Os ydych yn cael trafferth cadw i fyny â biliau a thaliadau dyled, peidiwch â phoeni - nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yn helpu cannoedd ar filoedd o bobl sydd â phryderon tebyg bob blwyddyn. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddatrys eich anawsterau, gan gynnwys cael cyngor ar ddyledion am ddim.
Adiwch faint sy’n ddyledus gennych
Y cam cyntaf tuag at gymryd rheolaeth yw llunio rhestr o bawb y mae angen i chi wneud taliadau iddynt, gan gynnwys biliau cartref, taliadau morgais neu rent sy'n ddyledus benthyciad neu daliadau credyd ac ad-daliadau dyled.
Gwiriwch faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu taliadau ac a ydych ar ei hôl.
Deall pa daliadau y mae angen i chi fynd i’r afael â hwy'n gyntaf
Mae rhai biliau a thaliadau yn flaenoriaeth uwch oherwydd gall canlyniadau peidio â thalu fod yn fwy difrifol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu'ch biliau a'ch taliadau.
Os ydych yn wynebu argyfwng dyled
Mae'n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn gynted ag y gallwch os ydych ar ei hôl o ran taliadau blaenoriaeth, neu'n wynebu unrhyw faterion brys, gan gynnwys:
- beilïaid yn cysylltu â chi
- derbyn gwys llys
- torri'ch nwy neu drydan i ffwrdd
- adfeddiannu'ch cartref, car neu nwyddau.
Llunio cyllideb
I gymryd rheolaeth o'ch cyllid, mae'n bwysig llunio cyllideb. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall faint o arian sydd gennych i wneud taliadau.
Mae ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim yn eich rhoi chi mewn rheolaeth dros wariant eich cartref ac yn dadansoddi'ch canlyniadau i'ch helpu i reoli eich arian. Mae eisoes wedi helpu cannoedd ar filoedd o bobl.
Os byddwch yn cael trafferth gwneud cyllideb, neu'n dal i fod â phryderon ar ôl i chi fynd trwy'r rhifau, gallwch siarad â chynghorydd dyledion am ddim a all eich helpu.
Ceisiwch gynyddu eich incwm
Efallai y gwelwch nad yw'ch cyllideb yn cydbwyso ac mae'ch incwm yn llai na'ch treuliau neu fod gennych ddigon i fyw arno ond nad oes gennych arian parod i dalu dyledion.
Os yw hynny'n wir, efallai y bydd pethau y gallwch eu gwneud i gynyddu eich incwm neu gwtogi ar yr hyn rydych yn ei wario.
Er enghraifft, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, hawlio grant neu arbed arian ar eich biliau cartref trwy newid darparwyr.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt
Bydd y gefnogaeth y gall eich credydwr ei rhoi i chi ddibynnu ar bethau fel:
- y math o fil neu daliad ydyw
- faint sy'n ddyledus gennych
- faint o daliadau rydych wedi'u colli
- eich gallu i wneud ad-daliadau
- a oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich bod yn agored i niwed.
Bydd y camau y gall eich credydwr eu cymryd hefyd yn dibynnu ar wahanol bethau, fel a yw'n ddyled â blaenoriaeth neu'n ddyled nad yw'n flaenoriaeth neu a yw'n gytundeb credyd neu'n fil cartref.
I ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud am filiau a thaliadau gwahanol edrychwch ar ein adran erthygl ar Ddelio â dyled
Cewch gyngor cyfrinachol am ddim
Os ydych yn cael trafferth â dyled ac yn ei chael yn anodd rheoli pethau eich hun, y peth olaf efallai yr hoffech ei wneud yw siarad â dieithryn llwyr am eich problemau.
Ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud, yn enwedig os ydych yn ystyried defnyddio dull ad-dalu dyled ffurfiol, fel cynllun ad-dalu dyled neu fethdaliad. Mae bob amser yn well trafod pethau â chynghorydd profiadol cyn i chi wneud penderfyniad.
Mae hyn oherwydd bod llawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai na fyddech yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd y ffordd sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gall cynghorydd dyled am ddim eich helpu i benderfynu pa opsiwn sy'n iawn i chi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai hyn gymryd un sgwrs yn unig.
Bydd cynghorydd dyled yn:
- trin popeth rydych yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion na fyddech efallai yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion, gallai Lle i Anadlu roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb. Darganfyddwch fwy am Le i Anadlu a sut y gall eich helpu.