Treth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir

Efallai y bydd angen i chi dalu treth pan fyddwch yn prynu tŷ neu fflat yn y DU.

Gall hyn fod yn gost sylweddol, felly cynlluniwch ar ei gyfer yn eich cyllideb. Gallai effeithio ar faint y gallwch fforddio ei wario ar eich eiddo.

Mae faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar os ydych yn brynwr tro cyntaf, ble rydych yn byw a gwerth y cartref rydych yn ei brynu.

Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae Treth Stamp yn daladwy ar eiddo dros £250,000 (neu o £425,000 os ydych yn brynwr tro cyntaf ac mae'r eiddo yn werth llai na £625,000).

  • Cyfrifwch Dreth Stamp ar eich eiddo

Cymru

Mae Treth Trafodiadau Tir yn ddyledus ar bob eiddo dros £225,000.

  • Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir
Cael morgais mewn egwyddor

Gallwch gael morgais gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA), brocer morgais neu fenthyciwr.

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cynnyrch morgais cywir, byddwch yn derbyn 'morgais mewn egwyddor' (MIP). Weithiau gelwir hyn yn gytundeb neu'n benderfyniad mewn egwyddor.

Mae MIP yn dweud wrthych faint o arian, mewn theori, y bydd y benthyciwr yn ei gynnig a'r gyfradd llog y byddwch yn ei thalu. Mae'n dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â phrynu ac yn helpu i gyflymu'r broses os ydych chi'n dod o hyd i eiddo rydych chi am ei brynu.

Eich swm MIP ynghyd â'ch blaendal (neu ecwiti yn eich cartref) yw eich cyllideb prynu cartref.

Fel arfer mae'n ddilys am 30-90 diwrnod, ond gallwch ailymgeisio os bydd yn dod i ben.

Efallai y codir ffi archebu morgais arnoch (rhwng £100-£200) i gadw eich cynnyrch dewisol.

Cadw cyfradd eich morgais presennol

Os ydych yn annhebygol o gael cyfradd well gyda chynnig morgais newydd, gofynnwch i'ch benthyciwr am "borthi" eich cytundeb a'ch cyfradd. Mae porthi yn gadael i chi brynu cartref newydd a dod â'ch cytundeb morgais gyda chi.

Cofiwch fod y gyfradd borthi ond yn berthnasol i'ch morgais presennol, a bydd gan unrhyw swm ychwanegol a fenthycwch gyfradd llog ar wahân.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw, Deall morgeisi a chyfraddau llog

Darganfyddwch fwy am Ddod o hyd i eiddo a gwneud cynnig

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Dod o hyd i eiddo a gwneud cynnig

Pan fyddwch chi'n gwybod faint y gallwch chi ei wario, mae'n amser i ddechrau chwilio am eiddo. Mae'n syniad da cadw llygad ar yr hyn sydd ar gael lle rydych chi am fyw.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Defnyddio asiantaeth eiddo stryd fawr

Defnyddio asiant eiddo yw'r ffordd fwyaf cyffredin o brynu eiddo, ond gall y ffordd y maent yn gweithredu amrywio ledled y DU.

Gallant helpu gyda'ch chwiliad eiddo drwy:

  • rhoi gwybod i chi am eiddo newydd,
  • trin gwaith papur,
  • monitro'r gadwyn prynu a gwerthu, a
  • cysylltu â chyfreithwyr.

Gallwch gofrestru gyda llawer o asiantau ac fel prynwr ni fyddwch yn talu unrhyw ffioedd.

Esboniwch iddyn nhw beth rydych chi'n chwilio amdano a'ch sefyllfa, fel bod yn brynwr tro cyntaf.

Wrth ddangos eiddo, rhaid i asiantau fod yn onest.

Gofynnwch gwestiynau i asiantwyr, fel:

  • Ers faint mae'r eiddo wedi bod ar y farchnad?
  • A oes unrhyw waith neu ganiatâd cynllunio a ragwelir?
  • A oes rhent tir neu daliadau gwasanaeth?
Edrych ar-lein

Mae gan werthwyr tai ar y stryd fawr eu gwefannau eu hunain yn hysbysebu'r eiddo sydd ganddyn nhw ar werth. Yma gallwch hidlo yn ôl lleoliad, cost a nifer yr ystafelloedd gwely i ddod o hyd i rywbeth sy'n iawn i chi.

Bydd y rhan fwyaf hefyd yn ychwanegu eu rhestru at wefannau neu byrth eiddo ar-lein. Defnyddiwch nhw i weld eiddo gan asiantau lluosog mewn un lle.

  • RightmoveOpens in a new window

  • ZooplaOpens in a new window  

  • OnTheMarketOpens in a new window

  • Prime locationOpens in a new window

Mae safleoedd eiddo ar-lein yn unig yn gadael i werthwyr hysbysebu heb werthwr tai.

  • PurpleBricksOpens in a new window

  • YopaOpens in a new window

Mae'r safleoedd hyn yn cynnig gwasanaeth sylfaenol i'r gwerthwr i'w helpu i leihau costau gwerthu.

Fel prynwr, efallai y byddwch yn delio â chanolfan gyswllt neu gynrychiolwyr lleol, yn hytrach na'r un asiant bob tro.

Defnyddio arwerthiant eiddo

Mae prynu tŷ mewn arwerthiant yn opsiwn poblogaidd a chyflym, yn enwedig ar gyfer eiddo sydd angen gwerthiant cyflymach, fel unrhyw adeiladau sydd angen ei adnewyddu neu sydd wedi'i adfeddiannu.

Gall arwerthiannau ddigwydd ar-lein dros wythnosau neu wyneb yn wyneb ar yr un diwrnod, gyda'r cynnig yn bosibl mewn sawl ffordd.

Cyn gwneud cais mewn arwerthiant, dylech bob amser:

  • ymweld â’r eiddo
  • gwirio’r pecyn cyfreithiol, a
  • talu am arolwg adeiladu trylwyr ac arfarniad cyfreithiol.

Byddwch yn ymwybodol bod unrhyw dreuliau'n cael eu colli os penderfynwch beidio â gwneud cais neu golli'r arwerthiant.

Os byddwch yn ennill yr arwerthiant, byddwch yn talu blaendal o 10% ar ddiwrnod yr arwerthiant, gyda'r gweddill yn ddyledus o fewn 28 diwrnod.

Mae costau ychwanegol yn berthnasol, gan gynnwys ffioedd gweinyddol a phrynwyr, ffioedd comisiynu a chyfreithiwr.

Darganfyddwch fwy am arwerthiannau ar PropertymarkOpens in a new window
Gwneud cynnig

Fel arfer, rydych yn gwneud eich cynnig ar yr eiddo drwy'r gwerthwr tai.

Fel arfer, bydd eich cynnig:

  • Yn amodol ar gontract (STC) – dim ond unwaith y byddwch wedi cyfnewid contractau y mae'r gwerthiant yn derfynol.
  • Yn amodol ar arolwg - yn caniatáu ystyried cost unrhyw ddiffygion neu faterion unwaith y bydd eich syrfëwr wedi gwirio'r eiddo.

Mae negodi yn is na'r pris a ofynnir yn bosibl, ond gall y gwerthwr wrthod.

Os derbynnir eich cynnig, gofynnwch i'r asiant eiddo dynnu'r eiddo oddi ar y farchnad. Fel arall, gallai prynwr gyflwyno cais uwch (gazumping) a chymryd yr eiddo.

Yna mae'r asiant eiddo yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich cynnig a'ch derbyniad - gofynnwch am un os na fyddwch yn ei dderbyn.

Os gofynnir i chi wneud cais wedi'i selio

Nid yw gwneud cynnig lle mae'r pris rydych chi'n ei gynnig yn gyfrinachol (cais wedi'i selio) yn gyffredin iawn yn y DU, heb law am yn yr Alban.

Defnyddir ceisiadau wedi'u selio yn bennaf pan fydd cystadleuaeth am eiddo.

Mae'r asiant yn rhoi pris arweiniol, a dylai eich cais selio fod yn uwch na hyn. Gosodir dyddiad, ac mae pob cais fel arfer yn cael ei agor gyda'i gilydd.

Nid yw'r cynnig uchaf bob amser yn ennill. Defnyddiwch y cyfle i gynnwys llythyr yn eich cynnig i ddweud wrthyn nhw pa mor gyflym y gallwch chi symud neu os ydych chi'n brynwr tro cyntaf.

Nid yw'r canlyniadau'n eich ymrwymo’n gyfreithiol - gallwch dynnu'n ôl heb gosb os byddwch yn newid eich meddwl.

Ond os gwnewch y cynnig buddugol, gallwch barhau â'r gwerthiant.

Darganfyddwch beth i'w wneud pan fydd eich cynnig yn cael ei dderbyn

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Beth i'w wneud pan fydd eich cynnig yn cael ei dderbyn

Pan fydd eich cynnig ar eiddo yn cael ei dderbyn, mae angen i chi gyflogi arbenigwyr i helpu gyda rhannau cyfreithiol y gwerthiant. Efallai y bydd eich asiant eiddo yn gallu argymell gwasanaethau i chi, ond mae bob amser yn werth siopa o gwmpas

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Pa mor hir mae'n ei gymryd i brynu tŷ neu fflat?

Nid oes amserlen arferol wrth brynu eiddo.

Ar gyfartaledd, gall gymryd dau i dri mis gydag asiant tai, ond mae gan brynwyr a gwerthwyr wahanol anghenion a gall materion godi ac achosi oedi.

Os byddwch yn prynu eiddo drwy arwerthiant, gellir cwblhau'r broses gyfan mewn llai na 60 diwrnod.

Pa bynnag lwybr a gymerwch, mae angen i chi fod yn barod i symud yn gyflym os derbynnir eich cynnig.

Cyflogi cyfreithiwr neu drawsgludwr

Cost arferol: tua £2000

Mae angen i chi gyfarwyddo cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig i ofalu am holl ochr gyfreithiol gwerthu'r eiddo. Mae trawsgludwyr yn arbenigwyr mewn cyfraith eiddo. Mae gan gyfreithiwr brofiad cyfreithiol ehangach ac fel arfer mae'n ddrutach.

Bydd y ddau yn:

  • drafftio contractau
  • rhoi cyngor cyfreithiol
  • cynnal chwiliadau cyngor lleol
  • ymdrin â'r Gofrestrfa Tir, a
  • throsglwyddo'r arian i dalu am eich eiddo.
Dod o hyd i gyfreithiwr neu drawsgludwr
Trefnu arolwg eiddo

Cost arferol: £400-£1,500 (mae'r gost yn amrywio rhwng arolwg ac eiddo)

Bydd angen i chi drefnu i syrfëwr gynnal arolwg eiddo. Mae'r adroddiad hwn yn gwirio gwerth yr eiddo ac ar gyfer nodi unrhyw broblemau sydd gan yr adeilad.

Siaradwch â'ch benthyciwr morgais i holi a yw uwchraddio eich arolwg prisio yn opsiwn. Weithiau gallant drefnu arolwg eiddo i chi.

Dylai eich dewis arolwg fod yn seiliedig ar oedran a chyflwr yr eiddo, nid y gost.

  • RICS lefel 1 (Arolwg Cyflwr) – sylfaenol, addas ar gyfer adeiladau newydd.
  • RICS lefel 2 (Arolwg Prynwr Cartref) – canolraddol, sy'n ddelfrydol ar gyfer eiddo gyda rhywfaint o draul
  • RICS lefel 3 (Arolwg Adeiladu neu Arolwg Strwythurol) - cynhwysfawr, argymhellir ar gyfer cartrefi hŷn.

Sut i ddod o hyd i syrfëwr:

  • chwilio ar-lein a chymharu cynigion
  • gofyn am awgrymiadau gan ffrindiau/teulu
  • siarad â'ch asiant eiddo neu gyfreithiwr/trawsgludwr (efallai y byddant yn derbyn comisiwn o hyn).

Er mwyn eich tawelwch meddwl, dewiswch syrfëwr sydd wedi'i gofrestru gyda naill ai:

  • Residential Property Surveyors Association (RPSA)Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy o fanylion am arolygon eiddo yn ein canllaw, costau wrth brynu neu werthu cartref
Gwirio eich arolwg prisio (prisiad morgais)

Cost arferol: £150-£800 (fel arfer yn cael ei dalu gan eich benthyciwr morgais)

Efallai y bydd eich benthyciwr morgais yn trefnu arolwg prisio (neu brisiad morgais) fel rhan o'r broses ymgeisio.

Mae'r arolwg yn cadarnhau i'ch benthyciwr bod yr eiddo yn werth y pris rydych chi'n ei gynnig.

Gofynnwch i'ch benthyciwr a ydynt yn gwneud hyn a phwy sy'n talu'r gost hon. Fel arfer, bydd benthycwyr yn talu ond mae angen i chi wybod rhag ofn y bydd angen i chi gyllidebu am y gost.

Byddwch yn barod y gallai canlyniadau'r arolwg hwn oedi'r gwerthiant, yn enwedig os yw'n dangos gwerth is neu broblemau gyda'r adeilad.

Darganfyddwch sut i gwblhau eich cynnig a'ch morgais

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cwblhau eich cynnig a'ch morgais

Pan fydd gennych ganlyniadau'r arolwg, mae'n bryd adolygu'r canfyddiadau a chadarnhau neu dynnu'ch cynnig yn ôl.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cadarnhau eich cynnig

Unwaith y bydd arolygon wedi'u cwblhau a'ch bod wedi adolygu'r canlyniadau, gallwch ddewis:

  • cadarnhau eich pris cynnig
  • tynnu'ch cynnig yn ôl
  • aildrafod y pris neu’r telerau gwerthu eraill.

Gallwch aildrafod eich cynnig os bydd problemau'n ddrud i'w trwsio neu os yw'r prisiad morgais yn prisio gwerth yr eiddo yn is.

Os ydych chi'n hapus i fwrw ymlaen, cadarnhewch gyda'r asiant eiddo.

Gall y cam nesaf hwn yn y broses fod yn straen.

Mae oedi a phroblemau yn gyffredin, gan gynnwys:

  • y gwerthwr yn tynnu'r eiddo yn ôl o'r farchnad
  • y gadwyn prynwyr ehangach yn cwympo
  • y gwerthwr yn derbyn cynnig uwch gan brynwr arall (a elwir yn 'gazumping').

Byddwch yn barod, gallai'r gwerthiant ddisgyn hyd nes y cyfnewid contractau.

Edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn ar broblemau cyffredin prynu cartref gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Cael eich cynnig morgais ysgrifenedig

Cost arferol: £1,000-£2,000

Os aiff popeth yn unol â'r cynllun, cysylltwch â'ch benthyciwr neu gynghorydd morgais i symud ymlaen.

Yn aml mae ffi (ffi trefniant) i sefydlu morgais.

Gellir ychwanegu'r ffi hon at eich morgais, ond os dewiswch yr opsiwn hwn, byddwch yn talu llog arno am oes y benthyciad.

Ar ôl i chi dderbyn cynnig morgais rhwymol yn ysgrifenedig, mae gennych o leiaf saith diwrnod i feddwl amdano a chanslo os oes angen. Gallwch hefyd ddefnyddio'r amser hwn i gymharu'r cynnig gyda morgeisi eraill.

Ond os ydych chi eisiau symyd ymlaen, rhowch wybod i'r benthyciwr cyn i saith diwrnod ddod i ben.

Os caiff eich cais morgais ei wrthod - peidiwch â phoeni - mae yna opsiynau.

Darganfyddwch eich cam nesaf os bydd eich morgais yn cael ei wrthod
Beth i'w wneud os byddwch chi'n newid eich meddwl

Os penderfynwch beidio â phrynu'r eiddo, gallwch dynnu’n ôl a chanslo eich cais morgais.

Gallwch dynnu'n ôl unrhyw amser hyd nes y byddwch yn cyfnewid contractau.

Ond yn dibynnu ar ba mor bell rydych chi wedi mynd yn y broses, efallai y byddwch chi'n colli rhywfaint o'r arian rydych chi wedi'i dalu, fel eich ffioedd cyfreithiol.

Efallai y bydd y gwerthwr yn gofyn i chi gyfrannu at eu costau. Mae hyn yn anghyffredin ond gall ddigwydd os ydych wedi dod i gytundeb bod yr eiddo yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad, felly nid yw wedi cael ei ddangos i brynwyr eraill sydd â diddordeb.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu oni bai eich bod eisoes wedi cyfnewid contractau.

Darganfyddwch fwy am gyfnewid contractau

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cyfnewid Contractau

Mae'r rhan hon o'r broses prynu cartref yn bwysig. Unwaith y byddwch wedi cyfnewid, mae'r gwerthiant yn eich ymrwymo’n gyfreithiol, felly dyma'ch cyfle olaf i dynnu'n ôl os nad ydych yn siŵr.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cwblhau gwiriadau terfynol cyn i chi gyfnewid

Eich rhestr wirio cyn cyfnewid:

    •  Chwiliadau wedi'u cwblhau a'u dychwelyd.

    • Arolygon wedi'u cwblhau.

    • Cynnig morgais yn ysgrifennedig.

    • Cronfeydd yn barod ar gyfer eich blaendal (a blaendal cadw os oes angen).

    • .Dyddiad cwblhau wedi cytuno

    • Manylion gosodiadau a ffitiadau wedi'u cynnwys yn y gwerthiant (yn ysgrifenedig).

    • Cadarnhad bod gan yr eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) sy'n ddilys.

Os nad oes unrhyw broblemau neu oedi, dylech dderbyn contract i'w adolygu gyda'ch cyfreithiwr.

Gofynnwch gwestiynau am unrhyw beth aneglur a llofnodwch y contract i gwblhau'r gwerthiant.

Ystyried yswiriant indemniad

Gall materion cyfreithiol annisgwyl sy'n gysylltiedig â'ch cartref newydd ddatgelu eu hunain wrth drawsgludo.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • hawliau mynediad
  • cyfamodau cyfyngol (lle mae defnydd yr eiddo'n gyfyngedig)
  • problemau gyda chaniatâd cynllunio
  • gwaith papur rheoleiddio adeiladu anghywir
  • gweithredoedd neu ddogfennau Cofrestrfa Tir coll
  • atebolrwydd atgyweirio cangell (lle mae'n rhaid i chi gyfrannu at waith atgyweirio eglwys os ydych yn byw o fewn ffin cyngor plwyfol).

Yn hytrach na datrys y broblem nawr, gallai eich cyfreithiwr awgrymu eich bod chi neu'r gwerthwr yn prynu polisi yswiriant indemniad i amddiffyn rhag colli unrhyw werth neu hawliad cyfreithiol yn y dyfodol.

Mae'r rhain fel arfer yn faterion risg isel, ond gallant fod yn gostus a chymryd llawer o amser i'w datrys.

Gall polisïau gostio rhwng £20 a £300.

Siaradwch â'ch cyfreithiwr neu drawsgludwr am eich opsiynau cyn cyfnewid contractau.

Darllenwch fwy am yswiriant indemniadYn agor mewn ffenestr newydd
Cymryd yswiriant adeiladau

Cost arferol: £120-£140

Unwaith y byddwch wedi cyfnewid contractau, bydd angen i chi brynu yswiriant adeiladau.

Mae hyn yn cynnwys adeiledd eich cartref newydd, fel y waliau, y to a'r lloriau, a gosodiadau parhaol, fel cypyrddau cegin wedi'u gosod a'ch ystafell ymolchi. Trefnwch i’ch diogelwch ddechrau o'r dyddiad cwblhau.

Os ydych chi'n prynu eiddo lesddaliad, gallai hyn gael ei gynnwys yn eich les. Gofynnwch i'ch trawsgludwr wirio a yw'n rhan o'r rheolaeth rhydd-ddaliwr.

Darganfyddwch fwy am yswiriant adeiladau .

Er mwyn diogelu eich eiddo yn eich cartref, ystyriwch gymryd polisi yswiriant cynnwys neu bolisi yswiriant cyfunol.

Defnyddiwch ein canllaw i gael y cynnigion yswiriant gorau.

Oes gennych chi yswiriant eisoes?

Gwiriwch a ydych wedi'ch diogelu yn ystod symudiadau tŷ, a gofynnwch a all eich polisi yswiriant gael ei drosglwyddo i'ch eiddo newydd. Gall ffioedd fod yn berthnasol ar gyfer unrhyw newidiadau polisi.

Cyllidebu ar gyfer costau symud

Cost arferol: £400-£1,000+

Mae pacio bocsys a symyd dodrefn yn waith trwm, felly mae cyflogi tîm symudol proffesiynol yn opsiwn os oes angen un arnoch chi.

Mae prisiau'n amrywio, felly mae'n syniad da meddwl am hyn yn gynnar a chynnwys hyn wrth i chi ddylunio eich cyllideb.

Er enghraifft, gallai symud yn lleol gyda chriw dau berson gyda fan gostio £400-£500.

Ond gall eiddo mwy sydd angen timau mwy neu symud yn bell redeg i dros £1,000.

Gallwch dalu mwy os ydych chi eisiau help i bacio'ch pethau. Cyllidebwch ar gyfer tua £50 yr awr.

Chwiliwch o gwmpas bob amser a chael dyfynbrisiau ar gyfer yr union beth sydd ei angen arnoch.

Ewch i British Association of Removers (BAR)Yn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gwmnïau symud cofrestredig.

Darganfyddwch sut i gwblhau'r pryniant

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cwblhau'r pryniant (diwrnod cwblhau)

Dyma pryd y cewch yr allweddi o'r diwedd a gallwch symud i mewn i'ch cartref newydd. Mae'n ddiwrnod cyffrous, ond gall fod yn straen os oes oedi wrth drosglwyddo arian.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Beth sy'n digwydd ar y diwrnod cwblhau?

Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn gyfrifol am gwblhau y rhan fwyaf o’r gwaith ar y diwrnod cwblhau.

Gan gynnwys:

  • gwirio bod eich morgais wedi'i gymeradwyo
  • gofyn am arian gan y benthyciwr
  • trosglwyddo’r arian prynu i'r gwerthwr
  • creu datganiad cwblhau (yn dangos taliadau a wnaethant ar eich rhan)
  • creu anfonebau sydd heb eu casglu, ac yn olaf,
  • cadarnhau bod y gwerthiant wedi'i gwblhau, a gallwch gasglu'r allweddi.

Bydd pryd fyddwch yn cwblhau yn dibynnu ar y gadwyn brynu a'ch sefyllfa ynddo.

Os ydych mewn sefyllfa di-gadwyn, gall cwblhau ddigwydd tua 11am oni bai bod oedi cyn trosglwyddo arian i gyfreithiwr y gwerthwr.

Ymhellach i fyny'r gadwyn efallai y bydd yn rhaid i chi aros tan yn hwyrach ond byddwch yn cael amser bras.

Mae'r eiddo yn berchen i chi unwaith y byddwch yn derbyn cadarnhad eich bod wedi cwblhau, ac yna gallwch ddechrau symud i mewn.

Talu'ch ffioedd cyfreithiol

Ar y diwrnod cwblhau, byddwch yn talu gweddill cost yr eiddo, yn tynnu unrhyw flaendal, i gwblhau'r gwerthiant.

Efallai y bydd ffioedd eraill hefyd yn daladwy ar y diwrnod.

Ffioedd cyfreithiwr neu drawsgludwr

Cost arferol: £2,000

Mae'n bryd talu'ch bil cyfreithiol, tynnwch swm y blaendal a chost chwiliadau lleol os ydych eisoes wedi eu talu.

Ffi trosglwyddo electronig

Cost arferol: £25-£50

Efallai y bydd cyfreithwyr neu drawsgludwyr yn codi tâl am drosglwyddo arian o'ch cyfrif morgais.

Ffi cyfrif morgais

Cost arferol: £100-£300

Codir tâl undro gan eich benthyciwr morgais am agor, rheoli a chau eich cyfrif morgais. Gellir ei ychwanegu at eich morgais, ond rydych yn talu llog, felly ystyriwch ei dalu ymlaen llaw.

Talu Treth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir

Os oes rhaid i chi dalu treth ar eich cartref newydd, bydd eich cyfreithiwr fel arfer yn trefnu i dalu hyn ar eich rhan.

Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich eiddo, ond gall fod hyd at 12% o werth eich cartref newydd.

Dim ond cyfnod penodol o amser sydd gennych ar ôl y dyddiad cwblhau i dalu:

  • Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Treth Stamp a Threth Tir yn ddyledus o fewn 14 diwrnod.
  • Yng Nghymru, rhaid talu Treth Trafodiadau Tir o fewn 30 diwrnod.

Codir ffi cosb hwyr arnoch os byddwch yn methu'r dyddiad cau.

Cysylltwch â'ch cyfreithiwr neu drawsgludwr ar ôl y dyddiad cwblhau i wirio ei fod wedi'i dalu.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Thank you for your feedback.
We’re always trying to improve our website and services, and your feedback helps us understand how we’re doing.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau