Yn ceisio dyfalu beth yw’r gwahaniaeth rhwng rhydd-ddaliad a phrydlesol? Mae’r ddau yn ffordd o fod yn berchen ar eiddo, ond mae’n bwysig eich bod yn gwybod y gwahaniaeth gan fod yn effeithio ar brynu, perchen a gwerthu eich cartref.
Beth yw rhydd-ddaliad?
Mae rhydd-ddeiliad eiddo yn berchen arno yn llwyr, gan gynnwys y tir y mae’r eiddo wedi’i adeiladu arno.
Os byddwch chi’n prynu rhydd-ddaliad, chi sy’n gyfrifol am gynnal eich eiddo a’r tir, felly bydd yn rhaid i chi gyllidebu ar gyfer y costau hyn.
Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o dai yn eiddo rhydd-ddaliad er gallai rhai fod yn lesddaliad - fel arfer trwy gynlluniau cyd-berchnogaeth.
Manteision o gael rhydd-ddaliad
Nid oes rhaid i chi:
- boeni am y les yn dod i ben, gan eich bod chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr
- delio gyda’r rhydd-ddeiliad (sy’n aml yn cael ei alw yn landlord)
- talu rhent tir, taliadau gwasanaeth ac unrhyw daliadau landlord eraill.
Perchen cyfran o rydd-ddaliad
Os yw'ch eiddo yn brydlesol, gallwch brynu’r rhydd-ddaliad gan y rhydd-daliwr gyda lesddeiliaid eraill - er enghraifft, pobl eraill sy’n byw mewn bloc o fflatiau.
Gallwch wneud hyn cyhyd â bod o leiaf hanner o’r lesdeiliaid yn cytuno i brynu cyfran.
Wrth wneud hynny, cewch fwy o reolaeth dros eich cartref a’r costau yr ydych yn eu talu.
Mae’n golygu hefyd y gallwch estyn eich les yn weddol rwydd am hyd at 990 o flynyddoedd. I brynu’r rhydd-ddaliad, bydd angen i chi a’r lesddeiliaid eraill gyflwyno Hysbysiad Adran 13 ar rydd-ddeiliad yr eiddo.
Fe allai fod yn ddrud i brynu’r rhydd-ddaliad. Bydd angen i chi a’r lesddeiliaid eraill sefydlu cwmni i reoli’r adeilad, neu ganfod asiant rheoli i’w wneud ar eich rhan.
Darganfyddwch fwy am Rybudd Adran 13 ar Tenancy Agreement ServiceYn agor mewn ffenestr newydd
Eiddo cyfunddaliad
Mae cyfunddaliad yn ddewis amgen i brydles hirdymor. Gall perchnogion eiddo ffurfio cymdeithas cyfunddaliad, sy’n berchen ar y tir, adeilad ac ardaloedd cyffredin ac yn gyfrifol am reolaeth, cynnal a chadw, trwsio a’u gwasanaethu.
Fel prydles, mae perchnogion yn gyfrifol am eu fflatiau neu dai unigol. Ond, yn wahanol i brydlesau, does dim terfyn ar am ba hyd rydych yn berchen ar yr eiddo.
Mae gan unrhyw un sy’n berchen ar rydd-ddaliad yn yr adeilad neu ystâd hawl i gymryd rhan yn rhedeg y gymdeithas cyfunddaliad.
Darganfyddwch fwy am gyfunddaliadau a sut i gofrestru un ar Lease AdviceYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw prydles?
Gyda phrydles, rydych yn berchen ar yr eiddo (yn amodol ar delerau’r brydles) am hyd eich cytundeb prydles gyda’r rhydd-ddeiliad.
Pan ddaw’r prydles i ben, bydd y berchnogaeth yn dychwelyd i’r rhydd-ddeiliad, oni bai y gallwch ymestyn y brydles.
Mae’r rhan fwyaf o fflatiau a maisonettes yn rhai prydlesol, felly er mai chi sy’n berchen ar eich eiddo yn yr adeilad, nid oes gennych fudd yn yr adeilad lle mae’ch eiddo.
Bydd rhai tai yn cael eu gwerthu gyda phrydles. Os dyma’r achos, rydych yn berchen ar yr eiddo, ond nid y tir lle saif yr eiddo.
Prynu prydles
Pan fyddwch yn prynu eiddo prydlesol, byddwch yn cymryd y brydles oddi wrth y perchennog blaenorol.
Felly cyn gwneud cynnig bydd angen i chi ystyried:
- sawl blwyddyn sydd ar ôl ar y brydles
- sut y byddwch yn cyllidebu ar gyfer taliadau gwasanaeth a chostau cysylltiedig, gan gynnwys unrhyw godiadau yn y dyfodol sy’n cael eu cynnwys yn y contract
- sut allai cyfnod y brydles effeithio ar gael morgais a gwerth ailwerthu’r eiddo.
Pa mor bwysig yw hyd y brydles?
Os oes llai na 80 mlynedd ar ôl ar y brydles, fe allech brofi anhawster i gael morgais.
Bydd benthycwyr fel arfer eisiau i brydles redeg am tua 25-30 mlynedd y tu hwnt i ddiwedd eich morgais.
Mae hyn yn golygu os ydych eisiau morgais am 25 mlynedd bydd angen i’r brydles fod ag o leiaf 50-55 mlynedd arni cyn iddi ddod i ben. Os byddwch yn y pen draw eisiau gwerthu eiddo prydlesol rydych yn ei brynu, ystyriwch sawl blwyddyn fydd ar ôl ar y brydles erbyn hynny.
Mae gwerth eich cartref yn dibynnu ar ba mor hawdd fyddai i’w werthu, felly bydd darparwyr morgeisi yn awyddus i’r brydles fod mor hir ag y bo modd.
Estyn y brydles
Gallwch ofyn i’r rhydd-ddeiliad ymestyn y brydles ar unrhyw adeg.
Ac unwaith rydych wedi bod yn berchen ar eich cartref am ddwy flynedd, mae gennych yr hawl i estyn eich prydles gan 90 mlynedd cyhyd â’ch bod yn denant cymwys.
Yn gyffredinol, byddwch yn denant cymwys os oedd eich prydles wreiddiol am fwy na 21 mlynedd.
Bydd y rhydd-ddeiliad yn codi tâl am estyn y brydles.
Bydd y gost yn amrywio yn ddibynnol ar werth yr eiddo.
Os na allwch chi a’r rhydd-ddeiliad gytuno ar gost estyn y brydles, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Prisio Prydlesol.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi logi cyfreithiwr neu syrfëwr, a fydd yn ychwanegu at y gost.
Ffioedd ar gyfer eiddo prydlesol
Cynlluniwr Cyllideb
Defnyddiwch y Cynlluniwr Cyllideb i wirio a allech fforddio ffioedd gwasanaethau ar ben eich taliadau morgais.
Os ydych yn berchen ar eiddo prydlesol, nid ydych yn berchen ar y tir.
Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw a rhedeg yr adeilad.
Bydd y landlord yn gwneud hyn neu’n penodi asiant rheoli i wneud hynny ar ei ran.
Serch hynny, mae’r lesddeiliaid yn rhannu costau hyn trwy dalu tâl gwasanaeth i’r rhydd-deiliad.
Efallai y gofynnir i chi hefyd dalu i mewn i gronfa ad-dalu i helpu i dalu am unrhyw waith cynnal a chadw annisgwyl a fydd angen yn y dyfodol.
Taliadau gwasanaeth prydlesol
Mae taliadau gwasanaeth yn amrywio o eiddo i eiddo ac maent ar gyfer talu am bethau megis:
- cadw gerddi cymunedol mawr
- biliau trydan ar gyfer yr ardaloedd cymunedol
- atgyweirio a chynnal a chadw waliau allanol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r taliadau gwasanaeth cyn i chi wneud cynnig ar eiddo gan y gallai effeithio ar a allwch fforddio byw yno. Bydd y tâl gwasanaeth ar lawer o eiddo yn dod gyda thelerau ac amodau ynghylch faint y gallent godi gan yn y contract. Darllenwch nhw’n ofalus i ddarganfod a ydynt yn fforddiadwy.
Os ydych yn berchen ar eiddo prydlesol, eich cyfrifoldeb chi yw atgyweiriadau a chynnal a chadw’ch eiddo.
Ond fel arfer byddwch angen caniatâd y landlord i wneud unrhyw newidiadau sylweddol.
- rhent tir
- taliadau gweinyddol
- yswiriant adeilad (wedi’i drefnu gan y landlord).
Taliadau ffactoreiddio yn yr Alban
Yn yr Alban, mae taliadau gwasanaeth yn cael eu galw’n ‘daliadau ffactoreiddio’.
Maent fel arfer yn berthnasol i fflatiau gyda rhannau cyffredin neu eiddo mewn ardaloedd preswyl sydd â gerddi neu diroedd cymunedol.
Darllenwch fwy am brynu yn yr Alban ar gov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Anghydfodau Rheoli
Eich hawliau fel lesddeiliad
Fel lesddeiliad mae gennych hawliau sy’n atal y landlord rhag cymryd mantais arnoch chi’n ariannol.
Er enghraifft, gallwch ofyn i gael gweld:
- crynodeb ar ble y mae taliadau gwasanaeth yn cael eu gwario
- sut maent nhw’n cael eu cyfrifo
- unrhyw waith papur ategol, fel derbynebau am y gwaith sydd wedi’i wneud.
Rhaid i’r rhydd-ddeiliad ymgynghori â chi hefyd:
- am unrhyw waith adeiladu a fydd yn costio mwy na £250
- cyn gwneud unrhyw waith a fydd yn para mwy na blwyddyn
- cyn gwneud unrhyw waith a fydd yn costio mwy na £100 y flwyddyn i chi.
Darganfyddwch fwy am yr Hawl i Reoli ar Wasanaeth Cynghori ar LesddaliadauYn agor mewn ffenestr newydd
Beth i’w wneud os ydych yn anfodlon â rheolaeth yr eiddo
Os ydych yn anfodlon â’r taliadau neu’r ffordd y mae’r eiddo yn cael ei reoli, mae gennych ddau ddewis:
- Hawl i Reoli – mae hyn yn caniatáu i’r lesddeiliaid gymryd rheolaeth am rai tasgau gan y landlord heb orfod profi rheolaeth wael. Bydd angen i chi fod yn gymwys, a sefydlu cwmni rheoli gyda’r lesddeiliaid eraill.
- Ymgeisio i benodi rheolwr newydd - ond mae’n rhaid i chi brofi rheolaeth wael (costau annheg, torri cytundebau).