Os oes gennych gerdyn credyd neu orddrafft ond eisiau cynyddu eich terfyn credyd, sut gallwch fynd ati? Darganfyddwch beth gallwch ei wneud i gynyddu eich terfyn ac, yn bwysicach fyth, a ddylech.
Beth yw terfyn credyd?
Dyma'r uchafswm y gallwch ei wario hyd ato ar gerdyn credyd neu orddrafft awdurdodedig.
Cardiau credyd
Pan fyddwch yn gwneud cais am gerdyn credyd, nid ydych fel arfer yn gwybod beth fydd y terfyn credyd. Er efallai y dywedir wrthych beth yw'r terfyn uchaf ar gyfer cwsmeriaid newydd.
Efallai mai dim ond pan fydd eich cais yn llwyddiannus y dywedir wrthych beth yw eich terfyn credyd.
Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn broblem wirioneddol. Mae hyn oherwydd efallai mai dim ond pan fydd chwiliad llawn wedi'i gynnal, sy'n gadael marc ar eich ffeil gredyd, y byddwch yn darganfod eich terfyn credyd.
Er enghraifft, os ydych am drosglwyddo balans sy'n bodoli eisoes, er mwyn manteisio ar fargen 0%, ond mae eich terfyn credyd newydd yn rhy fach i wneud hynny, efallai y cewch eich siomi.
Os yw'r terfyn credyd yn bwysig i chi, gofynnwch i ddarparwr y cerdyn beth fydd cyn i chi wneud cais, a chyn i chi lofnodi'r cytundeb credyd.
Dylai darparwr y cerdyn allu rhoi syniad i chi o faint rydych yn debygol o gael ei gynnig. Er y gallai fod angen iddynt wneud gwiriad credyd cyn y gallant gadarnhau'r union swm.
A ydych yn siopa o gwmpas am gerdyn credyd a ddim yn barod i wneud cais eto? Yna gwnewch hyn yn glir a gofynnwch am ‘chwiliad dyfynbris’ neu ‘gwiriad credyd chwilio meddal’, felly nid oes marc ar ôl ar eich ffeil gredyd. Fodd bynnag, ni fydd pob benthyciwr yn darparu'r gwasanaeth hwn.
Gorddrafftiau
Gan ddibynnu ar ba fath o gyfrif cyfredol sydd gennych, efallai y gallwch gytuno â'ch banc i gael mynediad at orddrafft, a byddant yn gosod terfyn ar gyfer hyn. Os ewch dros y swm hwn, efallai y bydd eich banc yn gadael i chi fenthyca trwy orddrafft nas trefnwyd neu’n gwrthod gwneud y taliad. Ond cofiwch y gallai hyn niweidio'ch statws credyd.
Er mwyn osgoi hyn, bydd angen i chi gysylltu â'ch banc i drafod cynyddu eich terfyn gorddrafft ymlaen llaw os byddwch yn meddwl y byddwch yn mynd drosto. Efallai y bydd eich banc yn ystyried na fyddai gorddrafft mwy er eich budd gorau nac yn fforddiadwy, ac y gall wrthod cynyddu'r terfyn.
Bydd eich gorddrafft hefyd yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan eich banc. Mae hyn yn golygu y gellir lleihau neu dynnu'ch gorddrafft yn ôl ar unrhyw adeg. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Cyn i chi gynyddu eich terfyn credyd
A allwch ei fforddio?
Pryd bynnag rydych yn ystyried cynyddu swm y credyd rydych am ei gymryd, mae'n bwysig darganfod a allwch fforddio'r ad-daliadau a'r llog a godir.
Mae cyfraddau llog gorddrafft wedi newid ers Ebrill 2020 ac maent fel arfer dros 40%, tra gall cardiau credyd hefyd fod â chyfradd llog sylweddol oni bai eich bod mewn cyfnod o 0%.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
A allwch fforddio cael benthyg arian?
Llunio cynllun ad-dalu ar gyfer eich benthyca
Pam mae angen i chi gynyddu eich terfyn credyd?
Meddyliwch pam rydych am gynyddu'r swm y gallwch ei fenthyg, ac a yw'n rhedeg y risg o'ch cael i drafferthion.
Gallai fod llawer o resymau dros ymestyn eich terfyn credyd – er enghraifft, efallai eich bod yn defnyddio'ch cerdyn credyd i dalu am gostau cysylltiedig â gwaith cyn eu hawlio'n ôl.
Os bydd eich treuliau misol nodweddiadol yn tyfu'n sydyn, gallai fod yn syniad da cynyddu eich terfyn credyd er mwyn osgoi problem llif arian.
Os ydych yn talu'ch bil cerdyn credyd yn llawn bob mis yn rheolaidd a bod gennych incwm cyson, efallai y bydd y banc neu'r darparwr cerdyn yn cytuno i'r cynnydd.
Fodd bynnag, efallai eich bod am gynyddu eich terfyn credyd oherwydd eich bod yn cael trafferth cwrdd â'ch holl dreuliau, gan gynnwys ad-daliadau credyd.
Os yw hyn yn wir, bydd cynyddu eich terfyn credyd ond yn mynd i ychwanegu at y broblem a gallai fod yn ddefnyddiol ceisio cyngor cyn mynd i fwy o anawsterau.
Anfanteision o gynyddu eich terfyn credyd
Hyd yn oed os credwch y gallwch reoli benthyca mwy, efallai nad cynyddu eich terfyn credyd fyddai'r peth gorau i'w wneud.
Efallai y bydd cael terfyn credyd uwch yn eich annog i wario mwy. Mae hyn yn golygu y byddech yn wynebu ad-daliadau mwy nag y byddech wedi'i wneud yn y pen draw.
Os ydych yn rheolaidd yn eich gorddrafft, gall hyn hefyd effeithio ar eich siawns o gymhwyso ar gyfer mathau eraill o gredyd, fel morgais.
Fodd bynnag, nid yw cael terfyn credyd uchel o reidrwydd yn effeithio ar eich siawns o gael eich cymeradwyo ar gyfer credyd pellach.
Cynyddu eich terfyn credyd
Os nad ydych yn hapus â'ch terfyn credyd, gallwch ofyn am derfyn uwch gan eich darparwr banc neu gerdyn credyd.
Fodd bynnag, os ydych yn gwsmer newydd, mae'n syniad da aros am sawl mis yn gyntaf. Mae hyn er mwyn i'r benthyciwr weld eich bod yn gwneud ad-daliadau yn ddibynadwy ar y swm credyd y cytunwyd arno â chi i ddechrau.
Os byddwch yn mynd y tu hwnt i'ch terfyn presennol ar eich cerdyn neu'n colli unrhyw daliadau, mae'n annhebygol y bydd darparwr eich cerdyn yn cytuno i gynyddu eich terfyn.
Bydd sut rydych yn rheoli'ch gorddrafft fel arfer yn ymddangos ar eich adroddiad credyd, a gallai effeithio ar eich siawns o gael eich cymeradwyo ar gyfer mathau eraill o gredyd.
Pan rydych wedi bod gyda darparwr banc neu gerdyn am gyfnod, efallai y byddant yn cynnig terfyn credyd uwch i chi heb i chi ofyn amdano.
Nid oes rhaid i chi dderbyn hyn. Gallwch wrthod y cynnydd arfaethedig (neu ofyn am gynnydd llai). A gallwch hefyd ei gwneud yn glir pan fyddwch yn tynnu'r cerdyn, neu ar unrhyw adeg, nad ydych am gael cynnig unrhyw godiadau yn y dyfodol. Er enghraifft, efallai eich bod yn poeni y byddech yn cael eich temtio i orwario.
Os penderfynwch nad ydych eisiau cynyddu’r terfyn, rhowch wybod i ddarparwr y cerdyn – dylent ei gwneud yn hawdd i chi optio allan.
Os yw darparwr eich cerdyn yn gwrthod cynyddu eich terfyn credyd
Mae benthycwyr fel arfer yn penderfynu a ddylid cynyddu eich terfyn credyd trwy edrych ar eich ffeil cyfeirio credyd, yn ogystal â gwneud gwiriadau eraill.
Ni fyddant yn rhoi terfyn uwch i chi os credant na allwch ei fforddio neu'n debygol o fethu â chydymffurfio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd
Peidiwch â mynd dros derfyn eich gorddrafft heb awdurdodiad
Beth bynnag a wnewch, peidiwch â pharhau i wario pan gyrhaeddwch y terfyn ar eich gorddrafft. Mae hyn oherwydd y gallai eich banc wrthod eich taliad, a gallai hyn hefyd niweidio'ch statws credyd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Os gwrthodwyd credyd i chi
Os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd, mae'n bwysig nad ydych yn dal i wneud cais yn rhywle arall. Bydd gwneud llawer o geisiadau yn cael effaith negyddol ar eich statws credyd.