Anfynych iawn y byddwch yn gallu ennill mwy ar eich cynilion nag rydych yn ei dalu ar eich benthyciadau. Felly, fel rheol y bawd, cynlluniwch i dalu eich dyledion cyn i chi ddechrau cynilo.
Talu’ch dyledion
Os ydych yn talu mwy am eich benthyciadau nag rydych yn ei dderbyn ar eich cynilion, mae’n gwneud synnwyr i dalu eich benthyciadau – cyhyd ag y gallwch gael gafael ar arian mewn argyfwng (gwelwch fwy am hyn isod) ac ar yr amod na fyddwch yn gorfod talu cosbau ariannol uchel am ad-dalu’ch benthyciad.
Os oes gennych sawl dyled i’w chlirio, anelwch at glirio’r rhai drutaf yn gyntaf. Dyma’r enghreifftiau mwyaf cyffredin:
- Y rhan fwyaf o ddyledion cerdyn credyd
- Dyledion cardiau siopau
- Gorddrafft heb ei awdurdodi
- Siopa o gatalogau
- Benthyciadau hyd ddiwrnod tâl
- Benthyg o ddrws i ddrws (credyd cartref).
Pryd i ddechrau cynilo
Awgrym da
Mae cyfraddau llog uchel ar y mathau mwyaf drud o ddyled yn ei gwneud yn anodd cynilo arian, felly cliriwch y rhain yn gyntaf.
Yn gyffredinol mae’n iawn i gynilo a bod â rhywfaint o ddyled ar yr amod:
- eich bod yn talu’ch taliadau morgais yn brydlon
- eich bod yn talu eich bil cerdyn credyd bob mis
- nid oes gennych fenthyciadau neu rwymedigaethau credyd eraill sy’n costio mwy i chi mewn llog nag y gallech ennill ar eich cynilion.
Dechreuwch yr arfer o gynilo
Mae cynilo’n rheolaidd yn bwysig dros ben. Gwnewch hyn yn hawdd trwy sefydlu archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol i symud arian i mewn i gyfrif cynilo’n rheolaidd er mwyn i chi beidio ei wario nac anghofio ei roi i’r naill ochr. Ar ôl tipyn, ni fyddwch hyd yn oed yn gweld ei eisiau. Ac, er mwyn cynilo’n gyflymach fyth, beth am osod targed cynilo er mwyn i chi wybod:
- Faint rydych yn mynd i’w gynilo
- Pa mor hir y bydd yn cymryd i gyrraedd eich targed
Os ydych yn talu treth mwy na thebyg byddwch eisiau cychwyn trwy feddwl am gynilion treth-effeithlon, fel gwneud y defnydd gorau o’ch lwfans ISA.
Ddarganfod mwy, gan gynnwys pryd a pham mae’n bwysig dechrau cynilo i bensiwn yn ein canllawiau:
Sut i bennu nod cynilo
Cyfrifon ISA a ffyrdd eraill sy'n effeithlon o ran treth i gynilo neu fuddsoddi
Pam cynilo mewn pensiwn?
Y Lwfans Cynilion Personol
Mae gan bob trethdalwr cyfradd sylfaenol ac uwch lwfans cynilo personol. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu treth ar y £1,000 cyntaf y byddwch yn ei ennill o gynilion (neu’r £500 cyntaf os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch).
Darganfyddwch fwy am y Lwfans Cynilo Personol
Beth am glirio eich morgais yn gynnar?
Os oes gennych arian sbâr gallech ystyried dulliau o leihau eich morgais.
Am fwy o wybodaeth, gwelwch ein canllaw A ddylwn dalu fy morgais yn gynnar?
Beth am gronfa argyfwng?
Yn ddelfrydol mae’n syniad da anelu at fod â thri mis o arian wrth gefn fel rhan o’ch cynilion.
Ond, os oes gennych ddyledion defnyddiwch yr arian i glirio’r rhain yn gyntaf, cyhyd ag y gallwch gael gafael ar arian mewn argyfwng fel cerdyn credyd.
Os ceir argyfwng ac mae rhaid i chi ddefnyddio’r opsiwn hwn, mae’n bwysig i beidio â dechrau defnyddio’r cerdyn ar gyfer pryniadau eraill, oherwydd byddwch mewn perygl o fynd i fwy o ddyled fyth.