Mae cardiau credyd arian yn ôl yn cynnig cyfle i chi ennill arian parod o'r arian rydych yn ei wario, trwy dalu canran o'r hyn rydych yn ei wario yn ôl neu roi pwyntiau gwobr i chi. Maent yn gwneud synnwyr mond os ydych yn talu'r balans yn llawn bob mis a pheidiwch byth â mynd dros eich terfyn y. Fel arall, bydd y llog rydych yn ei dalu yn fwy na’r gwobrau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw arian yn ôl?
Pan fyddwch yn prynu rhywbeth, rydych yn cael canran o'r swm a gostiodd yn ôl i chi. Mae hyn yn golygu bod arian yn ôl yn ffordd o gael arian oddi ar bethau rydych yn eu prynu - meddyliwch amdano fel gostyngiad neu gymhelliant. Mae fel arfer yn nodwedd o gardiau credyd, ond mae rhai cyfrifon cyfredol hefyd yn cynnig arian yn ôl.
Yn aml, cynigir arian yn ôl ar bryniannau penodol, fel tanwydd neu ar gyfer biliau. Ond mae llawer o ddarparwyr bellach yn cynnig arian yn ôl ar unrhyw beth rydych yn ei brynu.
Sut mae arian yn ôl yn gweithio?
Os yw cerdyn credyd yn talu arian yn ôl o 1% ar bob pryniant, gallech ennill £50 os yw eich gwariant blynyddol yn £5,000. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'ch balans yn llawn bob mis, fel arall bydd y taliadau llog bron yn sicr yn fwy na’r buddion.
Bob tro rydych yn defnyddio'r cerdyn, rydych yn ennill canran o'ch gwariant yn ôl ar ffurf arian yn ôl.
Er enghraifft, os yw'ch cerdyn yn talu 2% o arian yn ôl a'ch bod yn gwario £100 mewn siop, byddwch yn ennill £2.
Yn gyffredinol, telir yr arian yn ôl hwn yn flynyddol, er y bydd rhai cardiau'n talu arian yn ôl yn fisol.
Mae'r rhan fwyaf o gardiau arian yn ôl yn credydu'r swm a enillwyd gennych ar eich datganiad, gan leihau eich bil cerdyn credyd. Mae rhai cardiau'n anfon yr arian yn ôl i gyfrif banc fel gallwch ei wario, neu’n gadael i chi ei drosi i bwyntiau neu dalebau.
Fel rheol gellir cyfnewid pwyntiau gwobrwyo pan fydd gennych ddigon i fod yn gymwys i gael ‘gwobr’.
Mae cardiau arian yn ôl ar gael ar sawl ffurf:
- Bydd rhai yn syml yn talu cyfradd unffurf o arian yn ôl, ni waeth faint rydych yn ei wario neu ble rydych yn ei wario.
- Bydd eraill yn talu cyfraddau haenog o arian yn ôl yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario. Er enghraifft, 0.5% os ydych yn gwario llai na £6,000 yn flynyddol ac 1% os ydych yn gwario mwy. Byddwch yn ofalus nad yw hyn yn eich temtio i wario mwy na gallwch fforddio ei ad-dalu'n gyffyrddus.
- Bydd rhai cardiau'n cynnig cyfraddau gwahanol o arian yn ôl yn dibynnu ar ble rydych yn gwario'ch arian. Er enghraifft, 1% ar arian sy'n cael ei wario mewn archfarchnadoedd, 2% ar arian sy'n cael ei wario mewn siopau adrannol a 3% ar arian sy'n cael ei wario ar ynni.
Pan fydd cardiau credyd arian yn ôl yn syniad da
Os ydych yn talu bil eich cerdyn credyd yn llawn bob mis, gall cardiau credyd arian yn ôl fod yn syniad gwych. Mae hyn oherwydd eich bod yn cael eich gwobrwyo am wario arian byddech wedi'i wario beth bynnag.
Os na fyddwch bob amser yn talu'ch bil cerdyn credyd yn llawn, nid yw cardiau credyd arian yn ôl yn ddewis da.
Er y byddwch yn ennill arian yn ôl ar eich gwariant, bydd hyn fel arfer yn llai na'r llog a godir ar eich dyled sy'n ddyledus.
Peidiwch â gadael i neb gymryd mantais ohonoch
Efallai y bydd darparwyr cardiau yn ceisio eich argyhoeddi i gymryd cerdyn credyd arian yn ôl trwy gynnig pob math o senarios lle byddwch yn ennill ffortiwn fach mewn arian yn ôl .
Er enghraifft, gallent ddefnyddio'ch gwariant ar danwydd neu ginio yn y gwaith fel enghreifftiau i'ch annog i gynyddu cyfanswm eich gwariant, ac felly'r arian yn ôl y gallech ei ennill, o'r cerdyn.
Pwynt hyn yw eich annog i newid eich arferion gwario, a defnyddio'ch cerdyn credyd arian yn ôl, pan fyddech efallai wedi defnyddio arian parod neu gerdyn debyd.
Os na ddefnyddiwch y cerdyn credyd arian yn ôl, ni welwch y buddion a addawyd i chi.
Os nad ydych yn gyffyrddus yn talu â cherdyn credyd am y pethau hyn neu os ydych yn poeni am fynd i ddyled, ceisiwch osgoi cymryd cerdyn.
Os oes gennych gerdyn arian yn ôl, peidiwch â chael eich temtio i wario mwy dim ond i ennill arian yn ôl neu bwyntiau gwybrwyo.
Ffioedd ar gardiau credyd arian yn ôl
Peth arall i'w gofio cyn cymryd cerdyn credyd arian yn ôl yw gallai bod rhaid i chi dalu ffi flynyddol neu fisol am y cerdyn.
Mae'r rhain fel arfer yn amrywio o ychydig bunnoedd y mis hyd at £ 25 y flwyddyn ar gyfer rhai cardiau.
Mae'n bwysig ystyried y ffi hon. A ydych yn gwario ychydig ar eich cerdyn bob mis yn unig ac nad ydych eisiau cynyddu gwariant? Yna o bosibl bydd unrhyw arian yn ôl y byddech wedi'i ennill yn cael ei ddileu gan y ffi.
Eich arferion gwario
Os ydych am ennill y mwyaf o arian yn ôl, bydd angen i chi newid eich arferion gwario a defnyddio'ch cerdyn credyd arian yn ôl gymaint â phosibl.
Fodd bynnag, ceisiwch beidio â gweld hyn fel esgus i wario mwy nag y byddech fel arfer, dim ond i ennill mwy o arian yn ôl.
Rheol aur cardiau credyd arian yn ôl
Dylech fwriadu talu eich cerdyn credyd bob mis bob amser ar amser, ac yn llawn. Os na wnewch hynny, bydd unrhyw arian a enillir mewn arian yn ôl yn cael ei gymryd i ffwrdd gan log sy'n ddyledus neu ffioedd.