Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Deall morgeisi a chyfraddau llog

Mae mwy i forgais na dim ond yr ad-daliadau misol. Dysgwch am y gwahanol fathau o forgeisi, faint o log y byddwch yn ei dalu, a beth fydd yn digwydd os bydd eich cyfradd yn newid. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r morgais gorau i chi.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw’r gwahanol fathau o forgeisi?
  • Morgais cyfradd sefydlog
  • Beth yw morgais cyfradd amrywiol
  • Morgais cyfradd amrywiol safonol (SVR)
  • Morgais cyfradd gostyngedig
  • Morgais gwrthbwyso
  • Morgais arian yn ôl
  • Ailforgeisio neu ‘drosglwyddo’ eich morgais
  • Sut i gymharu cynnigion morgais
  • Morgeisi gyda nodweddion hyblyg
  • Gofynnwch y cwestiynau hyn wrth ddewis morgais
  • Siaradwch â brocer neu ymgynghorydd morgeisi
  • Defnyddiwch wefannau cymharu morgeisi

Beth yw’r gwahanol fathau o forgeisi?

Pan fyddwch chi’n cael benthyciad i brynu’ch cartref, codir llog arnoch chi ar yr hyn rydych chi’n ei fenthyg. Gelwir hyn yn ‘gyfradd morgais’.

Mae dau brif fath o forgeisi:

  • Cyfradd sefydlog mae’r llog a godir arnoch yn aros yr un fath am nifer o flynyddoedd, rhwng 2 a 10 mlynedd yn nodweddiadol.
  • Cyfradd amrywiol gall y llog rydych chi’n ei dalu newid.
I gael syniad o’r hyn y gallech ei dalu gyda’r mathau gwahanol hyn o forgeisi, defnyddiwch ein Cyfrifiannell morgeisi

Gwiriwch pa gyfradd llog morgais y gallwch ei fforddio

Mae’n syniad da gwneud yn siŵr y gallech fforddio’r ad-daliadau morgais os bydd eich cyfradd llog yn newid.

I ddarganfod beth allech chi ei fenthyg a sut y gallai hyn gyd-fynd â’ch cyllideb misol, defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais
Nol i’r brig

Morgais cyfradd sefydlog

Gyda morgais cyfradd sefydlog mae’r gyfradd llog yn aros yr un fath am hyd y bargen.

Maent hefyd yn cael eu galw’n ‘pris dwy flynedd’, ‘pris pum mlynedd’, neu hyd yn oed ‘pris deng mlynedd’.

Bydd eich ad-daliadau misol yn aros yr un fath yn ystod y cyfnod hwn, ni waeth beth fydd yn digwydd yn y farchnad.

Ond pan ddaw’r cynnig i ben, mae’r gyfradd llog yn newid i gyfradd newidiol safonol (SVR) y benthyciwr oni bai eich bod yn cael bargen newydd neu’n ailforgeisi.

Mae’r SVR yn aml yn uwch felly mae’n debygol y bydd eich taliadau misol yn cynyddu.

Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd sefydlog

Manteision
  • Bydd eich taliadau misol yn aros yr un fath, gan eich helpu i gyllidebu.

  • Nid ydych yn cael eich effeithio gan gyfraddau llog cynyddol yn ystod eich tymor sefydlog.

  • Yn aml gallwch wneud taliadau morgais ychwanegol, hyd at 10% y blwyddyn heb ffi.

Anfanteision
  • Mae cynnigion cyfradd sefydlog fel arfer ychydig yn uwch na morgeisi cyfradd amrywiol.

  • Os bydd cyfraddau llog yn gostwng, ni fyddwch yn elwa.

  • Efallai bydd ffioedd os ydych am adael y bargen yn gynnar. Fel arfer rydych wedi’ch clymu i mewn ar gyfer cyfnod penodol.

Nol i’r brig

Beth yw morgais cyfradd amrywiol

Cyfradd amrywiol yw un lle gall y llog a dalwch ar eich morgais bob mis fynd i fyny neu i lawr, fel arfer yn unol â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

Mae hyn yn golygu rhai misoedd y byddwch yn talu mwy, a rhai misoedd y byddwch yn talu llai. Gall hyn fod yn beryglus gan y gallech ei chael hi’n anodd cyllidebu.

Mae’r mathau hyn o forgeisi yn cynnwys tracio, newidyn safonol a newidyn gostyngol.

Morgeisi cyfradd tracio

Mae cyfraddau tracio yn dilyn cyfradd llog arall, fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ynghyd ag ychydig y cant.

Er enghraifft, os bydd y gyfradd sylfaenol yn cynyddu 0.5%, bydd eich cyfradd yn cynyddu 0.5%.

Maent fel arfer yn para am ddwy i bum mlynedd. Mae rhai benthycwyr yn cynnig tracwyr sy’n para am oes eich morgais neu nes i chi newid i cynnig arall.

Cofiwch wirio’r print mân – gwnewch yn siŵr na all eich benthyciwr godi cyfraddau pan nad yw’r gyfradd y mae eich morgais yn gysylltiedig â hi wedi newid. Mae’n brin, ond mae wedi digwydd o’r blaen.

Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd tracio

Manteision
  • Os yw’r gyfradd y mae’n tracio yn gostwng, felly hefyd bydd eich taliadau morgais.

  • Nid ydych chi fel arfer wedi’ch clymu i mewn, felly gallwch newid cytundeb neu ddarparwr yn gynnar.

  • Fel arfer mae llai o gyfyngiadau neu ddim cyfyngiadau ar wneud taliadau ychwanegol.

  • Yn aml gallwch newid yn gynnar heb ffi, ond gwiriwch gyda’ch benthyciwr bob tro.

Anfanteision
  • Os yw’r gyfradd y mae’n tracio yn cynyddu, felly hefyd bydd eich taliadau morgais.

Nol i’r brig

Morgais cyfradd amrywiol safonol (SVR)

Y gyfradd amrywiol safonol (SVR) yw’r gyfradd llog y mae benthyciwr morgeisi yn ei defnyddio ar gyfer eu benthyciad morgais safonol. Gall y gyfradd newid ar unrhyw adeg.

Mae pob benthyciwr yn gosod eu SVR eu hunain, ac mae’r gyfradd fel arfer yn uwch na’u cynhyrchion morgais eraill.

Mae rhai hyd at 5% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr, felly gall hyn wneud cyfraddau amrywiol safonol yn opsiwn drud.

Os byddwch yn cael eich symud i SVR eich benthyciwr morgais, fel arfer gallwch aros arno nes i’ch morgais ddod i ben, oni bai eich bod yn trefnu cynnig newydd gyda nhw neu fenthyciwr arall.

Manteision ac anfanteision morgeisi SVR

Manteision
  • Rhyddid - gallwch adael ar unrhyw adeg.

  • Fel arfer nid oes terfyn ar wneud taliadau ychwanegol tuag at eich morgais (gordalu), hyd yn oed mewn symiau mawr.

Anfanteision
  • Gall eich cyfradd newid ar unrhyw adeg.

  • Mae’r gyfradd fel arfer yn uwch na mathau eraill o gytundebau.

Nol i’r brig

Morgais cyfradd gostyngedig

Mae hwn yn ostyngiad oddi ar SVR y benthyciwr a dim ond am gyfnod penodol o amser y mae’n berthnasol, fel arfer dwy neu dair blynedd.

Mae gan fenthycwyr gwahanol gyfraddau, felly mae’n syniad da i siopa o gwmpas – nid yw gostyngiad uwch o reidrwydd yn golygu cyfradd llai. 

Enghraifft o gyfradd gostyngedig

Mae gan ddau fanc gyfraddau gostyngedig:

  • Mae gan Fanc A ostyngiad o 2% oddi ar SVR o 6% (felly byddwch yn talu 4%)
  • Mae gan Fanc B ostyngiad o 1.5% oddi ar SVR o 5% (felly byddwch yn talu 3.5%).

Er bod y gostyngiad yn fwy ar gyfer Banc A, Banc B fydd yr opsiwn rhatach.

Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd gostyngedig

Manteision
  • Cost – mae’r gyfradd yn cychwyn yn rhatach, a fydd yn cadw ad-daliadau misol yn is.

  • Os yw’r benthyciwr yn torri ei SVR, byddwch yn talu llai bob mis.

Anfanteision
  • Mae’n anodd i gyllidebu gan gallai’r benthyciwr gynyddu’r gyfradd ar unrhyw adeg.

  • Os bydd cyfraddau sylfaenol Banc Lloegr yn cynyddu, mae’n debyg bydd eich cyfradd gostyngedig yn cynyddu hefyd.

  • Efallai y bydd angen i chi dalu ffi os ydych yn gadael cyn diwedd y cyfnod gostyngedig.

Nol i’r brig

Morgais gwrthbwyso

Mae morgais gwrthbwyso yn cysylltu eich morgais â chyfrif cynilo. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu llog ar ran o’ch morgais, sy’n cyfateb i faint sydd yn eich cyfrif cynilo.

Fel arfer, ni fydd eich cyfrif cynilo cysylltiedig yn ennill llog. Yn lle hynny, rydych yn talu llai o log ar eich morgais.

Enghraifft o forgais gwrthbwyso

  • Mae gennych forgais gwrthbwyso o £200,000 gyda llog o 3%.
  • Mae gennych hefyd £10,000 o gynilion mewn cyfrif gwrthbwyso.

Dim ond ar £190,000 y byddech chi’n talu llog. Mae eich cynilion o £10,000 yn cael eu gwrthbwyso, felly nid oes angen i chi dalu’r llog o 3% am y swm hwn.

Manteision ac anfanteision morgais gwrthbwyso

Manteision
  • Efallai y byddwch yn ad-dalu’ch morgais yn gynt na morgais safonol.

  • Gallwch ddal i dynnu’ch cynilion yn ôl os oes angen.

Anfanteision
  • Ni fyddwch yn ennill llog ar eich cynilion.

  • Mynediad cyfyngedig i gynnigion cyfradd ostyngol.

  • Gallech ennill llog gwell ar eich cynilion yn rhywle arall.

I weld a allai’r math hwn o forgais weithio i chi, defnyddiwch gyfrifiannell morgais gwrthbwyso MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Morgais cyfrif cyfredol

Mae hwn yn fath o forgais gwrthbwyso. Gyda’r cynnig  yma, ni chodir llog arnoch ar y balans sydd gennych yn eich cyfrif cyfredol.

Felly, os oes gennych forgais o £150,000 a £2,000 yn eich cyfrif cyfredol, byddwch yn talu llog ar y £148,000 sy’n weddill.

Bydd swm y llog yr ydych yn ei dalu yn codi ac yn gostwng yn dibynnu ar y swm yn eich cyfrif cyfredol bob dydd.

Nol i’r brig

Morgais arian yn ôl

Gyda morgais arian yn ôl, byddwch yn cael rhywfaint o arian parod pan fyddwch yn cymryd eich morgais. Gallai hyn fod naill ai:

  • canran o’r hyn yr ydych yn ei fenthyg, neu
  • swm penodol o arian.

Byddwch yn cael yr arian yn ôl unwaith y bydd y gwerthiant wedi’i gwblhau. Gellir defnyddio hwn i helpu gyda chostau fel dodrefn ac atgyweiriadau i’ch cartref newydd.

Mae morgeisi arian yn ôl fel arfer yn codi cyfradd llog uwch na morgeisi eraill. Cymharwch eich bargen â morgeisi eraill i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda’r gost gyffredinol.

Nol i’r brig

Ailforgeisio neu ‘drosglwyddo’ eich morgais

Mae’r rhan fwyaf o forgeisi bellach yn ‘drosglwyddadwy’, sy’n golygu y gallwch fynd â nhw gyda chi pan fyddwch yn symud i gartref newydd.

Ond mae ‘trosglwyddo’ eich cynnig yn dal i gael ei drin fel gwneud cais am forgais newydd, felly bydd angen i chi fodloni gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr i gael eich cymeradwyo.

Os na fyddwch chi’n pasio’r gwiriadau, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i fenthyciwr newydd. Gallai hyn olygu talu ffi am adael eich morgais presennol yn gynnar.

Pan fyddwch yn ‘trosglwyddo’ morgais, dim ond y swm sy’n ddyledus gennych sy’n aros ar y cynnig sefydlog neu ostyngedig gyfredol. Bydd yn rhaid i chi gael cynnig morgais newydd am unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen arnoch, a gallai’r telerau fod yn wahanol i’ch hen gynnig.

Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n symud cyn i’r cynnig newydd ddod i ben, ystyriwch gynnigion gyda chosbau ad-dalu cynnar isel neu ddim o gwbl. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i chi chwilio am opsiynau gwell pan fyddwch chi’n symud.

Darganfyddwch fwy am ailforgeisio
Nol i’r brig

Sut i gymharu cynnigion morgais

Wrth gymharu morgeisi sefydlog, amrywiol neu dracio gwiriwch yr holl ffigurau a ddaw gyda’r cynnig i wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi.

Cofiwch gadw llygad am gostau gweinyddol yn ogystal ag unrhyw gosbau gadael yn gynnar.

Cymharwch fwy na’r gyfradd yn unig

Cymharwch y Gyfradd Tâl Ganrannol Flynyddol (APRC) bob amser i weld pa gynnig sydd orau.

Mae’r APRC yn dweud wrthych beth yw cyfanswm cost blynyddol eich morgais, gan gynnwys yr holl ffioedd a thaliadau, gan dybio eich bod yn cadw’r morgais am ei dymor llawn.

Rhaid i fenthycwyr ddatgan yr APRC ar gynnig morgais, ac mae hefyd i’w weld ar wefannau cymharu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu cynnigion i ddod o hyd i un sy’n cyd-fynd â’ch cyllideb.

Er enghraifft, os ydych yn talu ffi ymlaen llaw, efallai y cewch gyfradd llog is, ond efallai na fydd yn arbed arian i chi yn gyffredinol. Os dewiswch forgais heb ffi, efallai y byddwch yn wynebu cyfradd uwch.

Nol i’r brig

Morgeisi gyda nodweddion hyblyg

Mae rhai morgeisi confensiynol yn cynnig nodweddion hyblyg:

Yr opsiwn i ordalu

Mae llawer o forgeisi yn caniatáu i chi dalu mwy na’ch taliad misol arferol fel y gallwch leihau eich dyled yn gyflymach.

Gwiriwch a oes cyfyngiad ar faint y gallwch chi ei ordalu bob blwyddyn. Mae’n aml yn 10% o’r morgais.

Gallai ad-dalu’ch morgais cyn diwedd ei dymor ymddangos yn syniad gwych, ond efallai y codir ffi ad-dalu’n gynnar arnoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio telerau eich cytundeb morgais.

Yr opsiwn i gymryd gwyliau talu

Gyda rhai morgeisi efallai y byddwch yn cael cymryd gwyliau talu. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau am gyfnod cyfyngedig.

Darllenwch fwy mewn Canllaw i wyliau talu morgais

Tandalu

Os ydych wedi gordalu yn y gorffennol, efallai y bydd benthyciwr yn caniatáu i chi dalu llai na’ch ad-daliad misol arferol os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid.

Os byddwch yn tandalu, bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu’ch morgais a byddwch yn talu mwy o log dros gyfnod y benthyciad.

Nol i’r brig

Gofynnwch y cwestiynau hyn wrth ddewis morgais

  • Ydych chi eisiau taliadau misol sefydlog, neu a ydych am gael budd os bydd cyfraddau llog yn gostwng?
  • Ydych chi am ychwanegu rhai neu i gyd o’ch ffioedd morgais at eich morgais?
  • Pa mor hir yw’r cyfnod sefydlog?
  • Ydych chi eisiau’r hyblygrwydd i ordalu, tandalu neu gymryd seibiannau talu?
  • Ydych chi eisiau gallu symud benthycwyr, neu ailforgeisio, pan fyddwch chi eisiau?
  • Allwch chi fforddio eich ad-daliadau os yw’r llog yn cynyddu dros cyfradd benodol?
  • Ydych chi eisiau defnyddio’ch cynilion i helpu i dalu’ch morgais yn gynt?
Dysgwch am ffioedd a chostau morgais eraill wrth brynu neu werthu cartref
Nol i’r brig

Siaradwch â brocer neu ymgynghorydd morgeisi

Gall ymgynghorwyr morgeisi annibynnol chwilio’r farchnad ar eich rhan ac argymell y fargen orau.

Darganfyddwch y bobl iawn i siarad â nhw am gartrefi a morgeisi yn ein canllaw Prynu a gwerthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol.

Nol i’r brig

Defnyddiwch wefannau cymharu morgeisi

Gall gwefannau cymharu eich helpu i ymchwilio i ba fargeinion sydd ar gael, a’ch helpu i weld y math o gynnyrch a nodweddion y mae benthycwyr yn eu cynnig.

Chwiliwch ar-lein neu rhowch gynnig ar y gwefannau hyn i ddechrau:

  • MoneyfactsOpens in a new window
  • MoneySavingExpertOpens in a new window
  • MoneySuperMarketOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd

Ni fyddant i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un cyn penderfynu.

Darllenwch ein canllaw i gael y gorau o wefannau cymharu
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau