Mae morgais yn ymrwymiad mawr, tymor hir ac mae rhesymau da dros ei dalu’n gynnar. Darganfyddwch y manteision ac anfanteision o ddefnyddio’ch cynilion i glirio’ch morgais.
Y manteision o gordalu’ch morgais
Os gallwch fforddio gwneud taliadau ychwanegol, mae gordalu’ch morgais yn golygu eich bod chi’n talu llai o log yn y dyfodol ac yn ad-dalu’ch morgais yn gynt. Mae hyn yn golygu y gallech arbed llawer o arian.
Ar forgais o £150,000 am 5% gyda 25 mlynedd yn weddill, mae talu cyfandaliad o £5,000 yn lleihau’r llog gan £11,500 ac mae’n golygu y byddech yn ei ad-dalu 18 mis ynghynt.
Mae gordalu pan fydd cyfraddau llog yn isel yn golygu y bydd gennych forgais llai os oes cyfraddau llog uwch yn y dyfodol.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae yna rhai cwestiynau y mae angen i chi eu gofyn i chi’ch hun.
Ad-dalu morgais yn gynnar – cwestiynau i’ch helpu i benderfynu
A ddylech chi gynilo neu glirio eich morgais yn gynnar? Atebwch y cwestiynau hyn i’ch helpu i benderfynu.
A oes gennych chi unrhyw ddyledion eraill sy’n ddrytach?
Dyledion drud yw’r rheini sy’n costio llawer o arian i’w clirio dros amser.
Mae cardiau credyd a chyfrifon catalog, er enghraifft yn codi cyfradd uchel o log dros flwyddyn gyfan.
Gallai dyledion drud eraill gynnwys benthyciadau ansicredig, ble mae’r gyfradd log yn uwch o lawer na chost eich benthyciad morgais.
Dylech bob amser glirio eich dyledion mwy drud cyn meddwl am leihau eich morgais – ond peidiwch â gadael iddynt gynyddu eto.
A ydych chi’n rhoi arian i mewn i gynllun pensiwn?
Mae pensiynau’n ddull treth-effeithlon o gynilo oherwydd mae’r llywodraeth yn ychwanegu at eich cyfraniadau gyda rhyddhad treth.
Ac, os oes gennych chi bensiwn gweithledylai eich cyflogwr dalu i mewn i’r cynllun hefyd.
Darganfyddwch fwy am bensiynau gweithle yn ein canllaw Ymrestru awtomatig - cyflwyniad
Os nad oes gennych bensiwn ac mae gennych arian yn sbâr, mae’n bwysig i feddwl am dalu i mewn i un.
Po gynharaf y byddwch chi’n dechrau, mwyaf buan y bydd eich pot ymddeol yn dechrau tyfu. Gyda chyfraniadau cyflogwr a rhyddhad treth gan y llywodraeth, efallai y cewch fwy am eich arian mewn pensiwn nag y byddech yn ei arbed mewn llog morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Pam cynilo i mewn i bensiwn?
Gwirio fy mhensiwn a chynnydd fy nghynilion ymddeol
A allai eich teulu ymdopi’n ariannol pe baech chi’n marw?
A oes gennych chi ddibynyddion? Mae’r gost o gael yswiriant bywyd yn gymharol isel. Os nad oes gennych hyn eisoes ac mae gennych deulu neu ddibynyddion eraill, dyma’r amser i’w ystyried.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
A allwch chi gael cyfradd gynilo sy’n uwch na’ch cyfradd llog morgais?
Os ydych chi eisoes yn cyfrannu i gynllun pensiwn, yn lle rhoi arian ychwanegol yn eich morgais, gallai wneud mwy o synnwyr ei ychwanegu at arbedion.
Hynny yw os gallwch chi ddod o hyd i un sy’n talu cyfradd log uwch na’r gyfradd a godir arnoch chi ar eich morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs a ffyrdd effeithlon eraill o ran treth o gynilio neu fuddsoddi
Pethau eraill i’w hystyried os ydych chi am ad-dalu’rch morgais yn gynnar
Cadwch rywfaint o arian wrth gefn
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynilo digon o arian i’ch cadw i fynd am o leiaf dri mis cyn talu eich morgais yn gynnar.
A godir tâl arnoch chi am ordalu eich morgais?
Gwiriwch eich dêl morgais er mwyn cael darlun cywir o sut gall taliadau a godir ostwng unrhyw arbediadau, sy’n deillio o ordalu eich morgais.
Gallent godi tâl arnoch am dalu eich morgais yn gynnar neu am wneud taliad misol, sy’n fwy na’ch terfyn misol a gytunwyd. Gallai fod yn well defnydd o’ch arian i gynilo a gordalu ychydig cyn i chi ailforgeisio.
Bydd llawer o fenthycwyr yn gadael i chi ordalu hyd at 10% y flwyddyn heb gosbau.
A oes gennych chi forgais hyblyg neu wedi’i offsetio?
Mae morgeisi hyblyg – gan gynnwys morgeisi wedi’u hoffsetio – yn gadael i chi ordalu eich morgais ac yn tynnu’r arian yn ôl os ydych ei angen – i gyd heb godi tâl arnoch.
Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw i forgeisi gyda nodweddion arbennig
Os ydych yn penderfynu gordalu eich morgais
Os ydych, ar ôl pwyso a mesur yr holl ffeithiau, yn penderfynu gordalu, yna mae angen i chi amseru’r peth yn gywir.
Os codir llog eich morgais arnoch yn ddyddiol, yna mae’n fanteisiol i chi wneud y gordaliad cyn gynted ag y medrwch.
Os codir ef yn flynyddol, yna mae angen i chi amseru eich gordaliad fel ei fod yn cyfrif tuag y cyfrifiad o’r llog ar gyfer y flwyddyn.