Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os oes gennych chi anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai y byddwch yn gymwys am ofal parhaus y GIG am ddim.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw gofal iechyd parhaus y GIG?
- Pwy sy’n gymwys?
- Pa gostau a gwmpesir?
- Sut mae gwneud cais am ofal iechyd parhaus y GIG
- Beth sy’n digwydd yn ystod y broses asesu?
- Rwy’n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG - beth sy’n digwydd nesaf?
- Beth yw cyllideb iechyd personol?
- Beth os nad ydwyf yn cytuno â’r asesiad?
- Beth os nad wyf yn gymwys?
- Wedi eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty yn yr Alban
- Mwy o wybodaeth
Beth yw gofal iechyd parhaus y GIG?
Pan mai ‘angen iechyd’ yw eich prif angen, mae’r GIG yn gyfrifol am ddarparu ac ariannu eich holl anghenion, hyd y oed os nad ydych mewn ysbyty. Er enghraifft gallai hynny fod mewn:
- hosbis
- cartref gofal
- eich cartref eich hun.
Nid oes llawer o bobl yn gwybod am ofal parhaus y GIG - a elwir weithiau’n ofal parhaus y GIG. Felly mae’n bwysig darganfod a ydych chi’n gymwys a chael asesiad.
Pwy sy’n gymwys?
Awgrym da
Yr unig ffordd bendant o wybod a ydych yn gymwys yw gofyn i’ch meddyg teulu neu’ch gweithiwr cymdeithasol drefnu asesiad.
Nid oes unrhyw restr glir o afiechydon neu gyflyrau iechyd sy’n gymwys am gyllid.
Gwneir yr asesiad ar os yw eich anghenion iechyd yn ddwys, yn gymhleth neu’n anrhagweladwy.
Er enghraifft, gallech fod yn gymwys am ofal iechyd parhaus os ydych yn cael anhawster:
- anadlu
- bwyta ac yfed
- cymryd meddyginiaethau
- symud o gwmpas
- gyda’ch cof a meddwl.
Dwyster
Mae hyn yn disgrifio faint - er enghraifft, pa mor aml - a pha mor ddifrifol yw’ch anghenion. Mae hefyd yn disgrifio’r gefnogaeth rydych ei hangen i’ch helpu chi, gan gynnwys yr angen am ofal parhaus.
Cymhlethdod
Mae hyn yn ymwneud â sut mae’ch anghenion yn effeithio ar ei gilydd. Mae hefyd yn disgrifio lefel y sgil sydd ei hangen i wirio’ch symptomau, trin y cyflwr a / neu reoli’ch gofal.
Anrhagweladwyedd
Mae hyn yn ymwneud â faint a pha mor aml y gall eich anghenion newid a beth yw’r heriau i’r bobl sy’n rhoi gofal a chefnogaeth i chi. Dylai hefyd esbonio’r risg i’ch iechyd os na roddir y gofal cywir ar yr adeg iawn. Mae rhywun ag angen iechyd anrhagweladwy yn debygol o fod â chyflwr iechyd ansefydlog a newidiol.
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ag anghenion gofal tymor hir yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG. Mae hyn oherwydd bod yr asesiad yn eithaf llym.
Mae’n bendant yn werth cael eich asesu er y gallai cael eich pecyn gofal llawn wedi’i ariannu gan y GIG fod yn werth miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.
Am fwy o fanylion a yw’ch problemau iechyd yn golygu y gallech fod yn gymwys, edrychwch ar y fideo ar wefan y GIG
Pa gostau a gwmpesir?
Mae gofal iechyd arferol y GIG - er enghraifft, gan eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu yn yr ysbyty - am ddim.
Ond mae gofal iechyd parhaus y GIG yn talu costau ychwanegol, fel help gyda ymolchi neu wisgo, neu dalu am therapi arbenigol.
Gallai hefyd dalu am lety os yw’ch gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, neu gymorth i ofalwyr os ydych yn cael gofal gartref.
Os nad ydych yn gymwys i gael gofal parhaus y GIG a’ch bod angen gofal mewn cartref nyrsio, gallech gael Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Mae hwn yn gyfraniad heb brawf modd tuag at eich costau nyrsio.
Mae’r cyllid yn amrywio yn ôl rhanbarth, felly bydd angen i chi holi’ch Grŵp Comisiynu Clinigol lleol, eich Bwrdd Iechyd neu eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weld beth sy’n cael ei gynnwys.
- Yn Lloegr, darganfyddwch eich Grŵp Comisiynu Clinigol lleol ar wefan NHS
- Yn yr Alban, darganfyddwch eich Bwrdd Iechyd lleol ar wefan NHS Scotlan
- Yng Nghymru, darganfyddwch eich Bwrdd Iechyd lleol ar wefan GIG Cymru
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol wefan nidirect
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gofal Nyrsio a ariennir gan y GIG
Sut mae gwneud cais am ofal iechyd parhaus y GIG
I wneud cais, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol drefnu asesiad gofal iechyd parhaus y GIG.
Beth sy’n digwydd yn ystod y broses asesu?
Cam 1 – Y sgrinio cychwynnol
Yn gyntaf, byddwch yn cael eich sgrinio i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Bydd hyn yn cael ei wneud fel arfer mewn ysbyty neu gartref gan nyrs, meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall.
Byddant yn asesu’ch anghenion iechyd a gofal cyffredinol â rhestr wirio syml a fydd yn cynnwys:
- symudedd
- anadlu
- ymataliad
- cyfathrebu
- maeth - bwyd a diod
- croen - gan gynnwys clwyfau a briwiau
- anghenion seicolegol ac emosiynol
- cyflyrau ymwybod newidiol
- rheoli symptomau drwy feddyginiaeth a therapïau cyffuriau
- gwybyddiaeth - deallusrwydd dyddiol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas
- anghenion gofal arwyddocaol eraill.
Os yw’ch iechyd chi, neu iechyd rhywun y gofalwch amdanynt yn gwaethygu’n gyflym - holwch am asesiad carlam i osgoi’r sgrinio cychwynnol.
Cam 2 – Yr asesiad
Peidiwch â chael eich rhwystro
Er bod y broses asesu’n gallu bod yn gymhleth, mae’r rhan fwyaf o bobl a theuluoedd sydd wedi bod drwyddi’n dweud bod y manteision yn ei gwneud yn un werth chweil
Os bydd y sgrinio cychwynnol yn dangos y gallech fod yn gymwys am ofal parhaus y GIG am ddim, bydd angen i chi gael asesiad arall.
Caiff ei gynnal gan dîm o ddau neu ragor o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sydd â rhan yn eich gofal.
Bydd y tîm yn defnyddio Teclyn Cefnogi Penderfyniadau sy'n fwy manwl na'r rhestr wirio uchod. Byddant yn asesu y posibilrwydd o gymhwysedd gwaelodol a bydd yn penderfynu a ddylid eich cyfeirio at y cam nesaf.
Byddant yn marcio pob un o’ch anghenion gofal fel rhai isel, canolig, uchel neu ddwys.
Darganfyddwch fwy am y broses asesu drwy lawrlwytho taflen yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘NHS continuing healthcare and NHS-funded nursing care’ (PDF)
Rwy’n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG - beth sy’n digwydd nesaf?
Os ydych chi’n gymwys, y cam nesaf yw trefnu pecyn gofal a chymorth sy’n diwallu’ch anghenion asesedig. Bydd eich awdurdod GIG lleol (Grŵp Comisiynu Clinigol neu Fwrdd Iechyd Lleol) yn trefnu hyn.
Efallai y byddant yn gweithio gyda’ch cyngor lleol i’w drefnu.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gallai gwahanol opsiynau fod yn addas. Gallai hyn gynnwys cefnogaeth yn eich cartref eich hun a’r opsiwn o gyllideb iechyd bersonol.
Beth yw cyllideb iechyd personol?
Yn Lloegr, gall y GIG drefnu gofal i chi, neu gallwch ddewis derbyn cyllid ar gyfer eich gofal fel taliadau uniongyrchol. Gelwir hyn yn gyllideb iechyd bersonol.
Mae cyllideb iechyd personol yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi ar sut i gynllunio a thalu am eich anghenion gofal iechyd a lles.
Darganfyddwch fwy am gyllidebau iechyd personol ar wefan y GIG
Nid yw cyllidebau iechyd personol ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru na Gogledd Iwerddon.
Yn yr Alban, mae yna drefniadau gwahanol o’r enw Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty.
Darganfyddwch fwy ar wefan Care Information Scotland
Mae yna hefyd wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Llywodraeth yr Alban
Beth os nad ydwyf yn cytuno â’r asesiad?
Awgrym da
Mae amgylchiadau’n newid. Felly hyd yn oed os cawsoch eich gwrthod am gyllid, dylech sicrhau bod eich sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd yn enwedig os yw eich iechyd yn gwaethygu. Gall eich meddyg teulu neu’ch gweithiwr cymdeithasol eich helpu.
Os nad ydych yn cytuno gyda chanlyniad yr asesiad, gofynnwch i’ch Grŵp Comisiynu Clinigol lleol, Bwrdd Iechyd neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol adolygu’u penderfyniad.
Rhaid ichi ofyn iddynt am hyn yn ysgrifenedig cyn pen chwe mis o gael gwybod nad oeddech yn gymwys.
Os oedd eu penderfyniad yn seiliedig ar sgrinio cychwynnol yn unig, gofynnwch am asesiad llawn.
Dylech gael cyfle i gyfrannu at yr adolygiad, a gweld yr holl dystiolaeth a ystyriwyd.
Gallwch hefyd apelio o bosib os buoch eisoes yn talu am ffioedd cartref gofal a chithau’n credu y dylech fod wedi cael cyllid y GIG.
I wneud hyn, siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch ymarferwr iechyd, a gofynnwch am asesiad adolygol.
Os na fydd hynny’n datrys y broblem i chi, ymhen 6 mis gallwch ofyn am banel adolygiad annibynnol i ystyried eich sefyllfa.
Fel cam olaf, gallwch ofyn i Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd Seneddol wneud penderfyniad ar eich cwyn.
Darganfyddwch fwy ar wefan Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd Seneddol
Beth os nad wyf yn gymwys?
Hyd yn oed os na fyddwch yn gymwys am ofal iechyd parhaus y GIG, efallai y byddwch yn gymwys serch hynny i gael gwasanaethau eraill y GIG i’ch cefnogi. Gallai hyn gynnwys:
- gofal lliniarol
- seibiant i ofalwr neu gofal iechyd seibiant
- adsefydlu ac adferiad
- cymorth arbenigol gwasanaethau iechyd cymunedol ar gyfer anghenion gofal iechyd.
Neu, gall fod yna gyllid awdurdod lleol i fodloni rhai o’ch anghenion gofal.
Os ydych wedi cael eich asesu fel rhywun sydd angen gofal gan nyrs gofrestredig ac rydych yn breswylydd mewn cartref nyrsio, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Gofal Nyrsio a ariennir gan y GIG.
Mae hyn yn £183.92 yr wythnos yn Lloegr ar gyfer 2020/21. Y gyfradd yng Nghymru yw £179.97 yr wythnos. Y gyfradd ar gyfer Gogledd Iwerddon yw £100 yr wythnos.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal – a ydych yn gymwys?
Wedi eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r GIG a’ch cyngor lleol ar y cyd darparu gwasanaethau ar ôl gofal os ydych wedi cael eich cadw dan unrhyw elfen o’r Ddeddf Iechyd Meddwl er dibenion asesiad neu driniaeth.
Dylai pob gwasanaeth a ddarperir dan yr adran hon fod am ddim.
Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty yn yr Alban
Disodlwyd gofal iechyd parhaus y GIG yn yr Alban yn 2015 gan gynllun o’r enw Gofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty.
Os byddwch angen gofal clinigol hirdymor, asesir eich anghenion yn seiliedig ar un cwestiwn - a ellir bodloni’ch anghenion gofal yn ddigonol mewn lleoliad arall yn hytrach na mewn ysbyty.
Os mai’r ateb yw na, bydd y GIG yn ariannu eich gofal yn llwyr ond dim ond mewn ysbyty.
Os mai’r ateb yw gall, ni fydd y GIG yn ariannu'r agweddau ar eich gofal nad ydynt yn ofal iechyd. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael help gan eich cyngor lleol yn lle hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal – a ydych yn gymwys?
Os yw’n bosibl darparu gofal y tu allan i ysbyty, fe gewch hynny yn y lleoliad mwyaf addas ar eich cyfer chi. Efallai mai’ch cartref fydd y lleoliad hwnnw, neu gartref gofal neu lety â chymorth.
Os ydych eisoes yn cael gofal iechyd parhaus y GIG dan yr hen drefn ers cyn Mehefin 2015, byddwch yn parhau â hynny tra byddwch yn gymwys.
Darganfyddwch fwy am Ofal Clinigol Cymhleth mewn Ysbyty a sut i gael gwasanaethau gofal eraill yn yr Alban ar wefan Care Information Scotland
Mwy o wybodaeth
- Yn Lloegr, cewch gymorth ymarferol ar wefan NHS Choices
- Yn yr Alban, darganfyddwch am ofal i bobl hŷn ar wefan Care Information Scotland
- Yng Nghymru, darganfyddwch mwy am Ofal Iechyd parhaus y GIG ar wefan Iechyd yng Nghymru
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol ar wefan nidirect