Gall defnyddio cerdyn credyd ar gyfer eich gwariant arwain i lawer o fuddion, o ddiogelwch cyfreithiol ychwanegol i ennill arian yn ôl yn eich hoff fanwerthwr. Fodd bynnag, os na fyddwch yn talu'ch cerdyn yn llawn bob mis, gall dyled cardiau credyd gynyddu'n gyflym.
Torrwch gost dyled eich cerdyn credyd
Gall dyled cardiau credyd fod yn ddrud. Y gyfradd llog ar gyfartaledd a godir ar gerdyn credyd yw 22%.
Bydd trosglwyddo'ch balans i gerdyn credyd arall â chynnig trosglwyddo balans 0%, neu un sy'n codi cyfradd llog is, yn lleihau eich taliadau misol.
Trosglwyddwch falans eich cerdyn credyd presennol
Awgrym da
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'ch dyled cyn i'r cynnig ragarweiniol 0% ddod i ben, fel arall efallai y bydd rhaid i chi dalu cyfradd llog uchel ar y ddyled sy'n weddill.
Un opsiwn i fenthycwyr sydd â dyled cerdyn credyd presennol yw ei symud i gerdyn credyd trosglwyddo balans 0% .
Mae'r cardiau hyn yn cynnig cyfnod pryd na chodir unrhyw log ar y ddyled honno. Mae hyn yn golygu bod pob ceiniog o'ch ad-daliadau yn mynd yn uniongyrchol tuag at leihau maint eich dyled wreiddiol. (Mae hyn yn tybio nad ydych yn defnyddio'r cerdyn ar gyfer pryniannau newydd – fel arfer mae'n well cael cerdyn arall ar gyfer hyn).
Fel rheol bydd angen i chi dalu ffi i drosglwyddo'ch dyled - fel arfer tua 3% o'r balans a drosglwyddir (yn amodol ar isafswm lefel ffioedd). Felly os yw'ch balans sy'n weddill yn £1,000, gallai gostio £ 30 i chi newid.
Fel rheol dim ond os oes gennych statws credyd da y mae'r cardiau hyn yn opsiwn.
Os nad ydych yn gymwys am gynnig 0%, edrychwch am gerdyn sydd â chyfradd mor isel â phosibl (ac yn ddelfrydol un nad yw'n codi ffi). Ond cofiwch edrych ar y gyfradd llog trosglwyddo balans, nid yr APR (gan ei fod yn seiliedig yn unig ar bryniannau).
Darganfyddwch a chymharwch gardiau trosglwyddo balans ar wefan MoneySavingExpert
Peidiwch â chadw at isafswm taliadau
Mae isafswm ad-daliadau misol yn tueddu i gael eu gosod ar lefelau isel iawn. Mae'r rhain weithiau mor isel ag 1%, ynghyd â ffioedd, llog a thaliadau ond bydd y rhan fwyaf yn uwch.
Os mai dim ond yr ad-daliad lleiaf y byddwch yn ei wneud, gallai eich dyled gymryd degawdau i'w thalu a gallech dalu miloedd o bunnoedd mewn llog.
Dyma rai awgrymiadau:
- Ceisiwch dalu'r bil cyfan bob mis fel na fyddwch yn talu unrhyw log o gwbl. Â cherdyn credyd safonol, os ydych bob amser yn ad-dalu'ch bil misol yn llawn, gallwch gael rhwng 45 a 56 diwrnod o gredyd di-log .
- Os nad yw hynny'n bosibl, talwch gymaint ag y gallwch ac llunio cynllun ad-dalu.
- Peidiwch â defnyddio'r cardiau ar gyfer tynnu arian parod.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr cardiau credyd gysylltu ac annog pobl sydd wedi gwneud taliadau isel iawn neu isafswm ar eu cardiau credyd am y 18 mis diwethaf. Dyma le rydych wedi talu mwy mewn llog, ffioedd a thaliadau na'r hyn rydych wedi'i dalu'n ôl i gael y balans i lawr ar eich cerdyn credyd.
Mae'n ofynnol i fenthycwyr awgrymu ad-daliadau fforddiadwy uwch. Os na fyddwch yn ymateb, neu'n anwybyddu'r mater, a bod y sefyllfa'n parhau am fwy na 36 mis, gallai hyn arwain at atal eich cyfrif.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os yw rhywun wedi cysylltu â chi am eich cerdyn credyd a'ch dyled barhaus
Talu trwy Debyd Uniongyrchol
Bydd sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer eich taliadau cerdyn credyd yn sicrhau na fyddwch byth yn anghofio talu. Mae hefyd yn golygu na fydd rhaid i chi dalu ffi talu'n hwyr neu fentro colli'r budd o gyfradd ragarweiniol 0% neu gynnig hyrwyddo.
Fel rheol, gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu'r balans llawn, yr isafswm, neu swm sefydlog bob mis.
Neu, os yw'ch incwm yn amrywio o fis i fis a'ch bod yn poeni efallai na fydd gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu am Debyd Uniongyrchol, gallwch dalu â llaw.
Gosodwch gyllideb
Mae rhoi cyllideb at ei gilydd yn caniatáu i chi gymryd rheolaeth o'ch arian.
Mae'n gofnod o'r arian sydd gennych yn dod i mewn a'r hyn sydd gennych ar ôl i'w wario bob mis.
Pan fyddwch wedi gwneud hyn, dylech allu nodi meysydd lle gallwch leihau eich gwariant.
Yna gellir rhoi'r arian rydych yn ei arbed tuag at ad-dalu dyled eich cerdyn credyd.
Blaenoriaethwch eich ad-daliadau
Os oes arnoch arian ar fwy nag un cerdyn credyd, bydd angen i chi weithio allan pa un i'w dalu yn gyntaf. Mae'n debyg mai hwn fydd yr un â'r gyfradd llog uchaf .
Er enghraifft, os oes arnoch £1,000 ar gerdyn sy'n codi llog o 19% a £1,000 arall ar un yn codi llog o 34%, canolbwyntiwch ar y cerdyn yn codi 34% yn gyntaf a thalu cymaint ag y gallwch.
Pan fydd y ddyled yn cael ei chlirio o'r cerdyn hwnnw, gallwch wedyn geisio talu'r cerdyn credyd sy'n codi 19%.
Sicrhewch eich bod yn parhau i dalu o leiaf yr isafswm taliad ar bob cerdyn. Fel arall, bydd taliadau a gollir yn arwain at ffioedd ychwanegol a gallent niweidio'ch statws credyd. Byddai hyn yn ei gwneud yn anos cael credyd yn y dyfodol.
Os oes gennych ddyled wedi'i sicrhau yn erbyn eich tŷ neu ar filiau rhent a chyfleustodau, gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'r rhain yn gyntaf. Mae hyn oherwydd gall canlyniadau peidio â thalu fod yn waeth o lawer.