Dyma pryd mae’r GIG yn talu cyfraniad tuag at eich gofal nyrsio. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych mewn cartref gofal ac yn cael gofal gan nyrs neu feddyg cofrestredig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- A allaf gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- Sut mae’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG yn gweithio?
- A allaf gael Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG os mai ond dros dro y rwyf yn aros?
- Faint yw’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG?
- Sut rwyf yn gwneud cais am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- Pwy sy’n talu am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- A yw cael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar fy mudd-daliadau eraill?
- Pa wasanaethau GIG eraill sydd ar gael mewn cartrefi gofal?
- Mwy o wybodaeth am gyllid y GIG mewn cartrefi gofal a’r Cyfraniad Gofal Nyrsio
Beth yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Yn byw yng Ngogledd Iwerddon?
Eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol sy’n gyfrifol am dalu’r cyfraniad.
I ddarganfod mwy, lawrlwythwch y daflen ‘Payments for Nursing Care’ o wefan nidirect
Mae gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn cynnwys gofal nyrsio neu feddygol.
Nid yw’n destun prawf modd ac mae’n cael ei dalu p’un a ydych yn talu am eich gofal cymdeithasol eich hun neu bod eich awdurdod lleol yn gwneud (Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon).
A allaf gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Efallai y gallwch gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG os:
- nad ydych yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus gan y GIG, ond rydych wedi cael eich asesu fel rhywun sydd angen gofal gan nyrs gofrestredig, ac
- rydych yn byw mewn cartref gofal a gofrestrwyd i ddarparu gofal nyrsio
Sut mae’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG yn gweithio?
Yn gyntaf, mae’ch anghenion gofal yn cael eu hasesu i weld a ydych angen gofal iechyd parhaus y GIG. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ydych yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Os canfyddir nad oes angen gofal iechyd parhaus y GIG arnoch, efallai y cewch eich asesu o hyd fel bod angen gofal nyrsio mewn cartref gofal.
Yn yr achos hwnnw, bydd y GIG (neu Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon) yn talu cyfraniad tuag at eich ffioedd nyrsio.
Mae’n cael ei dalu i’r cartref gofal i’w had-dalu am y gofal nyrsio maent yn ei roi i chi.
Os ydych yn talu’ch holl ffioedd eich hun, sy’n cynnwys costau nyrsio, bydd y cyfanswm y byddwch yn ei dalu yn cael ei leihau gan swm y cyfraniad gofal nyrsio a ariennir gan y GIG.
Os mai dim ond rhan o’r costau rydych yn eu talu, gallech fod yn well eich byd o hyd.
Mae’n ofynnol i’r cartref gofal ddangos i chi sut mae’r gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn lleihau eich ffioedd. Os na welwch wahaniaeth, gofynnwch iddynt amdano.
Bydd y cyllid yn stopio os ydych yn mynd mewn i’r ysbyty. Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael gofal nyrsio am ddim yn yr ysbyty yn ei le. Ond mae’n debygol y bydd rhaid i chi barhau i dalu’r ffi lawn i’r cartref gofal er mwyn cael cadw’ch ystafell yno.
Os nad oes angen gofal nyrsio arnoch mwyach, gall eich gofal nyrsio a ariennir gan y GIG stopio.
A allaf gael Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG os mai ond dros dro y rwyf yn aros?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gofal nyrsio a ariennir gan y GIG dim ond ar gael os ydych mewn cartref gofal.
Os ydych angen gofal nyrsio yn eich cartref eich hun, darperir hwn am ddim gan y gwasanaethau nyrsio cymunedol.
Trefnir hyn fel arfer trwy eich meddygfa. Os yw’ch anghenion yn gymhleth, bydd yn cael ei ariannu trwy ofal iechyd parhaus y GIG.
Dylai gofal nyrsio a ariennir gan y GIG ddal i gael ei dalu hyd yn oed os mai dros dro yw eich arhosiad yn y cartref gofal.
Os ydych yn aros am chwe wythnos neu lai, ni fydd angen i chi gael eich asesu’n ffurfiol.
Yn hytrach, bydd eich angen am ofal nyrsio yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir gan y cartref gofal neu eich meddyg teulu.
Gall gofal nyrsio a ariennir gan y GIG fod yn gyfraniad defnyddiol tuag at gostau os bydd angen cyfnodau rheolaidd o ofal a seibiant arnoch.
Faint yw’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG?
Mae swm y Cyfraniad Gofal Nyrsio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.
£187.60 yr wythnos ar gyfer y gyfradd safonol, a £258.08 yr wythnos ar gyfer y gyfradd uwch (2021/22). (Mae’r gyfradd uwch dim ond yn berthnasol i bobl a oedd yn cael y gyfradd uwch yn 2007 cyn y cyflwynwyd y gyfradd safonol sengl).
Gwlad | Cyfraddau gofal nyrsio a ariennir gan y GIG |
---|---|
Cymru |
£179.97 yr wythnos (2021/22). |
Lloegr |
£187.60 yr wythnos ar gyfer y gyfradd safonol, a £258.08 yr wythnos ar gyfer y gyfradd uwch (2021/22). (Mae’r gyfradd uwch dim ond yn berthnasol i bobl a oedd yn cael y gyfradd uwch yn 2007 cyn y cyflwynwyd y gyfradd safonol sengl.) |
Yr Alban |
£87.10 yr wythnos am ofal nyrsio a/neu £193.50 yr wythnos am ofal personol - hyd at gyfanswm o £280.60 yr wythnos (cyfraddau 2021-22). Gweler gwefan Age UK Scotland a lawrlwythwch y PDF ‘Care home funding am fwy o wybodaeth. |
Gogledd Iwerddon |
£100 yr wythnos (cyfradd 2021/22) |
Sut rwyf yn gwneud cais am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Mae’r GIG fel arfer yn trefnu asesiad o’ch anghenion pan fyddant yn eich rhyddhau o’r ysbyty. Os na fydd hyn yn digwydd, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol drefnu asesiad.
Pwy sy’n talu am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Mae Grŵp Comisiynu Clinigol, Bwrdd Iechyd, neu Health and Social Care Trust eich cartref nyrsio, yn gyfrifol am gost y gofal a ddarperir gan nyrsys cofrestredig.
Os ydych yn talu am ofal eich hun a byddai’n well gennych i’r Grŵp Comisiynu Clinigol, Bwrdd Iechyd, neu Health and Social Care Trust beidio â chymryd y cyfrifoldeb hwn, bydd eich dymuniad yn cael ei barchu.
A yw cael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar fy mudd-daliadau eraill?
Ni fydd y gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau eraill.
Fodd bynnag, yn yr Alban, os ydych yn cael lwfans Gofal Personol, bydd yr hawl i gael Lwfans Gweini neu’r elfen ofal o lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol, yn dod i ben ar ôl pedair wythnos.
Pa wasanaethau GIG eraill sydd ar gael mewn cartrefi gofal?
Wedi i chi gael eich asesu, mae’n bosibl y gwelwch eich bod yn gymwys i hawlio cymorth pellach gan y GIG.
Gallai hyn gynnwys cymhorthion hunanreolaeth a delir amdanynt gan y GIG neu gefnogaeth neu wasanaethau arbenigol eraill fel:
- trin traed
- ffisiotherapi
- matresi lleddfu pwysau
- cymhorthion symudedd a chyfathrebu.
Mwy o wybodaeth am gyllid y GIG mewn cartrefi gofal a’r Cyfraniad Gofal Nyrsio
- Darllenwch y daflen wybodaeth ‘NHS funding for care and support’ ar wefan FirstStop
- Darllenwch y daflen wybodaeth ‘NHS Continuing Healthcare and NHS-funded nursing care’ ar wefan Age UK