Gall asesiad o anghenion gofal gan eich awdurdod lleol fod y cam cyntaf tuag at gael yr help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch gyda’ch bywyd bob dydd. Y nod yw gweithio allan faint o help sydd ei angen arnoch i’ch galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw asesiad anghenion gofal (neu gofal cymdeithasol)?
- A ydw i’n gymwys am asesiad o anghenion gofal?
- Sut mae cael asesiad o anghenion gofal?
- Beth sy’n digwydd yn yr asesiad anghenion gofal?
- Beth sy’n digwydd ar ôl yr asesiad anghenion gofal?
- Cytuno ar becyn gofal awdurdod lleol
- Adolygu eich cynllun gofal a chefnogaeth
- Beth os byddwch yn symud i rywle y tu allan i’ch ardal leol?
- Os nad ydych yn gymwys am gefnogaeth gyda gofal awdurdod lleol
- Talu am ofal - yr asesiad ariannol neu’r prawf modd
Beth yw asesiad anghenion gofal (neu gofal cymdeithasol)?
Os oes angen help arnoch gyda thasgau bob dydd, mae gan eich awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad i ddarganfod pa help sydd ei angen arnoch.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud hyn.
Mae llawer o bobl yn cael eu digalonni gan y syniad o asesiad, ond nid yw’n rhywbeth i boeni amdano.
Yn syml, mae’n ffordd o weithio allan eich anghenion gofal a chymorth unigol fel y gall eich awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth benderfynu ar y ffordd orau i’ch helpu chi.
Mae’r broses y mae’n rhaid i’r asesiad ei dilyn wedi’i nodi yn y gyfraith. Mae’n caniatáu ichi arwain wrth egluro pa ofal a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i wneud bywyd yn haws i chi a’r canlyniad rydych chi’n edrych amdano. Mae rhaid ystyried eich lles a’ch dymuniadau drwyddi draw.
Er enghraifft, efallai yr hoffech chi aros yn eich cartref, ac mae rhaid ystyried hyn.
Neu, os yw’ch anghenion gofal wedi eich atal rhag ymuno â gweithgareddau y tu allan i’r cartref, ond bod hyn yn rhywbeth rydych chi am ei wneud, mae rhaid i hyn fod yn rhan o’r broses asesu a chynllun gofal
A ydw i’n gymwys am asesiad o anghenion gofal?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gennych hawl i asesiad anghenion gofal am ddim waeth faint o gynilion sydd gennych chi neu’ch incwm. Ac nid oes ots pa mor gymhleth neu syml yw eich anghenion.
Os oes gennych gyflwr sy’n mynd i fyny neu i lawr, mae’n ddefnyddiol gwneud rhestr o’r pethau rydych yn eu cael yn anodd, yn enwedig ar ddiwrnodau ‘drwg’ y gallwch eu trafod yn ystod yr asesiad.
Yn yr un modd, os ydych yn gofalu am rywun, mae gennych hawl hefyd i ofyn am asesiad gofalwr am ddim. Gall hwn fod yn asesiad ar wahân neu wedi ei gyfuno ag asesiad o’r person sydd angen gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwasanaethau cefnogol sydd ar gael i ofalwyr
Sut mae cael asesiad o anghenion gofal?
Awgrym da
Mae’n bwysig peidio â theimlo embaras na chywilydd - mae cael y gefnogaeth gywir yn dibynnu ar i chi fod yn agored am eich anghenion.
Gofynnwch i adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion eich awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) am un.
Esboniwch fod angen rhywfaint o help arnoch chi. Gall hyn fod yn rheoli gartref, lle mewn canolfan gofal dydd neu’n symud i gartref gofal.
Yng Nghymru a Lloegr, dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar gwefan GOV.UK
Yn yr Alban, dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan mygov.scot
Yng Ngogledd Iwerddon, dewch o hyd i’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwefan nidirect
Neu, gallai rhywun arall - fel eich gofalwr neu weithiwr iechyd proffesiynol - eich cyfeirio at eich awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth i gael asesiad o anghenion.
Asesiadau brys
Mewn rhai achosion, gall awdurdod lleol ddechrau darparu gwasanaethau cyn gwneud asesiad o anghenion gofal, os yw’n credu bod angen cymorth ar frys.
Cwblheir asesiad llawn cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.
Beth sy’n digwydd yn yr asesiad anghenion gofal?
Bydd arbenigwr gofal yn cynnal yr asesiad ar ran yr awdurdod lleol neu’r GIG.
Gallai hyn fod yn therapydd galwedigaethol, yn nyrs neu’n weithiwr cymdeithasol, neu’n gyfuniad o’r rhain. Mae hyn fel nad oes dim rhaid i chi fynd trwy amrywiol asesiadau gan wahanol asiantaethau.
Gellir gwneud yr asesiad dros y ffôn neu gall olygu eich bod yn llenwi ffurflen hunanasesu gyda chefnogaeth gan eich awdurdod lleol. Neu gellid ei wneud wyneb yn wyneb, fel arfer yn eich cartref eich hun.
Mae’n syniad da cael ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi fel y gallant eich helpu i egluro sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd deall y broses ofal neu’n ei chael hi’n anodd trafod y materion, mae yna bobl sy’n gallu gweithredu fel llefarydd ar eich rhan. Gelwir y rhain yn eiriolwyr.
I ddod o hyd i un, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich cyngor lleol a gofyn am wasanaethau eirioli.
Dewch o hyd i’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol ar wefan GIG
Os nad ydych wedi trefnu i eiriolwr fod gyda chi yn ystod yr asesiad ond bod angen un arnoch chi, mae rhaid i’r awdurdod lleol drefnu eiriolwr annibynnol i’ch helpu.
Yn ystod yr asesiad, byddwch yn archwilio pa mor anodd ydych yn ei chael hi’n cyflawni gweithgareddau yn eich bywyd bob dydd. Mae hyn yn cynnwys golchi a gwisgo, rheoli eich anghenion toiled a byw’n ddiogel yn eich cartref. Weithiau gelwir y rhain yn ‘ganlyniadau cymhwysedd’.
Os yw rhywun eisoes yn eich helpu gyda’r gweithgareddau hyn, mae hyn yn dal i gyfrif fel angen sydd gennych chi. Felly mae’n bwysig y dylech sicrhau bod yr asesydd yn gwybod eich bod yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r tasgau hyn naill ai gyda neu heb gymorth.
Mae angen i’r asesydd wybod faint o dasgau na allwch eu rheoli fel y gallant weithio allan a ydych yn gymwys i gael cymorth.
Beth sy’n digwydd ar ôl yr asesiad anghenion gofal?
Ar ôl eich asesiad anghenion gofal, bydd eich awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth yn rhoi gwybod i chi a ydych, mewn egwyddor, yn gymwys i gael gofal a chymorth.
Gwneir y penderfyniad hwn trwy gymharu eich anghenion gofal â set o feini prawf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol y mae’n rhaid i bob awdurdod lleol eu defnyddio.
Byddwch yn gymwys i gael gofal a chefnogaeth os:
- oes gennych angen meddyliol neu gorfforol neu rydych yn dioddef o afiechyd.
- ni allwch gyflawni dau neu fwy o’r tasgau bob dydd (neu ‘canlyniadau cymhwysedd’). Mae’r rhain yn bethau fel paratoi a bwyta bwyd a diod, neu i ymolchi a gwisgo.
- mae yna effaith sylweddol ar eich lles gan nad ydych yn cael yr help rydych ei angen.
Os yw’r awdurdod lleol yn cytuno mewn egwyddor eich bod yn gymwys i gael gwasanaethau a chymorth gofal awdurdod lleol, byddant fel arfer yn cynnal asesiad ariannol i weld a oes rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r gost i gyd eich hun.
I ddarganfod mwy:
- Lawrthwych y daflen ffeithiau ‘Dewis a thalu am gartref gofal’ ar wefan FirstStop Advice
Cytuno ar becyn gofal awdurdod lleol
Oeddech chi’n gwybod?
Dim ond am eich anghenion gofal personol y mae’ch awdurdod lleol yn gyfrifol. Y GIG sy’n gyfrifol am anghenion gofal iechyd.
Fe gewch gopi ysgrifenedig o’ch cynllun gofal, gan nodi gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau gofal sydd eu hangen arnoch. Gallai’r rhain gynnwys:
- lle mewn gofal preswyl neu gartrefi nyrsio
- cyfarpar anabledd ac addasiadau i’ch cartref - fel canllawiau, lifftiau grisiau neu rampiau
- help gofal cartref gyda phethau fel glanhau, prydau bwyd a siopa
- gofal dydd i’ch plentyn os oes anabledd gennych chi neu gan y plentyn
- canolfannau dydd i roi seibiant i chi neu i’r sawl sy’n gofalu amdanoch
- system ffôn ‘llinell ofal’ er mwyn ichi fedru ffonio am help mewn argyfwng.
Adolygu eich cynllun gofal a chefnogaeth
Unwaith y bydd eich cynllun gofal a chefnogaeth wedi ei gytuno, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg os ydych chi’n meddwl bod eich anghenion gofal neu sefyllfa ariannol wedi newid.
Hyd yn oed os nad oes unrhyw beth wedi newid, mae rhaid i’ch awdurdod lleol ei adolygu’n rheolaidd, fel arfer unwaith y flwyddyn.
Beth os byddwch yn symud i rywle y tu allan i’ch ardal leol?
Os byddwch yn symud y tu allan i’ch ardal leol, mae rhaid i’r ddau awdurdod lleol gydweithio i sicrhau y byddwch yn parhau i dderbyn y gefnogaeth fydd ei hangen arnoch yn eich cartref newydd.
Mae rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol newydd eich bod yn symud i’w ardal er mwyn iddo gael copi o’ch asesiad anghenion a’r cynllun gofal a chefnogaeth. Neu gallwch roi gwybod i’ch cyngor lleol presennol, a byddant yn cysylltu â’ch un newydd.
Os oes gennych chi ofalwr rhaid i’r awdurdod lleol yn yr ardal newydd ei gefnogi ef neu hi hefyd os bydd yn dod gyda chi.
Os nad ydych yn gymwys am gefnogaeth gyda gofal awdurdod lleol
Os yw’ch awdurdod lleol yn credu nad ydych yn gymwys am gefnogaeth gyda gofal am nad yw’ch anghenion yn ddigon dwys, mae rhaid iddo serch hynny roi gwybodaeth a chyngor i chi am ble allwch chi gael cymorth - er enghraifft, trwy elusennau neu sefydliadau lleol eraill.
Mae rhaid i’r wybodaeth hon fod wedi ei theilwra i’ch anghenion chi.
Os nad ydych yn cytuno â chanlyniad yr asesiad anghenion gofal, eich cam cyntaf yw gofyn i’ch awdurdod lleol am eglurhad ysgrifenedig llawn o’i asesiad a sut y daeth i’r penderfyniad a wnaed.
Os ydych yn anfodlon o hyd ar ôl darllen ei eglurhad, cysylltwch â’ch awdurdod lleol ac eglurwch pam mae’r penderfyniad yn annheg, yn eich barn chi.
Mae gan bob adran gwasanaethau cymdeithasol weithdrefn gwyno, ac mae’n rhaid iddi ddweud wrthych sut i’w defnyddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i herio eich awdurdod lleol dros eich gofal
Talu am ofal - yr asesiad ariannol neu’r prawf modd
Ar ôl i’ch awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol asesu’ch anghenion gofal a chanfod pa wasanaethau gofal sydd eu hangen arnoch, bydd yn cynnal asesiad ariannol. Yr enw ar hwn yw ‘prawf modd’.
Bydd hyn yn cyfrifo a fydd angen i chi gyfrannu tuag at gost eich gofal, ac a fydd yr awdurdod lleol yn talu am y cyfan neu rywfaint o’ch costau gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Profion modd ar gyfer costau gofal – sut maent yn gweithio
Er mai dim ond am wasanaethau gofal cymdeithasol y bydd eich awdurdod lleol yn talu, gall hefyd roi gwybodaeth a chyngor i chi am wasanaethau gofal iechyd (fel gofal nyrsio) a ddarperir fel arfer gan y GIG.
Gall rhai anableddau, anafiadau, cyflyrau hirdymor neu broblemau meddygol cymhleth olygu eich bod yn gymwys i gael cyllid gofal iechyd parhaus y GIG. Gall hyn gwmpasu rhai o agweddau gofal cymdeithasol eich gofal tymor hir, yn ogystal â gofal iechyd.